Ffiseg (BSc)
- Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth
- Côd UCAS: F300
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Dyluniwyd y radd BSc Ffiseg i roi addysg ffiseg eang i chi, yn ogystal â rhoi ystod eang o sgiliau cyfrifiadurol a mathemategol i chi.
Mae'r radd wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd â meddwl chwilfrydig ac i roi addysg eang ar sut y gellir defnyddio ffiseg ddamcaniaethol ac arbrofol i ddisgrifio'r bydysawd. Mae hefyd yn rhoi dealltwriaeth i chi o effaith ffiseg ar dechnolegau modern.
Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP) a'i nod yw eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil a datblygiad diwydiannol neu academaidd, addysg neu feysydd eraill lle mae angen ymagwedd ddadansoddol, rifog ac ymarferol at ddatrys problemau, megis busnes, cyllid a’r llywodraeth.
Byddwch yn rhan o adran gyfeillgar a chroesawgar sydd wedi'i lleoli ar hyn o bryd yng nghyfadeilad Adeilad y Frenhines. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o labordai pwrpasol, darlithfeydd a chyfleusterau cyfrifiadurol.
Nodweddion nodedig
- Byddwch yn elwa ar gyfranogiad staff sy’n flaenllaw ym myd ymchwil yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio a chyflwyno’r cwrs.
- Bydd gennych gyfleoedd cyson i gynnal gwaith ymarferol yn labordai’r Ysgol
- Byddwch yn derbyn hyfforddiant gwyddonol cadarn yn seiliedig ar ein hymchwil sy'n arwain y byd
- Byddwch yn datblygu'r sgiliau trosglwyddadwy allweddol sydd eu hangen ar gyflogwyr
- Mae pwyslais ar ddysgu annibynnol
- Byddwn yn monitro’r cwrs yn effeithiol a chyfleoedd i fyfyrwyr gynnig adborth
Bydd yr holl gynnwys craidd sydd ei angen ar gyfer y radd yn cael ei achredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP) a bydd yn rhan o'r cwrs.
Achrediadau
Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Rhaid cynnwys Mathemateg a Ffiseg. Bydd ymgeiswyr sy'n astudio Mathemateg heb Ffiseg hefyd yn cael eu hystyried fel arfer yn amodol ar ennill gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys Mathemateg HL a Ffiseg HL. Bydd ymgeiswyr sy'n cymryd Mathemateg HL heb Ffiseg HL hefyd yn cael eu hystyried fel arfer yn amodol ar ennill gradd 6 mewn Mathemateg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pwnc gwyddoniaeth a/neu beirianneg a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch neu D mewn unrhyw bwnc BTEC ac yn graddio BB mewn Mathemateg a Ffiseg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Mae’r Ysgol yn talu am offer hanfodol, gan gynnwys gwerslyfrau craidd y cwrs yn y ddwy flynedd gyntaf. Mae’r holl werslyfrau eraill awgrymir ar gael drwy lyfrgelloedd y Brifysgol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Bydd y Brifysgol yn darparu’r holl offer hanfodol. Ar hyn o bryd y mae hefyd yn darparu gwerslyfr Ffiseg a Mathemateg craidd y flwyddyn gyntaf. Gallwch ddewis prynu gwerslyfrau eraill yn dilyn cyngor gan y staff. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ystyried prynu cyfrifiadur personol, gliniadur neu ddyfais tabled, er bod cyfleusterau cyfrifiadura penodol ar gael ar y safle.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd o fodiwlau craidd a ddewiswyd yn ofalus, ynghyd â rhai modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y modiwlau fel arfer, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Diben yr ystod o fodiwlau a gynigir yn y flwyddyn gyntaf yw ennyn eich diddordeb mewn Ffiseg, ar yr un pryd â rhoi sylfaen gadarn i chi adeiladu arni yn y blynyddoedd dilynol. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, gallwch barhau â'ch rhaglen radd wreiddiol o ddewis neu ddewis un arall o'n graddau ffiseg a seryddiaeth.
Byddwch yn astudio modiwlau craidd gwerth 110 credyd a modiwl 10 credyd dewisol.
