Bwrsari Dr Brian Rees
Bydd y fwrsariaeth sylweddol hon yn talu ffioedd llawn myfyriwr cartref, ynghyd â chyflog cynnal a chadw sylweddol am bum mlynedd (cyflog tua £10,000 bob blwyddyn).
I gael cyfle i lwyddo i dderbyn y bwrsari hwn, darllenwch y meini prawf asesu isod a gwnewch gais gan ddefnyddio'r ffurflen gais erbyn 9 Mehefin 2025, 17:00.
Pwy sy’n cael gwneud cais?
- Myfyriwr israddedig cartref sy'n byw yng nghodau post CF11 neu CF24 sy’n ddechrau eu blwyddyn gyntaf yn 2025 ac yn astudio Meddygaeth
- Myfyriwr sy'n gallu dangos angen ariannol (naill ai'n cael prydau ysgol am ddim neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg)
Beth ydyn ni’n ei asesu?
- Addasrwydd yn unol â’r meini prawf
- Uchelgeisiau personol
Gwnewch gais heddiw
I gael eich ystyried ar gyfer Bwrsari Dr Brian Rees, llenwch y ffurflen atodedig erbyn dydd Llun 9 Mehefin 2025, 17:00
Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan banel. Mae penderfyniad y panel yn derfynol, ac nid oes yna hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Ni fydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad y cais tan ar ôl 17 Awst 2025.
Caiff y bwrsari hwn ei gefnogi’n hael trwy ddyngarwch. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch donate@caerdydd.ac.uk.
Cafodd y fwrsariaeth ei henwi ar ôl Dr Brian Rees a oedd yn Gymro balch, meddyg a chwaraewr rygbi. Dechreuodd ei yrfa meddygaeth yn llawfeddyg cyffredinol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Ef oedd prif glinigwr canser rhwng 2000-2006 a sefydlodd uned i ddysgu sgiliau llawdriniaeth a thechnegau laparosgopig, sy’n cael ei defnyddio mewn nifer o ddisgyblaethau ym maes meddygaeth. Yn 2000 dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaethau i feddygaeth.
Gwiriwch eich cymhwysedd cyn gwneud cais. Gellir tynnu dyfarniadau'n ôl os byddwn yn dod yn ymwybodol yn ddiweddarach nad yw ysgolheigion llwyddiannus wedi bodloni meini prawf cymhwysedd neu eu bod wedi cyflwyno gwybodaeth ffug.
Telerau ac amodau
- Bydd y fwrsariaeth sylweddol hon yn talu ffioedd llawn myfyriwr cartref, ynghyd â chyflog cynnal a chadw sylweddol am bum mlynedd (cyflog tua £10,000 bob blwyddyn).
- Telir y ffioedd cartref yn uniongyrchol i'r Brifysgol
- Bydd gweddill y bwrsari yn cael ei dalu ar ffurf grant cynhaliaeth i'w ddefnyddio yn ôl disgresiwn yr ymgeisydd llwyddiannus.
- Bydd y tâl yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad yn ystod tymhorau’r gaeaf, y gwanwyn a'r haf.
- Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus basio pob blwyddyn i gyrchu cyllid ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Os na fydd y myfyriwr yn bodloni'r gofynion sylfaenol o ran sicrhau graddau i basio, yna mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ailddyrannu’r cyllid i fyfyriwr arall.
- Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi derbyn yn bendant y lle a fydd wedi’i gynnig ar raglen radd lawn-amser israddedig gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, a hynny erbyn dyddiad cau perthnasol UCAS, a bydd yr astudiaethau’n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2025-2026.
- Mae'r bwrsari yn ddibynnol ar y myfyriwr yn bodloni amodau’r cynnig. Nid yw'r bwrsari yn gwarantu lle ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi cofrestru erbyn y dyddiad a gadarnheir yn y llythyr cynnig.
- Os na fydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cofrestru erbyn y dyddiad a nodir, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ailddyrannu’r cyllid i fyfyriwr arall.
- Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ysgrifennu e-bost o ddiolch i'r rhoddwr, a chyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn i ddangos ei chynnydd ac i gwrdd â’r rhoddwr.
- Efallai y bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd fod ar gael ar gyfer ffotograff, a rhoi dyfyniad i'n helpu i roi cyhoeddusrwydd i fwrsarïau eraill o fewn y Brifysgol a’r tu allan iddi.
- Efallai y gofynnir i'r myfyriwr gymryd rhan mewn cyfleoedd pellach i ddiolch i’r rhoddwyr, ond gall y derbynnydd ddewis peidio â gwneud hynny.
- Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan banel. Mae penderfyniad y panel yn derfynol, ac nid oes yna hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Ni fydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad y cais tan ar ôl 17 Awst 2025.
Y meini prawf
- Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fyw yng nghodau post CF11 neu CF24
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn astudio cwrs israddedig Meddygaeth
- Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos angen ariannol (naill ai'n cael prydau ysgol am ddim neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg)