Ewch i’r prif gynnwys

Seicoleg (BSc)

  • Maes pwnc: Seicoleg
  • Côd UCAS: C800
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

Ar y rhaglen tair blynedd hon, byddwch yn astudio seicoleg o safbwynt gwyddonol gyda phwyslais ar ei agweddau cymdeithasol, gwybyddol a biolegol. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr sy'n ymarfer – mewn llawer o achosion, arbenigwyr blaenllaw yn eu pwnc.

tick

Achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)

Mae'r rhaglen hon yn bodloni'r safonau ansawdd uchel mewn addysg a amlinellir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).

rosette

5ed yn y DU a 38fed yn y byd ar gyfer Seicoleg

Rydym yn y 10 uchaf ar gyfer seicoleg yn y UK (Complete University Guide Rankings, 2024).

briefcase

Cyfle i ennill profiad proffesiynol yn rhan o’ch gradd.

Hefyd, rydym yn un o lond dwrn o ysgolion seicoleg sy’n cynnig y cyfle i chi fagu profiad proffesiynol drwy ein cwrs Seicoleg gyda Lleoliad Proffesiynol (BSc).

briefcase

96% o gyflogaeth

Mae 96% o'n graddedigion yn cael eu cyflogi, mewn astudiaeth bellach, neu'r ddau 15 mis ar ôl cwblhau eu cwrs (Arolwg Canlyniadau Graddedigion, 2021/22).

people

Ymchwilwyr o fri rhyngwladol yn cyfrannu at ddylunio'r cwrs a'i gyflwyno

Mae 95% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (Research Excellence Framework 2021). Cewch eich dysgu gan ymchwilwyr sy'n gweithio ar draws sbectrwm seicoleg i fynd i'r afael â heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas a'r amgylchedd.

Astudiaeth wyddonol a systematig o'r meddwl ac ymddygiad yw Seicoleg. Mae Seicolegwyr yn astudio'r modd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu, a hynny fel unigolion ac yn rhan o grŵp cymdeithasol. Mae gan seicoleg ystod fawr o gymwysiadau ym meysydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, diwydiant a masnach, ac addysg.

Ar y rhaglen tair blynedd hon, byddwch yn astudio seicoleg o safbwynt gwyddonol gyda phwyslais ar ei hagweddau cymdeithasol, gwybyddol a biolegol. Mae’r cwrs wedi'i ymgorffori mewn amgylchedd ymchwil gweithredol gan olygu y byddwch yn datblygu sgiliau meintiol ac ansoddol beirniadol i’ch galluogi i ragfynegi ac egluro ymddygiad dynol.

Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain ac fe’i cyflwynir gan ein darlithwyr-ymchwilwyr brwdfrydig yn un o brif adrannau ymchwil seicoleg y DU.

Achrediadau

Maes pwnc: Seicoleg

  • academic-schoolYr Ysgol Seicoleg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6707
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

A*AA-AAB

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

37-34 yn gyffredinol gan gynnwys 6 mewn un pwnc HL neu 766-666 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B / 6 neu, lle na chymerwyd TGAU, cyfwerth derbyniol. Bydd ymgeiswyr â gradd C/4 yn cael eu hystyried, ond rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd â gradd B/6. Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Bydd ymgeiswyr â gradd C/4 yn cael eu hystyried, ond rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd â gradd B/6. Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Y gofyniad safonol yw TGAU Saesneg Iaith Gradd B neu 6.

TGAU Saesneg Iaith Gradd C neu 4 yw'r gofyniad sylfaenol a gaiff ei ystyried, fesul achos, gan ystyried iaith gyntaf a phroffil dysgu cyffredinol yr ymgeisydd.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

D*DD-DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Fforensig. Byddwn yn ystyried BTECs mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddolwr perthnasol.

Lefel T

Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 Dim
Blwyddyn dau £29,450 Dim
Blwyddyn tri £29,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon sy’n dechrau ym mis Medi. Fe’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain fel un sy'n rhoi Aelodaeth Siartredig i Raddedigion. Mae lle i 195 o israddedigion yn yr Ysgol fel arfer.

Byddwch yn cymryd 60 credyd yn semester cyntaf blwyddyn un ar lefel pedwar, nad ydynt yn cyfrif tuag at y ddosbarth y radd derfynol. Yn lefel pump (sy’n dechrau yn ail semester blwyddyn un ac yn parhau trwy gydol blwyddyn dau) byddwch yn cymryd modiwlau gwerth hyd at 180 credyd i gyd. Ar lefel chwech, y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd 120 credyd.

Mae modiwlau yn orfodol ar lefel pump ac yn ddewisol ar lefel chwech (ac eithrio'r prosiect ymchwil).

Mae perfformiad yn lefel pump yn cyfrannu 30% tuag at ddosbarthiad y radd anrhydedd ac mae lefel chwech yn cyfrannu 70%.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Lefel pedwar y radd sydd o dan sylw yn semester hydref blwyddyn un ac mae wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i bontio o'r ysgol i astudio ar lefel prifysgol. Mae'n cynnwys tri modiwl. Bydd y modiwlau hyn yn:

  • cyflwyno sgiliau meddwl gwyddonol a defnyddio pynciau ymchwil enghreifftiol i'ch helpu chi i ddysgu'r gwahaniaethau rhwng gwyddoniaeth dda a gwael
  • rhoi trosolwg o brif feysydd pwnc seicoleg
  • cyflwyno hanfodion methodoleg ymchwil trwy ymarferion ymarferol ac addysgu dylunio ymchwil
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ymchwil SeicolegolPS101420 Credydau
Cyflwyniad i SeicolegPS101620 Credydau
Dulliau Ymchwil mewn SeicolegPS101820 Credydau
Iaith a CofPS202020 Credydau
Seicoleg Biolegol a Gwahaniaethau UnigolPS202520 Credydau
Meddwl am ymddygiad dynolPS202620 Credydau

Blwyddyn dau

Mae lefel pump yn cael sylw mewn tri semester, gan ddechrau yng ngwanwyn y flwyddyn gyntaf. Mae'r lefel hon yn cwmpasu'r prif feysydd seicoleg yn fanwl, ac mae hefyd yn addysgu dylunio ymchwil a dadansoddi ystadegol ymhellach, gwaith ymarferol a thiwtorialau.

Blwyddyn tri

Lefel chwech yw'r flwyddyn olaf. Yma, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil dan oruchwyliaeth a gynhelir dros ddau semester. Mae'r prosiect ymchwil yn gyfle i gynnal darn annibynnol o ymchwil o dan oruchwyliaeth unigol aelod staff academaidd sydd ag arbenigedd yn y maes ymchwil. Yn ogystal â'r prosiect, mae myfyrwyr ar lefel chwech yn cwblhau ystod o fodiwlau blwyddyn olaf (tua chwech yn aml, gan ddibynnu a yw'r modiwlau a ddewisir yn fodiwlau sengl neu ddwbl). Mae'r modiwlau opsiwn yn cynnig cyfle i archwilio'n ddyfnach i bynciau sy'n cyd-fynd â diddordebau ymchwil y staff.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae’r radd wedi’i seilio ar ystod o fodiwlau craidd (gorfodol) a dewisol. Cefnogir pob modiwl gan ddeunyddiau addysgu electronig (fel recordiadau o ddarlithoedd) a rennir trwy wefan Dysgu Canolog, rhan o amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol.

Yn ôl pob tebyg, bydd modiwlau'n cynnwys darlithoedd, seminarau a thrafodaethau grŵp, tiwtorialau, a gwaith grŵp, a bydd disgwyl i chi gymhwyso'r sgiliau rydych chi'n eu dysgu trwy wneud cyflwyniadau tiwtorial, sesiynau ymarferol ymchwil a phrosiect ymchwil.

Ar lefelau pedwar a phump, fe gewch arweiniad manwl er mwyn sicrhau bod gennych sylfaen gadarn mewn sgiliau arbrofol perthnasol. Bydd tiwtoriaid yn sicrhau eich bod wedi cyflawni lefel dderbyniol o gymhwysedd cyn i chi symud ymlaen i lefel chwech. Ar lefel chwech, bydd gennych elfen o annibyniaeth a bydd yn ofynnol i chi ddylunio, cynnal, dadansoddi ac adrodd ar waith prosiect unigol. Byddwch yn cwrdd â goruchwyliwr yn rheolaidd i drafod methodolegau a gwaith ymarferol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.


Adborth
Byddwch yn cael adborth ar eich cynnydd academaidd mewn sawl ffordd drwy gydol eich astudiaethau: er enghraifft, yn ystod eich goruchwyliaeth prosiect neu ddosbarthiadau ymarferol, tiwtorialau a seminarau, a sesiynau Holi ac Ateb gyda darlithwyr. Byddwch hefyd yn derbyn sylwadau ysgrifenedig ar y gwaith cwrs a gyflwynwch ac yn cael digon o gyfleoedd i drafod materion gyda staff addysgu. Rydym yn eich annog i ddefnyddio pob cyfle i ryngweithio â staff fel hyn. Byddwch yn derbyn adborth generig manwl ar arholiadau drwy ddadansoddiadau ysgrifenedig fesul cwestiwn o atebion myfyrwyr, ynghyd â dadansoddiad o'ch marciau. Dylech hefyd archwilio a deall sail ein meini prawf marcio ac ymgyfarwyddo â sut mae cyfraniad gwahanol sgiliau gwybyddol yn cael ei ddal gan y system raddio. Er bod adborth ysgrifenedig ffurfiol yn amlwg yn nodwedd bwysig wrth gefnogi eich datblygiad deallusol, nid dyma'r unig ffynhonnell ac yn wir efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi hefyd brofi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun gyda ffrindiau neu ddefnyddio'r blogiau/byrddau trafod sy'n gysylltiedig â phob modiwl.

Sut caf fy asesu?

Knowledge and understanding are assessed both summatively and formatively via multiple choice and conventional written examinations, essay writing, practical and project reports.

Formative feedback is provided at seminars, tutorials, and practical classes.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn meithrin ystod o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai sy’n benodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol’.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ffeithiau, damcaniaethau, syniadau, dulliau, cysyniadau ac egwyddorion seicolegol a gwerthfawrogi eu harwyddocâd;
  • dangos dealltwriaeth o seicoleg fel disgyblaeth wyddonol gydlynol sy'n datblygu;
  • dangos y sgiliau/galluoedd sy'n angenrheidiol ar gyfer ymchwil wyddonol mewn seicoleg, gan gynnwys galluoedd i lunio damcaniaethau ymchwil, dylunio a chynnal astudiaethau empeiraidd, dadansoddi data, a dehongli canfyddiadau;
  • dangos y sgiliau wrth ddeall a gwerthuso deunydd seicolegol, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu cysyniadau llenyddiaeth yn glir ac yn gryno a gwerthuso'r llenyddiaeth yn feirniadol, mewn cyflwyniad ysgrifenedig a llafar;
  • cynnal astudiaethau ymchwil seicolegol mewn modd diogel, moesegol a chymwys sy'n cynnwys pobl ac anifeiliaid;
  • cofnodi data, ei ddadansoddi'n ystadegol, ei gyflwyno (yn ysgrifenedig ac ar lafar) a’i ddehongli o arbrofion seicolegol;
  • cyfathrebu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau yn effeithiol drwy ddulliau llafar ac ysgrifenedig;
  • defnyddio technoleg gwybodaeth e.e. y Rhyngrwyd, cronfa ddata gyfeirio, taenlenni, prosesu geiriau, graffeg a phecynnau ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • gweithio a chyfathrebu'n effeithiol fel unigolyn ac mewn tîm;
  • dangos y gallu i gwrdd â dyddiadau cau a rheoli amser yn effeithiol;
  • bod yn ymwybodol o ganllawiau moesegol

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Gall cwblhau BSc mewn Seicoleg eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys y byd academaidd, ffactorau dynol ac addysg.

Mae'r Ysgol Seicoleg, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnig Sesiynau Rheoli Gyrfaoedd (ym mlwyddyn dau) a sgwrs flynyddol am yrfaoedd yn y flwyddyn olaf.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Seicolegydd Iechyd
  • Chwaraeon, Niwro neu Seicolegydd Addysg
  • Seicolegydd Galwedigaethol
  • Seicolegydd Clinigol
  • Cwnselydd
  • Ymchwilydd neu Academaidd
  • Ymarferydd iechyd meddwl

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.