Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg (BSc Econ)
- Meysydd pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol , Y Gwyddorau Cymdeithasol
- Côd UCAS: LL32
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Cymdeithaseg yn ei chyd-destun
Dysgwch am gymdeithaseg mewn amrywiaeth o gyd-destunau, fel globaleiddio, addysg, cyfryngau cymdeithasol, diwylliant a defnyddio, a chysylltiadau ethnig.
Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol
Manteisiwch ar gysylltiadau â senedd San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.
Cewch brofiad o wleidyddiaeth ar waith
Dewiswch fodiwl a addysgir ar y cyd â San Steffan, sy'n cynnwys addysgu gan glercod Tŷ'r Cyffredin ac ymweliadau astudio.
Astudiwch Brydain a thu hwnt
Dysgwch am wleidyddiaeth ym Mhrydain a thu hwnt, a’r dylanwad sydd gan sefydliadau rhyngwladol.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Ewch ar leoliad gwaith gyda chymorth ein rheolwr Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodol.
Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio rhaglen gydanrhydedd yn cyffroi ac yn brofiad gwerth chweil gan eu bod nhw’n gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Trwy gyfuno Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth sy’n fuddiol ar gyfer eich dyfodol.
Mae maes gwleidyddiaeth yn eich galluogi i archwilio'r modd y mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu ac yn gwerthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd, yn ogystal â chynnwys cysylltiadau rhyngwladol.
Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle i chi archwilio'r modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a thu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i'r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang i chi o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi.
Nod y radd hon yw ceisio rhoi dealltwriaeth ardderchog o wleidyddiaeth a llywodraeth i chi, gan roi i chi hefyd y sgiliau deallusol a chyfathrebu cysylltiedig a fydd o werth p'un a fyddwch yn gweithio i’r llywodraeth neu yn y sectorau preifat neu wirfoddol.
Mae cymdeithaseg yn ymwneud yn benodol ag astudio bywyd cymdeithasol fel y’i ceir mewn grwpiau, sefydliadau a chymdeithasau. Mae'n darparu’r offer hanfodol ar gyfer ymdrin â dadansoddi pob agwedd ar ymddygiad cymdeithasol, o ryngweithiadau wyneb yn wyneb i sut mae grymoedd economaidd yn llunio’r gymdeithas fyd-eang ac yn cael eu llunio gan y gymdeithas honno.
Mae'r cwrs hwn yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau i’ch helpu chi i ddysgu’r dulliau a’r syniadau sydd eu hangen i wneud eich cyfraniad eich hun at ddeall ac at wella’r gymdeithas.
A chithau’n fyfyriwr cydanrhydedd, byddwch yn gweld bod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar.
Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
Maes pwnc: Y Gwyddorau Cymdeithasol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid bod gennych:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.
PTE Academic
O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.
Trinity ISE II/III
II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai gwerslyfrau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol.
Os oes gennych liniadur bydd gennych yr opsiwn o brynu meddalwedd am brisiau gostyngedig.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnoch i astudio ar y rhaglen hon. Byddai defnydd o liniadur yn fanteisiol gan fod llawer o'r gwaith darllen ar gael yn electronig a chaiff y rhan fwyaf o'r asesiadau eu paratoi ar feddalwedd prosesu geiriau safonol.
Beth y bydd y Brifysgol yn ei ddarparu:
Cyfrifiaduron ar rwydwaith gyda gofod priodol i ffeiliau a'r holl feddalwedd angenrheidiol. Mynediad at ddarllen hanfodol a chefndir ar gyfer pob modiwl ac amrywiaeth eang o gyfnodolion ac adnoddau ar-lein eraill. Bydd holl ddogfennau'r cwrs ar gael ar-lein (drwy'r VLE) a chaiff copïau caled o ddogfennau hanfodol eu darparu ar gais.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.
Yn ystod blwyddyn un, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer astudiaeth arbenigol ddiweddarach, gan astudio nifer o fodiwlau craidd a dilyn rhaglen sgiliau astudio i'ch helpu i bontio i addysg uwch. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn cael eich annog i astudio a dysgu'n fwy annibynnol, gan roi'r cyfle i chi ddarllen yn ehangach a datblygu eich diddordebau eich hun. Yn y flwyddyn olaf, mae opsiwn hefyd i astudio traethawd hir gwerth 40 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Bydd ein rhaglen tiwtor personol yn eich helpu chi i bontio i addysg uwch.
Byddwch yn astudio am 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd mewn Gwleidyddiaeth a 60 credyd mewn Cymdeithaseg.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol | SI0280 | 20 Credydau |
Syniadau allweddol yn y gwyddorau cymdeithasol | SI0281 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Gymdeithaseg | SI0291 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Y Da, Drwg a'r Gwleidyddol: Y Da, y Drwg a'r Gwleidyddol | PL9193 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Wyddoniaeth Wleidyddol | PL9194 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Gysylltiadau Rhyngwladol | PL9195 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Feddwl Gwleidyddol | PL9196 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i'r Llywodraeth | PL9199 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Fe fyddwch chi unwaith eto’n astudio 60 credyd Gwleidyddiaeth a 60 credyd Cymdeithaseg.
Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu i ddewis modiwlau a fydd yn cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Anghydraddoldebau Cyfoes | SI0288 | 20 Credydau |
Dulliau Ymchwil Cymdeithasol | SI0297 | 20 Credydau |
Damcaniaeth Gymdeithasol | SI0300 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Fe fyddwch chi unwaith eto’n astudio 60 credyd Gwleidyddiaeth a 60 credyd Cymdeithaseg.
Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu chi i ddewis modiwlau a fydd yn gweddu orau ar gyfer llwybr penodol gyda’ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol mewn cof.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Byddwch yn dysgu gan ysgolheigion sy'n dylanwadu ar ddyfodol eu meysydd. Mae ein cyrsiau yn adlewyrchu syniadau craidd eu disgyblaethau a hefyd ymchwil, theorïau a dadleuon cyfoes.
Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, astudio annibynnol a dysgu hunangyfeiriedig sy'n tynnu defnydd o adnoddau ar-lein, gwaith unigol a thasgau grŵp. Yn gyffredinol, mae darlithoedd yn rhoi trosolwg o'r pwnc perthnasol, gan gyflwyno cysyniadau neu ymchwil allweddol, ac amlygu materion neu ddadleuon cyfoes. Mae nifer cynyddol o ddarlithoedd yn cael eu recordio erbyn hyn. Yn wahanol i ddarlithoedd, mae seminarau yn rhoi cyfle i chi drafod darlleniadau, ymchwil neu bynciau penodol yn fanwl. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfnerthu eich dealltwriaeth a chael adborth ar eich dysgu unigol. Mae seminarau hefyd yn eich galluogi i hogi'ch sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a chydweithio wrth i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a thasgau eraill.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Mae'r tiwtoriaid ar gael i drafod cynnydd a darparu cyngor ac arweiniad ar eich astudiaethau academaidd.
Mae’r ddwy ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd hon yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi ei ategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y myfyrwyr a’r staff.
Mae holl fodiwlau’r cwrs yn defnyddio Blackboard Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) Prifysgol Caerdydd, lle cewch ddeunyddiau cwrs, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth yn ymwneud â thasgau asesu. Darperir cefnogaeth ychwanegol penodol i’r modiwl gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau. Darperir cefnogaeth ar gyfer y traethawd hir gan oruchwyliwr a fydd yn cyfarfod â myfyrwyr yn rheolaidd.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Assessment methods vary from module to module but, across the degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.
You’ll also have the opportunity to undertake assessments that don’t count towards your final grade but give you an opportunity to assess your progress and to get feedback on your work.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Nodi ac egluro cysyniadau canolog gwyddor gwleidyddiaeth, a dangos eich bod yn gyfarwydd â geirfa disgwrs wleidyddol;
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o agweddau allweddol ar Theori Wleidyddol normadol ac empirig;
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o agweddau allweddol ar wleidyddiaeth fodern, gan gynnwys strwythur a gweithrediad systemau gwleidyddol Ewropeaidd dethol ar lefelau cenedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd a gwleidyddiaeth ryngwladol sy'n cofleidio astudiaethau byd-eang a rhanbarthol;
- Dangos arbenigedd penodol ym maes Theori Gwleidyddol a/neu Wleidyddiaeth Ewrop a/neu gysylltiadau rhyngwladol. Gwerthfawrogi ansicrwydd, amwysedd a therfynau gwybodaeth;
- Cymhwyso gwahanol gysyniadau, damcaniaethau a dulliau wrth ddadansoddi syniadau gwleidyddol, sefydliadau ac ymddygiad;
- Archwilio a gwerthuso gwahanol ddehongliadau o faterion a digwyddiadau gwleidyddol;
- Defnyddio ymchwil gyfoes, fel erthyglau mewn cyfnodolion wedi'u safoni.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Casglu, trefnu a defnyddio tystiolaeth, data a gwybodaeth am amrywiaeth o ffynonellau;
- Datblygu dadl resymol, cyfosod gwybodaeth berthnasol ac arfer barn feirniadol;
- Myfyrio ar eich dysgu eich hun a defnyddio adborth adeiladol;
- Rheoli eich dysgu eich hun yn hunanfeirniadol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dylunio a defnyddio ystod o offerynnau casglu data sydd eu hangen i archwilio a deall y byd cymdeithasol
- Gwerthuso, cydosod a dehongli data sylfaenol ac eilaidd a gynhyrchir drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau ac offer a meddalwedd arbenigol lle bo angen
- Gweithio ar y cyd ac ar eich pen eich hun ar brosiectau sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Cyfleu syniadau’n effeithiol ac yn rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
- Defnyddio technolegau cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer casglu a chyflwyno gwybodaeth;
- Gweithio’n annibynnol, gan ddangos mentergarwch a’r gallu i drefnu eu hunain a rheoli amser;
- Cydweithio ag eraill a chyfrannu at gyflawni nodau cyffredin.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Mae rhoi damcaniaeth ar waith yn ymarferol, a darparu profiad o'r byd gwaith yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion at fywyd y tu allan i fyd addysg.
Rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r Brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio.
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd yn gronfa recriwtio uchel ei pharch ar gyfer amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector, a bu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yr Adran Addysg, Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig ac ystod o bleidiau gwleidyddol i gyd yn recriwtio myfyrwyr o’r flwyddyn raddio ddiwethaf.
Y tu allan i'r sector gwleidyddol, mae'r radd o ddiddordeb i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda graddedigion yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi ar gyfer bod yn rheolwyr yn EY, Enterprise Rent A Car, Zurich Insurance a King Worldwide.
Lleoliadau
Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Reolwr Lleoliadau penodol sy'n gallu cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau swydd a thechnegau cyfweliad ar gael hefyd.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.