Ewch i’r prif gynnwys

Ariannu’ch cwrs gofal iechyd

Mae dau opsiwn ariannu ar gael i fyfyrwyr newydd sy'n bwriadu astudio cwrs sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.

Bydd gennych ddewis rhwng dau opsiwn ariannu, os dewiswch astudio un o'r cyrsiau canlynol ym Mhrifysgol Caerdydd:

  • Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (BSc)
  • Therapi Galwedigaethol (BSc)
  • Nyrsio (BN)
  • Bydwreigiaeth (BMid)
  • Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)
  • Ffisiotherapi (BSc)
  • Therapi a Hylendid Deintyddol (BSc)
  • Hylendid Deintyddol (DipHE)

Yn amodol ar delerau ac amodau'r cyrff cyllido, y ddau opsiwn ariannu yw:

  1. Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ar gael drwy wefan Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr newydd o’r DU sy'n dechrau rhwng mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025. I dderbyn y cyllid hwn bydd angen i chi ymrwymo i weithio i'r GIG yng Nghymru am 2 flynedd ar ôl cymhwyso NEU
  2. Unig gyllid gan eich corff cyllid myfyrwyr. Bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw fel arfer cyn i chi ddechrau ar eich cwrs. Os byddwch yn dewis yr opsiwn ariannu hwn bydd yn rhaid i chi optio allan yn ffurfiol o Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru i gael eich asesu'n gywir gan eich corff cyllid

I benderfynu pa opsiwn ariannu sydd orau i chi, rydym yn eich cynghori i gymharu’r ddwy system ac ystyried:

  • eich costau byw a ragwelir, mae'r ddwy system gyllido yn cynnig gwahanol gyllid costau byw ymlaen llaw a symiau benthyciadau
  • eich ymrwymiad i weithio i'r GIG yng Nghymru am 2 flynedd ar ôl i chi orffen eich cwrs

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am delerau ac amodau Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru drwy wefan Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru

Cyllid ar gyfer cyrsiau gofal iechyd penodol

Rhagor o wybodaeth am yr opsiwn ariannu sydd ar gael ar gyfer cyrsiau gofal iechyd penodol:

Os ydych yn bwriadu astudio:

  • Ffisiotherapi Cyn Cofrestru (MSc)
  • Therapi Galwedigaethol Cyn Cofrestru (MSc)

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am y cyllid sydd ar gael gan y GIG yn benodol i'r cyrsiau hyn.

Mae'r cyllid ar gyfer y cwrs byr hwn yn wahanol i gyrsiau gofal iechyd eraill ac yn dibynnu ar le rydych yn byw cyn dechrau'r cwrs.

Gwybodaeth am gyllid i fyfyrwyr cartref sydd fel arfer yn byw yng Nghymru

Ar gyfer ymgeiswyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, ac sy'n gymwys i gael cyllid ffioedd y DU dan y meini prawf hyn, mae'r ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs hwn fel arfer yn cael eu talu gan GIG Cymru. Nid oes unrhyw ymrwymiad i weithio yng Nghymru i'r GIG yn dilyn y cwrs hwn.

Yn ogystal, mae bwrsariaeth y GIG o £1,000 nad oes rhaid ei had-dalu ar gael i helpu gyda chostau byw. Gall myfyrwyr sydd â phlant ifanc hefyd fod yn gymwys i gael cymorth drwy Grant Gofal Plant y GIG sy'n seiliedig ar brawf modd.

Trefnir y cyllid ar gyfer y cwrs hwn drwy Swyddfa Gyllid Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Ar gyfer ymholiadau pellach am y cwrs Dychwelyd i Ymarfer hwn e-bostiwchHCAREBursaries@caerdydd.ac.uk

Gwybodaeth am gyllid i fyfyrwyr nad ydynt fel arfer yn byw yng Nghymru gan gynnwys y rhai sy'n preswylio mewn mannau eraill yn y DU a phob myfyriwr rhyngwladol (tramor).

Os nad ydych fel arfer yn byw yng Nghymru a/neu os oes gennych statws ffioedd tramor, ni allwch wneud cais am y cwrs hwn.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyllid ar gyfer eich cwrs, cysylltwch â'r tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr