Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth (BA)

  • Maes pwnc: Athroniaeth
  • Côd UCAS: V500
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

cursor

Dilynwch eich diddordebau

Dewiswch o fodiwlau o amrywiaeth o draddodiadau athronyddol, olrhain cysylltiadau â disgyblaethau eraill, ac ymgysylltu â meysydd newydd o ymchwil athronyddol.

notepad

Meddwl dros eich hun

Mynd i'r afael yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd annibynnol a meddwl agored.

star

Llywio'r dyfodol

Cymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sydd â'r nod o ddatrys problemau cymdeithasol yn y byd go iawn.

people

Astudio ar ffiniau ymholi

Dadansoddi ymchwil cyfoes gyda staff sy'n ymchwilwyr blaenllaw yn eu maes.

microphone

Cyfathrebu'n effiethiol

Datblygu sgiliau a phrofiad wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a dadleuon, ac wrth ddod i gytundeb ar gwestiynau anodd.

Sut dylech chi fyw eich bywyd ac uniaethu ag eraill? Sut dylen ni drefnu cymdeithas? Pwy a beth ddylech chi ei gredu? Beth yw natur harddwch? Sut mae eich meddwl, ymennydd, corff a'r amgylchedd yn siapio eich meddyliau a'ch teimladau?  Sut dylai nodweddion fel rhywedd a hil gael eu hystyried mewn ymholiad damcaniaethol a gwneud penderfyniadau cymdeithasol?

Mae ein gradd BA Athroniaeth yn ymchwilio i faterion pwysig a chymhleth fel y rhain ac yn eich galluogi i fynd i'r afael â heriau byd-eang mawr heddiw. Ein blaenoriaeth yw datblygu eich sgiliau fel athronydd yn eich rhinwedd eich hun: byddwch yn gwneud athroniaeth, nid dim ond yn dysgu am athroniaeth. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn cael y cyfle i ymgysylltu ag ymchwil flaengar a gweithio gyda'ch darlithwyr i ddatblygu mewnwelediad i feysydd astudio newydd cymhleth. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu ystod eang o bynciau a thraddodiadau athronyddol. Byddwch yn datblygu sylfaen gadarn ym meysydd canolog athroniaeth, megis moeseg, epistemoleg, ac athroniaeth y meddwl, ond byddwch hefyd yn astudio meysydd fel estheteg, athroniaeth ffeministaidd, a ffenomenoleg.

Mae llawer o’n modiwlau yn mynd i’r afael â phroblemau cyfoes sy’n wynebu cymdeithas, gan roi cysylltiad clir i chi rhwng theori athronyddol ac ymarfer. Pwysleisir hyn ym mlwyddyn olaf y rhaglen, lle byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect i gymhwyso'ch gwybodaeth a'ch syniadau athronyddol eich hun i ddatblygu polisïau neu strategaethau sy'n anelu at ddatrys problem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn.

Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu effeithiol a meddwl yn feirniadol. Byddwch hefyd wedi datblygu gwerthfawrogiad dyfnach o'r heriau moesegol a chymdeithasol sy'n wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. O'r fan hon, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i symud ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous.

Maes pwnc: Athroniaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

AAB-ABB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae'r modiwlau ym mlwyddyn 1 yn eich cyflwyno i'r meysydd allweddol o athroniaeth sy'n ymddangos drwy gydol y radd. Byddwch yn ystyried testunau clasurol a dadleuon cyfredol am foesoldeb, cyfiawnder, gwybodaeth a chred. Byddwch yn astudio natur cyfathrebu a'r berthynas rhwng meddyliau a chyrff.

Byddwch yn archwilio cwestiynau athronyddol trwy ffuglen a ffilmiau yn ogystal â thestunau ysgrifenedig a byddwch yn myfyrio ar gyfyngiadau rheswm dynol. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu i safonau academaidd a phroffesiynol, a byddwch yn ymarfer ac yn datblygu'r sgiliau sy'n hanfodol i'r radd.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn dewis o leiaf ddau fodiwl o blith athroniaeth foesol, wleidyddol a ffeministaidd, ac yn dewis o leiaf ddau fodiwl o athroniaeth y meddwl, athroniaeth seicoleg, athroniaeth iaith, ac epistemoleg. Mae hyn yn eich paratoi ar gyfer modiwlau yn y flwyddyn olaf sy'n aml yn cyfuno'r meysydd hyn o athroniaeth. Gallwch archwilio meysydd eraill o athroniaeth trwy fodiwlau dewisol.