Yn Semester y Gwanwyn gallwch ddewis rhwng modiwlau dewisol fel Cyflwyniad i Astroffiseg neu Cyflwyniad i Ffiseg Feddygol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dulliau mathemategol ar gyfer ffisegwyr 1 | PX1120 | 20 Credydau |
Mecaneg a mater | PX1121 | 20 Credydau |
Planet Earth | PX1127 | 10 Credydau |
Ffiseg Arbrofol | PX1150 | 20 Credydau |
Trydan, Magnetedd a Thonnau | PX1221 | 20 Credydau |
Sgiliau Cyfrifiadurol ar gyfer Datrys Problemau | PX1224 | 10 Credydau |
Dulliau mathemategol ar gyfer ffisegwyr 2 | PX1230 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Astroffiseg | PX1228 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ffiseg Feddygol | PX1240 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae blwyddyn dau y cwrs yn parhau i adeiladu ar y deunydd ffiseg craidd ac yn cynnig dewis ar gyfer eich un modiwl dewisol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg Caeau a Llifoedd | PX2131 | 20 Credydau |
Mecaneg Quantum Rhagarweiniol | PX2132 | 10 Credydau |
Rhaglennu Strwythuredig | PX2134 | 10 Credydau |
Ffiseg Ymarferol Canolradd | PX2150 | 20 Credydau |
Ffiseg Thermol ac Ystadegol | PX2231 | 20 Credydau |
Opteg | PX2232 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ffiseg Mater Cyddwysedig | PX2236 | 10 Credydau |
Ffiseg ar Waith: Datrys Problemau'r Byd Go Iawn | PX2241 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Y sêr a'u planedau | PX2140 | 10 Credydau |
Llwybrau at Lwyddiant yn y Gweithle Ffiseg | PX2141 | 10 Credydau |
Bioffiseg | PX2144 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri
Mae blwyddyn olaf y cwrs yn eich galluogi i arbenigo ac astudio pynciau dethol yn fanwl. Mae prosiect ymchwil ffiseg 30 credyd yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich dysgu ffiseg ac i ddatblygu sgiliau mewn ymchwil annibynnol, gwneud cyflwyniadau, ysgrifennu adroddiadau a rheoli gwybodaeth.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg atomig a niwclear | PX3141 | 20 Credydau |
Ffiseg Mater Cyddwysedig | PX3142 | 10 Credydau |
Ffiseg Gronynnau a Pherthnasedd Arbennig | PX3241 | 20 Credydau |
Prosiect Ffiseg | PX3350 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg Gyfrifiadurol | PX3143 | 10 Credydau |
Ffiseg Amgylcheddol | PX3153 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ddelweddu Cyseiniant Magnetig | PX3155 | 10 Credydau |
Ffiseg Ddamcaniaethol | PX3158 | 10 Credydau |
Cyfathrebu Gwyddoniaeth | PX3160 | 10 Credydau |
Diogelu Ymbelydredd a Ffiseg Radioleg Diagnostig | PX3164 | 10 Credydau |
Dyfeisiau a Chymwysiadau Lled-ddargludyddion | PX3242 | 10 Credydau |
Ffiseg Laser ac Opteg Anllinellol | PX3243 | 10 Credydau |
Mecaneg Ystadegol | PX3249 | 10 Credydau |
Masnacheiddio Arloesi | PX3253 | 10 Credydau |
Cosmoleg | PX3254 | 10 Credydau |
Ymbelydredd di-ïoneiddio mewn meddygaeth | PX3255 | 10 Credydau |
Radiotherapi | PX3256 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Cynhelir yr addysgu gan ddefnyddio ystod o dechnegau, megis darlithoedd traddodiadol, tiwtorialau a gwaith labordy ac ymarferion cyfrifiadurol, yn seiliedig ar brosiectau a sgiliau. Mae Ffiseg yn ddisgyblaeth hierarchaidd, felly mae strwythur y cwrs yn systematig, ac yn adeiladu ar ddealltwriaeth sylfaenol.
Mae ymarferion yn rhan annatod o bob modiwl sy’n seiliedig ar ddarlithoedd, ac mae’r rhain yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich gwybodaeth, cynyddu eich ymwybyddiaeth feirniadol a gwella eich sgiliau datrys problemau.
Byddwch yn cael dosbarthiadau labordy wythnosol yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, i'ch paratoi ar gyfer astudiaeth arbrofol fawr yn rhan o'ch prosiect blwyddyn olaf.
Addysgir Mathemateg ochr yn ochr â’r prif gysyniadau Ffiseg ac Astroffiseg ym mhob blwyddyn, gyda modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf. Mae’n hollbwysig er mwyn deall y pwnc ac mae wedi’i hymgorffori mewn nifer o fodiwlau.
Addysgir sgiliau TG allweddol trwy gydol y cwrs yn ogystal â rhaglennu elfennol drwy ddefnyddio Python. Efallai y cewch y cyfle hefyd i astudio modiwlau cyfrifiadurol a dulliau rhifiadol pellach wrth i'r cwrs ddatblygu.
