Ewch i’r prif gynnwys

Optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru: Cael gafael ar Gyllid Myfyrwyr

Gall myfyrwyr optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a chael eu hariannu gan eu corff cyllid myfyrwyr arferol yn unig.

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr newydd sy'n bwriadu astudio un o'r cyrsiau cymwys canlynol:

  • Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (BSc)
  • Therapi Galwedigaethol (BSc)
  • Nyrsio (BN)
  • Bydwreigiaeth (BMid)
  • Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)
  • Ffisiotherapi (BSc)
  • Therapi a Hylendid Deintyddol (BSc)
  • Hylendid Deintyddol (DipHE)

Unwaith y byddwch yn dechrau eich cwrs mae gennych hyd at 10 wythnos i optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a chael eich ariannu gan eich corff cyllid myfyrwyr yn unig.

Unwaith y byddwch yn optio allan, nid yw'n hawdd optio yn ôl i mewn. Os ydych yn ystyried newid eich dewis o ran cyllid, byddwn yn eich cynghori i gysylltu â'r tîm Cyllid a Chyngor Myfyrwyr i gael arweiniad.

Os ydych chi'n penderfynu optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, bydd angen i chi gofrestru eich penderfyniad gyda Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru cyn ymgeisio am gyllid myfyrwyr. Mae hyn yn hanfodol, neu ni fydd eich corff cyllid myfyrwyr yn gallu eich asesu ar gyfer y cyllid cywir.

Bydd astudiaeth flaenorol mewn addysg uwch yn effeithio ar eich gallu i gael gafael ar gyllid myfyrwyr. Cysylltwch â'r tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am arweiniad.

Cyllid ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru

Os byddwch yn penderfynu optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, bydd y cyllid sydd ar gael o gyllid myfyrwyr yn dibynnu ar ble roeddech yn byw cyn i chi ddechrau eich cwrs.

Ble roeddech yn byw cyn i chi ddechrau eich cwrs.

Corff ariannu

Cymru

Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW)

Lloegr

Cyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE)

Os ydych chi'n byw fel arfer yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â'r tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am ragor o wybodaeth.

Gall myfyrwyr yr UE sydd â statws preswylydd sefydlog neu cyn dod yn breswylydd sefydlog , a dinasyddion Gwyddelig (dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin) hefyd fod yn gymwys ar gyfer cyllid. Cysylltwch â'r tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Lwfans Wythnosau Ychwanegol

Mae llawer o'n cyrsiau gofal iechyd yn hirach na chwrs safonol (30 wythnos a 3 diwrnod) ac felly'n denu cyllid wythnosau ychwanegol. Mae rhwng £110- £142 ychwanegol yr wythnos o fenthyciad cynhaliaeth cyllid myfyrwyr ar gael, yn dibynnu ar eich corff cyllido. Cewch lai o gyllid wythnosol os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni yn ystod y tymor.

Byddwch yn cael eich asesu’n awtomatig ar gyfer lwfansau wythnosau ychwanegol drwy eich cais i’ch corff cyllido. Gall wythnosau ychwanegol ar gyfer pob cwrs amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Yn amodol ar brawf modd, gan ddibynnu ar incwm y cartref.

Arian ychwanegol gan gyllid myfyrwyr

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallai arian ychwanegol fod ar gael i chi. Er enghraifft, os oes gennych anabledd, neu os oes gennych blant neu oedolyn sy'n ddibynnol arnoch. Ewch i’ch corff cyllid myfyrwyr am ragor o wybodaeth.

Ble roeddech yn byw cyn i chi ddechrau eich cwrs.

Corff ariannu

Cymru

Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW)

Lloegr

Cyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE)

Costau byw yng Nghaerdydd

Ystyrir Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i astudio ynddi o ran costau byw,. Defnyddiwch ein adnodd cyfrifo costau byw, a chewch wybod faint mae’n ei gostio ar gyfartaledd i fyfyriwr israddedig amser llawn fyw yng Nghaerdydd.

Ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr

Os byddwch chi’n cymryd benthyciad cynhaliaeth myfyrwyr, byddwch chi’n ei ad-dalu o dan delerau ac amodau arferol eich corff cyllido.

Sut i wneud cais

Mae’r broses o wneud cais ar agor i fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2024.

Os byddwch yn penderfynu optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, bydd angen i chi ddilyn y camau isod i sicrhau bod eich cais yn cael ei asesu’n gywir.

Os na fyddwch yn optio allan yn gywir gan ddilyn y camau isod, bydd cyllid myfyrwyr yn asesu eich cais yn awtomatig gan gymryd eich bod wedi optio i mewn i Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a bydd hyn yn lleihau swm y cyllid sydd ar gael i chi. Mae Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG wedi cynhyrchu Canllaw optio allan cryno.

Dilynwch y camau isod i ddechrau eich cais:

  1. Cofrestrwch eich penderfyniad i beidio â chael Bwrsariaethau GIG Cymru ar wefan Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru Defnyddiwch y ddolen ar gyfer ‘Myfyrwyr Newydd’ a chofrestrwch i gael cyfrif. Yn ystod y cais gofynnir i chi a ydych am wneud ymrwymiad ymlaen llaw i weithio yng Nghymru ar ôl i chi orffen y cwrs a bydd opsiwn i ddewis ‘Na’.

Ar ôl i chi wneud hyn, bydd Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG yn anfon e-bost atoch sy’n cynnwys côd unigryw (cyfeirir ato weithiau’n côd FRSL) i gadarnhau eich bod wedi penderfynu peidio â chael Bwrsariaethau GIG Cymru. Bydd angen i chi gyflwyno’r e-bost hwn i'ch corff cyllid myfyrwyr gyda'ch cais.

  1. Cyflwyno cais i'ch corff cyllid myfyrwyryn seiliedig ar ble rydych chi/roeddech chi'n byw'n arferol yn y DU cyn dechrau'r cwrs.

Oherwydd cymhlethdodau'r system ariannu, rydyn ni’n cynghori eich bod yn gwneud cais ar ffurflen PN1 gan eich corff cyllido a'i phostio iddynt yn lle gwneud cais ar-lein. Bydd hyn yn dal i’ch galluogi i gyflwyno cais am bopeth y mae gennych hawl iddo ar un ffurflen gan gynnwys cymorth gyda ffioedd dysgu a chynhaliaeth ar sail incwm y cartref.

Yn byw fel arfer yn

Corff cyllido a dolen i ffurflen PN1 a nodiadau canllaw ar gyfer blwyddyn academaidd 24/25

Cymru

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Lloegr

Cyllid Myfyrwyr Lloegr

Byddwn yn eich cynghori i'w anfon drwy wasanaeth sy’n cofnodi ei fod wedi cyrraedd neu wasanaeth cludo arbennig er mwyn i chi gael cofnod bod eich corff ariannu wedi’i dderbyn.

Unwaith y bydd eich corff cyllid myfyrwyr wedi derbyn eich cais ac wedi dechrau ei brosesu, bydd yn anfon Cyfeirnod Cwsmer (CRN) cyllid myfyrwyr atoch. Mae hwn yn rhif 10 digid a fydd yn cael ei gynnwys ym mhob gohebiaeth oddi wrthynt.

Os ydych chi'n byw fel arfer yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â'r tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am ragor o wybodaeth.

  1. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich CRN gan gyllid myfyrwyr, anfonwch eich e-bost o Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru ymlaen atynt sydd â'ch côd optio allan unigryw ynddo (cyfeirir ato weithiau’n rhif FRSL). Mae’r broses hon yn cadarnhau eich bod wedi optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru. Dylai hyn sicrhau bod eich cais yn cael ei asesu'n gywir a'ch galluogi i gael gafael ar gyllid myfyriwr llawn.

Yn byw fel arfer yn

Gwneud cais i

Anfonwch eich e-bost gyda’ch cyfeirnod optio allan unigryw ymlaen at

Cymru

Cyllid Myfyrwyr Cymru

bursary_opt_out_SFW@slc.co.uk

Lloegr

Cyllid Myfyrwyr Lloegr

bursary_opt_out_SFE@slc.co.uk

Yn yr e-bost at eich corff cyllido dylech gynnwys:

  • eich enw
  • Cyfeirnod Cwsmer Cyllid Myfyrwyr (CRN)

Os ydych chi'n byw fel arfer yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, holwch eich corff cyllid myfyrwyr am y ffordd orau o gyflwyno eich côd optio allan unigryw iddynt.

Unwaith y byddwch wedi gwneud yr holl gamau uchod, ac wedi cyflwyno'r holl wybodaeth ofynnol, rydyn ni’n amcangyfrif y bydd yn cymryd tua 4-6 wythnos i'ch cais am gyllid gael ei asesu'n llawn gan eich corff cyllido.

Ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei dalu i chi nes eich bod wedi derbyn cadarnhad o'ch hawl i gyllid a'ch bod wedi cwblhau’r broses ymrestru ar eich cwrs.

Newid eich opsiynau cyllid

Os ydych wedi gwneud cais i gael eich ariannu gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ond wedi newid eich meddwl ac eisiau optio allan a chael eich ariannu gan gyllid myfyrwyr yn unig, gallwch newid eich opsiynau cyllid mewn rhai amgylchiadau

Os nad ydych wedi cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd eto, neu fod llai 10 wythnos ers i chi ddechrau eich cwrs, gallwch newid eich dewis ariannu ac optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru.

Gan dybio eich bod eisoes wedi gwneud cais i’ch corff cyllid myfyrwyr am gyfradd sefydlog y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael yn rhan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, bydd angen i chi brofi’n ffurfiol i’ch corff cyllid myfyrwyr eich bod yn optio allan o gyllid y GIG. Mae hyn er mwyn iddynt allu ailasesu eich hawl i gyllid a chaniatáu i chi gael gafael ar fenthyciad ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth bellach ar sail prawf modd. Mae hyn yn osgoi eich ariannu ddwywaith mewn camgymeriad.

Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi eich rhif optio allan GIG unigryw (FRSL) i'ch corff cyllid myfyrwyr a rhoi amser iddynt brosesu hyn (gweler cam 3 uchod). Os nad oes gennych gôd, cysylltwch â Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru
  • aros i'ch corff cyllid myfyrwyr gadarnhau eu bod wedi derbyn eich e-bost Os yw wedi bod yn hirach na'r disgwyl, ffoniwch nhw i wirio eu bod wedi derbyn eich e-bost a'u bod yn ei brosesu
  • dim ond os oes gennych gyfrif ar-lein gyda'ch corff cyllid myfyrwyr yn barod – mae angen i chi ofyn am brawf modd am gyllid er mwyn i chi allu cael eich asesu ar gyfer y pecyn cymorth cyllid llawn ar gyfer myfyrwyr. Bydd angen i chi gyflwyno manylion incwm eich cartref a llenwi ffurflen gais benthyciad ffioedd dysgu, (oherwydd yn flaenorol roedd y GIG yn mynd i dalu eich ffioedd dysgu). Rydych yn gwneud hyn drwy lenwi’r ffurflenni canlynol, a’u cyflwyno:

Yn byw fel arfer yn

Cymru

Lloegr

Ffurflen PFF2 SFW 24/25

Ffurflen PFF2 SFE 24/25

Ffurflen dim prawf modd i brawf modd SFW 24/25

Ffurflen dim prawf modd i brawf modd SFE 24/25

Ffurflen gais Benthyciad Ffi Dysgu SFW 24/25

Bydd angen i chi ofyn am Ffurflen gais Benthyciad Ffi Dysgu SFE ar gyfer 24/25 yn uniongyrchol gan SFE

  • Ar ôl i chi lenwi eich ffurflenni, gallwch eu lanlwytho i'ch cyfrif ar-lein gyda Cyllid Myfyrwyr, neu eu hanfon drwy’r post. (Rydyn ni’n argymell eich bod yn eu hanfon gyda phost arbennig i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu derbyn)
  • Pan fyddwch wedi cael eich asesu'n llawn, byddwch yn derbyn llythyr hysbysiad am hawliau ariannol gan eich corff Cyllid Myfyrwyr, a fydd yn nodi swm y benthyciad ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth y mae gennych hawl iddynt

Os nad oes gennych gyfrif ar-lein yn barod, dilynwch y camau a amlinellir uchod, o dan Sut i wneud cais

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyllid ar gyfer eich cwrs, cysylltwch â'r tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr