Cyrsiau cyfrwng Cymraeg
Rydyn ni'n cynnig hyd at 65 o gyrsiau sy'n cynnwys ystod eang o bynciau, a addysgir yn llawn neu'n rhannol yn Gymraeg.
Fel prifysgol sydd â'r Gymraeg wrth wraidd popeth a wnawn, rydyn ni'n cynnig dewis amrywiol o'n cyrsiau a modiwlau yn Gymraeg.
Gallwch hefyd sefyll eich arholiadau a'ch aseiniadau yn Gymraeg a chael mynediad at diwtor personol sy'n siarad Cymraeg a all eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau yma.
Pa gyrsiau rydyn ni'n eu cynnig yn Gymraeg?
Mae gennych chi'r opsiwn i astudio cyrsiau a modiwlau yn y pynciau canlynol yn Gymraeg:
Diweddarwyd y manylion isod a'u cymeradwyo ar 20 Medi 2024
Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Rheoli Busnes
Mae sefydliadau’n gorfod ail-greu eu hunain yn gyson a datblygu’r ffordd maen nhw’n gweithredu er mwyn bod yn unigryw mewn marchnad fusnes ryngwladol gynyddol orlawn. Mae hynny’n golygu bod galw mawr am raddedigion sy’n rhoi damcaniaethau ar waith ac sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gweithle.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau sydd ar gael |
---|---|---|
BSc Rheoli Busnes a Chymraeg (3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Rheoli Busnes a Chymraeg (gyda Blwyddyn o Leoliad Proffesiynol) (4 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Troseddeg
Troseddeg yw’r maes astudio sy’n canolbwyntio ar droseddoli, erledigaeth, ac ymatebion cymdeithasol i droseddu ac anhrefn.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BSc Troseddeg (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Troseddeg a Chymdeithaseg (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
LLB Y Gyfraith a Throseddeg (Integredig - 3 blynedd) | 38% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Addysg
Mae addysg yn bwnc cyffrous ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy’n cael ei gyflwyno fwyfwy fel y prif ffordd o feithrin twf economaidd, cydlyniant cymdeithasol a lles personol.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BSc Addysg (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg ac Addysg (3 blynedd) | 80% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Cymdeithaseg ac Addysg (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Cymdeithaseg ac Addysg (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Dadansoddeg Gymdeithasol (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol (3 blynedd) | 19% | Dim |
Hanes
Ymchwiliwch i fydoedd a fu ac ehangu eich dealltwriaeth o newid hanesyddol yn ein rhaglenni uchel eu bri sy’n cael eu haddysgu gan arbenigwyr angerddol a thrwy gipolygon o’u hymchwil ddiweddaraf.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BA Hanes (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg a Hanes (3 blynedd) | 83% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Hanes ac Economeg (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Hanes Modern a Gwleidyddiaeth (3 blynedd) | 61% | Dim |
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
Byddwch yn astudio materion megis effaith y cyfryngau cymdeithasol, rôl cyfathrebu corfforaethol neu pam fo newyddiaduraeth o safon uchel yn bwysicach nag erioed yn yr oes ‘newyddion ffug.’
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BA Newyddiaduraeth a Chyfathrebu (3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Newyddiaduraeth, Cyfathrebu a Gwleidyddiaeth (3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg (3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cyfryngau a Chyfathrebu (3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant (3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg a Newyddiaduraeth (3 blynedd) | 80% |
Y Gyfraith
Mae’r gyfraith yn berthnasol i bob rhan o’ch bywyd: y dderbynneb yn eich poced, cytundeb eich swydd, eich hawliau’n berchennog neu denant cartref, gofal eich tad-cu mewn cartref preswyl a pholisïau gwladol - mae’r rhain yn enghreifftiau o rôl y gyfraith yn ein bywydau.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
LLB y Gyfraith (3 blynedd) | 51% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
LLB Y Gyfraith a’r Gymraeg (3 blynedd) | 67% | |
LLB y Gyfraith a Throseddeg (Integredig - 3 blynedd) | 38% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
LLB Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth (Integredig - 3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
LLB Y Gyfraith a Ffrangeg (4 blynedd) | 38% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Athroniaeth
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn dathlu chwilfrydedd, trafodaeth wybodus, dadansoddi beirniadol a meddwl yn greadigol. Ystyriwn ein rôl fel partneriaeth, gan eich galluogi yn eich dysgu drwy ddarparu addysgu arbenigol mewn diwylliant cyfeillgar, cefnogol a phersonol.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BA Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Saesneg Iaith ac Athroniaeth (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Athroniaeth (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth (3 blynedd) | 33% | Dim |
BA Cymraeg ac Athroniaeth (3 blynedd) | 83% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Gwleidyddiaeth
Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn edrych ar y ffyrdd rydyn ni'n trefnu ein bywydau mewn byd cyd-gysylltiedig trwy gyfuniad o sefydliadau enfawr ac arferion.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth (3 blynedd) | 78% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BScEcon Cysylltiadau Rhyngwladol (3 blynedd) | 28% | Dim |
BScEcon Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth (3 blynedd) | 28% | Dim |
BScEcon Gwleidyddiaeth (3 blynedd) | 28% | Dim |
BA Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg (3 blynedd) | 21% | Dim |
Gwyddorau Cymdeithasol
Mewn byd rhyngwladol a chyfnewidiol ei natur, mae’n bwysicach nag erioed inni ddeall ymddygiad, agweddau a chymhelliant pobl a’r modd y bydd ein ffordd o drin a thrafod y sefydliadau a’n strwythurau sydd o’n hamgylch yn dylanwadu ar gyfleoedd a llwyddiant.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BSc Gwyddorau Cymdeithasol (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Cymdeithaseg (3 blynedd) | 33% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BSc Cymdeithaseg ac Addysg (3 blynedd) | 17% | Dim |
BSc Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (3 blynedd) | 19% | Dim |
BSc Econ Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg (3 blynedd) | 21% | Dim |
BSc Dadansoddeg Gymdeithasol (3 blynedd) | 24% | Dim |
Cymraeg
Mae Ysgol y Gymraeg yn ymroddedig i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth yn y Gymru gyfoes drwy addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BA Cymraeg (3 blynedd) | 100% | |
BA Cymraeg ac Addysg (3 blynedd) | 80% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg (3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg a Ffrangeg (3 blynedd) | 43% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg a Hanes (3 blynedd) | 83% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg a Newyddiaduraeth (3 blynedd) | 80% | |
BA Cymraeg a Cherddoriaeth (3 blynedd) | 50% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg ac Athroniaeth (3 blynedd) | 83% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth (3 blynedd) | 78% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
LLB Y Gyfraith a'r Gymraeg (3 blynedd) | 67% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Coleg y Gwyddorau Biomeddygol a Bywyd
Meddygaeth
Mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn cyflwyno cwricwlwm cyffrous gyda chyswllt clinigol cynnar, er mwyn i chi fedru datblygu’n feddyg o’r safon uchaf posibl.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
MBBCh Meddygaeth (5 mlynedd) | 73% | Ysgoloriaeth Meddygaeth |
Nyrsio
Mae Nyrsio yn yrfa gyfoethog ac amrywiol. Mae nyrsys yn defnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Scholarships available |
---|---|---|
Baglor mewn Nyrsio (Oedolion) – Derbyniad y gwanwyn (3 blynedd) | 34% | |
Baglor mewn Nyrsio (Oedolion) – Derbyniad yr hydref (3 blynedd) | 34% |
Fferylliaeth
Mae ein cwrs MPharm yn ceisio eich galluogi i archwilio gwahanol agweddau ar fferylliaeth fodern cyn dechrau ar eich gyrfa.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
MPharm Fferylliaeth (4 blynedd) | 28% | Dim |
Ffisiotherapi
Mae ffisiotherapi yn yrfa broffesiynol gyffrous sy'n datblygu'n barhaus ac sy'n ymwneud â chefnogi unigolion i fyw bywydau boddhaus ac egnïol.
Cwrs | Ar gael yn Gymraeg | Ysgoloriaethau ar gael |
---|---|---|
BSc Ffisiotherapi (3 blynedd) | 34% | Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
Mathemateg
Mae ein hymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yn helpu i lywio ein portffolio o raddau hyblyg sy'n gyffrous yn ddeallusol. Bydd hyn yn eich galluogi i ddilyn eich ddiddordebau mathemategol wrth i chi ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a mathemategol, fydd yn eich paratoi at amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous.
Pam astudio yn Gymraeg?
Mae astudio yn Gymraeg yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau dwyieithog cryf, dyfnhau cysylltiadau diwylliannol, elwa o feintiau dosbarthiadau llai, cael mynediad at ysgoloriaethau penodol, a gwella eich siawns o gael swydd yng Nghymru.
Gallwch hefyd gyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau yn Gymraeg, hyd yn oed os yw'r modiwl yn cael ei addysgu yn Saesneg, a byddwch yn cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg.
Arian yn eich poced
Rydyn ni'n deall pwysigrwydd cefnogaeth ariannol ac ysgoloriaethau wrth wneud cais i'r brifysgol. Ochr yn ochr â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydyn ni'n cynnig ystod eang o gymorth ariannol i'ch helpu i ganolbwyntio ar eich astudiaethau a thwf personol yn eich dewis iaith.
Llety pwrpasol ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg
Mae rhai fflatiau yn Llys Senghennydd a Gogledd Talybont wedi'u neilltuo ar gyfer myfyrwyr israddedig sy'n siaradwyr Cymraeg neu'n ddysgwyr, ac mae gan y ddau lety gymunedau Cymraeg ffyniannus.
Dewiswch yr opsiwn yma ar eich cais ar-lein os ydych chi'n dymuno gofyn am y llety hwn.
Mwy na dim ond cyrsiau
Byddwn yn eich cefnogi i astudio eich cwrs yn y Gymraeg a phrofi bywyd Cymraeg yng Nghaerdydd.