Ewch i’r prif gynnwys

Cymru

Mae’r wybodaeth ganlynol yn cynnwys ffigurau am fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2025 ac sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru cyn dechrau ar eu cwrs.

Sylwer bod y ffigurau hyn yn destun rheoliadau sydd wrthi’n cael eu llunio ac felly hwyrach y bydd y rhain yn newid. Cyn gynted ag y caiff y ffigurau hyn eu cadarnhau byddwn ni’n diweddaru'r wybodaeth hon. Yn y cyfamser, dylech barhau i edrych ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Cyllid ar gael i ddechrau cwrs ym mis Medi 2025

Os ydych yn byw yng Nghymru gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am arian. Mae'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnwys arian ar gyfer ffioedd dysgu ac arian ar gyfer costau byw.

Benthyciad ffioedd dysgu

Yn amodol ar delerau ac amodau, ni fydd rhaid i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac yn astudio tuag at eu gradd gyntaf dalu eu ffioedd dysgu ymlaen llaw. Yn lle hynny, gallent fod yn gymwys am fenthyciad ffioedd dysgu ad-daladwy gwerth hyd at £9,535 y flwyddyn i dalu costau eu ffioedd dysgu. Byddai'r arian hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch Prifysgol ar ôl i chi gofrestru.

Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau ac yn ennill cyflog sy’n uwch na’r trothwy am eich cynllun ad-dalu (yn dibynnu ar y telerau a’r amodau).

Cyllid ar gyfer costau byw

Bydd pob myfyriwr cymwys sydd fel arfer yn byw yng Nghymru cyn dechrau cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd yn gallu gwneud cael cyllid cynhaliaeth i'w helpu i dalu eu costau byw.

Bydd cyllid cynhaliaeth ar gael yn rhannol fel grant nad yw'n ad-daladwy, ac yn rhannol fel benthyciad cynhaliaeth sy’n ad-daladwy. Bydd incwm y cartref yn effeithio ar faint o’r cyllid sydd ar gael fel grant a faint sydd ar gael fel benthyciad.

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn ddibynnol ar incwm y cartref a lle mae'r myfyriwr yn byw yn ystod ei astudiaethau, ar sail ffigurau ar gyfer 25/26.

Cymorth cynhaliaeth

Cymorth ar gyfer myfyriwr israddedig amser llawn sy’n byw oddi cartref yn 2025/26.

Incwm y cartref

Grant cynhaliaeth

Benthyciad cynhaliaeth

Cyfanswm cymorth cynhaliaeth

£18,370

£8,100

£4,245

£12,345

£25,000

£6,947

£5,398

£12,345

£35,000

£5,208

£7,137

£12,345

£45,000

£3,469

£8,876

£12,345

£59,200 (+)

£1,000

£11,345

£12,345

I’r rheini sy’n dewis byw gartref gyda rhieni yn 25/26 tra’u bod yn astudio, £10,480 yw cyfanswm y cyllid cynhaliaeth sydd ar gael. Bydd y £1,000 cyntaf yn dal i fod ar gael fel grant, waeth beth fo incwm y cartref, a bydd y £9,480 sy’n weddill ar gael fel benthyciad a/neu grant yn dibynnu ar y prawf modd a gynhelir ar fanylion incwm y cartref.

Bydd yr arian cynhaliaeth hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer mewn tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei ryddhau i chi ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i chi orffen ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych ar gyfer o leiaf pythefnos pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol.

Os byddwch yn newid unrhyw fanylion am eich cwrs neu le astudio, rhowch wybod i Cyllid Myfyrwyr Cymru cyn 31 Awst

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallai arian ychwanegol fod ar gael i chi. Er enghraifft, os oes gennych anabledd, neu os oes gennych blant neu oedolyn sy'n ddibynnol arnoch. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Arian ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd

Yn ogystal â'r arian uchod gallech fod yn gymwys am Fwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i fyw ynddi yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein adnodd cyfrifo costau byw, a chewch wybod faint mae’n ei gostio ar gyfartaledd i fyfyriwr israddedig amser llawn fyw yng Nghaerdydd.

Ad-dalu benthyciadau myfyriwr

Bydd y rhai sy'n cymryd benthyciad ffioedd dysgu israddedig neu fenthyciad cynhaliaeth drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlwyddyn academaidd 25/26 yn ad-dalu'r benthyciad hwn o dan Cynllun Ad-dalu 2.

Cynllun Canslo Benthyciadau Cymru

Mae'r cynllun hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cael benthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar ôl mis Medi 2010. Mae parhad y cynllun yn dibynnu ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y myfyrwyr hynny fydd yn dechrau cwrs amser llawn ym mis Medi 2025.

Sut i wneud cais am gyllid

Bydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am eu cyllid. Rydym yn rhagweld y bydd y broses ymgeisio i fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2025 yn agor ym mis Mawrth/Ebrill 2025.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrywr

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr