Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru

Mae'r bwrsariaethau’n cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr cartref y DU sy'n dod i astudio cwrs gofal iechyd cymwys yng Nghymru.

Mae dau lwybr ariannu ar gael i fyfyrwyr newydd sy'n bwriadu astudio cwrs sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.

Gall myfyrwyr naill ai gael eu hariannu gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru sydd wedi’i amlinellu isod, neu gallan nhw optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a chael eu hariannu gan eu corff cyllid myfyrwyr arferol.

Pwy sy’n gymwys

Bydd Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ar gael i fyfyrwyr newydd sy’n dechrau ar gwrs gofal iechyd cymwys rhwng mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025, yn amodol ar delerau ac amodau.

Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer ffioedd dysgu a chyfraniad at gostau byw ar gyfer yr holl fyfyrwyr cartref cymwys o’r DU sy’n dod i astudio cwrs gofal iechyd cymwys yng Nghymru. Mae hyn yn amodol ar fyfyrwyr newydd yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd (myfyrwyr gradd) neu 18 mis (myfyrwyr diploma) ar ôl cymhwyso.

Gall myfyrwyr yr UE sydd â statws preswylydd sefydlog neu sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog, a dinasyddion Gwyddelig (dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin) hefyd fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, yn amodol ar wneud ymrwymiad i weithio yn y GIG yng Nghymru ar ôl cymhwyso.

Mae’r cyrsiau canlynol yn gymwys o dan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, yn amodol ar ymrwymo i weithio yn y GIG yng Nghymru ar ôl cymhwyso:

  • Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (BSc)
  • Therapi Galwedigaethol (BSc)
  • Nyrsio (BN)
  • Bydwreigiaeth (BMid)
  • Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)
  • Ffisiotherapi (BSc)
  • Therapi a Hylendid Deintyddol (BSc)
  • Hylendid Deintyddol (DipHE)

Gall myfyrwyr ddewis peidio â gwneud yr ymrwymiad gwaith hwn ac yn lle hynny optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru.

Mae rhagor o fanylion ar gael drwy wefan Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru am yr ymrwymiadau i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau penodol, cysylltwch â Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru yn uniongyrchol.

Os ydych chi wedi astudio cwrs a gafodd ei ariannu gan y GIG o'r blaen, gall hyn effeithio ar eich gallu i gael mynediad at Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru. Cysylltwch â'r tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am arweiniad.

Unwaith y byddwch chi’n dechrau eich cwrs mae gennych chi hyd at 10 wythnos i newid eich meddwl ac optio allan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a chael eich ariannu gan eich corff cyllid myfyrwyr yn unig. Cysylltwch â'r tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am arweiniad.

Cyllid sydd ar gael

Sylwch, oni caiff ei nodi’n wahanol, ffigurau 23/24 yw’r rhai canlynol ar gyfer Grant y GIG a Bwrsariaethau’r GIG gan nad ydyn ni wedi cael cadarnhad o ffigurau 24/25 eto.

Mae’r cynllun bwrsariaethau’n cynnwys pedair prif elfen o gyllid sy’n talu ffioedd dysgu a chymorth tuag at gostau byw:

  1. Cefnogaeth ffioedd dysgu
  2. Grant y GIG heb asesu incwm
  3. Bwrsariaeth y GIG wedi’i hasesu yn ôl incwm
  4. Benthyciad cynhaliaeth cyfradd sefydlog (gan y corff cyllid myfyrwyr perthnasol)

Cyllid Ffioedd Dysgu

Mae'r cynllun bwrsariaethau’n talu'r ffioedd dysgu, heb asesu’ch incwm, ond mae’n rhaid gofyn am hynny yn benodol gan na fydd ffioedd yn cael eu talu'n awtomatig. Unwaith y bydd eich cais wedi'i gymeradwyo a'ch bod wedi cofrestru ar eich cwrs, bydd y cyllid ffioedd dysgu hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r Brifysgol ar eich rhan. Nid oes rhaid ad-dalu’r cyllid hwn.

Cyllid Costau Byw

Caiff Caerdydd ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i astudio ynddi o ran costau byw,. Defnyddiwch ein adnodd cyfrifo costau byw, a chewch wybod faint mae’n ei gostio ar gyfartaledd i fyfyriwr israddedig amser llawn fyw yng Nghaerdydd.

Grant y GIG heb asesu incwm

Cewch chi ofyn i’r GIG am grant werth £1,000 y flwyddyn heb brawf modd i’ch helpu gyda chostau byw. Nid oes rhaid ad-dalu Grant y GIG, a bydd y taliad yn cael ei rannu'n rhandaliadau misol. Bydd y grant yn cael ei gyfuno ag unrhyw hawl i Fwrsariaeth y GIG sy'n cael ei hasesu ar sail incwm. Gall gymryd hyd at 4 wythnos ar ôl ymrestru cyn i’r rhandaliad cyntaf gael ei dalu i chi.

Bwrsariaeth y GIG wedi’i hasesu yn ôl incwm

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o fwrsariaethau’r GIG sydd ar gael bob blwyddyn, yn ddibynnol ar incwm y cartref a lle rydych chi’n byw wrth astudio:

Dyma symiau fesul blwyddyn 2023/24 Bwrsariaethau GIG Cymru ar gyfer myfyrwyr sy’n byw i ffwrdd o gartref eu rhieni:

Incwm yr aelwyd

Bwrsariaeth ar gael hyd at

£18,000 neu lai

£2,643

£25,000

£2.523

£30,000

£1,996

£35,000

£1,470

£40,000

£944

£50,000 neu fwy

£0

Os ydych chi’n bwriadu byw yng nghartref eich rhieni wrth astudio, bydd Bwrsariaethau’r GIG yn llai.

