Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg (BA)

Welsh students

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Dilyn eich diddordebau

Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg, a gwahanol gyfnodau a genres mewn llenyddiaeth Saesneg.

tick

Meddyliwch dros eich hun

Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau mewn ffordd annibynnol a meddwl agored.

globe

Antur ac archwilio

Cyfleoedd i astudio dramor yn Ewrop a thu hwnt, gan feithrin annibyniaeth a gwytnwch.

tick

Cymraeg yn y gweithle

Magu eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.

star

Cyfathrebu'n effeithiol

Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a'ch dadleuon.

Gyda’n rhaglen BA Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, ac yn ymwneud â llenyddiaeth Saesneg o wahanol gyfnodau a diwylliannau, ar draws yr ystod o brif genres llenyddol. Byddwch yn ennill sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy'n berthnasol i'r Gymru fodern a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol.

Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y mwyafrif o fodiwlau'r ail flwyddyn, a holl fodiwlau'r flwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwl yn eich galluogi i archwilio pynciau fel ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.

Ym maes Llenyddiaeth Saesneg, mae’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, hanes, technoleg, iaith, a bywyd bob dydd wedi ein cyfareddu, ac mae ein haddysgu yn adlewyrchu’r diddordebau hyn. Byddwch yn dysgu sut mae llenyddiaeth yn mynd i'r afael â phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd gyda'r nod o greu byd gwell, mwy cynhwysol a datblygu atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol y blaned. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, gallwch arbenigo yn eich dewis feysydd astudio.

Yn ystod eich gradd, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle siaredir Cymraeg yn ddyddiol, i ddatblygu eich hyder a’ch sgiliau proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth. Mae modiwl craidd blwyddyn olaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi’r cyfle i chi wneud archwiliad manwl o un testun ar draws semester cyfan a defnyddio’r profiad a’r wybodaeth a enillwyd fel sail i ddarn o waith sydd ar gael i’r cyhoedd.

Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a dadansoddi beirniadol. Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r heriau ieithyddol a diwylliannol sy'n wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes, a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-BBB. Rhaid cynnwys Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg, ac Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-31  yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn HL Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg. Rhaid bod gennych hefyd gymhwyster Iaith Gymraeg sy'n cyfateb i radd B ar Safon Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

D mewn BTEC ym mhynciau'r Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol, ac yn graddio AB-BB mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg Safon Uwch, ac Ysgrifennu Creadigol Safon Uwch, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,700 Dim
Blwyddyn dau £23,700 Dim
Blwyddyn tri £23,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn. Byddwch yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd mewn Llenyddiaeth Saesneg ym mhob blwyddyn astudio.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae'r modiwlau ym mlwyddyn 1 yn eich cyflwyno i'r sgiliau a meysydd gwybodaeth allweddol sy'n ymddangos drwy gydol y radd.

Yn y Gymraeg, byddwch yn archwilio agweddau ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg mewn amrywiol gyd-destunau cyfoes, hanesyddol a chymdeithasol. Bydd eich dewis o fodiwlau Cymraeg yn dibynnu a ydych wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith.

Mewn llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn cymryd tri modiwl craidd sy'n gwella eich sgiliau mewn darllen beirniadol ac ysgrifennu beirniadol, trwy archwilio ystod o genres llenyddol a dulliau dehongli. Mae’r modiwlau hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer eich datblygiad academaidd mewn astudiaethau llenyddol yn eich ail flwyddyn a’ch blwyddyn olaf. Maent hefyd yn rhoi sgiliau ysgrifennu, darllen, ymchwil a chyflogadwyedd allweddol i chi y byddwch yn eu defnyddio trwy gydol eich gradd a thu hwnt.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Darllen yn agosSE214920 Credydau
Ffyrdd o Ddarllen: Llenyddiaeth, Diwylliant a TheoriSE215020 Credydau
Ysgrifennu yn y Brifysgol a thu hwntSE626620 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau
Y Gymraeg HeddiwCY151620 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Sgiliau IaithCY151520 Credydau
Sgiliau Astudio LlenyddiaethCY151320 Credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn dilyn modiwl Cymraeg craidd a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg o fewn cyd-destun academaidd a galwedigaethol. Mae’r modiwl hwn yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg o ddydd i ddydd. Gallwch ddewis dau fodiwl dewisol pellach ar y Gymraeg, llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru, gan gynnwys sawl un sy’n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth penodol, megis cynllunio ieithyddol a’r diwydiannau creadigol a threftadaeth.

