Bwrsariaethau
Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau ariannol a rhai personol eraill effeithio ar eich penderfyniad i wneud cais i’r brifysgol.
Rydym yn cynnig ystod o fwrsariaethau i helpu gyda chostau astudio gyda ni.
Dyfarniad | Pwy allai fod yn gymwys? | Swm |
---|---|---|
Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd | Myfyrwyr israddedig amser llawn o aelwydydd incwm is sy'n gymwys i dderbyn cyllid y Deyrnas Unedig ar gyfer costau byw | £500 fesul blwyddyn academaidd |
Gyda'n gilydd yn Bwrsariaeth Caerdydd | Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig llawn amser sy'n gadael gofal, gofalwyr sydd wedi ymddieithrio, profiadol o'r fyddin ac oedolion ifanc | £1,000 fesul blwyddyn academaidd |
Dyfarniad Cyfle i Geiswyr Lloches | Ceiswyr lloches neu blant ceiswyr lloches (mae chwech ddyfarniad ar gael) | Cost dysgu a grant nad oes angen ei ad-dalu o £4000 |
Bwrsariaeth y Cam Nesaf | Myfyrwyr sydd wedi cwblhau Cynllun Ehangu Cyfranogiad y Brifysgol, ac y mae incwm eu cartref yn llai na £35,000 | Naill ai gostyngiad o £1,000 oddi ar eich ffioedd llety ym Mhrifysgol Caerdydd neu fwrsariaeth deithio o £500 yn eich blwyddyn gyntaf |
Bwrsariaeth y GIG | Gallai myfyrwyr cartref sydd wedi eu cyllido yn y DU ar gyrsiau cymwys sy’n ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl graddio fod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth cyllid statudol hon. | Mae’n cwmpasu ffioedd dysgu llawn yn ogystal â £1000 y flwyddyn at gostau byw. |
Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau gyda ni, gwiriwch y fewnrwyd myfyrwyr am fanylion bwrsariaethau eich blwyddyn carfan.
Am ragor o fanylion ynghylch y dyfarniadau uchod, cysylltwch â:
Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr
Canllaw Cyllid Myfyrwyr 2025
Canllaw cyllid myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr y Deyrnas Unedig.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.