Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth ac Ieithyddiaeth (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

cursor

Dilynwch eich diddordebau

Dewiswch o fodiwlau o amrywiaeth o draddodiadau athronyddol, olrhain cysylltiadau â disgyblaethau eraill, ac ymgysylltu â meysydd newydd o ymchwil athronyddol.

notepad

Meddwl dros eich hun

Mynd i'r afael yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd annibynnol a meddwl agored.

star

Llywio'r dyfodol

Cymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sydd â'r nod o ddatrys problemau cymdeithasol yn y byd go iawn.

tick

Cyfathrebu'n effeithiol

Datblygwch sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad o gyflwyno eich syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.

notepad

Datblygu sgiliau ymchwil

Dadansoddi data a chyfleu canfyddiadau i ystod o gynulleidfaoedd.

Sut mae eich iaith yn mynegi pwy ydych chi a phwy ydych chi eisiau bod? Sut mae iaith, yr ymennydd, y corff a'r amgylchedd yn siapio'ch meddyliau a'ch teimladau?  Sut mae nodweddion fel rhyw a hil yn llywio disgwrs a sut y dylid eu hystyried mewn ymholiad damcaniaethol ac wrth wneud penderfyniadau cymdeithasol?

Mae ein gradd BA Athroniaeth ac Ieithyddiaeth yn ymchwilio i gwestiynau pwysig fel y rhain o bob un o’n disgyblaethau ac ar eu croestoriadau. Ein blaenoriaeth yw datblygu eich sgiliau fel meddyliwr yn eich rhinwedd eich hun. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol. 

Yn ystod eich astudiaethau, cewch gyfle i archwilio ystod eang o bynciau a thraddodiadau athronyddol ac ieithyddol. Mewn athroniaeth, byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn athroniaeth foesol, byddwch hefyd yn astudio epistemoleg, athroniaeth meddwl, ac athroniaeth wleidyddol, a chewch gyfle i astudio meysydd fel estheteg, athroniaeth ffeministaidd, a ffenomenoleg. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, gallwch arbenigo yn eich dewis feysydd o astudiaethau athronyddol.

Mewn ieithyddiaeth, byddwch yn datblygu sylfaen mewn agweddau allweddol ar seineg, morffoleg, cystrawen a semanteg yn seiliedig ar ddefnydd o'r Saesneg ac enghreifftiau cymharol o ystod eang o ieithoedd eraill. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i archwilio pynciau amrywiol eraill, megis ieithyddiaeth fforensig, iaith a diwylliant poblogaidd, cyfathrebu proffesiynol a rhyngddiwylliannol, a sosioieithyddiaeth.

Mae llawer o'n modiwlau yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â phroblemau cyfoes sy'n wynebu cymdeithas, gan roi cyswllt clir i chi rhwng theori ac ymarfer. Pwysleisir hyn ym mlwyddyn olaf y rhaglen, lle byddwch yn cymryd dau fodiwl craidd sy'n cysylltu eich astudiaethau â'u cymhwysiadau y tu allan i'r brifysgol. Mewn athroniaeth, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect i gymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sy'n anelu at ddatrys problem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn. Mewn ieithyddiaeth, byddwch yn ennill sgiliau ymchwil empirig allweddol wrth gasglu, dadansoddi a delweddu data ar gyfer lleoliadau proffesiynol a gweithleoedd.

Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu effeithiol a meddwl yn feirniadol. Byddwch yn ymwybodol o'r heriau moesegol a chymdeithasol sy'n wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. Bydd eich hyfforddiant ieithyddiaeth yn sicrhau eich bod yn gwybod sut orau i ddefnyddio iaith a chyfathrebu at wahanol ddibenion mynegiannol a pherswadiol.  O'r fan hon, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i symud ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Maes pwnc: Athroniaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid bod gennych:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn. Byddwch yn cymryd 60 credyd mewn athroniaeth a 60 credyd mewn ieithyddiaeth ym mhob blwyddyn astudio ac eithrio ym Mlwyddyn 1, lle byddwch yn cymryd ugain credyd yn fwy yn un o'ch dau bwnc nag yn y llall.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae'r modiwlau ym mlwyddyn 1 yn eich cyflwyno i'r meysydd allweddol o athroniaeth ac ieithyddiaeth sy'n ymddangos drwy gydol y radd.  Mewn athroniaeth, byddwch yn ystyried testunau clasurol a dadleuon cyfoes am natur moesoldeb, cyfiawnder, natur y meddwl, a chred. Gallwch ddewis a ydych am gymryd modiwlau yn y meysydd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Mewn ieithyddiaeth, mae hyn yn cynnwys cyflwyniadau i seineg, morffoleg, semanteg, cystrawen, pragmateg a disgwrs. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ysgrifennu i safonau academaidd a phroffesiynol, ac ymarfer a datblygu'r sgiliau sy'n hanfodol i'r radd.

