Ysgoloriaethau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Dyma'r ysgoloriaethau sydd ar gael i chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Gallwch wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol pan fyddwch yn ymuno â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ar wefan Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gellir dod o hyd i beth wmbredd o wybodaeth gan gynnwys manylion ar sut i ymuno, y dyddiadau cau ar gyfer pob ysgoloriaeth a chanllawiau ar sut i ymgeisio.
Ysgoloriaeth Nyrsio
Mae'r ffurflen gais bellach ar agor tan 1 Mai 2025.
Swm: £1,500 dros 3 blynedd (£500 y flwyddyn)
Rydych yn gymwys os ydych yn fyfyriwr nyrsio os ydych yn astudio o leiaf 33% (40 credyd) o'ch cwrs yn Gymraeg.
Bwrsariaeth Gareth Pierce
Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer 2025/26 yn cau ar 1 Hydref 2025
Swm: £3,000 ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig
Er cof am ei gyn-Brif Weithredwr, mae CBAC wedi creu Bwrsariaeth Gareth Pierce i gefnogi myfyrwyr sy'n astudio o leiaf 33% o gyrsiau Mathemateg yn y Gymraeg. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rheoli'r bwrsari ar ran CBAC.
Ysgoloriaethau eraill
Mae'r ysgoloriaethau canlynol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gau ar hyn o bryd.
Prif Ysgoloriaeth
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gau.
Swm: £3,000 dros 3 blynedd
Gallwch ymgeisio os ydych yn astudio o leiaf 66% o'ch cwrs (80 credyd) bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn dechrau astudio ym mis Medi 2024.
Ysgoloriaeth Cymhelliant
Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 ar agor rhwng 14 Awst 2025 a 3 Tachwedd 2025.
Swm: £1,500 dros 3 blynedd (£500 y flwyddyn)
Gallwch ymgeisio os ydych yn astudio o leiaf 33% o'ch cwrs (80 credyd) bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn dechrau astudio ym mis Medi neu Hydref 2024.
Defnyddiwch Chwilotydd Cyrsiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld a yw eich cwrs ar y rhestr.
Ysgoloriaeth Meddygaeth
Mae'r ffurflen gais ar gau.
Swm: £2,500 dros 5 mlynedd (£500 y flwyddyn)
Gallwch ymgeisio os ydych yn:
- bwriadu ymgeisio am gyrsiau Meddygaeth mewn prifysgol yng Nghymru
- astudio o leiaf 33% o'ch cwrs (neu 40 credyd y flwyddyn) drwy gyfrwng y Gymraeg
Ysgoloriaeth Astudio'n Gymraeg Prifysgol Caerdydd
Mae ysgoloriaeth ar gael gan y brifysgol os ydych yn dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Swm: hyd at £500 y flwyddyn
Am bob 20 credyd rydych chi'n eu hastudio yn Gymraeg bob blwyddyn, byddwch yn derbyn £250, ac am bob 40 credyd rydych chi'n eu hastudio yn Gymraeg bob blwyddyn, byddwch yn derbyn £500. Y mwyaf y gallech ei gael yw £500.
I wneud cais am yr ysgoloriaeth hon, cwblhewch y ffurflen gais Astudio yn Gymraeg a'i hanfon at Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y brifysgol, Elliw Iwan.
Os ydych eisoes yn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg, Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg, neu Ysgoloriaeth Meddygaeth/Meddygon Yfory, nid ydych yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Astudio'n Gymraeg y brifysgol.
Ysgoloriaeth Betty Campbell
Mae Ysgoloriaeth Betty Campbell bellach ar gau.
Swm: hyd at £1,000
Mae’r ysgoloriaeth yn agored i bob myfyriwr sy’n astudio 20 credyd neu ragor drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau neu sydd ag ansicrwydd astudio yn y Gymraeg ar lefel prifysgol.