Mae’r modiwlau hyn yn rhoi cyfleoedd i ymarfer ymhellach sgiliau allweddol cyfathrebu, cydweithio, a meddwl yn feirniadol, i ddod yn fwy annibynnol yn eich astudiaethau, ac i wella eich gallu i fyfyrio ar eich gwaith eich hun er mwyn cyrraedd eich potensial.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Athroniaeth y MeddwlSE431320 Credydau
Athroniaeth IaithSE435820 Credydau
Athroniaeth Gwleidyddiaeth GyfoesSE436320 Credydau
Dirfodaeth FfrengigSE436920 Credydau
Athroniaeth Foesol ModernSE437320 Credydau
Theori Moesegol CyfoesSE438820 Credydau
EpistemolegSE439820 Credydau
Credoau'r CymrySE440020 Credydau
Beth i'w gredu yn oedran y rhyngrwydSE440720 Credydau
Athroniaeth SeicolegSE442120 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolSE442320 Credydau
EsthetegSE442420 Credydau
Athroniaeth Ffeministiaeth (AUT)SE443620 Credydau
Athroniaeth Ffeministiaeth (SPR)SE443720 Credydau
Astudio Rhyngwladol Dramor (60 credyd) GwanwynSE625260 Credydau

Blwyddyn tri

Yn eich blwyddyn olaf byddwch yn cael eich trwytho yn niwylliant ymchwil athroniaeth ac yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o sut y gall ymchwil athronyddol gyfredol effeithio ar y byd.

Yn y modiwl craidd Athroniaeth ar Waith, byddwch yn darganfod y cyfraniad gwerthfawr y gall sgiliau athronyddol a gwybodaeth athronyddol ei wneud mewn ystod o sefydliadau a rolau proffesiynol. Yn y modiwl hwn byddwch yn ymgysylltu ag ymchwil athronyddol a wneir ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Caerdydd i gynhyrchu argymhellion polisi ymarferol mewn ymateb i broblem gyfoes y byd real go iawn.

Byddwch yn dewis 5 modiwl dewisol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich syniadau eich hun am yr ymchwil diweddaraf yn ein meysydd arbenigedd. Mae'r modiwlau hyn yn aml yn integreiddio gwahanol feysydd o athroniaeth a astudiwyd yn gynharach yn y radd, ac yn aml yn canolbwyntio ar broblemau o bryder cymdeithasol cyfoes.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Traethawd Hir mewn AthroniaethSE438520 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 Credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 Credydau
Cred ac afresymoldebSE441920 Credydau
Moeseg GwybodSE442220 Credydau
Harddwch a MoesegSE442520 Credydau
Cyfrifoldeb MoesolSE442620 Credydau
Synnwyr o'r posibilrwyddSE442720 Credydau
Paradocsau democratiaethSE443220 Credydau
Ystyr Ystyr trwy dawelwchSE443320 Credydau
Anghyfiawnder esthetigSE443420 Credydau
Sociality OnlineSE443520 Credydau
Rhesymau a ChysylltiadauSE443820 Credydau
Gwleidyddiaeth Amrywiaeth IaithSE443920 Credydau
Emosiynau aflonyddgarSE444020 Credydau
Deddfau Lleferydd Ar-leinSE444120 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Drwy gydol y radd, ein nod yw eich cefnogi i ddod yn feddyliwr annibynnol, creadigol a beirniadol.

Mae addysgu'r flwyddyn gyntaf yn darparu cymorth wedi'i strwythuro'n ofalus trwy ddarlithoedd a thrafodaethau seminar i'ch helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a magu hyder. Erbyn y flwyddyn olaf byddwch yn dysgu trwy ddarllen annibynnol dan arweiniad a gweithdai a seminarau rhyngweithiol llai, gan drafod ymchwil newydd gydag academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n gweithio yn y maes hwnnw ar hyn o bryd. Bydd gennych fynediad i holl ddeunyddiau'r cwrs trwy ein hamgylchedd dysgu electronig.

Yn yr amgylchedd cefnogol hwn byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi testunau a dadleuon yn drylwyr, gweithio ar y cyd trwy broblemau, llunio eich dadleuon eich hun, a chyflwyno'ch syniadau'n glir i eraill.   

Sut y caf fy nghefnogi?

Eich prif ffynonellau cymorth mewn athroniaeth yw eich arweinwyr modiwl a'ch Tiwtor Personol. Mae gan eich arweinwyr modiwl sesiynau galw heibio yn ystod wythnosau addysgu y gallwch eu mynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu asesiadau.

Gall Tiwtoriaid Personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd, a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol. Fe'ch gwahoddir i gwrdd â'ch Tiwtor Personol yn rheolaidd trwy gydol y radd, ac maent ar gael ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg.

Mae'r Ganolfan Datblygu Ysgrifennu yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Gallwch gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai, a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi gyda'ch asesiadau.

Mae ein Tîm Israddedig yn darparu cefnogaeth academaidd a myfyrwyr ac mae yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cefnogi gyda materion ariannol, a darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Lleolir y gwasanaethau hyn yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol. Bydd llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.

