Ewch i’r prif gynnwys

Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd

Rydym yn credu y dylai pawb sydd â'r gallu i astudio yma allu gwneud hynny beth bynnag fo'u hamgylchiadau ariannol.

Yn 2023/24, cafodd tua 4,500 o’n myfyrwyr fudd o Fwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.

Cymhwysedd

I fod yn gymwys am ddyfarniad, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Bod ar gwrs Israddedig amser llawn
  • bod yn gymwys i gael cymorth cyllid i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig ar gyfer cynhaliaeth a bod ag incwm aelwyd a aseswyd sydd o dan £35,000 (yn ôl diffiniad rheoliadau ariannu Cefnogi Myfyrwyr)
  • bod yn rhwymedig i dalu ffioedd dysgu o £9,250 (gan gynnwys grant talu ffioedd dysgu, os yw'n berthnasol).

Ni fydd myfyrwyr TAR a phynciau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd sy'n derbyn cyllid gan y GIG yn gymwys ar gyfer Bwrsariaethau Prifysgol Caerdydd.

Gwerth y dyfarniad

Yn 2025/26, mae Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd yn daliad arian parod o £500.  Mae £500 pellach fesul blwyddyn o astudio ar gael pan fo myfyriwr yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd.  Mae'r fwrsariaeth o £1,000 ar gael ar ben y grantiau a'r benthyciadau cynhaliaeth a ariennir gan y llywodraeth.

Sut mae gwneud cais

Does dim angen i chi wneud cais am Fwrsariaeth Prifysgol Caerdydd. Bydd eich cymhwysedd yn cael ei benderfynu gan ddefnyddio'r gwybodaeth a rhoddwyd i Cyllid Myfyrwyr drwy eich cais am Fenthyciad Myfyriwr yn y DU. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn ticio'r blwch ar y ffurflen asesu i atal eich caniatâd i rannu'r wybodaeth hon â ni. Os gwnewch hyn, ni fyddwch yn gallu cael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.

Anfonir cadarnhad eich bod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth  cyn diwedd y semester cyntaf.

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau