Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Caerdydd
Unwaith i chi gofrestru fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd, gall Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Caerdydd roi cymorth ariannol i fyfyrwyr a aeth i ysgol uwchradd yng Nghaerdydd am o leiaf dwy flynedd, ac sy'n bodloni un o'r categorïau canlynol:
- Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio (myfyrwyr heb gymorth teuluol ar ôl eu pen-blwydd yn 16 nes iddynt adael yr ysgol)
- Myfyrwyr sy'n ceisio lloches ar hyn o bryd neu sydd â rhieni sy'n ceisio lloches yn y DU
- Myfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliadau gwaith fel rhan o'u hastudiaeth nad ydynt yn gallu talu'r costau sy'n gysylltiedig â mynychu lleoliad o'r fath
Cynigir gwobrau gwerth hyd at £1,000 i bob myfyriwr yn ystod blwyddyn academaidd.
Rhoddir y gwobrau i'r myfyrwyr sydd fwyaf tebygol o elwa o ganlyniad i gael yr arian ychwanegol hwn – boed hynny yn eu gallu i barhau neu i lwyddo mewn addysg uwch, neu drwy leoliadau gwaith sy’n gwella eu cyfleoedd cyflogaeth ar ôl gorffen eu hastudiaethau.
Lawrlwythwch y telerau a’r amodau llawn a ffurflen gais.