Cymraeg ac Ieithyddiaeth (BA)
- Meysydd pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth , Cymraeg
- Côd UCAS: QQ36
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Y byd o'ch cwmpas
Cyfunwch eich gwybodaeth am y Gymraeg ac ieithyddiaeth, gan ganolbwyntio ar eu cymhwysiad i'r byd cymdeithasol.
Estyn allan
Mae amrywiaeth eang o fodiwlau yn y Gymraeg ac ieithyddiaeth yn eich galluogi i archwilio eich diddordebau a darganfod rhai newydd.
Canolbwyntio ar y dyfodol
Datblygwch sgiliau cyflogadwyedd y mae galw amdanynt, gan wella eich rhagolygon gyrfa mewn ystod eang o feysydd.
Cymraeg yn y gweithle
Magu eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.
Cyfathrebu'n effeithiol
Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a'ch dadleuon.
Ar ein rhaglen Cymraeg ac Ieithyddiaeth (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau allweddol ar draws ystod eang o bynciau ieithyddol. Byddwch yn cyflawni lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol sydd wedi'u datblygu'n dda sy'n berthnasol i'r Gymru fodern.
Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y mwyafrif o fodiwlau'r ail flwyddyn, a holl fodiwlau'r flwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwlau yn caniatáu ichi archwilio pynciau megis ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.
Mewn ieithyddiaeth, byddwch yn cael sylfaen drylwyr wrth ddadansoddi iaith (gan gynnwys agweddau allweddol ar seineg, morffoleg a chystrawen). Byddwch hefyd yn gallu dewis modiwlau ar bynciau amrywiol, gan adael i chi ddilyn eich nwydau a'ch diddordebau, gan ddefnyddio'r dulliau diweddaraf i astudio gyda llygad beirniadol a gwneud cysylltiadau â dadleuon yn y maes cyhoeddus.
Wrth gaffael sgiliau gwella gyrfa, cewch gyfle i gynhyrchu gwahanol fathau o destunau a gweithio gyda meddalwedd arbenigol. Byddwch yn meithrin sgiliau o ddadansoddi enghreifftiau byd go iawn o iaith ac yn dysgu sut i greu dadleuon a chyfleu syniadau i wahanol gynulleidfaoedd. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol, i ddatblygu eich hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â'r Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth.
Gan raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd, ieithyddol ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Maes pwnc: Cymraeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC. Rhaid cynnwys gradd B mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg.
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofyniad iaith gyntaf neu ail iaith Gymraeg Safon Uwch, ond sydd â sgiliau Cymraeg amlwg cyfatebol, yn cael eu hystyried fesul achos. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu pennu ar ôl cwblhau asesiad ysgrifenedig a llafar yn foddhaol i gadarnhau cymhwysedd ar gyfer y rhaglen.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid bod gennych hefyd gymhwyster Iaith Gymraeg sy'n cyfateb i radd B ar Safon Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
*Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau proffesiynol a byddwn yn eich annog, ac yn gweithio gyda chi, i ystyried ac archwilio eich gyrfa neu opsiynau ôl-raddio eraill yn gynnar.
Mae graddedigion o'r rhaglen hon yn meddu ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy a meysydd gwybodaeth y ceisir amdanynt gan lawer o gyflogwyr.
Mae'r rhain yn cynnwys y gallu i gyfathrebu'n effeithiol i wahanol gynulleidfaoedd, ac i ddefnyddio myfyrio ac adborth i ddatblygu eich sgiliau ymhellach. Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn gallu bod yn gymhwyster hynod werthfawr ar gyfer rolau sy’n gofyn am siaradwyr dwyieithog. Mewn ieithyddiaeth, byddwch yn cyfuno'r sgiliau gorau o'r dyniaethau (hyblygrwydd, cyfathrebu, beirniadaeth) a sgiliau gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol a dull systematig). Bydd y cyfuniad hwn o sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy, ochr yn ochr â'ch pwerau mynegiant a meddwl yn feirniadol, yn cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr.
Yn ystod eich gradd, byddwch yn elwa o’r gwahanol fathau o gymorth gyrfaoedd yn y brifysgol. Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith i ddatblygu eich cyflogadwyedd tra gall ein gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr ddarparu cyfleoedd i ddatblygu neu gynyddu eich profiad proffesiynol drwy leoliadau neu interniaethau, a gwneud y mwyaf o'ch sgiliau a pha mor barod ydych gyda gweithdai gyrfaoedd a sesiynau cyngor un-i-un. Yn yr un modd, gallech weithio gyda'r tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â'ch syniadau yn fyw, gan roi sylfaen i chi gyda'r wybodaeth i lwyddo. Fel arall, gallwch fanteisio ar fentrau fel Ieithoedd i Bawb i ennill sgiliau iaith newydd (neu wella rhai presennol), gan wella eich CV a'ch profiadau personol.
Gyda'r ehangder o sgiliau academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â chyfleoedd datblygiad personol, sydd ar gael iddynt yng Nghaerdydd, mae modd dod o hyd i'n graddedigion mewn amrywiaeth o rolau a sectorau. Mae'r rhain yn cynnwys marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, gwerthiannau a hysbysebu, cyfryngau a darlledu, addysg ac addysgu, therapi lleferydd ac iaith, y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus, ymhlith llawer mwy.
Lleoliadau
Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa. Rydym hefyd yn eich annog i ymgymryd â lleoliadau oddi ar y campws drwy Dyfodol Myfyrwyr er mwyn gwella eich cyflogadwyedd ymhellach.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.