Nid oes modiwlau craidd mewn llenyddiaeth Saesneg ym mlwyddyn 2. Yn hytrach, mae gennych ryddid i ddewis eich modiwlau o ddwy ‘fasged’ wahanol sydd wedi'u cynllunio i roi profiad cydlynol i chi ar draws cyfnodau, genres, a meysydd thematig. Mae Basged A (‘Cyfnodau Llenyddol’) yn ymdrin â'r ystod o lenyddiaeth Saesneg o'r oesoedd canol hyd heddiw. Mae Basged B (‘Themâu, Ffurfiau a Genres’) yn cynnwys modiwlau sy'n mynd i'r afael â llenyddiaeth a'r amgylchedd; diwylliant ffilm a gweledol; hanes a dyfodol y llyfr; hil a gwladychiaeth; ffeministiaethau; a'r gothig. Byddwch yn dewis dau fodiwl o un fasged ac un o'r llall, gyda naill ai 20 neu 40 credyd y semester, yn dibynnu ar sut mae’r modiwlau’n cyd-fynd â’ch pwnc arall. Mae’r modiwlau llenyddiaeth Saesneg ail flwyddyn hyn yn adeiladu ar waith a wnaed ym mlwyddyn 1 ac yn parhau â’n hymrwymiad i ganiatáu i chi astudio llenyddiaeth ochr yn ochr â ffurfiau eraill ar ddiwylliant (fel ffilm).

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teyrnasoedd ShakespeareSE233620 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 Credydau
Barddoniaeth a Rhyddiaith Rhamantaidd o'r ddeunawfed ganrifSE264120 Credydau
Bydoedd Canoloesol: Naratif a GenreSE264020 Credydau
Llenyddiaeth a Diwylliant Cyfoes: Cyflyrau ArgyfwngSE239920 Credydau
Bydoedd Fictorianaidd: Mathau o DrawsnewidSE235320 Credydau
Uncanny Encounters: Gothig a Diwylliant o'r 1760au i'r presennolSE234720 Credydau
Llenyddiaeth, Gwyddoniaeth a'r AmgylcheddSE234420 Credydau
FfeministiaethauSE234120 Credydau
Llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif: Gwrthdaro, Argyfwng, ArbrofiSE234020 Credydau
Y Testun Amlbwrpas: Llyfrau/Gwrthrychau/CasgliadauSE233320 Credydau
Hil, Ymerodraeth a Chenedl: Ydyn Ni'n Ôl-drefedigaethol?SE227020 Credydau
Gweld ac Anweledig: Olrhain y (In)visible in Film and Visual CultureSE228820 Credydau
Caffael IaithCY291020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY270220 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 Credydau
Myrddin a MerlinCY235020 Credydau
Cymraeg ProffesiynolCY221520 Credydau

Blwyddyn tri

Yn eich blwyddyn olaf, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am bynciau ar draws llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg.

Yn y Gymraeg, byddwch yn gwneud ymchwil annibynnol ar ffurf naill ai draethawd estynedig 20 credyd neu waith prosiect hirach 40 credyd, y byddwch yn ei gwblhau dan gyfarwyddyd aelod o staff sy'n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil bellach neu fod yn arddangosfa effeithiol i gyflogwyr posibl. Byddwch hefyd yn dewis un neu ddau o fodiwlau dewisol Cymraeg 20 credyd ar themâu megis cyfieithu, iaith ac addysg, a llenyddiaeth gyfoes.

