Cyllid ar gyfer Meddygaeth (MBBCh) a Llawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS)
Os byddwch chi’n cychwyn ar un o'r cyrsiau canlynol ym mis Medi 2024, bydd y cyllid yn dibynnu ar ai dyma'r tro cyntaf ichi astudio tuag at radd, a ydych chi’n astudio'ch cwrs yn fyfyriwr ail radd, neu a ydych chi’n fyfyriwr graddedig newydd.
Meddygaeth (MBBCh) a Llawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS)
Os byddwch chi’n dod i’r Brifysgol am y tro cyntaf ac yn astudio naill ai Meddygaeth (MBBCh) neu Lawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS), mae’r cyllid sydd ar gael ichi ar hyn o bryd fel a ganlyn:
Yn ystod blynyddoedd 1-4 y cwrs, cewch eich cyllido gan eich corff cyllido myfyrwyr, ac mae hyn yn cael ei bennu gan ble roeddech chi'n preswylio fel arfer cyn ichi ddechrau eich cwrs. Mae rhagor o fanylion yma am sut mae’r cyllid hwn yn gweithio, beth sydd ar gael gan ddibynnu ar ble rydych chi’n preswylio fel arfer cyn ichi ddechrau eich cwrs a sut i wneud cais.
Ar hyn o bryd, yn eich pumed flwyddyn o astudio Meddygaeth (MBBCh) neu Lawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS) byddwch chi’n cael eich ariannu gan y GIG gan ddibynnu ar ble roeddech chi’n preswylio cyn ichi ddechrau eich cwrs. Yn gyffredinol, mae pedair prif elfen i’r cymorth hwn:
- cymorth ffioedd dysgu gan y GIG
- grant y GIG heb asesu incwm
- bwrsariaeth y GIG wedi’i hasesu yn ôl incwm
- mynediad at fenthyciad cynhaliaeth cyfradd sefydlog (gan eich corff cyllido myfyrwyr perthnasol)
Yn rhan o’r blynyddoedd astudio y mae blwyddyn ragarweiniol a/neu flwyddyn ymsang, ond nid yw'n cynnwys unrhyw flynyddoedd astudio o’r newydd a gymerwyd gennych chi.
Nid oes unrhyw ymrwymiad i weithio i'r GIG yng Nghymru am 2 flynedd ar ôl cymhwyso.
Bydd rhagor o fanylion am y cyllid yn eich pumed flwyddyn astudio ar gael yn nes at yr amser.
Meddygaeth a Llawdriniaeth Ddeintyddol yn ail radd
I fyfyrwyr sy'n astudio Meddygaeth (MBBCh) neu Lawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS) yn ail radd, mae cyllid cyfyngedig ar gael ym mlynyddoedd 1-4 ac efallai mai dim ond yn eich pumed flwyddyn o astudio y bydd cyllid y GIG ar gael.
Cyllid Ffioedd Dysgu a Chynhaliaeth (Blynyddoedd 1-4)
Nid oes benthyciad ffioedd dysgu ar gael a bydd gofyn ichi hunanariannu’r ffioedd dysgu yn ystod pedair blynedd gyntaf eich cwrs.
Oherwydd bod gennych chi radd eisoes, dim ond benthyciad cynhaliaeth prawf modd y gallwch ei gael gan eich corff cyllido myfyrwyr (gan ddibynnu ar ble roeddech chi’n preswylio fel arfer cyn ichi ddechrau eich cwrs).
Dyma gyfraddau benthyciad cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru a Chyllid Myfyrwyr Lloegr i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n byw yng nghartref eu rhieni ac a fydd yn dechrau eu cwrs ym mis Medi 2024.
Benthyciad Cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru | Swm y flwyddyn |
---|---|
Heb gael ei asesu ar sail incwm | £11,150 |
Benthyciad Cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr Lloegr | Swm y flwyddyn |
Incwm wedi'i asesu - uchafswm | £10,227 |
Incwm wedi'i asesu - lleiafswm | £4,767 |
Os ydych chi’n dod o'r Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch yn uniongyrchol â'ch gwasanaeth cyllido myfyrwyr.
Cyllid ychwanegol:
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael ichi drwy eich corff cyllido myfyrwyr. Er enghraifft, os oes gennych chi anabledd, plant neu oedolyn dibynnol. Cysylltwch yn uniongyrchol â'ch corff cyllido myfyrwyr.
Pumed flwyddyn astudio
Ar hyn o bryd, yn eich pumed flwyddyn o astudio Meddygaeth (MBBCh) neu Lawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS) byddwch chi’n cael eich ariannu gan y GIG gan ddibynnu ar ble roeddech chi’n preswylio cyn dechrau eich cwrs. Yn gyffredinol, mae pedair prif elfen i’r cymorth hwn:
- cymorth ffioedd dysgu gan y GIG
- grant y GIG heb asesu incwm
- bwrsariaeth y GIG wedi’i hasesu yn ôl incwm
- mynediad at fenthyciad cynhaliaeth cyfradd sefydlog (gan eich corff cyllido myfyrwyr perthnasol)
Yn rhan o’r blynyddoedd astudio y mae blwyddyn ragarweiniol a/neu flwyddyn ymsang, ond nid yw'n cynnwys unrhyw flynyddoedd astudio o’r newydd a gymerwyd gennych chi.
Nid oes unrhyw ymrwymiad i weithio i'r GIG yng Nghymru am 2 flynedd ar ôl cymhwyso.
Bydd rhagor o fanylion am y cyllid yn eich pumed flwyddyn astudio ar gael yn nes at yr amser.
Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion
Caiff myfyrwyr sydd wedi astudio’r llwybrau bwydo canlynol wneud cais i astudio Meddygaeth ar lefel mynediad i raddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd:
- Gradd BSc (Anrh) Ffarmacoleg Feddygol, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd (B210)
- Gradd BSc (Anrh) yn y Gwyddorau Biofeddygol, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd (BC97)
- Gradd BMedSci o Brifysgol Bangor (B100)
- Gradd BSc (Anrh) yn y Gwyddorau Meddygol, o Brifysgol De Cymru (B901)
Ceir trefniadau cyllido eithriadol i fyfyrwyr sy'n astudio Meddygaeth drwy lwybr Mynediad i Raddedigion.
Cyllid Ffioedd Dysgu a Chynhaliaeth - Blwyddyn 1
Ar gyfer blwyddyn gyntaf Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion: bydd yn rhaid ichi hunanariannu'r £3,465 cyntaf yn eich ffioedd dysgu. Cewch gymryd benthyciad ffioedd dysgu gan eich corff cyllido myfyrwyr (a bennir gan ble roeddech chi’n preswylio fel arfer cyn ichi ddechrau eich cwrs) i dalu'r balans sy'n weddill.
Dim ond gan eich corff cyllido myfyrwyr y gallwch chi wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth. Dyma gyfraddau benthyciad cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru a Chyllid Myfyrwyr Lloegr i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n byw yng nghartref eu rhieni ac a fydd yn dechrau cwrs ym mis Medi 2024.
Benthyciad Cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru | Swm y flwyddyn |
---|---|
Heb gael ei asesu ar sail incwm | £11,150 |
Benthyciad Cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr Lloegr | Swm y flwyddyn |
Incwm wedi'i asesu - uchafswm | £10,227 |
Incwm wedi'i asesu - lleiafswm | £4,767 |
Os ydych chi’n dod o'r Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch yn uniongyrchol â'ch gwasanaeth cyllido myfyrwyr.
Cyllid ychwanegol:
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael ichi drwy eich corff cyllido myfyrwyr. Er enghraifft, os oes gennych chi anabledd, plant neu oedolyn dibynnol. Cysylltwch yn uniongyrchol â'ch corff cyllido myfyrwyr.
Cyllid Ffioedd Dysgu a Chynhaliaeth – Blynyddoedd 2-4
Ar hyn o bryd caiff myfyrwyr ym mlynyddoedd 2 – 4 wneud cais am gymorth ariannol drwy’r GIG a’u corff cyllido myfyrwyr perthnasol i gael cymorth o ran ffioedd dysgu a chostau byw.
Ffioedd dysgu:
Mae'r GIG (gan ddibynnu ar ble rydych chi’n preswylio cyn ichi ddechrau eich cwrs) yn talu'r £3,465 cyntaf waeth beth fo incwm yr aelwyd, yn amodol ar y cais.
Wedyn, mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i gymryd benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer gweddill balans y ffioedd gan eu corff cyllido myfyrwyr (gan ddibynnu ar ble rydych chi’n preswylio cyn ichi ddechrau eich cwrs).
Cyllid Cynhaliaeth:
Ar hyn o bryd ceir cymorth cynhaliaeth ym mlynyddoedd 2-4 sy’n cynnwys
- Grant y GIG heb asesu incwm
- Bwrsariaeth y GIG wedi’i hasesu yn ôl incwm
- Mynediad at fenthyciad cynhaliaeth cyfradd sefydlog (gan eich corff cyllido myfyrwyr perthnasol)
Yn rhan o’r blynyddoedd astudio y mae blwyddyn ragarweiniol a/neu flwyddyn ymsang, ond nid yw'n cynnwys unrhyw flynyddoedd astudio o’r newydd a gymerwyd gennych chi.
Nid oes unrhyw ymrwymiad i weithio i'r GIG yng Nghymru am 2 flynedd ar ôl cymhwyso.
Bydd rhagor o fanylion am y cyllid ym mlynyddoedd 2-4 ar gael yn nes at yr amser.