Ewch i’r prif gynnwys

DU, tu allan i Gymru

Gwiriwch y wybodaeth am y wlad yr ydych yn preswylio ynddi fel arfer i gael gwybodaeth sy’n ymwneud â chyllid.

Nid yw cyllid ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau cwrs ym mis Medi 2025 wedi’i gadarnhau’n llawn eto. Mae'r wybodaeth isod yn seiliedig ar y wybodaeth orau sydd gennym ni, sy’n golygu y gallai newid. Cyn gynted ag y caiff y ffigurau eu cadarnhau, byddwn ni’n diweddaru'r wybodaeth hon. Yn y cyfamser, parhewch i wirio gyda'ch corff ariannu perthnasol am y wybodaeth ddiweddaraf.

Cyllid sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE) i ddechrau cwrs ym mis Medi 2025.

Os ydych yn byw yn Lloegr gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr. Mae'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr yn cynnwys arian ar gyfer ffioedd dysgu ac arian i dalu costau byw.

Benthyciad ffioedd dysgu

Yn amodol ar delerau ac amodau, ni fydd rhaid i fyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ac yn astudio tuag at eu gradd gyntaf dalu eu ffioedd dysgu ymlaen llaw. Yn lle hynny, gallent fod yn gymwys am fenthyciad ffioedd dysgu ad-daladwy gwerth hyd at £9,535 y flwyddyn i dalu costau eu ffioedd dysgu. Byddai'r arian hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch Prifysgol ar ôl i chi gofrestru.

Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau ac yn ennill cyflog sy’n uwch na’r trothwy am eich cynllun ad-dalu (yn dibynnu ar y telerau a’r amodau).

Cyllid ar gyfer costau byw

Gall pob myfyriwr cymwys sy'n gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr gael benthyciad cynhaliaeth i'w helpu i dalu ei gostau byw. Disgwylir i'r benthyciad hwn gyfrannu at gostau llety, bwyd, teithio a byw yn gyffredinol. Bydd y swm sydd ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a ble rydych yn byw yn ystod eich astudiaethau.

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o'r arian sydd ar gael yn ddibynnol incwm y cartref a ble mae'r myfyriwr yn byw yn ystod ei astudiaethau:

Cymorth cynhaliaeth i fyfyriwr israddedig amser llawn sy’n byw oddi cartref yn 2025/26

Incwm yr aelwyd

Benthyciad sydd ar gael – 25/26

£25,000 a llai

£10,544

£35,000

£9,038

£45,000

£7,532

£55,000

£6,026

£62,377 a throsodd

£4,915

Fel y gwelir uchod, bydd faint o arian cynhaliaeth sydd ar gael yn cael ei effeithio gan fanylion incwm yr aelwyd.

Os byddwch yn byw yng nghartref eich rhieni yn ystod eich astudiaethau, £8,877 yw uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael ichi, ond bydd manylion incwm y cartref yn dal yn effeithio ar y swm gwirioneddol sydd ar gael ichi.

Noder, os bydd incwm y cartref yn uwch, mae’r Llywodraeth yn disgwyl i rieni/noddwyr gyfrannu tuag at gostau byw’r myfyriwr.

Bydd y benthyciad cynhaliaeth hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer mewn tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei ryddhau i chi ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i chi orffen ymrestru. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych ar gyfer o leiaf pythefnos pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol.

Os byddwch yn newid unrhyw fanylion am eich cwrs neu fan astudio ar ôl i chi wneud cais am arian, dylech roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Lloegr erbyn 31 Awst neu gallai hyn achosi oedi cyn talu'r arian.

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallai arian ychwanegol fod ar gael i chi. Er enghraifft, os oes gennych anabledd, neu os oes gennych blant neu oedolyn sy'n ddibynnol arnoch. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Lloegr i gael rhagor o wybodaeth.

Arian ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd

Yn ogystal â'r arian uchod gallech fod yn gymwys am Fwrsariaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i fyw ynddi yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein adnodd cyfrifo costau byw, a chewch wybod faint mae’n ei gostio ar gyfartaledd i fyfyriwr israddedig amser llawn fyw yng Nghaerdydd.

Ad-dalu benthyciadau

Bydd y rheini sy’n cymryd benthyciad ffioedd dysgu israddedig neu fenthyciad cynhaliaeth drwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr ym mlwyddyn academaidd 25/26 yn ad-dalu eu benthyciad yn unol â Chynllun Ad-dalu 5.

Sut i wneud cais am gyllid

Bydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Lloegr yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr am eu cyllid. Rydym yn rhagweld y bydd y broses ymgeisio i fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2025 yn agor ym mis Mawrth/Ebrill 2025.

Os ydych yn byw yn yr Alban byddwch yn gallu gwneud cais am arian i Asiantaeth Cyllid Myfyrwyr yr Alban. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr arian fydd ar gael ar gyfer 2025/26 a sut i wneud cais.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon byddwch yn gallu gwneud cais am arian i Gyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr arian fydd ar gael ar gyfer 2025/26 a sut i wneud cais.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr.

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr