Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg ac Athroniaeth (BA)

  • Meysydd pwnc: Athroniaeth, Cymraeg
  • Côd UCAS: QV55
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau diwylliannol.

people

Cymuned lewyrchus

Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.

structure

Cysylltiadau’r Brifddinas

Lleoliad delfrydol gyda chysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau i'ch helpu ar eich ffordd.

plane

Mae Caerdydd yn aros amdanoch

Ymgollwch ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y brifddinas.

Ar ein rhaglen Cymraeg ac Athroniaeth (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau athronyddol allweddol ar draws ystod eang o bynciau a thraddodiadau. Byddwch yn ennill lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithredu a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy'n berthnasol i'r Gymru fodern. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol.

Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y rhan fwyaf o'r ail flwyddyn, a phob modiwl blwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwl yn eich galluogi i archwilio pynciau megis ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.

Mewn Athroniaeth, byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn athroniaeth foesol, byddwch hefyd yn astudio epistemoleg, athroniaeth meddwl, ac athroniaeth wleidyddol, ac yn cael cyfle i astudio meysydd fel estheteg, athroniaeth ffeministaidd, a ffenomenoleg. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, gallwch arbenigo yn eich dewis faes astudio.

Mae llawer o'n modiwlau yn archwilio'n uniongyrchol wahanol ddefnyddiau iaith. Byddwch yn dod i werthfawrogiad dyfnach o oblygiadau meddwl athronyddol, gan roi cyswllt clir rhwng damcaniaethau a'u cymhwysiad i chi. Pwysleisir hyn ym mlwyddyn olaf y rhaglen, lle byddwch yn cymryd rhan mewn modiwl craidd i gymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sydd â'r nod o ddatrys problem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn.

Yn ystod y radd, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol, i fagu eich hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â'r Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth.

Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithredu, cyfathrebu, a meddwl yn feirniadol. Byddwch yn ymwybodol o'r heriau moesegol, cymdeithasol ac ieithyddol sy'n wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes, a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.

Maes pwnc: Athroniaeth

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys gradd B mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid i chi hefyd feddu ar gymhwyster Cymraeg Iaith sy'n cyfateb i radd B ar lefel Safon Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol a gradd B mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn. Byddwch yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd mewn athroniaeth ym mhob blwyddyn astudio.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Byddwch yn cymryd 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd yn Gymraeg a 60 credyd mewn addysg.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un ar ddatblygu sgiliau allweddol (ieithyddol, dadansoddol, creadigol ac o ran cyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau iaith
  • Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
  • Yr Iaith Gymraeg heddiw

Bydd modiwlau Athroniaeth yn y Flwyddyn Gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y pwnc ar gyfer modiwlau yr ydych chi’n eu dewis yn ystod blynyddoedd dau a thri.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Meddwl, Meddwl a RealitiSE410120 Credydau
Athroniaeth foesol a gwleidyddolSE410320 Credydau
Meddwl yn feirniadolSE410720 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Astudio LlenyddiaethCY151320 Credydau
Sgiliau IaithCY151520 Credydau
Y Gymraeg HeddiwCY151620 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Athroniaeth.

Ym mlwyddyn dau’r Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd ym mlwyddyn un. Ym mlwyddyn dau, mae elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol.

Ochr yn ochr â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, fel cynllunio iaith, sgriptio a chyfieithu.

Mae eich ail flwyddyn mewn Athroniaeth wedi ei chynllunio i adeiladu ar sylfaen blwyddyn un drwy fodiwlau mwy penodol sy'n darparu sylfaen fwy cadarn mewn meysydd penodol. Nid oes modiwlau gorfodol yn yr ail flwyddyn. Fe'ch anogir i ddilyn diddordebau rydych chi wedi eu datblygu yn y flwyddyn gyntaf, yn ogystal ag ystyried beth fyddech chi'n hoffi ei astudio yn y flwyddyn ganlynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cymraeg ProffesiynolCY221520 Credydau
Dafydd ap Gwilym a'i GyfnodCY229020 Credydau
Llenyddiaeth PlantCY231020 Credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY233020 Credydau
Ysgrifennu CreadigolCY236020 Credydau
Bywydau LlênCY242520 Credydau
TafodieithegCY245020 Credydau
Enwau'r Cymry: Lleoedd, Pobl a PholisiCY246020 Credydau
SosioieithyddiaethCY253020 Credydau
Athroniaeth y MeddwlSE431320 Credydau
Athroniaeth IaithSE435820 Credydau
Athroniaeth Gwleidyddiaeth GyfoesSE436320 Credydau
Dirfodaeth FfrengigSE436920 Credydau
Athroniaeth Foesol ModernSE437320 Credydau
Theori Moesegol CyfoesSE438820 Credydau
EpistemolegSE439820 Credydau
Credoau'r CymrySE440020 Credydau
Beth i'w gredu yn oedran y rhyngrwydSE440720 Credydau
Athroniaeth SeicolegSE442120 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolSE442320 Credydau
EsthetegSE442420 Credydau
Athroniaeth Ffeministiaeth (AUT)SE443620 Credydau
Athroniaeth Ffeministiaeth (SPR)SE443720 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Athroniaeth.

Yn Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Mae gennych ddewis o draethawd neu brosiect 5,000 gair (20 credyd) neu 9,000 gair (40 credyd), i’w gwblhau o dan arweiniad aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu ddarparu arddangosfa effeithiol amdanoch i gyflogwyr posibl. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

Blwyddyn tri mewn Athroniaeth yw ein blwyddyn dan arweiniad ymchwil, lle mae’r modiwlau sydd ar gael yn adlewyrchu gweithgareddau ymchwil presennol y staff sy'n eu dysgu, gan adeiladu ar y themâu a astudiwyd ym mlwyddyn dau. Byddwch yn darllen ac yn meddwl am yr union destunau y mae arweinydd y modiwl yn meddwl ac yn ysgrifennu amdanyn nhw ar hyn o bryd.

Mae cyfle hefyd i wneud gwaith ymchwil annibynnol yn y modiwl traethawd hir.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap Gwilym a'i GyfnodCY329020 Credydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 Credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY333020 Credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 Credydau
Bywydau LlênCY342520 Credydau
TafodieithegCY345020 Credydau
Enwau'r Cymry: Lleoedd, Pobl a PholisiCY346020 Credydau
SosioieithyddiaethCY353020 Credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 Credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Blas ar YmchwilCY390020 Credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 Credydau
Traethawd Hir mewn AthroniaethSE438520 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 Credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 Credydau
Cred ac afresymoldebSE441920 Credydau
Moeseg GwybodSE442220 Credydau
Harddwch a MoesegSE442520 Credydau
Cyfrifoldeb MoesolSE442620 Credydau
Synnwyr o'r posibilrwyddSE442720 Credydau
Paradocsau democratiaethSE443220 Credydau
Ystyr Ystyr trwy dawelwchSE443320 Credydau
Anghyfiawnder esthetigSE443420 Credydau
Sociality OnlineSE443520 Credydau
Rhesymau a ChysylltiadauSE443820 Credydau
Gwleidyddiaeth Amrywiaeth IaithSE443920 Credydau
Emosiynau aflonyddgarSE444020 Credydau
Deddfau Lleferydd Ar-leinSE444120 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Trwy gydol y radd, ein nod yw eich cefnogi i ddod yn feddyliwr annibynnol. Byddwch yn dysgu drwy ystod eang o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd rhyngweithiol, seminarau bywiog yn seiliedig ar drafodaethau, a gweithdai.

Mae’r seminarau a’r gweithdai’n cynnig cyfle gwerthfawr i drin a thrafod prif syniadau a deunydd darllen amryw bynciau. Maen nhw’n gyfle da i ystyried syniadau, cydweithio’n agos â’r darlithwyr a dysgu oddi wrth y myfyrwyr eraill. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr ail iaith). Bydd gennych fynediad i holl ddeunyddiau'r cwrs trwy ein hamgylchedd dysgu electronig.

Yn yr amgylchedd cefnogol hwn, byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi testunau a dadleuon yn ofalus, gwerthuso tystiolaeth, gweithio ar y cyd trwy broblemau, llunio eich dadleuon eich hun, mireinio eich sgiliau iaith, a chyflwyno'ch syniadau'n glir i eraill.   

Sut y caf fy nghefnogi?

Eich prif ffynonellau cymorth yw eich arweinwyr modiwl a'ch Tiwtoriaid Personol.  Bydd gennych un Tiwtor Personol yn y Gymraeg ac un mewn Athroniaeth. Gall Tiwtoriaid Personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol a chewch eich gwahodd i gwrdd â nhw'n rheolaidd trwy gydol eich gradd. Mae arweinwyr eich modiwlau hefyd ar gael yn ystod wythnosau addysgu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau neu asesiadau'r cwrs.

Mae'r Ganolfan Datblygu Ysgrifennu (ar gyfer myfyrwyr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn unig) yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Gallwch gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai, a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi gyda'ch asesiadau.

Mae ein timau Gwasanaethau Proffesiynol yn y Gymraeg ac Athroniaeth yn darparu cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr ac maent yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cefnogi gyda materion ariannol, a darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cydleoli yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol. Bydd llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.

Adborth

Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar eich cynnydd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y cwrs a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn adborth ffurfiannol ar syniadau asesu, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs wedi'i farcio. Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich prosiect ymchwil blwyddyn olaf gan eich goruchwyliwr.

Sut caf fy asesu?

Mae eich asesiadau wedi'u cynllunio i ddatblygu'n gronnol sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol a myfyrio. Gall y rhain gynnwys dadansoddiadau beirniadol o destunau, traethodau, arholiadau, adolygiadau beirniadol, cyflwyniadau, gwaith grŵp ac asesiadau trafod grŵp, ac asesiad myfyriol o'ch sgiliau eich hun. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect athroniaeth cydweithredol mawr sy'n cynnwys ysgrifennu a chyflwyno ar gyfer cynulleidfa broffesiynol, ac yn Gymraeg byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol.