Cewch chi’r taliad yn uniongyrchol mewn rhandaliadau misol. Bydd taliad y fwrsariaeth yn cael ei gyfuno â'ch grant gan y GIG. Gall gymryd hyd at 4 wythnos ar ôl ymrestru cyn i’r rhandaliad cyntaf gael ei dalu i chi.

Lwfans Wythnosau Ychwanegol

Mae llawer o'n cyrsiau gofal iechyd yn hirach na chwrs safonol (30 wythnos a 3 diwrnod) ac felly'n denu cyllid wythnosau ychwanegol. Caiff hyn ei gynnig mewn ‘lwfans wythnosau ychwanegol’, ar ben eich Bwrsariaeth y GIG safonol ar gyfer costau byw. Os ydych chi’n byw oddi cartref, mae hyn yn cyfateb i £84 ychwanegol yr wythnos. (£56 os ydych chi’n byw gyda’ch rhieni)

Byddwch chi’n cael eich asesu’n awtomatig ar gyfer lwfansau wythnosau ychwanegol ac yn gweld dadansoddiad o’r swm hwn ar eich cyfrif Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG ar-lein ar ôl i’ch cais gael ei asesu. Gall wythnosau ychwanegol pob cwrs amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Maen nhw’n amodol ar brawf modd, gan ddibynnu ar incwm y cartref.

Cyllid ychwanegol drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallai arian ychwanegol fod ar gael i chi. Er enghraifft, os oes gennych chi anabledd, neu blant neu oedolyn sy'n ddibynnol arnoch chi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru.

Benthyciad Cynhaliaeth i Fyfyrwyr ar gyfer costau byw

Yn rhan o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, gall myfyrwyr cymwys hefyd wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth ad-daladwy drwy eu corff cyllid myfyrwyr cartref yn y DU. Nid yw'r benthyciad hwn yn cael ei asesu ar sail incwm.

Mae’r tabl isod yn dangos yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25:

 

Myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru cyn eu cwrs – yn cael eu hasesu gan Gyllid Myfyrwyr Cymru

Myfyrwyr sy'n byw yn Lloegr cyn eu cwrs – yn cael eu hasesu gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr

Byw i ffwrdd o gartref eich rhieni

£11,150

£2,670

Bydd y benthyciad cynhaliaeth hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer mewn tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei ryddhau ymhen 3 i 5 diwrnod gwaith ar ôl ymrestru. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych chi ar gyfer o leiaf bythefnos pan fyddwch chi’n cyrraedd y Brifysgol.

Os ydych chi’n bwriadu byw yng nghartref eich rhieni wrth astudio, bydd y benthyciad yn llai.

Os ydych chi'n byw fel arfer yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â'r tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am ragor o wybodaeth.

Os byddwch chi’n cymryd benthyciad cynhaliaeth myfyrwyr, byddwch chi’n ei ad-dalu o dan delerau ac amodau arferol eich corff cyllido.

Incwm yr aelwyd

Yr incwm a gaiff ei asesu gan Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru a’ch corff cyllid myfyrwyr yw naill ai incwm eich rhieni neu briod/partner yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fydd eich enillion cyn dechrau’r cwrs nac unrhyw arian a gewch chi trwy weithio wrth astudio ddim yn cael ei asesu.

Os ydych chi’n berson sengl, ni chaiff incwm rhieni ei asesu os:

  • oes gennych chi blant neu
  • rydych chi wedi’ch ymddieithrio o’ch rhieni neu
  • gallwch chi ddangos eich bod wedi cynnal eich hun yn ariannol am 3 blynedd cyn y cwrs

Bydd hawl gan fyfyrwyr sy’n rhiant sengl i dderbyn uchafswm bwrsariaeth y GIG, fel arfer.

Sut i wneud cais

Os ydych chi eisiau manteisio ar bedair elfen Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, yna mae angen i chi wneud cais i’r ddau ymasef Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru a’ch corff cyllid myfyrwyr.

Gallwch chi wneud cais am gyllid ffioedd dysgu’r GIG, Grant GIG a Bwrsariaeth y GIG ar wefan Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru unwaith y byddwch chi wedi derbyn cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd .

Mae Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru wedi creu canllaw cam wrth gam ar gyfer gwneud cais am gyllid ganddyn nhw.

Ble bynnag rydych chi’n byw yn y DU, os ydych chi am gael mynediad i Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru yna rhaid i chi wneud cais drwy Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru.

I wneud cais am y benthyciad cynhaliaeth myfyrwyr mae angen i chi wneud cais i’r corff cyllido yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw fel arfer cyn dechrau eich cwrs:

Os ydych chi fel arfer yn byw yn

Gwnewch gais i

Cymru

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Lloegr

Cyllid Myfyrwyr Lloegr

Os ydych chi'n byw fel arfer yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â'r tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â'r Tîm Cyngor ac Arian ynglŷn ag unrhyw ymholiadau am ariannu’ch cwrs:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr