Ewch i’r prif gynnwys

Gymraeg ac Iaith Fodern (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

screen

Profiad deinamig

Dysgwch gan siaradwyr brodorol ac unigolion sydd i bob pwrpas yn siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o weithgareddau addysgu a dysgu.

academic-school

Gweithgareddau allgyrsiol

Bydd rhaglen fywiog yn eich helpu i ddysgu’r iaith a mwynhau ei diwylliant trwy ddosbarthiadau sgwrsio gyda myfyrwyr cyfnewid, caffis iaith a chymdeithasau iaith i fyfyrwyr.

star

Sgiliau ar gyfer y dyfodol

Rhaglen sgiliau strwythuredig sy’n ymgorffori sgiliau academaidd, trosglwyddadwy a chyflogadwyedd o'r cychwyn.

globe

Y byd yw'ch ystafell ddosbarth

Treulio’ch trydedd flwyddyn yng ngwledydd yr iaith (ieithoedd) a ddewisoch chi.

Ein nod yw i chi ddod yn 'ddinesydd byd-eang' sy'n meddwl yn feirniadol, yn deall amrywiaeth ddiwylliannol, ac sydd â chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy.

Bydd y rhaglen 4 blynedd Cymraeg ac Iaith Fodern (BA) yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, a meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor. 

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant trwy ystod o fodiwlau ar bynciau megis ysgrifennu cyfoes a hanesyddol, polisi iaith a chyfieithu. Yn yr un modd, byddwch yn ennill lefel uchel o sgil mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn meddwl creadigol a beirniadol, ac ystod o sgiliau proffesiynol sy'n berthnasol i'r Gymru fodern. Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y mwyafrif o fodiwlau'r ail flwyddyn, a holl fodiwlau'r flwyddyn olaf. 

Bydd eich astudiaeth ac archwiliad o’r Gymraeg yn cael ei ategu gan eich dewis o un o 3 iaith dramor fodern y byddwch yn ei hastudio naill ai ar y lefel Elfennol Uwch (os oes gennych lefel A yn y pwnc) neu’r llwybr Elfennol (os oes gennych chi ychydig neu ddim gwybodaeth o'r iaith rydych chi wedi'i dewis).  Byddwch yn dewis o blith Tsieinëeg, Ffrangeg, neu Sbaeneg. 

Byddwch yn astudio cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, hanesyddol a diwylliannol, o bersbectif byd-eang, y Gymraeg a’r iaith dramor fodern o’ch dewis, gan roi pwyslais cryf ar amrywiaeth ddiwylliannol, mae ein dewis modiwlau ysgogol yn dathlu symudedd diwylliannol ac ieithyddol. Trwy amryw adnoddau a deunyddiau dysgu ieithoedd ynghyd â gweithgareddau dysgu i fyfyrwyr, byddwch chi’n meithrin sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfryngu.

Rhan annatod o’r rhaglen cydanrhydedd hon yw’r cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yng Nghymru a threulio amser yn gweithio neu’n byw dramor i brofi bywyd yn niwylliant yr iaith dramor fodern yr ydych yn ei hastudio. Bydd eich lleoliad gwaith yng Nghymru yn datblygu eich dealltwriaeth o ddeinameg gweithleoedd dwyieithog a'ch hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Tra bydd eich blwyddyn dramor yn cynnig y dewis i chi o naill ai astudio mewn prifysgol bartner neu gwblhau lleoliad gwaith ym mhob semester, eto adeiladu eich galluoedd ieithyddol, dealltwriaeth ryngddiwylliannol, sgiliau cyfathrebu a hyder.

Byddwch yn graddio gyda'r sgiliau academaidd ac ymarferol a werthfawrogir gan gyflogwyr ac yn barod i symud ymlaen i ystod amrywiol o yrfaoedd.

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

BBB-BBC. Rhaid cynnwys gradd B mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg. Os oes gennych radd 6 yn yr iaith berthnasol yn HL bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i chi hefyd feddu ar gymhwyster Cymraeg Iaith sy'n cyfateb i radd B ar lefel Safon Uwch. Os oes gennych radd 6 yn yr iaith berthnasol yn HL bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol a gradd B mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg Safon Uwch. Os oes gennych radd 6 yn yr iaith berthnasol yn HL bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo sylfaenol deunydd at eich defnydd eich hun. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sy’n bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis prynu geiriaduron dwyieithog personol heb eu talfyrru a’r cyfeirlyfrau gramadeg.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen radd 4 blynedd ac mae wedi'i strwythuro i'ch galluogi i ddatblygu'r cymwyseddau a'r sgiliau iaith i fod yn feddyliwr beirniadol dyfeisgar, annibynnol, amlieithog, sy'n barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn, byddwch chi’n astudio 120 o gredydau. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu'n gweithio mewn gwlad lle siaredir yr iaith dramor fodern yr ydych yn ei hastudio.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae blwyddyn 1 wedi'i threfnu i roi i chi’r medrau a'r wybodaeth hanfodol a fydd yn sylfaen i’ch astudio. Mae cyfuno’r Gymraeg â’ch dewis iaith dramor fodern yn caniatáu ichi brofi mwy nag un maes astudio a datblygu’r hyblygrwydd a’r cymhwysedd rhyngddiwylliannol y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdano.

Byddwch yn cymryd 60 credyd o fodiwlau Cymraeg a 60 credyd o fodiwlau iaith dramor fodern a diwylliant . Bydd eich dewis o fodiwlau Cymraeg yn dibynnu a ydych wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith.

Bydd ein hastudiaethau ieithoedd tramor modern naill ai ar lefel Elfennol neu Elfennol Uwch. Mae’r flwyddyn gyntaf yn gosod sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i fyfyrwyr ar y llwybr Elfennol, ac yn meithrin medrau ieithyddol myfyrwyr sydd ar y llwybr Elfennol Uwch. Yn ogystal â'ch hyfforddiant iaith dramor fodern, byddwch yn astudio modiwl diwylliannol-hanesyddol ar gyfer eich dewis iaith fodern.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 Credydau
Sgiliau Astudio LlenyddiaethCY151320 Credydau
Sgiliau IaithCY151520 Credydau
Y Gymraeg HeddiwCY151620 Credydau
Sbaeneg Elfennol UchafML017030 Credydau
Sbaeneg elfennolML017130 Credydau
Mandarin Tseiniaidd Uwch ElfennolML116030 Credydau
Mandarin Tseiniaidd ElfennolML116130 Credydau
Ffrangeg Uwch ElfennolML617030 Credydau
Ffrangeg elfennolML617130 Credydau
Cyflwyniad i Astudiaethau SbaenaiddML010030 Credydau
Cyflwyniad i Astudiaethau TsieineaiddML110030 Credydau
Cyflwyniad i Astudiaethau Ffrangeg a FfrangegML610030 Credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd ym mlwyddyn 1 ac yn gweld eich galluoedd ieithyddol, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a hyder cyffredinol fel defnyddiwr Cymraeg ac iaith dramor fodern yn parhau i dyfu.

Byddwch yn astudio un modiwl craidd sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau Cymraeg mewn cyd-destun academaidd a galwedigaethol (gan gynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle siaredir Cymraeg yn ddyddiol). Byddwch hefyd yn dewis un modiwl iaith dramor fodern ar lefel Ganolradd neu Ganolradd Uwch ynghyd â modiwl diwylliannol ieithoedd tramor modern cyflenwol.

