Cyfieithu (BA)
- Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
- Côd UCAS: Q910
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Dewch yn ddinesydd byd-eang
Atebwch y galw; dysgwch sgiliau cyfieithu y mae galw mawr amdanynt mewn busnesau ledled y byd.
Cyfieithu fel proffesiwn
Dysgwch am y diwydiant, gan gynnwys defnyddio technolegau cyfieithu blaenllaw, a chyflwyno gwaith yn unol â safonau proffesiynol.
Dilynwch eich llwybr eich hun
Bydd gennych y rhyddid i arbenigo mewn unrhyw ddwy iaith.
Cyfieithu sefydliadol
Defnyddiwch dechnegau cyfieithu mewn cyd-destunau sefydliadol: y cyfryngau, y byd cyfreithiol, a busnes rhyngwladol.
Mae cyfieithu’n faes pwysig ledled y byd. Ar ben hynny, mae’n un o’n gweithgareddau mwyaf sylfaenol am ei fod yn ein galluogi i drin a thrafod ein gilydd ar draws diwylliannau.
Yn ystod cwrs tair blynedd BA Cyfieithu, byddwch chi’n meithrin gallu i gyfieithu a chyfryngu rhwng ieithoedd, diwylliannau a chymunedau. Byddwch chi’n ennill medrau ieithyddol a chyfathrebu o safon uchel, cymwyseddau rhyngddiwylliannol a meddwl rhagorol a’r gallu i ddeall cyd-destunau proffesiynol maes cyfieithu yn drylwyr.
Cewch chi ddewis astudio cyfieithu gydag un neu ddau o’r ieithoedd canlynol:
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Eidaleg
- Portiwgaleg
- Sbaeneg
Mae dau lwybr yn y rhaglen, y naill i fyfyriwr a chanddo Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth mewn iaith fodern (Elfennol Uchaf) a’r llall i’r rhai nad ydyn nhw wedi astudio iaith fodern yn drylwyr (Elfennol).
Byddwch chi’n meithrin eich medrau ysgrifennu, siarad a gwrando trwy amryw weithgareddau dysgu a deunyddiau clyweledol. At hynny, byddwch chi’n meithrin eich medrau ieithyddol a meddwl trwy astudio ein modiwlau cyfieithu pwrpasol sydd wedi’u llunio gan arbenigwyr cyfieithu ac iaith profiadol, hyddysg a brwdfrydig iawn dros ieithoedd.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, bydd medrau cyfieithu ymarferol o’r radd flaenaf gyda chi a byddwch chi’n gallu trin a thrafod un neu ddwy iaith dramor fodern yn hyderus. Byddwch chi’n gallu siarad ac ysgrifennu'n rhugl ac yn gywir a darllen, deall a dadansoddi testunau cymhleth yn yr iaith (ieithoedd) hynny, ac yn Saesneg, yn hyderus.
Byddwch chi’n meithrin swmp o wybodaeth a medrau trosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, fel y byddwch chi’n ymgeisydd cystadleuol a deniadol mewn gweithlu mwyfwy byd-eang gan agor drysau i amryw yrfaoedd.
Dyma gwrs tair blynedd heb ofyn i dreulio blwyddyn dramor. Cewch chi drosglwyddo i gwrs pedair blynedd BA Ieithoedd a Chyfieithu Modern, fodd bynnag, os daw'r flwyddyn dramor yn fwy deniadol ichi wrth astudio.
Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC. Os oes gennych radd B mewn iaith ar lefel A, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 pwnc HL. Os oes gennych radd 6 mewn iaith HL, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo’ch deunydd. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sydd yn bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Rydyn ni wedi ymroi i’ch helpu i wireddu’ch uchelgeisiau proffesiynol trwy roi ichi’r medrau, y chwilfrydedd a’r hyder i adael eich ôl mewn marchnad swyddi gystadleuol. Ni waeth a ydych chi’n gwybod beth yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu beidio, mae digon o adnoddau a chymorth gyda ni i’ch arwain.
Mae lleoliadau a phrofiad gwaith yn gyfleoedd gwych i wella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfaol, a gallan nhw’ch helpu i ddod i benderfyniadau ynglŷn â’ch gyrfa yn y dyfodol.
Bob semester, byddwn ni’n hysbysebu interniaethau ar y campws, lle y bydd cyfleoedd i fyfyrwyr weithio o dan oruchwyliaeth ynghylch arloesi addysgol, gwasanaethau proffesiynol a phrosiectau ymchwil mae staff wedi’u pennu.
Mae’n graddedigion yn ffynnu ym marchnad y swyddi. Mae eu graddau cyfieithu ac iaith yn eu harwain at ystod amryfal a chyffrous o yrfaoedd megis cyfieithu mewnol, cyfieithu ar y pryd, y cyfryngau, teithio, cyllid, adnoddau dynol, rolau cyswllt chwaraeon rhyngwladol, ymgynghorwyr busnes, addysg, iechyd, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, y Gwasanaeth Sifil, y gyfraith ac addysgu.
Mae llawer yn astudio ar gyfer gradd uwch megis ein MA mewn Cyfieithu.
Gyrfaoedd graddedigion
- Cyfieithydd
- Addysgu
- Y Gyfraith
- Gwasanaeth Sifil
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.