Cynhelir sesiynau tiwtorial rheolaidd mewn grwpiau bach ym mlynyddoedd un a dau. Bydd y cyfarfodydd hyn yn eich galluogi i gwrdd â myfyrwyr eraill mewn grwpiau bach (fel arfer pedwar neu bump o fyfyrwyr i un tiwtor) a chael adborth ar eich asesiad parhaus. Yn y flwyddyn gyntaf mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac yn yr ail flwyddyn maen nhw’n cael eu cynnal bob pythefnos.
Drwy gydol y gwaith o gyflawni‘r rhaglen, lle bynnag y bo'n bosibl, mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cael eu defnyddio i ddangos enghreifftiau a goleuo'r pwnc.
Beth a ddisgwylir ohonof?
You should attend lectures and all timetabled laboratory sessions. You should attempt all exercises and problems provided, handing in work by the specified deadline. In some cases exercise marks are part of your continuous assessment. If you cannot complete an exercise, hand in your efforts anyway, as you will then get helpful feedback on where you have gone wrong.
While a 10-credit module represents 100 hours of study in total, typically this will involve two or three hours of contact time with teaching staff each week. The remaining hours are for private study, coursework, example sheets, revision and assessment. You are expected to spend around 20 hours a week studying independently.
You must keep your personal tutor and the Teaching Office informed of any circumstances or illnesses that might affect your capacity to attend teaching or undertake assessment.
You must follow a code of behaviour in laboratory practical classes. This is based on essential health and safety considerations for these environments, and you must follow the instructions of the supervising member of staff at all times.
You should check your emails regularly and answer them.
When you meet concepts or problems you do not understand, you should ask staff for help. If you have comments on the modules, tell us. Tell the lecturer, tell your representative on the staff-student panel and/or put it on the questionnaire you are asked to complete at the end of each semester.
You should familiarise yourself with School and University policies and regulations and must respect the Student Charter and Cardiff University’s Policy on Dignity while Working and Studying.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich prif fodd o ryngweithio â staff academaidd yn digwydd drwy ddarlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (tiwtorialau).
Byddwn hefyd yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn gallu rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.
Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.
Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, bydd modd i chi gael gafael ar ddeunyddiau amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.
Sut caf fy asesu?
There are a wide variety of assessment methods. Some modules are assessed purely by an end of semester exam , some combine continuous assessment with an exam and others are all continuous assessment.
Continuous assessment (exercises and laboratory work) typically makes up 40% of your marks in year one.
At first the nature and methods of experiments are clearly defined for you, but by your final year you are expected to tackle more open-ended investigations.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Bydd astudio’r cwrs hwn yn eich galluogi i gaffael a datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Byddwch yn:
- Defnyddio dosbarthiadau labordy i ddatblygu eich sgiliau arbrofol, dadansoddol ac ymchwiliol
- Dysgu sut i ddylunio offer arbrofol, cylchedwaith electronig neu gaffael data neu algorithmau lleihau data
- Defnyddio cyfrifiadau manwl gywir neu gyfrifiadau trefn maint mewn sefyllfaoedd priodol
- Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol a/neu ysgrifennu meddalwedd
- Cynnal ymchwil annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell fel gwerslyfrau, cyfnodolion gwyddonol a chronfeydd data electronig
- Datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm a'ch gallu i werthuso eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill yn feirniadol
- Datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym yn darparu ystod o gymorth i helpu ein myfyrwyr i ddod o hyd i'r cyfleoedd gyrfa sy'n gweddu orau iddynt, megis Cynghorydd Gyrfaoedd sydd wedi'i leoli'n rhan-amser yn yr Ysgol, ffeiriau gyrfaoedd ar y safle ac ymweliadau â chyflogwyr. Ein nod hefyd yw paratoi ein myfyrwyr drwy roi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo i gael swyddi a theimlo'n hyderus yn y gweithle o'u dewis.
Roedd cyflogwyr yn cynnwys prifysgolion rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau fel Rolls Royce, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Lockheed Martin, Tata Steel, Offerynnau Cenedlaethol a Barclays.
Gyrfaoedd graddedigion
- Gwyddonydd Ymchwil
- Ystadegydd
- Dadansoddwr Data
- Cyfathrebwr Gwyddoniaeth
- Peilot Awyrennau
- Peiriannydd meddalwedd
- Athro
Lleoliadau
Mae opsiwn i gymryd Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn, pan fyddwch yn gallu gweithio mewn diwydiant, masnach, y llywodraeth neu gyda darparwr arall sy'n cynnig lleoliad perthnasol. Byddai hyn yn ei gwneud yn radd BSc pedair blynedd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.