Adborth

Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar eich cynnydd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y cwrs a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn sylwadau ffurfiannol ar syniadau traethawd, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs wedi'i farcio. Os byddwch yn dilyn y modiwl Traethawd Hir, byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich prosiect gan eich goruchwyliwr.

Sut caf fy asesu?

Mae eich asesiadau wedi'u cynllunio i ddatblygu'n gronnol sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol a myfyrio. Mae'r asesiadau hyn yn cynnwys dadansoddiadau beirniadol o destunau, traethodau, asesiadau trafodaeth grŵp, ac asesiad myfyriol o'ch sgiliau eich hun. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol mawr sy'n cynnwys ysgrifennu a chyflwyno ar gyfer cynulleidfa broffesiynol. Gall modiwlau dewisol gynnig amrywiaeth ehangach o asesiadau, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus, neu roi sylwadau ar waith celf neu ddarn cyfryngol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth(GD):

  • Gwerthuso yn feirniadol rai o'r damcaniaethau a'r dadleuon canolog, a'u cymwysiadau, mewn athroniaeth foesol, gymdeithasol neu wleidyddol.
  • Gwerthuso yn feirniadol rai o'r damcaniaethau a'r dadleuon canolog, a'u cymwysiadau, mewn epistemoleg, athroniaeth iaith, neu athroniaeth meddwl.
  • Dadansoddi'n feirniadol ddamcaniaethau a dadleuon o waith athronyddol cyfoes, gan gynnwys croestoriadau o wahanol feysydd athroniaeth neu ymchwil rhyngddisgyblaethol.
  • Cymhwyso ymchwil athronyddol trwy ddrafftio dogfennau polisi neu strategaeth, neu argymhellion gweithredu, mewn ymateb i broblem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn sydd o bryder cymdeithasol cyfoes.

Sgiliau Deallusol(SD):

  • Egluro honiadau a dadleuon athronyddol cymhleth ac arbenigol.
  • Llunio dadleuon sy'n cefnogi honiadau mewn ymateb i gwestiynau athronyddol.
  • Cymhwyso technegau safonol dadansoddi athronyddol i werthuso honiadau a dadleuon athronyddol yn feirniadol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol(SY):

  • Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth mewn fformatau gwahanol sy'n briodol i wahanol ddibenion.
  • Cyfrannu mewn modd cydweithredol at drafodaethau a phrosiectau tîm.
  • Mynegi a gwerthuso eich sgiliau athronyddol a phroffesiynol eich hun.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Ymateb i broblemau yn greadigol, yn feirniadol ac yn annibynnol.
  • Gweithredu cyfarwyddiadau tasg a rheoli llwyth gwaith yn effeithiol i gwrdd â therfynau amser.
  • Cyflwyno a gweithredu ar adborth adeiladol.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae graddedigion ein gradd BA Athroniaeth yn meddu ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy a meysydd gwybodaeth y mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Mae’r rhain yn cynnwys y gallu i ddadansoddi problemau cymhleth yn annibynnol a nodi atebion ymarferol ac arloesol, i weithio’n effeithiol gydag eraill ar brosiectau mawr, i gyfathrebu’n effeithiol â gwahanol gynulleidfaoedd, ac i ddefnyddio myfyrio ac adborth i ddatblygu eich sgiliau ymhellach. Byddwch hefyd yn caffael sylfaen wybodaeth eang a fydd yn eich galluogi i ddeall ac ymateb i ystod o broblemau moesegol neu gymdeithasol cyfoes. Yn ystod eich gradd, byddwch wedi cael profiad o rolau ymchwil, polisi a strategaeth proffesiynol trwy weithio ar brosiect polisi cydweithredol mawr. Mae’r prosiect hwn yn dangos i gyflogwyr sut y gall eich sgiliau athronyddol a’ch gwybodaeth athronyddol fod o werth enfawr yn y gweithle.

Mae gwasanaethau a chynlluniau'r Brifysgol hefyd ar gael i chi, gan ddarparu ffyrdd ychwanegol o gynyddu eich sgiliau proffesiynol a'ch hyder. Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu eich cyflogadwyedd ymhellach, ac mae Dyfodol Myfyrwyr(Student Futures) wrth law i roi cyngor a chymorth gyrfaol i gael lleoliadau sy'n benodol i'ch gradd. Gallwch hefyd fanteisio ar raglenni fel Ieithoedd i Bawb a Chymraeg i Bawb i wella eich sgiliau iaith, a chymorth gan y tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â’ch syniadau’n fyw.

Oherwydd dyfnder ac ehangder eu sgiliau a’u gwybodaeth, mae ein graddedigion i’w cael mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, sefydliadau elusennol, busnesau bach, cwmnïau ymgynghori ac ysgolion a cholegau. Maent yn gweithio ym maes newyddiaduraeth, y gyfraith, addysgu, cyllid, marchnata, adnoddau dynol, cysylltiadau cyhoeddus a llawer o broffesiynau eraill.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.