Daearyddiaeth Ffisegol (BSc)
- Meysydd pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd, Daearyddiaeth (Ffisegol)
- Côd UCAS: F843
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Mae daearyddwyr ffisegol yn archwilio esblygiad arwyneb y Ddaear a’r wyddoniaeth sydd y tu ôl i’w phrosesau ffisegol.
Cyfleusterau o ansawdd uchel
Bydd y technolegau diweddaraf mewn offer arolygu a mapio, labordai cemegol a labordai gyda System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ar gael ar eich cyfer.
Cysylltiadau cryf
Mae ein cysylltiadau rhagorol â sefydliadau lleol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth Aber Afon Hafren, yn helpu ein myfyrwyr i ddod o gyfleoedd i wneud prosiectau a mynd ar leoliadau gwaith.
Cwrs hyblyg
Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ofyn am gael eich symud i raglen radd MSci neu newid i gwrs arall yn yr un Ysgol ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
Lleoliad gwych
O fynyddoedd trawiadol y gogledd i aber llanwol bioamrywiol yn y de, mae gan Gymru yn lle chwarae i ddaearyddwyr gan fod ystod enfawr o amgylcheddau naturiol i’w harchwilio.
Cyfleoedd gwaith maes
Bydd teithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes yn rhan o ffioedd eich cwrs.
Mae ein planed yn esblygu ac yn ail-lunio ei hun yn barhaus. Mae angen i ni ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i brosesau a pheryglon ffisegol, fel llifogydd ac erydu arfordirol, fel y gallwn ni addasu a dod o hyd i atebion i’r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Byddwch yn archwilio sut mae’r Ddaear yn gweithredu ac yn dysgu am beryglon byd-eang mewn llosgfynyddoedd a thirlithriadau ac yn ymchwilio i sut mae tirweddau'n esblygu dros amser yn rhan o’n cwrs Daearyddiaeth Ffisegol. Byddwch yn astudio prosesau ffisegol o bedwar ban byd o brosesau rhewlifol i ddiffeithdiro. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn mapio ac ymchwilio, ac yn ennill profiad mewn defnyddio meddalwedd ac offer safonol yn y diwydiant.
Fel arfer mae gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn ddiddordeb yn y byd ffisegol o’n cwmpas, ac maen nhw am ddefnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Bydd graddedigion yn gadael gyda’r sgiliau i ddatrys ystod o broblemau bywyd go iawn cymhleth o ran yr amgylchedd ffisegol a gyda phrofiad o waith maes ymarferol ac ymchwil gyfoes â gwyddonwyr blaenllaw.
Rydym yn manteisio i’r eithaf ar ein lleoliad ac yn mynd ar deithiau dydd rheolaidd ar yr arfordir ac i Fannau Brycheiniog yn ne Cymru. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd ar deithiau maes tramor. Yn y gorffennol, rydym wedi mynd â myfyrwyr daearyddiaeth i'r Swistir.
Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd
Maes pwnc: Daearyddiaeth (Ffisegol)
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BCC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Daeareg, Daearyddiaeth, Ffiseg, Gwyddorau Amgylcheddol, Mathemateg, TGCh, Ystadegau.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth Lefel Uwch) neu 31-29 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gyda dau bwnc gwyddonol Lefel Uwch). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych yn astudio Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg Gellir derbyn Mathemateg Graidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol yn gymwys i wneud cais am Raglen Cymorth Ariannol Caerdydd i helpu gyda’r costau hyn.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Bydd angen dillad addas arnoch gan gynnwys dillad ar gyfer tywydd cynnes, gwynt a siacedi i’ch diogelu mewn stormydd ac esgidiau cerdded. Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar iechyd a diogelwch yn ogystal ag offer maes arbenigol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon. Byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn cael sylfaen gref mewn daearyddiaeth ffisegol yn eich blwyddyn gyntaf. Ceir modiwlau craidd a modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri, felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis y meysydd astudio sydd o ddiddordeb i chi.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio modiwlau craidd a luniwyd i roi sylfaen gref ym maes gwyddorau’r ddaear a daearyddiaeth yn eich blwyddyn gyntaf. Mae pynciau’n cynnwys cefnforoedd, yr hinsawdd, prosesau’r ddaear ac amgylcheddau byd-eang. Byddwch yn datblygu sgiliau daearyddol hanfodol fel gwaith map a siart, Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) a dadansoddi data daearyddol sylfaenol.
