Crefydd, Athroniaeth a Moeseg (BA)
- Meysydd pwnc: Athroniaeth, Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth
- Côd UCAS: VV65
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Dilynwch eich diddordebau
Byddwch yn dewis o blith modiwlau ar draws ystod o draddodiadau crefyddol, moesegol ac athronyddol a mynd i'r afael â meysydd ymchwil newydd.
Meddwl dros eich hun
Mynd i'r afael yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd annibynnol a meddwl agored.
Llywio'r dyfodol
Cymhwyswch ymchwil athronyddol i ddatrys problemau cymdeithasol y byd go iawn neu ymgysylltu â chymunedau lleol am eich astudiaethau.
Astudio ar ffiniau ymholi
Dadansoddi ymchwil cyfoes gyda staff sy'n ymchwilwyr blaenllaw yn eu maes.
Cyfathrebu'n effeithiol
Datblygwch sgiliau a phrofiad wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a dadleuon.
Sut ddylech chi fyw eich bywyd ac uniaethu ag eraill? Sut ddylen ni drefnu cymdeithas? Beth yw crefydd? Sut mae syniadau crefyddol, athronyddol a moesegol wedi newid dros amser? Sut maen nhw'n parhau i'n siapio ni fel unigolion a siapio cymdeithas? Pwy a beth ddylech chi ei gredu? Sut ddylai nodweddion fel rhywedd a hil gael eu hystyried mewn ymholiad damcaniaethol ac wrth wneud penderfyniadau cymdeithasol?
Byddwch yn mynd i'r afael â'r mathau hyn o gwestiynau a mwy yn y rhaglen Crefydd, Athroniaeth a Moeseg (BA). Byddwch yn ymchwilio i faterion amserol a chymhleth o amrywiol safbwyntiau ac yn mynd i'r afael â rhai o heriau cymdeithasol mawr ein hoes.
Y flaenoriaeth yw datblygu eich sgiliau fel meddyliwr annibynnol. Byddwn yn eich cefnogi i fynd i'r afael yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd gyda meddwl agored ac yn gydweithredol, gan gynnwys materion sensitif a dadleuol.
Yn ystod eich astudiaethau, cewch gyfle i ymgysylltu ag ystod eang o bynciau a thraddodiadau crefyddol, athronyddol a moesegol. Mae'r modiwlau crefydd yn eich tywys trwy hanes a gwaddol gwahanol grefyddau ledled y byd, sydd wedi siapio brwydrau cyfoes yn ogystal â chynnig atebion iddynt. Byddwch yn ystyried ac yn dadansoddi hunaniaeth grefyddol mewn cymdeithasau modern, rôl meddwl diwinyddol, a'r foeseg sy'n dylanwadu ar safbwyntiau ar bynciau llosg, o'r amgylchedd i rywioldeb a hawliau atgenhedlu. O ran Athroniaeth, byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn athroniaeth foesol a hefyd yn astudio epistemoleg, athroniaeth y meddwl, ac athroniaeth wleidyddol. Ceir cyfle hefyd i astudio meysydd fel estheteg, athroniaeth ffeministaidd, a ffenomenoleg. Yn ystod blwyddyn olaf y rhaglen, cewch ddewis arbenigo yn y meysydd astudio sy'n apelio atoch o blith yr holl bynciau crefyddol, athronyddol a moesegol.
Mae llawer o'r modiwlau yn edrych yn uniongyrchol ar oblygiadau ymarferol meddwl crefyddol ac athronyddol, gan gynnig cysylltiad clir rhwng damcaniaethau a'r modd y cânt eu cymhwyso. Pwysleisir hyn ym mlwyddyn olaf y rhaglen mewn prosiect cydweithredol sy'n cymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sydd â'r nod o ddatrys problem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn.
Ochr yn ochr â'r sgiliau ymchwil ac academaidd y byddwch yn eu datblygu, cynigir cyfle am leoliad gwaith neu brosiect allgymorth cymunedol oddi ar y campws yn seiliedig ar eich astudiaethau.
Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a meddwl yn feirniadol. Byddwch hefyd wedi datblygu gwerthfawrogiad dwfn o'r heriau moesegol a chymdeithasol sy'n wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. O'r fan hon, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i symud ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous.
Maes pwnc: Athroniaeth
Maes pwnc: Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried BTECs mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddolwr perthnasol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn radd lawn amser dair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn. Byddwch yn astudio 60 credyd Crefydd a 60 credyd Athroniaeth ym mhob blwyddyn astudio.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae modiwlau blwyddyn 1 yn eich cyflwyno i'r meysydd allweddol mewn astudiaethau crefyddol, athroniaeth a moeseg sy'n bresennol drwy gydol y radd.
Mae'r modiwlau crefydd craidd yn eich galluogi i archwilio hanes crefyddau a'u heffaith yn y byd heddiw, yn ogystal â phynciau ymchwil cyfredol ym maes astudiaethau crefyddol. Gallwch ddewis modiwl arall o blith nifer o fodiwlau crefydd a diwinyddiaeth, gan gynnwys rhai sy'n ymgorffori agweddau o hanes a hanes hynafol.
Yn eich modiwlau athroniaeth, byddwch yn ystyried testunau clasurol a thrafodaethau cyfredol am natur moesoldeb, cyfiawnder, gwybodaeth a chred. Byddwch hefyd yn astudio natur cyfathrebu a'r berthynas rhwng y meddwl a'r corff. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu i safonau academaidd a phroffesiynol, ac ymarfer a datblygu'r sgiliau sy'n hanfodol i'r radd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Gwreiddiau a Chymynroddion Crefydd yn y Byd Modern | RT0101 | 20 Credydau |
Themâu a Materion yn yr Astudiaeth o Grefydd | RT0102 | 20 Credydau |
Athroniaeth foesol a gwleidyddol | SE4103 | 20 Credydau |
Meddwl, Iaith a Chred | SE4113 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Byd yn llawn o dduwiau | HS0001 | 20 Credydau |
Taflu'r Gorffennol: Ffilm, Cyfryngau a Threftadaeth | HS0002 | 20 Credydau |
Darganfod Ieithoedd Hynafol | HS3110 | 20 Credydau |
A Duw a ddywedodd...? Darllen y Beibl fel ysgolhaig | RT0109 | 20 Credydau |
Proffwydi, Popes a Paupers | RT0110 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym mlwyddyn 2, byddwch yn dilyn modiwl craidd ar sut mae traddodiadau crefyddol fel Cristnogaeth ac Islam yn portreadu moeseg a moesoldeb. Byddwch hefyd yn dilyn modiwl craidd ar weithiau hanesyddol allweddol mewn athroniaeth foesol, sy'n cynnwys themâu pwysig a geir mewn moeseg athronyddol a chrefyddol.
Bydd gweddill eich credydau'n cynnwys modiwlau dewisol ar draws crefydd ac athroniaeth. Gallwch ddewis modiwlau ar themâu fel beth yw crefydd, pynciau sy'n gysylltiedig â thraddodiad crefyddol penodol, neu gallwch ddewis astudiaeth dywys i greu prosiect yn seiliedig ar eich diddordebau eich hun. Mae'r cyfle hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol, ac mae'n eich arfogi ar gyfer cwblhau traethawd hir yn eich blwyddyn olaf. Nid yw'n fodiwl craidd, ond os ydych am ysgrifennu eich traethawd hir ym maes crefydd yn eich blwyddyn olaf, bydd angen i chi ddilyn y modiwl hwn yn gyntaf.
Byddwch yn dewis un modiwl neu fwy mewn athroniaeth meddwl, athroniaeth seicoleg, athroniaeth iaith, ac epistemoleg. Mae hyn yn eich paratoi ar gyfer modiwlau yn y flwyddyn olaf sy'n aml yn cyfuno gwahanol feysydd athroniaeth. Gallwch archwilio meysydd athroniaeth eraill trwy fodiwlau dewisol.
Byddwch yn ymarfer ymhellach sgiliau allweddol cyfathrebu, cydweithio, a meddwl yn feirniadol, dod yn fwy annibynnol yn eich astudiaethau, a gwella eich gallu i fyfyrio ar eich gwaith eich hun er mwyn cyrraedd eich potensial.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Moeseg Grefyddol a Diwinyddol | RT0230 | 20 Credydau |
Athroniaeth Foesol Modern | SE4373 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Yn eich blwyddyn olaf, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur ymholi crefyddol, athronyddol a moesegol, a chael dealltwriaeth ddyfnach o sut y gall ymchwil gyfredol effeithio ar y byd.
Mewn modiwl crefydd craidd, byddwch yn archwilio themâu moeseg grefyddol a diwinyddol drwy drafodaeth ar ffurf seminar, tra bo'r modiwl Athroniaeth mewn Ymarfer gofynnol yn eich galluogi i ddarganfod y cyfraniad gwerthfawr y gall sgiliau athronyddol a gwybodaeth athronyddol ei wneud mewn amrywiol sefydliadau a rolau proffesiynol. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso ymchwil athronyddol sydd ar waith ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd i lunio argymhellion polisi ymarferol mewn ymateb i broblem goncrit gyfoes yn y byd go iawn.
Byddwch yn gallu dewis o blith ystod eang o fodiwlau dewisol arbenigol ar hanes crefydd neu ar faterion cyfoes mewn crefydd a diwinyddiaeth. Trwy fodiwlau athroniaeth dewisol, byddwch yn ymgysylltu ymhellach â'r ymchwil ddiweddaraf yn ein meysydd arbenigedd. Mae'r modiwlau hyn yn aml yn archwilio cysylltiadau rhwng moeseg a meysydd athroniaeth eraill ac yn aml yn canolbwyntio ar broblemau o bryder cymdeithasol cyfoes.
Bydd gennych yr opsiwn i ymgymryd â modiwl traethawd hir o'r naill ysgol neu'r llall, gan osod eich cwestiwn eich hun a chyfarwyddo eich ymchwil eich hun, gyda chefnogaeth goruchwyliwr. Os byddwch yn dewis ysgrifennu traethawd hir ym maes Crefydd, bydd angen i chi ddilyn y modiwl Astudio Tywys ym mlwyddyn 2.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Bywyd Da: Trafodaethau mewn Moeseg Grefyddol Gyfoes | RT0327 | 20 Credydau |
Athroniaeth mewn Ymarfer | SE4447 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae ymchwil wrth wraidd profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda’r canfyddiadau diweddaraf yn llywio pob rhaglen. Caiff llawer o'ch dosbarthiadau eu haddysgu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n cyfrannu at wybodaeth wreiddiol yn eu maes.
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddod yn feddyliwr beirniadol annibynnol. Byddwch yn dysgu drwy ystod eang o ddulliau addysgu gan gynnwys darlithoedd rhyngweithiol, seminarau a gweithdai bywiog yn seiliedig ar drafodaethau. Mae’r seminarau a’r gweithdai’n cynnig cyfle gwerthfawr i drin a thrafod prif syniadau a deunydd darllen amryw bynciau. Dyma gyfle gwerthfawr i drafod syniadau, gweithio'n agos gyda'ch darlithwyr a dysgu gan fyfyrwyr eraill. Bydd gennych fynediad at holl ddeunyddiau'r cwrs trwy ein hamgylchedd dysgu electronig.
Byddwch yn datblygu eich galluoedd i ddadansoddi testunau a dadleuon yn fanwl, gwerthuso tystiolaeth, cydweithio ar ddatrys problemau, llunio eich dadleuon eich hun, a chyflwyno'ch syniadau'n glir i eraill.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, gyda rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol ac eraill yn rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.
Eich prif ffynonellau cymorth yw eich arweinwyr modiwl a'ch Tiwtoriaid Personol. Caiff dau diwtor personol eu dyrannu i chi, un ym maes Crefydd a'r llall mewn Athroniaeth. Mae eich arweinwyr modiwl yn cynnal sesiynau galw heibio yn ystod yr wythnosau addysgu y gallwch eu mynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu'r asesiadau. Gall Tiwtoriaid Personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd, a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol. Fe'ch gwahoddir i gwrdd â'ch Tiwtor Personol yn rheolaidd trwy gydol y radd, ac maent ar gael ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg.
Mae ein Timau Israddedig yn darparu cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ac maent yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiol wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cynorthwyo gyda materion ariannol, a chynnig cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cyd-leoli yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol. Bydd y llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.
Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar eich cynnydd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y cwrs a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn adborth ffurfiannol ar syniadau eich asesiadau, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs pan fydd wedi'i farcio. Os byddwch yn dilyn modiwl traethawd hir, byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich prosiect gan eich goruchwyliwr.
Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle gallwch gyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni at ddeunydd darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Lle bo'n bosibl, caiff darlithoedd wyneb yn wyneb eu recordio er mwyn i chi allu gwylio ac astudio yn eich amser eich hun.
Gwasanaethau Cymorth
Mae'r Ganolfan Datblygu Ysgrifennu (sydd ar gyfer myfyrwyr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn unig) yn cynnig cefnogaeth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Gallwch gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai, a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i gynorthwyo gyda'ch asesiadau.
Amrywiaeth
Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy’n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred arall, a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Sut caf fy asesu?
Mae eich asesiadau wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau allweddol cynyddol mewn cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol a myfyrio. Byddwn yn asesu lefel eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ym mhob modiwl drwy gyfuniad o aseiniadau, gan gynnwys dadansoddiadau beirniadol o destunau, traethodau, adolygiadau beirniadol, asesiadau gwaith grŵp a thrafodaethau grŵp, ac asesu eich sgiliau eich hun yn fyfyriol. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect athroniaeth cydweithredol mawr sy'n cynnwys ysgrifennu a chyflwyno i gynulleidfa broffesiynol. Gall modiwlau dewisol gynnig amrywiaeth ehangach o asesiadau, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus, myfyrio ar weithred o addoli crefyddol, rhoi sylwadau ar waith celf neu waith cyfryngol, neu greu podlediad.
Rydym yn cynnig cyfleoedd ffurfiannol i brofi eich meddwl a'ch dysgu ac adborth drwy gydol eich taith ddysgu i'ch paratoi ar gyfer yr asesiadau crynodol sy'n ffurfio eich marc graddio. Mae'r sgiliau damcaniaethol a chymhwysol a gaiff eu datblygu a'u hasesu drwy gydol eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amryw o yrfaoedd graddedigion.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
GD1: Archwilio cymhlethdod y syniadau, cysyniadau a therminoleg sylfaenol sy'n berthnasol i grefyddau ac i astudio crefydd, gan gynnwys ei dimensiwn moesegol.
GD2: Arsylwi a mynegi'r ystod o safbwyntiau, arferion, testunau a diwylliant materol a nodwyd o fewn traddodiadau crefyddol yn fyd-eang.
GD3: Gwerthuso'n feirniadol rai o'r damcaniaethau a'r dadleuon canolog, a'u cymwysiadau, mewn athroniaeth foesol, gymdeithasol neu wleidyddol.
GD4: Gwerthuso'n feirniadol rai o'r damcaniaethau a'r dadleuon canolog, a'u cymwysiadau, mewn epistemoleg, athroniaeth iaith, neu athroniaeth meddwl.
GD5: Dadansoddi'n feirniadol ddamcaniaethau a dadleuon o waith athronyddol cyfoes, gan gynnwys croestoriadau o wahanol feysydd athroniaeth neu ymchwil ryngddisgyblaethol.
GD6: Cymhwyso ymchwil athronyddol trwy ddrafftio dogfennau polisi neu strategaeth, neu argymhellion gweithredu, mewn ymateb i broblem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn sydd o bryder cymdeithasol cyfoes.
GD7: Deall a dehongli problemau moesegol a'r offer methodolegol ar gyfer mynd i'r afael â nhw mewn meysydd academaidd a chyhoeddus.
Sgiliau Deallusol:
SD1: Gwerthfawrogi a dadansoddi gwahanol safbwyntiau a ffyrdd o fyw byd-eang yn feirniadol.
SD2: Dehongli a dadansoddi'n feirniadol destunau allweddol, digwyddiadau, a dadleuon moesegol o amrywiol draddodiadau crefyddol.
SD3: Egluro honiadau a dadleuon athronyddol cymhleth ac arbenigol.
