Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth ac Iaith Fodern (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

screen

Profiad deinamig

Dysgwch gan siaradwyr brodorol ac unigolion sydd i bob pwrpas yn siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o weithgareddau addysgu a dysgu.

academic-school

Gweithgareddau allgyrsiol

Bydd rhaglen fywiog yn eich helpu i ddysgu’r iaith a mwynhau ei diwylliant trwy ddosbarthiadau sgwrsio gyda myfyrwyr cyfnewid, caffis iaith a chymdeithasau iaith i fyfyrwyr.

star

Sgiliau ar gyfer y dyfodol

Rhaglen sgiliau strwythuredig sy’n ymgorffori sgiliau academaidd, trosglwyddadwy a chyflogadwyedd o'r cychwyn.

globe

Y byd yw'ch ystafell ddosbarth

Treulio’ch trydedd flwyddyn yng ngwledydd yr iaith (ieithoedd) a ddewisoch chi.

Ein nod yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a'r Ysgol Ieithoedd Modern yw i chi ddod yn 'ddinesydd byd-eang' sy'n meddwl yn feirniadol, yn deall amrywiaeth ddiwylliannol ac sydd â chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy.

Yn ystod cwrs pedair blynedd BA Ieithoedd Modern, byddwch chi’n meithrin medrau rhagorol ynghylch cyfathrebu a meddwl yn feirniadol yn ogystal â dod yn un gwdyn ac annibynnol ei gymeriad trwy dreulio amser mewn diwylliannau eraill. 

Mae maes gwleidyddiaeth yn eich galluogi i archwilio'r modd y mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu ac yn gwerthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd, yn ogystal â chynnwys cysylltiadau rhyngwladol.

Mae modiwlau'n amrywiol, sy'n eich galluogi i archwilio sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio yng Nghymru, y DU, Ewrop ac ar draws y byd, ac i ymchwilio i sut mae polisi cyhoeddus yn cael ei wneud. Mae meysydd gwaith eraill yn cynnwys cyfiawnder, democratiaeth, astudiaethau cudd-wybodaeth a diogelwch, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol; rhoi dealltwriaeth eang i chi o wleidyddiaeth wedi'i theilwra i'ch diddordebau penodol eich hun neu uchelgeisiau yn y dyfodol.

Ar ochr ieithoedd y rhaglen, gallwch ddewis astudio un o'r tri wahanol rydym yn eu cynnig. Ymhlith rhain mae Tsieinëeg, Ffrangeg, a Sbaeneg.

Mae dau lwybr i’r rhaglen. Bydd y rhai sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn iaith fodern yn dilyn llwybr Elfennol Uchaf. Mae'r rhai sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am iaith fodern yn cymryd ein llwybr Elfennol. 

Byddwch yn archwilio’r iaith rydych chi’n ei hastudio a’i chyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol o safbwynt byd-eang. Trwy amryw adnoddau a deunyddiau dysgu ieithoedd ynghyd â gweithgareddau dysgu i fyfyrwyr, byddwch chi’n meithrin medrau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfryngu.

Rhan annatod o’r rhaglen hon yw’r cyfle i dreulio amser yn byw neu’n gweithio dramor, er mwyn cael profiad o fywyd yn niwylliant yr iaith rydych chi’n ei hastudio. Cewch chi naill ai astudio mewn prifysgol sy’n bartner inni neu fwrw tymor mewn swydd ym mhob semester.

Mae'n bwysig cofio bod astudio ieithoedd yn ymwneud â mwy na’r iaith ei hun, mae’n ymwneud ag astudio’r iaith, ei diwylliant a’i chymdeithas. Fel myfyriwr Gwleidyddiaeth ac Ieithoedd Modern (BA), fe welwch yn aml fod materion a safbwyntiau cyflenwol sy'n cysylltu'r pynciau hyn. Mae ein rhaglen gydanrhydedd yn cynnig modiwlau heriol ac ysgogol sy'n pwysleisio amrywiaeth a dathlu symudedd diwylliannol ac ieithyddol. 

Gan raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd.

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

ABB-BBB. Os oes gennych radd B mewn iaith ar lefel A, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 pwnc HL. Os oes gennych radd 6 mewn iaith HL, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Celfyddydau, Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol. Os oes gennych radd B mewn iaith Safon Uwch ar y cyd â'r BTEC neu yn ychwanegol ato, bydd gennych fynediad at lwybr Elfennol Uwch yr ieithoedd.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo sylfaenol deunydd at eich defnydd eich hun. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sy’n bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis prynu geiriaduron dwyieithog personol heb eu talfyrru a’r cyfeirlyfrau gramadeg.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen radd 4 blynedd ac mae wedi'i strwythuro i'ch galluogi i ddatblygu'r cymwyseddau a'r sgiliau iaith i fod yn feddyliwr beirniadol dyfeisgar, annibynnol, amlieithog, sy'n barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn, byddwch chi’n astudio 120 o gredydau. Byddwch chi’n treulio'ch trydedd flwyddyn mewn gwlad berthnasol gan astudio neu weithio yno. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae blwyddyn 1 wedi'i threfnu i roi i chi’r medrau a'r wybodaeth hanfodol a fydd yn sylfaen i’ch astudio. Trwy gyfuno hanes a’r iaith a ddewisoch chi, gallwch chi astudio mwy nag un maes astudio a meithrin yr hyblygrwydd a’r gallu rhyngddiwylliannol mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt. Byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol a 60 credyd o fodiwlau iaith a diwylliannol.

Blwyddyn ragarweiniol yw gwleidyddiaeth y flwyddyn gyntaf. Byddwch yn astudio un craidd, 20 credyd, modiwl a dewis 40 credyd arall (modiwlau x2 20 credyd) o'n modiwlau craidd sylfaen eraill, i osod y sylfaen ar gyfer eich astudiaeth ym mlwyddyn 2 a'ch blwyddyn olaf.

Byddwch yn astudio un iaith dramor fodern ar lefel Elfennol neu Elfennol Uchaf.

Bydd blwyddyn gyntaf y rhaglen yn gosod sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i fyfyrwyr llwybr y dechreuwyr, ac yn meithrin medrau ieithyddol i fyfyrwyr ar y llwybr Elfennol Uchaf. Yn ogystal â'ch gwersi iaith, byddwch yn astudio modiwl diwylliannol-hanesyddol ar gyfer eich dewis iaith.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn astudio 60 credyd o ystod eang o fodiwlau dewisol, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys o leiaf un modiwl gwleidyddiaeth ymroddedig, yn ogystal â dau fodiwl 30 credyd mewn ieithoedd modern.

Mae elfennau iaith blwyddyn 2 yn adeiladu ar waith y flwyddyn gyntaf. Byddwch wedi datblygu ers lefel eich modiwl iaith yn y flwyddyn gyntaf, a dylech chi weld twf parhaus eich galluoedd ieithyddol, eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’ch hyder cyffredinol fel defnyddiwr iaith. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ieithyddol drwy astudio eich modiwl iaith ar lefel Canolradd neu Ganolradd Uchaf. Mae'r modiwl hwn yn eich paratoi ar gyfer eich amser dramor ym mlwyddyn 3.

Yn ogystal ag iaith, bydd gennych yr opsiwn o astudio modiwl 30 credyd sy'n edrych ar ddiwylliannau, cymdeithasau a hanesion eich iaith o safbwynt byd-eang. Fel arall, gallwch ennill mwy o sgiliau ieithyddol a phroffesiynol drwy ddewis astudio iaith fusnes neu fodiwl cyfieithu arbenigol.

.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sbaeneg CanolraddML025030 Credydau
Sbaeneg Canolradd UchafML025130 Credydau
Mandarin Tsieinëeg Uwch GanolraddML126030 Credydau
Mandarin Tseiniaidd CanolraddML126130 Credydau
Ffrangeg CanolraddML623030 Credydau
Ffrangeg Canolradd UchafML623130 Credydau
Hispanidad yn y BydML020030 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Sbaeneg Canolradd)ML025230 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Sbaeneg Canolradd Uchaf)ML025330 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Tsieineaidd)ML126330 Credydau
Tsieina yn y BydML126630 Credydau
Cyflwyniad i Gyfieithu ArbenigolML220130 Credydau
Ffrainc Fyd-eang: Diwylliannau Ffrangeg a FfrangegML621030 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Ffrangeg Canolradd)ML623230 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Ffrangeg Canolradd Uchaf)ML623330 Credydau
Rhyw, Rhyw a MarwolaethPL922020 Credydau
Cysylltiadau Rhyngwladol y Rhyfel OerPL922120 Credydau
Technolegau Digidol a Gwleidyddiaeth Fyd-eangPL922320 Credydau
Llywodraethu Byd-eangPL922420 Credydau
Gwleidyddiaeth yr UEPL922520 Credydau
O ysbïo i Gwrthderfysgaeth: Cudd-wybodaeth mewn Gwleidyddiaeth GyfoesPL922920 Credydau
Gwleidyddiaeth fodern CymruPL923320 Credydau
Meddwl Gwleidyddol Modern: Machiavelli to MillPL923420 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolPL923820 Credydau
Mae'r Barbariaid yn Dod!: Damcaniaethau Gwleidyddol Traws-ddiwylliannolPL924020 Credydau
Syniadau ac ideoleg mewn Gwleidyddiaeth PrydainPL924120 Credydau
Anifeiliaid, Aer, ac Ardaloedd y tu hwnt i awdurdodaeth genedlaethol - Gwleidyddiaeth Cyfundrefnau Amgylcheddol Byd-eangPL924220 Credydau
Personoliaeth, rhagfarn a pholareiddio: Seicoleg WleidyddolPL924420 Credydau
Agweddau Beirniadol at Wleidyddiaeth y Dwyrain CanolPL924520 Credydau
Gwleidyddiaeth Ffiniau: Gwrthdaro a Chydweithrediad yn Ewrop FodernPL924620 Credydau
Chwyldroi'r Gorchymyn Gwleidyddol: Damcaniaeth Gymdeithasol Prydain yn y ddeunawfed ganrifPL924920 Credydau
Gwneud ymchwil gwleidyddolPL925120 Credydau
Gwleidyddiaeth Hinsawdd (In)ActionPL925220 Credydau
Credoau'r CymryPL928620 Credydau
Gwleidyddiaeth Prydain ers 1945PL928720 Credydau
Diogelwch Rhyngwladol: Cysyniadau a MaterionPL928820 Credydau
Cyfiawnder a Gwleidyddiaeth: Theori Wleidyddol GyfoesPL929120 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL929220 Credydau
Cyfraith ryngwladol mewn byd sy'n newidPL929920 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Byddwch chi’n treulio’r drydedd flwyddyn mewn gwlad arall lle y bydd cyfle i fireinio medrau ieithyddol, dod i adnabod y diwylliant yn well a datblygu’n gymeriad annibynnol, dyfeisgar a gwydn. Bydd astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf gan feithrin hyder ac aeddfedrwydd mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Byddwch yn treulio blwyddyn academaidd lawn yng ngwlad yr iaith rydych yn ei hastudio.

Mae tair ffordd o dreulio blwyddyn dramor.

  1. Astudio - rydyn ni wedi sefydlu trefniadau cyfnewid sy'n cynnig cyfle i astudio mewn sefydliadau yn Awstria, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Tsieina, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Siapan, Mecsico, Periw, Portiwgal, Sbaen, y Swistir a Taiwan.
  2. Addysgu - mae modd bwrw tymor yn gynorthwywr addysgu mewn cynllun o dan nawdd y Cyngor Prydeinig lle y gallech chi weithio yn un o ddinasoedd neu drefi mewn  amrywiaeth helaeth o wledydd. Mae’r dewis hwnnw’n cynnig profiad addysgu uniongyrchol gan eich galluogi i ennill cyflog digonol, er mai dim ond yn rhan-amser y byddwch chi’n gweithio. Cyn dechrau yn y cynllun, bydd y Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad ddewisoch chi. Ar ben hynny, dylai’r ysgol lle y byddwch chi’n gweithio eich helpu i gyflawni rôl athro a dod o hyd i lety.
  3. Gweithio - ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg a Sbaeneg. Byddwch chi’n treulio cyfnod mewn sefydliad neu gwmni sy’n ymwneud â byd yr ieithoedd modern. Cewch chi drefnu hynny trwy bobl rydych chi’n eu hadnabod neu gysylltu â’r sefydliadau yn uniongyrchol. Gall yr ysgol hysbysebu swyddi o’r fath, hefyd. I ofalu y bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ddewisoch chi yno a chael profiad buddiol, bydd angen sêl bendith yr ysgol ar drefniadau o’r fath.

Beth bynnag ddewiswch chi, bydd blwyddyn dramor yn gyfle gwych i ddeall rhagor am yr iaith, cydio mewn diwylliant arall a chael profiad o weithio neu astudio’n rhyngwladol.

Rhaid i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n ddinasyddion o’r wlad lle y byddan nhw’n gweithio neu’n astudio gael teitheb i wneud hynny. Does dim rheolaeth na dylanwad gyda ni ar brosesau ofyn am deitheb ond byddwn ni’n eich helpu i lunio’ch cais a pharatoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Blwyddyn pedwar

Wrth i ni eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch chi’n mireinio’ch medrau ieithyddol, meddwl beirniadol ac ymchwil ymhellach.

Byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys o leiaf un modiwl gwleidyddiaeth dynodedig, ynghyd ag un modiwl iaith uwch 30 credyd ac un modiwl dewisol 30 credyd o ochr iaith eich gradd.

Yn y flwyddyn olaf modiwlau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur cysylltiadau rhyngwladol a datblygiadau gwleidyddol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau wrth ddadansoddi ffynonellau ac ysgrifennu trwy astudio ystod o fodiwlau arbenigol a gynigir.

Ar ochr iaith y rhaglen, bydd gennych yr opsiwn i ehangu eich sylfaen sgiliau a'ch gorwelion trwy fodiwlau diwylliannol-hanesyddol dewisol a thrwy gyfoeth o opsiynau allgyrsiol. Gall modiwlau dewisol y flwyddyn olaf amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond, ar y cyfan, byddan nhw’n cynnwys amryw bynciau a themâu cyfoes sy’n berthnasol i un iaith neu wedi’u cyflwyno mewn fframwaith cymharol, trawswladol. Gall themâu a phynciau'r flwyddyn olaf gynnwys llenyddiaeth, ffilmiau a’r diwylliant gweledol, hanes, gwladychiaeth ac astudiaethau rhyw. Ar ben hynny, gallech chi gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn lle y byddwch chi’n treulio cyfnod mewn ysgol leol yn yr ardal sy’n bartner inni.

