Bwrsariaeth wrth Adael Gofal
Rydym yn rhoi bwrsariaeth gwerth £1,000 y flwyddyn academiadd i ymadawyr gofal israddedig ag ôl-raddedig llawn amser.
Pwy sy’n gymwys
I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod y myfyrwyr:
- yn fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig amser llawn a addysgir ac
- o dan 25 oed ar adeg dechrau’r cwrs ac
- yn gymwys i gael eu hariannu fel myfyrwyr ‘cartref’ ac
- yn ymadawyr gofal: Person ifanc sy’n gadael gofal yw rhywun sydd wedi bod yng ngofal eu hawdurdod lleol (ALl), neu wedi derbyn llety ganddynt am gyfnod o 13 wythnos o leiaf cyn cyrraedd 14 oed. Mae’n rhaid hefyd eu bod nhw heb gymodi â’u rhieni rhwng gadael gofal a chychwyn ar eu cwrs
Noder, os ydych wedi cael eich mabwysiadu, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth gadael gofal.
Os ydych yn cael y fwrsariaeth gadael gofal, byddwn hefyd yn eich enwebu ar gyfer pecyn graddio fydd yn cynnwys llogi’r wisg academaidd a phecyn o luniau.
Rhagor o wybodaeth
I gael mwy o fanylion am y wobr hon, cysylltwch â Lena Smith.
Gyda'n Gilydd yng Nghaerdydd
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor i'ch galluogi i wneud dewis gwybodus am astudio gyda ni.