Yn ogystal, byddwch yn dewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol gan archwilio:

  • Iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, gan gynnwys sawl elfen sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth penodol, megis cynllunio ieithyddol;
  • diwylliannau, cymdeithasau a hanes eich iaith dramor fodern o safbwynt byd-eang; a iaith fusnes neu gyfieithiad arbenigol yn ymwneud â'ch iaith dramor fodern.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Byddwch chi’n treulio’r drydedd flwyddyn mewn gwlad arall lle y bydd cyfle i fireinio medrau ieithyddol, dod i adnabod y diwylliant yn well a datblygu’n gymeriad annibynnol, dyfeisgar a gwydn. Bydd astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf gan feithrin hyder ac aeddfedrwydd mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Byddwch yn treulio blwyddyn academaidd lawn yng ngwlad yr iaith rydych yn ei hastudio.

Mae tair ffordd o dreulio blwyddyn dramor.

  1. Astudio - rydyn ni wedi sefydlu trefniadau cyfnewid sy'n cynnig cyfle i astudio mewn sefydliadau yn Awstria, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Tsieina, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Siapan, Mecsico, Periw, Portiwgal, Sbaen, y Swistir a Taiwan.
  2. Addysgu - mae modd bwrw tymor yn gynorthwywr addysgu mewn cynllun o dan nawdd y Cyngor Prydeinig lle y gallech chi weithio yn un o ddinasoedd neu drefi mewn  amrywiaeth helaeth o wledydd. Mae’r dewis hwnnw’n cynnig profiad addysgu uniongyrchol gan eich galluogi i ennill cyflog digonol, er mai dim ond yn rhan-amser y byddwch chi’n gweithio. Cyn dechrau yn y cynllun, bydd y Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad ddewisoch chi. Ar ben hynny, dylai’r ysgol lle y byddwch chi’n gweithio eich helpu i gyflawni rôl athro a dod o hyd i lety.
  3. Gweithio - ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg a Sbaeneg. Byddwch chi’n treulio cyfnod mewn sefydliad neu gwmni sy’n ymwneud â byd yr ieithoedd modern.

Cewch chi drefnu hynny trwy bobl rydych chi’n eu hadnabod neu gysylltu â’r sefydliadau yn uniongyrchol. Gall yr ysgol hysbysebu swyddi o’r fath, hefyd. I ofalu y bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ddewisoch chi yno a chael profiad buddiol, bydd angen sêl bendith yr ysgol ar drefniadau o’r fath.

Beth bynnag ddewiswch chi, bydd blwyddyn dramor yn gyfle gwych i ddeall rhagor am yr iaith, cydio mewn diwylliant arall a chael profiad o weithio neu astudio’n rhyngwladol.
Rhaid i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n ddinasyddion o’r wlad lle y byddan nhw’n gweithio neu’n astudio gael teitheb i wneud hynny. Does dim rheolaeth na dylanwad gyda ni ar brosesau ofyn am deitheb ond byddwn ni’n eich helpu i lunio’ch cais a pharatoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Blwyddyn pedwar

Wrth i ni eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch chi’n mireinio’ch medrau ieithyddol, meddwl beirniadol ac ymchwil ymhellach.

Byddwch yn astudio 60 credyd o Ysgol y Gymraeg, gan gynnwys traethawd hir gorfodol o 20 credyd (5,000 o eiriau) neu 40 credyd (9,000 o eiriau), a 60 credyd o Ysgol Ieithoedd Modern, a fydd yn cynnwys 30 credyd uwch. modiwl iaith.

Gallwch hefyd ddewis traethawd hir sy'n ymwneud â'ch astudiaethau ieithoedd tramor modern. Bydd pob traethawd hir yn cael ei gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy'n arbenigwr yn y maes perthnasol.

Byddwch yn creu eich 120 credyd gyda modiwlau dewisol, gyda dewisiadau yn amrywio ar draws sawl thema gan gynnwys: Cyfieithu Cymraeg, iaith ac addysg, llenyddiaeth Gymraeg gyfoes, diwylliant ffilm a gweledol, hanes, gwladychiaeth, ac astudiaethau rhywedd. Mae hefyd opsiwn i gymryd rhan mewn modiwl addysgu ieithoedd tramor modern, pan fyddwch yn ymgymryd â lleoliad addysgu mewn ysgol bartner.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n defnyddio amryw ddulliau addysgu megis darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau iaith a gweithdai. 

Mae cynnwys darlithoedd yn cyfleu trosolwg o brif gysyniadau a fframweithiau pwnc, gan roi'r sgiliau a fydd yn eich galluogi i gynnal ymchwil yn annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu a gweithredu eich syniadau eich hun. Gallai’r deunyddiau hyn gael eu cyflwyno i chi wyneb yn wyneb neu mewn fformat digidol fel y gallwch eu hastudio ar eich liwt eich hun.

Mae seminarau’n ddosbarthiadau rhyngweithiol sy'n cynnwys grŵp bychan o fyfyrwyr ac aelod o dîm addysgu'r modiwl. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp cyfan, gwaith grwpiau bach a chyflwyniadau a arweinir gan fyfyrwyr. Mae seminarau’n cynnig awyrgylch egnïol lle gallwch chi archwilio ac ymgysylltu’n feirniadol â syniadau a dadleuon sydd wedi’u cyflwyno yn y darlithoedd. 

Mae'r holl addysgu yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol a chyfranogiad ystyrlon myfyrwyr, gyda chyfleoedd yn cael eu darparu i ymarfer a datblygu cymwyseddau a sgiliau allweddol. 

Mae paratoi ar gyfer dosbarth ac astudio’n annibynnol yn rhan bwysig o'ch dysgu. Rhwng dosbarthiadau, byddwch chi’n paratoi deunydd, tystiolaeth a dadleuon, ac yn cwblhau tasgau iaith yn unigol neu mewn grwpiau. Mae ymchwil hefyd yn ganolog i brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a chaiff ein holl addysgu ei lywio gan y canfyddiadau diweddaraf ac ymholiad academaidd.

Mae’n dulliau addysgu’n meithrin sgiliau deallusol megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi’n fanwl, cloriannu tystiolaeth, llunio dadleuon, rhoi damcaniaethau ar waith a defnyddio iaith yn effeithiol mewn traethodau a thrafodaethau. At hynny, byddwn ni’n eich helpu i weithio mewn tîm, cynnal ymchwil yn annibynnol a rheoli amser mewn awyrgylch cefnogol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael eich arwain trwy eich astudiaethau gan Diwtor Personol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd. Eich tiwtor personol fydd y ddolen gyswllt bob amser ynghylch unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar eich astudiaethau. Byddwch chi’n cyfarfod â’ch tiwtor personol ddwywaith yn ystod pob blwyddyn academaidd ac fe’ch anogir chi i gysylltu â’ch tiwtor unrhyw bryd os oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi.

Yn ystod eich blwyddyn dramor, bydd cydlynydd astudiaethau tramor yn cysylltu â chi bob hyn a hyn ac yn cadw llygad ar eich cynnydd.

Mae gan ein modiwlau le penodol ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd lle byddwch yn cael eich arwain trwy'r gweithgareddau a'r tasgau wythnosol y mae angen i chi eu cwblhau. Bydd gennych hefyd fynediad at ddeunyddiau dysgu ac adnoddau a rennir megis recordiadau darlithoedd, tasgau ac adnoddau, gwybodaeth am asesiadau a dolenni i adnoddau digidol gan gynnwys y deunyddiau llyfrgell sydd ar gael mewn fformat electronig. 

Bydd staff Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg a'r Ysgol Ieithoedd Modern hefyd ar gael i roi cyngor ac arweiniad i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalgar a chyfrinachol.