Ar ddwy ochr y rhaglen, cewch chi’r cyfle i ysgrifennu traethawd hir, pan fyddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o’ch dewis. Gyda chefnogaeth un o’n staff arbenigol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflawni traethawd ymchwil hir ar bwnc sy’n ymwneud â maes rydych chi’n ei astudio fel rhan o’ch gradd. Mae’r traethawd hir yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol uwch a dealltwriaeth fanwl o bwnc ymchwil, gyda chefnogaeth lawn goruchwyliwr academaidd a rhaglen o weithdai. Yn gyffredinol, mae ein myfyrwyr yn teimlo mai’r traethawd hir yw elfen fwyaf cyffrous a boddhaus eu hastudiaethau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sbaeneg UwchML037030 Credydau
Tsieinëeg Mandarin UwchML138030 Credydau
Ffrangeg UwchML637130 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Sbaeneg (yn Sbaeneg)ML036030 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Sbaeneg (yn Gymraeg/Saesneg)ML036130 Credydau
Rhyfel y Falklands yn Diwylliant yr ArianninML036530 Credydau
Chwyldroadwyr a chenedlaetholwyr yn SbaenML036830 Credydau
Tsieinëeg arbenigolML137130 Credydau
Diwylliannau Sinophone: Hong Kong, Taiwan a Diasporas TsieineaiddML137230 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf Tsieinëeg (yn Saesneg/Cymraeg)ML137330 Credydau
Diwylliant, Protest Wleidyddol ac Anghydffurfiaeth yn y 1960au ML336030 Credydau
Sinema Ewropeaidd: Meddwl y Real of FictionML336230 Credydau
Naratifau Byd-eang o Wladychiaeth, Caethwasiaeth a'u Cymynroddion ML336530 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Ffrangeg (yn Ffrangeg)ML636130 Credydau
Yr avant-garde Ffrengig: O Gelf i ChwyldroML637030 Credydau
Hanes Meddwl mewn Cysylltiadau RhyngwladolPL931120 Credydau
Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Oes NiwclearPL932020 Credydau
Bomiau, Bwledi a Ballot-flychau: Gwrthdaro Gogledd Iwerddon, 1969 i 1998PL932420 Credydau
Economi wleidyddol: Rhesymoldeb mewn Byd Afresymol?PL932520 Credydau
Diwylliant Poblogaidd a Gwleidyddiaeth y BydPL932820 Credydau
Rhyfel a ChymdeithasPL933120 Credydau
Gwleidyddiaeth Trais a LladdPL933520 Credydau
Cyfiawnder, Cyfreithlondeb a Chyfraith RyngwladolPL933620 Credydau
Gwleidyddiaeth America LadinPL933720 Credydau
Rhyw, Cyffuriau a Pholisi CyhoeddusPL933820 Credydau
Gwleidyddiaeth mewn Ymarfer: Modiwl Lleoliad GwaithPL934020 Credydau
Be the Change: Llywodraethu heb y WladwriaethPL934620 Credydau
Gwleidyddiaeth a Llywodraethu BrexitPL934720 Credydau
Cynrychioli DatblyguPL934820 Credydau
Gwleidyddiaeth Populism yn EwropPL935020 Credydau
Llywodraethu Iechyd Cyhoeddus Byd-eang: Pandemigau Firaol, a'r 'epidemig' cyffuriau byd-eangPL935320 Credydau
Gwrthdaro, cystadlu a chynghreiriau yn y "Dwyrain Canol Newydd"PL935420 Credydau
Cysylltiadau Eingl-Americanaidd ac Amddiffyn y Rhyfel OerPL935720 Credydau
Tsieina yn y BydPL935820 Credydau
Strategaeth mewn Theori ac YmarferPL935920 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: O Lo i Covid-19PL936120 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: o 'Oes y glo' i 'Oes y clo'PL936220 Credydau
Argyfwng ac Ymrwymiad mewn Meddwl Gwleidyddol ModernPL936320 Credydau
Diwedd y byd fel yr ydym yn ei adnabodPL936420 Credydau
Ar ôl y Gorllewin: IR 2.0PL936520 Credydau
Dirty Hands: Problemau Moeseg GwleidyddolPL936620 Credydau
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yr Unol DaleithiauPL937420 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 Credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 Credydau
Modiwl Astudiaethau SeneddolPL938020 Credydau
Traethawd Hir Cysylltiadau RhyngwladolPL938520 Credydau
Traethawd Hir GwleidyddiaethPL938620 Credydau
Etholiadau yn y Deyrnas UnedigPL938720 Credydau
Sefydliad Rhyngwladol Byd-eang mewn Gwleidyddiaeth y BydPL939120 Credydau
Personoliaeth a GrymPL939220 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n defnyddio amryw ddulliau addysgu megis darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau iaith a gweithdai. 

Mae cynnwys darlithoedd yn cyfleu trosolwg o brif gysyniadau a fframweithiau pwnc, gan roi'r sgiliau a fydd yn eich galluogi i gynnal ymchwil yn annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu a gweithredu eich syniadau eich hun. Gallai’r deunyddiau hyn gael eu cyflwyno i chi wyneb yn wyneb neu mewn fformat digidol fel y gallwch eu hastudio ar eich liwt eich hun.

Mae seminarau’n ddosbarthiadau rhyngweithiol sy'n cynnwys grŵp bychan o fyfyrwyr ac aelod o dîm addysgu'r modiwl. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp cyfan, gwaith grwpiau bach a chyflwyniadau a arweinir gan fyfyrwyr. Mae seminarau’n cynnig awyrgylch egnïol lle gallwch chi archwilio ac ymgysylltu’n feirniadol â syniadau a dadleuon sydd wedi’u cyflwyno yn y darlithoedd. 

Mae ein ffordd o ddysgu iaith yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol a chyfranogiad ystyrlon myfyrwyr. Bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu'r cymwyseddau a sgiliau iaith allweddol yn rheolaidd. Mae dosbarthiadau wedi'u dylunio i ehangu’ch hyfedredd ieithyddol a gwella'ch hyder a'ch sgiliau cyfathrebu mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. 

Mae paratoi ar gyfer dosbarth ac astudio’n annibynnol yn rhan bwysig o'ch dysgu. Rhwng dosbarthiadau, byddwch chi’n paratoi deunydd, tystiolaeth a dadleuon, ac yn cwblhau tasgau iaith yn unigol neu mewn grwpiau. 

Mae ymchwil wrth wraidd profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac mae’r canfyddiadau diweddaraf yn llywio pob rhaglen.

Mae’n dulliau addysgu’n meithrin sgiliau deallusol megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi’n fanwl, cloriannu tystiolaeth, llunio dadleuon, rhoi damcaniaethau ar waith a defnyddio iaith yn effeithiol mewn traethodau a thrafodaethau. At hynny, byddwn ni’n eich helpu i weithio mewn tîm, cynnal ymchwil yn annibynnol a rheoli amser mewn awyrgylch cefnogol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael eich arwain trwy eich astudiaethau gan Diwtor Personol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd. Eich tiwtor personol fydd y ddolen gyswllt bob amser ynghylch unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar eich astudiaethau. Byddwch chi’n cyfarfod â’ch tiwtor personol ddwywaith yn ystod pob blwyddyn academaidd ond dyma’ch annog chi i gysylltu â’ch tiwtor unrhyw bryd os oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi. Bydd pob aelod o staff academaidd ar gael i gwrdd â myfyrwyr yn ôl oriau penodol.  

Yn ystod eich blwyddyn astudio neu weithio dramor, aseinir Cydlynydd Blwyddyn Tramor i chi a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd.

Mae gan bob modiwl le neilltuedig yng Nghyfleuster Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, lle y byddwn ni’n eich tywys trwy weithgareddau’r wythnos a’r tasgau y bydd angen eu cwblhau. Bydd yno ddeunyddiau ac adnoddau dysgu megis recordiadau o ddarlithoedd, tasgau ac adnoddau iaith a dolenni ag adnoddau digidol gan gynnwys deunyddiau’r llyfrgelloedd ar ffurf electronig. 

Mae staff y Gwasanaethau Proffesiynol ar gael yng nghanolfan yr israddedigion i ateb eich cwestiynau. 

Mae gan yr Ysgol Ieithoedd Modern Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr pwrpasol sy’n gallu’ch cynghori a’ch llywio yn ôl yr angen mewn awyrgylch cefnogol, gofalgar a chyfrinachol.

Mae Bywyd Myfyrwyr, yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn cynnig ystod o wasanaethau. Mae’r gwasanaethau cymorth hyn yn cynnwys: Cynghori ar arian, dyfodol myfyrwyr, cwnsela, iechyd a lles, mentora, medrau astudio academaidd, Gwasanaeth Anableddau’r Myfyrwyr a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Diben yr asesu yw eich helpu i hel syniadau, meithrin medrau a datblygu galluoedd. Mae pwyslais ar fod yn arloesol ac yn greadigol gan feddwl yn feirniadol am y testunau a’r diwylliannau a welwch chi a chyflwyno dadleuon yn ôl tystiolaeth trwy’r Saesneg a’r iaith rydych chi’n eu hastudio fel ei gilydd. 