SD4: Llunio dadleuon sy'n cefnogi honiadau mewn ymateb i gwestiynau athronyddol.
SD5: Cymhwyso technegau safonol dadansoddi athronyddol i werthuso honiadau a dadleuon athronyddol yn feirniadol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
SY 1: Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth mewn fformatau gwahanol sy'n briodol i wahanol ddibenion.
SY 2: Cyfrannu mewn modd cydweithredol i drafodaethau grŵp a phrosiectau tîm.
SY 3: Mynegi a gwerthuso eich sgiliau academaidd a phroffesiynol eich hun.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
SA 1: Ymateb i broblemau yn greadigol, yn feirniadol ac yn annibynnol.
SA 2: Gweithredu cyfarwyddiadau tasg a rheoli llwyth gwaith yn effeithiol i gwrdd â therfynau amser.
SA 3: Cyflwyno a gweithredu ar adborth adeiladol.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n ei ddilyn.
Mae graddedigion o'r rhaglen hon yn meddu ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy a meysydd gwybodaeth sy'n ddeniadol iawn i lawer o gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys y gallu i ddadansoddi problemau cymhleth yn annibynnol a nodi atebion ymarferol ac arloesol, i weithio’n effeithiol gydag eraill ar brosiectau mawr, i gyfathrebu’n effeithiol â gwahanol gynulleidfaoedd, ac i ddefnyddio myfyrio ac adborth i ddatblygu eich sgiliau ymhellach. Byddwch hefyd yn caffael sylfaen wybodaeth eang a fydd yn eich galluogi i ddeall ac ymateb i ystod o broblemau moesegol neu gymdeithasol cyfoes. Yn ystod eich gradd, byddwch yn ennill profiad o rolau ymchwil, polisi a strategaeth broffesiynol trwy weithio ar brosiect polisi cydweithredol mawr. Mae'r prosiect hwn yn dangos i gyflogwyr sut y gall eich sgiliau a hefyd eich gwybodaeth fod o werth enfawr yn y gweithle.
Mae gwasanaethau a chynlluniau'r Brifysgol hefyd ar gael i chi, gan ddarparu ffyrdd ychwanegol o gynyddu eich sgiliau proffesiynol a'ch hyder. Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu eich cyflogadwyedd ymhellach, ac mae Dyfodol Myfyrwyr (Student Futures) wrth law i roi cyngor a chymorth gyrfaol i gael lleoliadau sy'n benodol i'ch gradd. Gallwch hefyd fanteisio ar raglenni fel Ieithoedd i Bawb a Chymraeg i Bawb i wella eich sgiliau iaith, a chymorth gan y tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â’ch syniadau’n fyw.
Oherwydd dyfnder ac ehangder eu sgiliau a’r wybodaeth a sicrhawyd drwy eu hastudiaethau, mae ein graddedigion i’w gweld mewn amrywiol sectorau, gan gynnwys y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, sefydliadau elusennol, busnesau bach, cwmnïau ymgynghori ac ysgolion a cholegau. Maent yn gweithio ym maes newyddiaduraeth, y gyfraith, addysgu, cyllid, marchnata, adnoddau dynol, cysylltiadau cyhoeddus a llawer o broffesiynau eraill.
Lleoliadau
Rydym yn sicrhau y gellir ymgorffori lleoliadau gwaith yn eich dysgu. Cynigir cyfleoedd ar gyfer lleoliadau amrywiol, pwrpasol drwy fodiwl ail flwyddyn dewisol sy'n canolbwyntio ar drosi'r sgiliau rydych chi'n eu hennill trwy eich gradd i'r gweithle.
Mae gan staff gysylltiadau ag amrywiol sefydliadau hefyd, sy'n cynnig cyfleoedd am leoliadau yn ystod a'r tu allan i gyfnod semester.
Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i leoliadau gwaith ac interniaethau ar y campws, o leoliadau rhan-amser sy'n ffitio o amgylch eich astudiaethau i leoliadau haf amser llawn gyda thâl. Yn ogystal, mae'r tîm Hyder o ran Gyrfa yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i'ch helpu i sicrhau profiad gwaith.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.