Yn ogystal, mae Bywyd Myfyrwyr sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn cynnig ystod o wasanaethau. Mae’r gwasanaethau cymorth hyn yn cynnwys: Cynghori ar arian, dyfodol myfyrwyr, cwnsela, iechyd a lles, mentora, medrau astudio academaidd, Gwasanaeth Anableddau’r Myfyrwyr a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Diben yr asesu yw eich helpu i hel syniadau, meithrin medrau a datblygu galluoedd. Mae anogaeth arnoch i fod yn arloesol ac yn greadigol gan feddwl yn feirniadol am y testunau a’r diwylliannau a welwch chi a chyflwyno dadleuon yn ôl tystiolaeth trwy’r Gymraeg, y Saesneg a’r iaith fodern rydych chi’n ei hastudio. 

Rydyn ni’n defnyddio ffurfiau asesu traddodiadol (megis traethodau, posau, profion yn y dosbarth, arholiadau llafar a thraethodau hir) yn ogystal â mathau mwy arloesol (megis portffolios cyfieithu, prosiectau chwarae rolau, blogiau, cyfweliadau a chyflyniadau posteri). Mae asesiadau hefyd yn cynnwys beirniadaethau ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blogiau. 

Mae rhai o'n hasesiadau yn eich galluogi i weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Cewch gyfle, er enghraifft, i ddewis asesiad ysgrifennu creadigol Cymraeg, neu asesiadau sy’n gofyn ichi lunio dogfennau polisi neu feirniadaethau. Tra bod traethodau hir yn caniatáu ichi archwilio mater neu ddadl llenyddol, diwylliannol neu ieithyddol yn fanylach.

Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. 

Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar. Rhoddir adborth ysgrifenedig am waith ar ôl ei asesu i’ch helpu i wella ar gyfer yr asesiadau nesaf a bydd cyfleoedd i chi drafod yr adborth gyda’ch tiwtoriaid.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth (GD):

GD1/KU1 Siarad, ysgrifennu, a deall iaith dramor fodern i safon gradd.  

GD 2 Deall strwythurau, cyweiriau ac amrywiaethau’r Gymraeg a’r iaith dramor fodern yr ydych yn ei dysgu a’u defnyddio’n hyblyg ac effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol, fel y bo’n briodol.

GD3 Dadansoddwch yn feirniadol agweddau ar ddiwylliannau, llenyddiaethau, hanesion a chymdeithasau Cymru a'r gwledydd lle siaredir eich iaith dramor fodern trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a dulliau. 

GD 4 Dangos faint rydych chi’n ei wybod ac yn ei ddeall ynghylch pa mor debyg neu annhebyg yw diwylliannau a chymdeithasau eraill.

GD5 Deall a gwybod perthynas gwahanol ddiwylliannau â’i gilydd yn fanwl fel y gallwch chi lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un.

GD6 Beirniadu datblygiad y Gymraeg a’i llenyddiaeth mewn cyfnodau hanesyddol gwahanol, o gyd-destun ieithyddol, llenyddol, cymdeithasol a phroffesiynol yn ogystal â gwerthuso ymdrechion i adfer a hyrwyddo’r iaith

Sgiliau Deallusol(SD):

SD1 Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg ac mewn iaith dramor fodern.

SD2 Mabwysiadu ystod o strategaethau i gychwyn a chynnal dadansoddiad o wybodaeth ac iaith.

SD3 Dod i gasgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan eu cyfiawnhau trwy resymu’n gadarn a dehongli deunydd gwreiddiol yn fanwl.

SD4 Gwerthuso syniadau a dadleuon yn feirniadol trwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amryw fedrau ar bapur ac ar lafar. 

SD5 Defnyddio technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu neu gyflwyno testunau academaidd (traethodau, cyflwyniadau, testunau clyweledol) gan ddefnyddio tystiolaeth a’r confensiynau cyfeirnodi cywir.