Byddwch chi’n astudio blociau adeiladu iaith hefyd, gan gynnwys patrymau a strwythurau gramadegol a geiriadurol. Byddwn ni’n asesu’r medrau hynny yn rheolaidd yn ystod modiwlau iaith sy’n adlewyrchu natur gynyddol a chronnus dysgu iaith.

Rydyn ni’n defnyddio ffurfiau asesu traddodiadol (megis traethodau, posau, profion yn y dosbarth, arholiadau llafar a thraethodau hir) yn ogystal â mathau mwy arloesol (megis portffolios cyfieithu, prosiectau chwarae rolau, blogiau, cyfweliadau a chyflyniadau posteri). Mae asesiadau hefyd yn cynnwys beirniadaethau ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blogiau. Mae rhai o'n hasesiadau yn eich galluogi i weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol; er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddylunio arddangosfa amgueddfa neu greu canllaw ar gyfer defnyddio ffynonellau. Mae traethodau estynedig yn caniatáu i chi fynd i'r afael â chwestiynau hanesyddol sylfaenol neu archwilio mater neu ddadl hanesyddol yn fanylach.

Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. 

 Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar.

Rhoddir adborth ysgrifenedig am waith ar ôl ei asesu i’ch helpu i wella ar gyfer yr asesiadau nesaf, a bydd cyfleoedd ichi drafod yr adborth gyda’ch tiwtoriaid. At hynny, bydd amryw ymarferion megis posau, cyflwyniadau, traethodau a phrosiectau. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi adborth ffurfiannol i wella’ch dysgu a’ch deall cyn sefyll yr asesiadau crynodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth (GD):

GD1/KU1 Siarad, ysgrifennu, a deall iaith dramor fodern i safon gradd.  

GD2 Deall strwythurau, cyweiriau ac amrywiaethau'r iaith rydych chi’n ei dysgu a'u defnyddio mewn modd hyblyg ac effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol fel y bo'n briodol.

GD3 Dadansoddi’n feirniadol agweddau ar ddiwylliannau, hanesion a chymdeithasau y gwledydd y siaredir eich iaith ynddynt trwy amryw ddeunyddiau a dulliau. 

GD4 Dangos faint rydych chi’n ei wybod ac yn ei ddeall ynghylch pa mor debyg neu annhebyg yw diwylliannau a chymdeithasau eraill.

GD5 Deall a gwybod perthynas gwahanol ddiwylliannau â’i gilydd yn fanwl fel y gallwch chi lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un.

GD6 Deall y wladwriaeth fodern a'r gwahanol fathau o lywodraeth, a gallu egluro sut mae sefydliadau gwleidyddol craidd yn gweithredu.

GD7 Dangos gwybodaeth am waith meddylwyr allweddol o theori wleidyddol, gwyddoniaeth wleidyddol a/neu gysylltiadau rhyngwladol.

GD8 Deall a chymhwyso'r ystod eang o faterion a dadleuon sy'n ganolog i astudio gwleidyddiaeth

GD9 Dangos eich bod yn gyfarwydd â geirfa arbenigol disgwrs wleidyddol fel y mynegwyd gan wyddonwyr ac ymarferwyr gwleidyddol.

GD10 Ymgymryd ag ymchwil annibynnol ym maes gwleidyddiaeth a/neu gysylltiadau rhyngwladol.

GD11 Gallu darllen, dadansoddi, crynhoi a chyflwyno dadleuon canolog testunau gwleidyddol.

Sgiliau Deallusol(SD):

SD1 Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg ac mewn iaith dramor fodern.

SD2 Defnyddio amryw strategaethau i ddidoli a dadansoddi gwybodaeth.

SD3 Dod i gasgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan eu cyfiawnhau trwy resymu’n gadarn a dehongli deunydd gwreiddiol yn fanwl.

SD4 Gwerthuso syniadau a dadleuon yn feirniadol trwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amryw fedrau ar bapur ac ar lafar. 

