Ewch i’r prif gynnwys

Modiwl Unigol (lefel gradd) (dechrau mis Medi) (BSc) Rhan-amser

  • Maes pwnc:
  • Côd UCAS: Mynediad uniongyrchol
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 15 wythnos
  • Modd (astudio): Rhan-amser

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Ein lleoliad

Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru, felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.

academic-school

Hystafell efelychu glinigol bwrpasol

Bydd ein hystafell efelychu glinigol bwrpasol, sy'n debyg i ward ysbyty go iawn, yn eich galluogi i ddatblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau gofal cleifion sydd eu hangen arnoch mewn amgylchedd cefnogol a phroffesiynol.

Nod astudio modiwl unigol yw eich helpu i ymateb i heriau amgylchedd gofal iechyd sy'n newid yn gyflym a gwneud cyfraniad gwerthfawr i ofal cleifion ac ymarfer clinigol trwy ddatblygu eich gwybodaeth, dwysáu eich dealltwriaeth a gwella'ch sgiliau. Rydym yn cynnig sawl modiwl ar gyfer nyrsys cofrestredig, bydwragedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a hoffai barhau â'u datblygiad proffesiynol.

Cyflwyno cais ar gyfer 2025

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

Cysylltwch ag Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

Cysylltwch ag Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd i gael rhagor o wybodaeth.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cysylltwch ag Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd i gael rhagor o wybodaeth.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Please contact the School of Healthcare Sciences for further information.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

Cysylltwch ag Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd i gael rhagor o wybodaeth.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Codir ffioedd ar gyfer y cwrs hwn fesul modiwl. Ewch i'n tudalen Cyrsiau a godir ffi fesul modiwl am ragor o wybodaeth.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Codir ffioedd ar gyfer y cwrs hwn fesul modiwl. Ewch i'n tudalen Cyrsiau a godir ffi fesul modiwl am ragor o wybodaeth.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Cyfeiriwch at y disgrifiadau perthnasol am y modiwlau am ragor o wybodaeth.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Astudir modiwlau annibynnol yn rhan-amser ac fel arfer fe'u haddysgir mewn un semester. Fodd bynnag, ceir eithriad o ddau fodiwl sy'n cael eu haddysgu mewn dau semester.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae hwn yn gwrs rhan-amser hyblyg gydag opsiynau llwybr amrywiol. Gweler y disgrifiadau perthnasol o’r modiwlau am ragor o wybodaeth.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Gweithwyr Gofal Iechyd: Gofal Diwedd OesHC312730 Credydau
Asesiad Cleifion Clinigol ar gyfer Gweithwyr Iechyd ProffesiynolNR317730 Credydau
Asesiad Cleifion Clinigol ar gyfer Gweithwyr Iechyd ProffesiynolNR317730 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i fod yn ysgogol, yn hyblyg ac yn berthnasol i anghenion gyrfa broffesiynol gofal iechyd.

Defnyddir dulliau dysgu ac addysgu amrywiol drwy gydol y cyrsiau, sy'n adlewyrchu cynnwys y modiwl, gwybodaeth myfyrwyr sy’n datblygu ac arbenigedd yn tyfu. Mae gan bob modiwl strwythur dysgu ac addysgu ffurfiol a fydd yn defnyddio darlithoedd ffurfiol, tiwtorialau, gweithdai, efelychiadau, seminarau, trafodaethau ar-lein, cyflwyniadau a gwaith grŵp.

Mae astudio'n annibynnol hefyd yn agwedd bwysig ar y rhaglen. Gellir gosod gwaith penodol, ond bydd hefyd yn ofynnol i chi nodi bylchau yn eich dealltwriaeth a dechrau rhoi sylw i'r rhain mewn sesiynau hunanastudio neu sesiynau dysgu annibynnol.

Bydd pob un o'r disgrifiadau modiwl yn amlinellu ei strategaeth ddysgu ac addysgu a, lle bo'n briodol, caiff adnoddau dysgu eu nodi. Gweler y disgrifyddion modiwl perthnasol am ragor o wybodaeth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol yn rheolaidd. Bydd eich tiwtor yn cynnig cymorth bugeiliol ac arweiniad academaidd drwy gydol y rhaglen.

Mae ein hamgylchedd dysgu rhithwir o fewn cyrraedd drwy ddyfeisiau bwrdd gwaith a symudol, sy'n eich galluogi i gael mynediad at adnoddau electronig o unrhyw le. Mae labordai cyfrifiadurol pwrpasol, ystafelloedd astudio i fyfyrwyr, rhwydweithiau WiFi ar draws y campws, cyfleusterau argraffu a llyfrgell gofal iechyd bwrpasol ar gael drwy gydol y flwyddyn. Mae staff ar gael ar y safle i gynorthwyo myfyrwyr a rhoi cymorth a chyngor.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith mewn amrywiaeth o fformatau. Bydd y rhain yn cynnwys rhoi adborth llafar yn ystod sesiynau tiwtorial, adborth yn ystod darlithoedd, adborth ysgrifenedig drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein, ac adborth ysgrifenedig electronig am waith cwrs a asesir drwy GradeMark. Cewch adborth ysgrifenedig crynodol mewn cysylltiad ag arholiadau a gallwch drafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.

Bydd myfyrwyr yn cael adborth ysgrifenedig ar bob asesiad yn unol â Strategaeth Asesu ac Adborth yr Ysgol.

Sut caf fy asesu?

Assessment of academic and professional competencies is designed to meet the requirements of academic, professional and statutory bodies. Within a modules’ assessment, you will be required to demonstrate an ability to investigate, select, synthesise, analyse, reflect on and critically evaluate information.

The assessment criteria are based on models of professional, education and supervision and can include:

  • professional reasoning – to demonstrate how you meet the learning outcomes for entry into the occupational therapy profession
  • critical self-appraisal – to enable you to reflect autonomously on practice
  • problem solving – to enable you to solve practical problems in practice
  • reflective practitioner – to take reflection beyond critical self-appraisal and problem solving, to promote these in action

Some modules can require the completion of a clinical portfolio. With this in mind each student will be expected to identify a clinical mentor to support them in achieving the clinical learning outcomes of each module as required.

Summative assessment methods within modules are specific to the skills studied and may include;

  • Written assignment
  • Clinical portfolios
  • Poster development
  • Presentations
  • Examinations
  • Clinical OSCEs

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Cyfeiriwch at y disgrifyddion modiwl perthnasol am ragor o wybodaeth.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Bydd gan fyfyrwyr sy'n cwblhau modiwlau annibynnol swydd eisoes. Fodd bynnag, mae hyn yn gwella cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ac mae myfyrwyr yn symud ymlaen ac mae eu cyflogwyr yn nodi gwelliant y gellir ei adnabod yn y gofal y maent yn ei ddarparu i gleifion a theuluoedd.

Lleoliadau

Cyfeiriwch at y disgrifyddion modiwl perthnasol am ragor o wybodaeth.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.