SD6 Beirniadu testunau, data, defnyddiau, cysyniadau a damcaniaethau sy’n berthnasol i’r iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, gan ddefnyddio geirfa a therminoleg briodol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol(SY):

SY1 Defnyddio cyfryngau digidol yn effeithiol ar gyfer dod o hyd i wybodaeth, cyfathrebu a dysgu. Defnyddio cyfryngau digidol yn effeithiol ar gyfer dod o hyd i wybodaeth, cyfathrebu a dysgu. 

SY2 Cymhwyso sgiliau ieithyddol uwch i gynhyrchu ystod o ddeunydd gan ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig a llafar a/neu, Saesneg ac Iaith Fodern sy'n briodol i'r gweithle ac y bwriedir iddi fynd i'r afael ag ystod o gynulleidfaoedd 

SY3 Nodi a disgrifio problemau a gweithio ar y cyd i'w datrys. 

SY4 Dangos gwytnwch, gallu i addasu ac annibyniaeth trwy dreulio amser yn niwylliant iaith dramor fodern. 

SY5 Dangos meddwl beirniadol, rhesymu a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth.

SY6 Cymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn cyd-destun proffesiynol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol(SA):

SA1 Defnyddio medrau meddwl yn feirniadol a rhesymu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a syniadau amrywiol.

SA2 Defnyddio sgiliau ymchwil ymarferol.

SA3 Creu syniadau gwreiddiol a defnyddio dull creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau.   

SA4 Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol a derbyn ei negeseuon.

SA5 Bod yn ddyfeisgar ac ysgwyddo cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch datblygu proffesiynol eich hun. 

SA6 Defnyddio amryw fedrau cyflogadwyedd a menter megis creadigrwydd, mentro, trefnu, rheoli amser, gweithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm. 

SA7 Ymddwyn fel dinesydd byd-eang gan gydio mewn gwahaniaethau diwylliannol a’u gwerthfawrogi trwy brofiad o wledydd eraill.  

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Trwy raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd.

Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau proffesiynol ac i greu argraff ar farchnad swyddi gystadleuol. Ni waeth a ydych chi’n gwybod beth yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu beidio, mae digon o adnoddau a chymorth gyda ni i’ch arwain.
Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n dewis ei ddilyn.

Mae ein rhaglen Cymraeg ac Iaith Fodern (BA) yn eich arfogi â dealltwriaeth fywiog a beirniadol o iaith a llenyddiaeth mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol a sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. O gydweithio a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau. Rydym hefyd yn rhoi cyfleoedd i chi ennill a datblygu sgiliau menter wrth i chi symud ymlaen. Mae lleoliadau a phrofiad gwaith yn gyfleoedd gwych i wella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfaol, a gallan nhw’ch helpu i ddod i benderfyniad ynglŷn â’ch gyrfa yn y dyfodol. Mae'r rhaglen yn cynnwys dysgu ar leoliad fel elfen annatod o'ch gradd. Ym mlwyddyn 2, byddwch yn treulio cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n ddyddiol ac ym mlwyddyn 3 o'r rhaglen byddwch yn cwblhau blwyddyn gyfan dramor gyda chyfle am leoliad gwaith semester o hyd.

Mae hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd yn aml, gan anelu at feithrin sgiliau yn ystod y cwrs a’u defnyddio’n llwyddiannus wedyn. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun wrth ganiatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Yn ychwanegol at hyn oll, mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith i chi er mwyn datblygu eich cyflogadwyedd, wrth ichi allu manteisio ar ystod eang o raglenni prifysgol gan Ieithoedd i Bawb (i roi cynnig ar iaith arall) i gefnogi'r tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â'ch syniadau'n fyw.

Mae ein graddedigion yn ffynnu yn y farchnad swyddi, gan weithio mewn ystod amrywiol a chyffrous o yrfaoedd, sydd wedi cynnwys rolau cyswllt chwaraeon rhyngwladol, ymgynghoriaeth busnes, addysg, iechyd, y gwasanaeth sifil, y sector treftadaeth ac amgueddfeydd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, dehongli, cyfieithu, y gyfraith a dysgu.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.