Gall modiwlau dewisol gynnig amrywiaeth ehangach o asesiadau, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus, rhoi sylwadau ar waith celf neu ddarn o gyfryngau, neu aseiniadau creadigol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Deall strwythurau, cyweiriau ac amrywiaethau Cymraeg a'u defnyddio'n hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol, fel y bo'n briodol.
  • Beirniadu datblygiad y Gymraeg a’i llenyddiaeth mewn cyfnodau hanesyddol gwahanol, o gyd-destun ieithyddol, llenyddol a chymdeithasol yn ogystal â dealtwriaeth o’r ymdrechion i adfer a hyrwyddo’r iaith.
  • Dadansoddi'n feirniadol agweddau ar ddiwylliant, llenyddiaeth, hanes a chymdeithas y Gymraeg, gan dynnu ar ystod o ddeunyddiau a dulliau. 
  • Gwerthuso yn feirniadol rai o'r damcaniaethau a dadleuon canolog, a'u cymwysiadau, mewn athroniaeth foesol, gymdeithasol neu wleidyddol.
  • Gwerthuso yn feirniadol rai o'r damcaniaethau a dadleuon canolog, a'u cymwysiadau, mewn epistemoleg, athroniaeth iaith, neu athroniaeth meddwl.
  • Dadansoddi'n feirniadol ddamcaniaethau a dadleuon o ymchwil athronyddol gyfoes, a allai ddod o groestoriad gwahanol feysydd athroniaeth neu o ymchwil ryngddisgyblaethol.
  • Cymhwyso ymchwil athronyddol trwy ddrafftio dogfennau polisi neu strategaeth, neu argymhellion gweithredu, mewn ymateb i broblem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn sydd o bryder cymdeithasol cyfoes.

Sgiliau Deallusol:

  • Dadansoddi’n feirniadol sut y crëir ystyron drwy iaith, a grym affeithiol iaith.
  • Datblygu ymatebion annibynnol ac arloesol i ddeunydd ieithyddol, llenyddol, beirniadol, diwylliannol a chreadigol yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol. 
  • Gwerthuso’n feirniadol destunau, cysyniadau a damcaniaethau sy’n berthnasol i gyd-destun yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, gan ddefnyddio’r eirfa a therminoleg briodol. 
  • Egluro honiadau a dadleuon athronyddol cymhleth ac arbenigol.
  • Llunio dadleuon gwybodus sydd â chefnogaeth dda iddynt.
  • Cymhwyso technegau dadansoddi athronyddol, ieithyddol neu ddiwylliannol i werthuso testunau, honiadau a dadleuon yn feirniadol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Cynhyrchu amrywiaeth o ddeunydd gan ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig a llafar sy'n briodol ar gyfer y gweithle ac a fwriedir ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd. 
  • Cymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn cyd-destun proffesiynol.
  • Defnyddio technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynhyrchu traethawd estynedig neu brosiect ymchwil estynedig dan oruchwyliaeth.
  • Cyfathrebu gwybodaeth gymhleth mewn fformatau gwahanol sy'n briodol i wahanol ddibenion.
  • Cyfrannu mewn modd cydweithredol i drafodaethau grŵp a phrosiectau tîm.
  • Mynegi a gwerthuso eich sgiliau academaidd a phroffesiynol eich hun.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Defnyddio rhaglenni TG perthnasol yn effeithiol, gan gynnwys meddalwedd cyfrwng Cymraeg, i gyflwyno a dadansoddi deunyddiau.
  • Ymateb i broblemau yn greadigol, yn feirniadol ac yn annibynnol.
  • Gweithredu cyfarwyddiadau tasg a rheoli llwyth gwaith yn effeithiol i gwrdd â therfynau amser.
  • Cyflwyno a gweithredu ar adborth adeiladol.

  • Dangos menter, gwydnwch, gallu i addasu a chreadigrwydd, gan fyfyrio'n weithredol ar eich astudiaethau a chyflawniadau eich hun.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn gallu bod yn gymhwyster hynod werthfawr ar gyfer rolau sy’n gofyn am siaradwyr dwyieithog. Mae llawer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd megis y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg ar bob lefel.

Rydym yn darparu profiad academaidd hynod foddhaol i’n myfyrwyr sy'n cynorthwyo eu datblygiad fel dinasyddion sy’n meddwl yn feirniadol ac sy’n ymwybodol yn ddiwylliannol, y mae eu sgiliau dadansoddol uchel, eu pwerau mynegiant a’u hunanddibyniaeth flaengar yn eu gwneud nhw’n hynod o ddeniadol i gyflogwyr.

Lleoliadau

Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa. Rydym hefyd yn eich annog i ymgymryd â lleoliadau oddi ar y campws trwy Dyfodol Myfyrwyr er mwyn gwella eich cyflogadwyedd ymhellach.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 83% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.