Mewn llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn cymryd un modiwl craidd 20 credyd a fydd yn rhoi'r cyfle i chi wneud archwiliad manwl o un testun ar draws semester cyfan a defnyddio'r profiad a'r wybodaeth a enillwyd fel sail i ddarn o waith sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae modiwlau dewisol yn ymdrin â materion cyfoes mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau llenyddol, a phynciau a meysydd hanesyddol sy’n adnabyddus ac o bosibl yn llai cyfarwydd i chi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Llenyddiaeth i BawbSE263920 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rhamantiaeth ail genhedlaeth: Cenedlaetholdeb, Cerddoriaeth a BarddoniaethSE266420 Credydau
Llenyddiaeth Gothig: Yr Oes Rhamantaidd SE266320 Credydau
Natur a'r Amgylchedd mewn Llenyddiaeth Gogledd America SE266120 Credydau
Technoleg a Diwylliant GweledolSE265920 Credydau
Y Goruwchnaturiol Canoloesol: Marwolaeth, Cythreuliaid ac Ysbrydion SE265820 Credydau
Bydoedd Newydd Dewr: Cyfarfyddiadau Modern Cynnar SE265620 Credydau
Gweledigaeth o'r gorffennol a'r dyfodol mewn llyfrau plantSE265520 Credydau
Ffilmiau Alfred HitchcockSE265420 Credydau
Utopia / Dystopia ModernSE265320 Credydau
Shakespeare yn torri PrydainSE263720 Credydau
Barddoniaeth Actifydd: Protest, Anghydffurfiaeth, GwrthwynebiadSE262720 Credydau
Romance Canoloesol: Monsters a MagicSE259920 Credydau
Island Stories: Llenyddiaethau Gogledd yr IweryddSE259820 Credydau
Masculinities milwrol yn y 19eg ganrif hirSE259720 Credydau
Traethawd hirSE252420 Credydau
Llenorion Merched yr 17eg a'r 18fed GanrifSE247620 Credydau
Y Llyfr DarluniadolSE239520 Credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 Credydau
Blas ar YmchwilCY390020 Credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 Credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY366520 Credydau
SosioieithyddiaethCY353020 Credydau
TafodieithegCY345020 Credydau
Bywydau LlênCY342520 Credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 Credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY333020 Credydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 Credydau
Cymraeg i Ymarferwyr AddysgCY301520 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ymchwil wrth wraidd profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac mae’r canfyddiadau diweddaraf yn llywio pob rhaglen.

Drwy gydol y radd, ein nod yw eich cefnogi i ddod yn feddyliwr annibynnol. Byddwch yn dysgu trwy ystod eang o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd rhyngweithiol, seminarau bywiog yn seiliedig ar drafodaeth, a gweithdai. Mae’r seminarau a’r gweithdai’n cynnig cyfle gwerthfawr i drin a thrafod prif syniadau a deunydd darllen amryw bynciau. Maen nhw’n gyfle da i ystyried syniadau, cydweithio’n agos â’r darlithwyr a dysgu oddi wrth y myfyrwyr eraill. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith, yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr ail iaith. Bydd gennych fynediad i ddeunyddiau cwrs trwy ein hamgylchedd dysgu electronig.

Yn yr amgylchedd cefnogol hwn, byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi testunau a dadleuon yn fanwl, gwerthuso tystiolaeth, gweithio ar y cyd trwy broblemau, llunio eich dadleuon eich hun, mireinio eich sgiliau iaith, a chyflwyno'ch syniadau'n glir i eraill.  

Sut y caf fy nghefnogi?

Eich prif ffynonellau cymorth yw eich arweinwyr modiwl a'ch Tiwtoriaid Personol. Byddwch yn cael tiwtor personol mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg. Gall Tiwtoriaid Personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd, a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol, a byddwch yn cael eich gwahodd i gwrdd â nhw'n rheolaidd yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae eich arweinwyr modiwl hefyd ar gael yn ystod wythnosau addysgu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu asesiadau.

Mae'r Ganolfan Datblygu Ysgrifennu yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi gyda'ch asesiadau.

Mae ein timau Gwasanaethau Proffesiynol mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yn darparu cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr ac maent yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cefnogi gyda materion ariannol, a darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cydleoli yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol. Bydd llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.

Sut caf fy asesu?

Mae eich asesiadau wedi'u cynllunio i ddatblygu'n gronnol sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, cydweithio, dadansoddi beirniadol a myfyrio. Gall y rhain gynnwys dadansoddiadau beirniadol o destunau, traethodau, arholiadau, adolygiadau beirniadol, cyflwyniadau, gwaith grŵp ac asesiadau trafodaeth grŵp, ac asesiadau myfyriol o'ch sgiliau eich hun. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol mewn llenyddiaeth Saesneg sy'n cynnwys cyfleu eich canfyddiadau i gynulleidfa anarbenigol. Yn y Gymraeg, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol.

Gall modiwlau dewisol gynnig amrywiaeth ehangach o asesiadau, gan gynnwys rhoi sylwadau ar waith celf neu ddarn cyfryngol, neu aseiniadau creadigol.

Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich cynnydd wrth i chi symud drwy'r radd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y cwrs a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn sylwadau ffurfiannol ar syniadau traethawd a gwaith drafft, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs wedi'i farcio.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Deall strwythurau, cyweiriau ac amrywiaethau Cymraeg a'u defnyddio'n hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol, fel y bo'n briodol.
  • Beirniadu datblygiad y Gymraeg a’i llenyddiaeth mewn cyfnodau hanesyddol gwahanol, o gyd-destun ieithyddol, llenyddol a chymdeithasol yn ogystal â dealtwriaeth o’r ymdrechion i adfer a hyrwyddo’r iaith.
  • Deall yn systematig lenyddiaeth Saesneg a/neu Gymraeg o wahanol ddiwylliannau a chyfnodau (gan gynnwys cyn 1800) a’r ystod o brif genres llenyddol ar draws rhyddiaith, barddoniaeth a drama.
  • Deall yn systematig y perthnasoedd rhwng llenyddiaeth a ffurfiau diwylliannol eraill, megis ffilm, celf, cerddoriaeth, a diwylliannau materol/digidol.
  • Deall yn systematig sut mae diwylliant, iaith, technoleg ac economeg yn effeithio ar sut, ble, a chan bwy y mae testunau'n cael eu cynhyrchu a'u derbyn.

Sgiliau Deallusol:

  • Asesu’n feirniadol sut y crëir ystyron drwy iaith, a grym affeithiol iaith.
  • Datblygu a chymhwyso dadleuon sy'n ymateb yn annibynnol i ffynonellau ieithyddol a/neu lenyddol a beirniadol. 
  • Gwerthuso’n feirniadol destunau, data, cysyniadau a damcaniaethau sy’n berthnasol i gyd-destun yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, gan ddefnyddio’r eirfa a therminoleg briodol.
  • Archwilio gwahanol fathau o ddata ieithyddol a/neu ddeunyddiau llenyddol a diwylliannol yn fanwl ac yn feirniadol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Cyfathrebu’n berswadiol, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, gan ddefnyddio technegau ysgrifenedig neu lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Cymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn cyd-destun proffesiynol.
  • Asesu a datrys problemau yn annibynnol, gan ystyried safbwyntiau pobl eraill mewn ffordd systematig a gwerthusol
  • Casglu a gwerthuso gwybodaeth gymhleth a thystiolaeth amrywiol yn systematig.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Defnyddio rhaglenni TG yn effeithiol, gan gynnwys meddalwedd cyfrwng Cymraeg, i gyflwyno a dadansoddi deunyddiau.
  • Egluro gwybodaeth a syniadau yn glir ac yn broffesiynol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu gyd-destunau anghyfarwydd neu fyd ehangach.
  • Arddangos mentergarwch drwy gymryd cyfrifoldeb am strwythuro a rheoli amser tasg ymchwil, gan weithio mewn timau pan fo'n briodol.
  • Datblygu perthynas waith gadarnhaol ac effeithiol ag eraill mewn timau, yn enwedig trwy ddeialog ac adborth adeiladol a chydweithredol.
  • Datblygu ymatebion creadigol, beirniadol ac annibynnol i broblemau neu dasgau.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae graddedigion y rhaglen hon yn meddu ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy a meysydd gwybodaeth y mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Mae ein graddedigion yn unigolion amryddawn, cydweithredol a beirniadol annibynnol sy'n gallu cyfleu syniadau cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol. Maent yn dangos uniondeb personol a phroffesiynol, dibynadwyedd a chymhwysedd, ac mae ganddynt y gallu i ysgogi eu hunain ac eraill i gyflawni cyfrifoldebau cytûn.

Trwy astudio iaith, llenyddiaeth a diwylliant mewn gwahanol gyd-destunau ieithyddol, cymdeithasol a diwylliannol, mae ein graddedigion yn datblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o amrywiaeth ddiwylliannol a sgiliau cyfathrebu dwyieithog allweddol sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr ar gyfer swyddi a rolau, yn arbennig y rhai sy’n gofyn am y Gymraeg.

Mae gwasanaethau a chynlluniau'r Brifysgol hefyd ar gael i chi, gan ddarparu ffyrdd ychwanegol o gynyddu eich sgiliau proffesiynol a'ch hyder. Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu eich cyflogadwyedd ymhellach, ac mae Dyfodol Myfyrwyr(Student Futures) wrth law i roi cyngor a chymorth gyrfaol i gael lleoliadau sy'n benodol i'ch gradd. Gallwch hefyd fanteisio ar raglenni fel Ieithoedd i Bawb a Chymraeg i Bawb i wella eich sgiliau iaith, a gall cymorth gan y tîm Menter a Dechrau Busnes eich helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.

Oherwydd dyfnder ac ehangder eu sgiliau a’u gwybodaeth, mae ein graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n cymryd rhan mewn astudiaethau ôl-raddedig.

Lleoliadau

Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa. Rydym hefyd yn eich annog i ymgymryd â lleoliadau oddi ar y campws trwy Dyfodol Myfyrwyr er mwyn gwella eich cyflogadwyedd ymhellach.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 50% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.