Mae pob un o'r graddau yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn astudio'r un semester cyntaf. Ar ôl semester un gallwch benderfynu a ydych am barhau â'ch dewis gwreiddiol neu newid i un o'r graddau eraill (fel Daearyddiaeth Forol neu Amgylcheddol). Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn, ac mae pob modiwl craidd yn werth 20 o gredydau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Byd Amgylcheddau Dynamig | EA1300 | 20 Credydau |
Archwilio Planet Earth | EA1301 | 20 Credydau |
GIS, Mapiau a Sgiliau Dadansoddol | EA1303 | 20 Credydau |
Sgiliau Maes Daearyddiaeth | EA1305 | 20 Credydau |
Deall y blaned fyw | EA1308 | 20 Credydau |
Hanfodion Gwyddoniaeth Ddaearyddol | EA1309 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn datblygu’r wybodaeth o’r flwyddyn gyntaf yn eich ail flwyddyn, ac yn dechrau archwilio cysyniadau mwy datblygedig megis geomorffoleg prosesau a hydroleg. Byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad mewn samplu, casglu data a dadansoddi yn barod ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri.
Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl i barc cenedlaethol arfordirol yng Nghymru (naill ai Sir Benfro neu Eryri) i ddysgu sgiliau maes allweddol gan gynnwys mapio a thirfesur.
Yn ystod yr haf rhwng blwyddyn dau a blwyddyn tri, byddwch yn gwneud ymchwil annibynnol dros gyfnod o bum wythnos i’ch paratoi chi ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri.
Gallwch ddewis ymchwilio i faes sydd o ddiddordeb i chi, gan gynnwys pynciau megis llifogydd ac erydu arfordirol, newidiadau i’r dirwedd yn y dyfodol a newidiadau i broffiliau clogwyni ar hyd arfordiroedd sy’n erydu ar hyn o bryd.
Rydych yn ennill 120 credyd am y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys modiwlau craidd 40 a 20 o gredydau a dewis o fodiwlau dewisol gwerth 20 o gredydau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Proses Geomorffoleg a Hydroleg | EA2312 | 20 Credydau |
Gwaith Maes a Safbwyntiau Daearyddol | EA2337 | 40 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Synhwyro o Bell a Dadansoddiad Gofodol | EA2308 | 20 Credydau |
Biogeocemeg a Gwyddoniaeth Ecosystemau | EA2309 | 20 Credydau |
System yr Arfordir | EA2311 | 20 Credydau |
Y System Ocean-Atmosffer | EA2315 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Bydd gennych fwy o ryddid i lywio eich gradd yn eich blwyddyn olaf ac yn dewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Byddwch yn ennill 120 o gredydau am y flwyddyn. Mae'r modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir a Geomorffoleg Amgylcheddol. Gallwch ddewis astudio amrywiaeth o bynciau arbenigol fel Newid Hinsawdd y Byd fel rhan o'ch modiwlau dewisol.
Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl dramor i leoliad arfordirol yn Ewrop lle byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn monitro amgylcheddol ac arolygu'r dirwedd ffisegol. Yn y gorffennol, rydym wedi bod i'r Iseldiroedd a’r Swistir.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Traethawd Estynedig Daearyddiaeth Ffisegol | EA3313 | 40 Credydau |
Peryglon, Risg a Gwydnwch | EA3317 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Amgylcheddau eithafol: safbwyntiau biogeocemegol | EA3320 | 20 Credydau |
Systemau Amgylcheddol Morol | EA3321 | 20 Credydau |
Newid Hinsawdd Byd-eang | EA3322 | 20 Credydau |
Gwaith Maes Daearyddiaeth Uwch (Geog Ffisegol) | EA3333 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a chewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n cynnal ymchwil arloesol yn rhyngwladol.
Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Cewch hefyd eich annog i ddysgu’n annibynnol ac mewn grwpiau drwy gydol y cwrs, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau rheoli prosiect a threfnu yn ogystal â datblygu eich gallu wrth gymhwyso technoleg gwybodaeth a defnyddio technegau ac offer o’r radd flaenaf.
Sut y caf fy nghefnogi?
Cefnogaeth
Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir Tiwtor Personol i chi ac mi fyddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlwyddyn dau a thri. Bydd eich tiwtor personol yn arbenigwr yn eich cwrs gradd dewisol, a gall gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn tri, cewch hefyd oruchwyliwr penodol ar gyfer eich prosiect traethawd hir.
Cyfleusterau
Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bo'n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.
Mae gan wefan Dysgu Canolog fodiwl Cynllunio Datblygiad Personol hefyd sy’n eich helpu i asesu eich cynnydd yn rheolaidd ac i ddiwallu eich anghenion datblygu.
Gwasanaethau cefnogi
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Amrywiaeth
Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a’n statws Efydd.
Sut caf fy asesu?
We will be assessing your level of knowledge and understanding in each module through a combination of assignments, presentations, fieldwork, examinations and a dissertation. You will receive written and oral feedback on your coursework and there are opportunities for informal feedback throughout the course.
You will complete a wide range of assessments, from traditional essays, data interpretation exercises and posters on topical themes to more interactive assignment experiences including group presentations, technical reports and briefing papers. These different assessments are designed to give you professional assessment experience and help you prepare for employment.
NOTE: The University welcomes applications from students with disabilities and we endeavour to offer reasonable alternative assessment methods wherever possible. We have an Alternative Fieldwork Policy which is adopted in cases where a student cannot attend a scheduled, taught field course, or part(s) thereof, because of extenuating circumstances.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:
- dealltwriaeth systematig o brosesau gofodol ac amserol sy'n ymwneud â phrosesau systemau’r ddaear, gan gynnwys dealltwriaeth feirniadol eang o'r rhyngberthynas rhwng y rhain ar ystod o raddfeydd
- dealltwriaeth eang o heriau byd-eang gan gynnwys risgiau a pheryglon sy'n gysylltiedig â phrosesau system y ddaear, gan gynnwys dulliau o lywodraethu'r rhain
- dealltwriaeth systematig o natur amlddisgyblaethol Daearyddiaeth Ffisegol, gan gynnwys ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth, a dealltwriaeth ymarferol gysylltiedig o'r angen i gynnwys gwybodaeth o'r gwyddorau cytras, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â gwyddorau cefnfor, atmosfferig, ffisegol ac amgylcheddol
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol :
- Dadlau, dehongli ac egluro achosion a graddfeydd prosesau system ddaear gyfoes ac yn y dyfodol wrth gymhwyso syniadau, cysyniadau a dulliau perthnasol yn feirniadol
- Casglu, coladu, syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth Daearyddiaeth Ffisegol, gan ddefnyddio dulliau perthnasol mewn meysydd cysylltiedig o wyddoniaeth
- Gwerthuso ymchwil gyfredol mewn agweddau dethol ar Ddaearyddiaeth Ffisegol, gan ddangos gwerthfawrogiad o ansicrwydd, amwysedd a therfynau dealltwriaeth wyddonol gysylltiedig
- Gweithio ar draws disgyblaethau i gysylltu gwybodaeth a phrofiad o wyddorau perthynol i ddeall prosesau system y ddaear
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:
- Dadansoddi a dehongli'n feirniadol ystod o wahanol fathau o ddata sy'n gysylltiedig â'r prosesau ymchwil daearyddiaeth ffisegol i ymchwilio i ystod o bynciau amserol ar wyneb y ddaear a chysyniadau damcaniaethol
- Cynllunio, dylunio a chynnal ymchwil sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth ffisegol, gan ddefnyddio'n feirniadol ystod o ddulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data mewn astudiaethau maes, ar y môr, yn y labordy ac wrth ddesg.