SD5 Defnyddio technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu neu gyflwyno testunau academaidd (traethodau, cyflwyniadau, testunau clyweledol) gan ddefnyddio tystiolaeth a’r confensiynau cyfeirnodi cywir.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol(SY): SY1 Defnyddio cyfryngau digidol yn effeithiol ar gyfer dod o hyd i wybodaeth, cyfathrebu a dysgu. 

SY2 Defnyddio medrau ieithyddol uwch mewn swydd broffesiynol. 

SY3 Nodi a disgrifio problemau a gweithio ar y cyd i'w datrys.

SY4 Dangos gwytnwch, gallu i addasu ac annibyniaeth trwy dreulio amser yn niwylliant iaith dramor fodern.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol(SA):

SA1 Defnyddio medrau meddwl yn feirniadol a rhesymu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a syniadau amrywiol. 

SA2 Defnyddio medrau ymchwil ymarferol. 

SA3 Creu syniadau gwreiddiol a defnyddio dull creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau.   

SA4 Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol a derbyn ei negeseuon.

SA5 Bod yn ddyfeisgar ac ysgwyddo cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch datblygu proffesiynol eich hun.

SA6 Defnyddio amryw fedrau cyflogadwyedd a menter megis creadigrwydd, mentro, trefnu, rheoli amser, gweithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm.

SA7 Ymddwyn fel dinesydd byd-eang gan gydio mewn gwahaniaethau diwylliannol a’u gwerthfawrogi trwy brofiad o wledydd eraill.  

SA8 Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi adael eich marc mewn marchnad swyddi gystadleuol. P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu beidio, mae gennym yr adnoddau a’r cymorth i’ch tywys chi.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n dewis ei ddilyn.

Mae ein rhaglen Gwleidyddiaeth ac Iaith Fodern (BA) yn eich arfogi â sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi o gydweithio a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau.

Rydym yn darparu cyfleoedd i chi ennill a datblygu sgiliau menter wrth i chi symud ymlaen o gyflwyno eich syniadau ar hanes byd-eang ar fodiwlau'r flwyddyn gyntaf a gweithio ar y cyd ar brosiect ym mlwyddyn 2 i leoliadau sy'n dwyn credydau ym mlwyddyn 2, blwyddyn dramor a'ch blwyddyn olaf. Mae ystod o fodiwlau dewisol yn ehangu’r cyfleoedd hyn ac yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau ymhellach.

Mae profiad gwaith a lleoliadau yn gyfleoedd gwych i wella eich cyflogadwyedd a'ch rhagolygon gyrfa a gallant eich helpu i wneud penderfyniadau am eich cynlluniau gyrfa yn y dyfodol, ac mae'r rhaglen hon yn cynnwys dysgu ar leoliad fel elfen annatod o'ch rhaglen radd.

Mae hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd yn aml, gan anelu at feithrin sgiliau yn ystod y cwrs a’u defnyddio’n llwyddiannus wedyn. Rydym yn gweithio'n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond sydd hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd a helpu i ddod o hyd i leoliadau. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun wrth ganiatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith i chi er mwyn datblygu eich cyflogadwyedd, wrth ichi allu manteisio ar ystod eang o raglenni prifysgol gan Ieithoedd i Bawb (i roi cynnig ar iaith arall) i gefnogi'r tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â'ch syniadau'n fyw.

Bob semester, byddwn ni’n hysbysebu interniaethau ar y campws, lle y bydd cyfleoedd i fyfyrwyr weithio o dan oruchwyliaeth ynghylch arloesi addysgol, gwasanaethau proffesiynol a phrosiectau ymchwil mae staff wedi’u pennu.

Mae’n graddedigion yn ffynnu yn y farchnad swyddi. Mae eu graddau cysylltiadau rhyngwladol, gwleidyddiaeth ac iaith yn eu harwain i ystod amrywiol a chyffrous o yrfaoedd gyda rolau a sefydliadau gan gynnwys cyllid, Ombwdsmon Cyhoeddus Cymru, yr Adran Addysg, Asiantaeth Ffiniau'r DU, rolau cyswllt chwaraeon rhyngwladol, ymgynghori busnes, addysg, iechyd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, dehongli, cyfieithu, y gyfraith ac addysgu.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.