- Deall a chymhwyso dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn fformatau cartograffig a graffig priodol gan ddefnyddio platfformau priodol, gan gynnwys GIS
- Mynd i'r afael â phroblemau ymchwil sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data amrywiol, sy’n aml yn anghyflawn ac ansicr gan ddefnyddio methodolegau a dulliau ansoddol a meintiol priodol
- Arddangos sgiliau ymarferol a chymhwysedd mewn technoleg gwybodaeth, systemau gwybodaeth ddaearyddol, technegau cartograffig, ystadegol a dadansoddol eraill
- Defnyddio sgiliau rheoli prosiect a threfnu effeithiol drwy weithio'n annibynnol a thrwy weithio mewn tîm
- Deall yr agweddau ar gasglu data o ran cyfyngiadau ymarferol, logisteg, diogelwch a moesegol, a hynny mewn amrywiol amgylcheddau, a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon, fel sy'n briodol i ymchwil gymhwysol
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg
- Y gallu i weithio'n gymwys yn unigol neu fel rhan o dîm wrth osod problemau a datrys problemau o fewn ystod o amgylcheddau ymchwil cymhwysol lle mae’r dasg o wneud penderfyniadau’n gymhleth ac yn amlddisgyblaethol
- Y gallu i ymgymryd ag astudiaeth annibynnol ac ysgolheictod personol, wedi'u meithrin trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, menter a phrofiadau hunan-ddysgu
- Dealltwriaeth o'r sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddod o hyd i waith a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, a’r gallu i gymhwyso hyn i hunan-fyfyrio, asesu a mynegi sgiliau ac anghenion cyflogadwyedd unigol
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Gyda’r blaned dan bwysau cynyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a thirwedd newidiol, mae galw mawr am wybodaeth a sgiliau daearyddwyr ffisegol. Gallwch ddefnyddio eich dealltwriaeth o brosesau’r Ddaear i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i nifer o heriau cymhleth rydym yn eu hwynebu heddiw ac y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gwahanol a rolau llywodraeth, asiantaethau llywodraethol neu gwmnïau ymgynghori, gan gynnwys gweithio fel arbenigwr technegol neu ddadansoddwr geo-ofodol. Bydd gennych hefyd sgiliau y gellir eu rhoi ar waith mewn sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio.
Mae rhai o’n myfyrwyr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio yn Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, llywodraeth leol, cwmnïau ymgynghori amgylcheddol ac elusennau amgylcheddol.
Lleoliadau
Gall unrhyw fyfyriwr sy'n gallu cael lleoliad addas gyda chwmni neu sefydliad drosglwyddo i'n rhaglen pedair blynedd, a graddio gyda BSc gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol. Ni allwn warantu lleoliad i chi, gan fod y broses recriwtio a dethol yn dibynnu ar y cwmni yr ydych yn gwneud cais ar ei gyfer. Fodd bynnag, byddwn yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i leoliad a gwneud cais, a gall gwasanaeth gyrfaoedd y Brifysgol eich helpu gyda'ch ceisiadau, CV a sgiliau cyfweliad. Yn ôl ein profiad ni, mae myfyrwyr sy'n cyflawni blwyddyn ar leoliad proffesiynol yn dychwelyd i'w hastudiaethau gyda sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad diwydiant amhrisiadwy.
Gwaith maes
Rhwng y mynyddoedd trawiadol yn y gogledd ac aber llanw bioamrywiol yn y de, cewch chi gyfoeth o brofiadau ymarferol yn archwilio rhai o ardaloedd o ddiddordeb daearyddol mwyaf unigryw y DU. Rydym yn mynd ar deithiau diwrnod rheolaidd ac i fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn Ne Cymru, yn ogystal â thaith brewswyl i Eryri, a thaith dramor i Ewrop. Mae lleoliadau blaenorol yn cynnwys y Swistir a Tenerife.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.