Blwyddyn dau

Yn eich ail flwyddyn mewn athroniaeth, byddwch yn cymryd un modiwl craidd mewn athroniaeth iaith ac yn dewis un modiwl neu fwy ym maes athroniaeth foesol a gwleidyddol, sy'n eich paratoi ar gyfer modiwlau yn y flwyddyn olaf sy'n aml yn cyfuno gwahanol feysydd athroniaeth. Gallwch archwilio maes arall o athroniaeth trwy un o'n modiwlau dewisol.

Mewn ieithyddiaeth, byddwch yn dewis dau fodiwl o ddewis o dri sy'n adeiladu ar destunau a gyflwynwyd eisoes yn ystod y flwyddyn gyntaf ac yn datblygu ymhellach y sgiliau y bydd eu hangen arnoch wrth i chi fireinio eich diddordebau ymchwil penodol. Yna byddwch yn dewis trydydd modiwl o blith amrywiaeth o opsiynau megis arddulleg, caffael iaith, a sosioieithyddiaeth.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymarfer ymhellach sgiliau allweddol cyfathrebu, cydweithio, a meddwl yn feirniadol, dod yn fwy annibynnol yn eich astudiaethau, a gallu myfyrio’n well ar eich gwaith eich hun er mwyn cyrraedd eich potensial.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Athroniaeth IaithSE445720 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Athroniaeth FfeministiaethSE445920 Credydau
Athroniaeth SeicolegSE445820 Credydau
Dirfodaeth FfrengigSE445520 Credydau
Athroniaeth Foesol ModernSE445620 Credydau
Credoau'r CymrySE445420 Credydau
EsthetegSE445220 Credydau
Athroniaeth HynafolSE445320 Credydau
Damcaniaethu CyfalafiaethSE444620 Credydau
Epistemoleg GyfoesSE444420 Credydau
Meddyliau, Cyrff, BydoeddSE444520 Credydau
Athroniaeth WleidyddolSE444320 Credydau
Moeseg GyfoesSE444220 Credydau
Caffael Iaith Gyntaf ac Ail IaithSE143320 Credydau
Iaith a RhywSE143120 Credydau
SosioieithyddiaethSE143020 Credydau
Hanes SaesnegSE143220 Credydau
Seiniau LleferyddSE142920 Credydau
Arddull a GenreSE142820 Credydau
Strwythur, Ystyr a SwyddogaethSE142420 Credydau
Geiriau ac ystyrSE142720 Credydau
Llythrennedd Digidol ac IaithSE138920 Credydau
DrafodaethSE138720 Credydau

Blwyddyn tri

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cael eich trwytho yn niwylliant ymchwil athroniaeth ac ieithyddiaeth ac yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o sut y gall ymchwil athronyddol ac ieithyddol gyfredol effeithio ar y byd.

Yn y modiwl craidd Athroniaeth ar Waith, byddwch yn darganfod y cyfraniad gwerthfawr y gall sgiliau athronyddol a gwybodaeth athronyddol ei wneud mewn ystod o sefydliadau a rolau proffesiynol. Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu sut i gymhwyso ymchwil athronyddol a wneir ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Caerdydd i gynhyrchu argymhellion polisi ymarferol mewn ymateb i broblem ddiriaethol gyfoes yn y byd go iawn.

Yn y modiwl craidd Gweithio gyda Data Ieithyddol, byddwch yn ystyried y ffordd orau o gategoreiddio, dadansoddi a chyflwyno data i gynulleidfaoedd cyhoeddus a phroffesiynol.

Mewn modiwlau dewisol, byddwch yn ymgysylltu ymhellach â'r ymchwil ddiweddaraf yn ein meysydd arbenigedd. Mae'r modiwlau hyn yn aml yn integreiddio gwahanol feysydd o athroniaeth ac ieithyddiaeth a astudiwyd yn gynharach yn y radd, ac yn aml yn canolbwyntio ar broblemau o bryder cymdeithasol cyfoes. Bydd gennych hefyd yr opsiwn i wneud traethawd hir naill ai mewn Athroniaeth neu Ieithyddiaeth.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Drwy gydol y radd, ein nod yw eich cefnogi i ddod yn feddyliwr annibynnol, creadigol a beirniadol.

Mae addysgu'r flwyddyn gyntaf yn darparu cymorth wedi'i strwythuro'n ofalus trwy ddarlithoedd a thrafodaethau seminar i'ch helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a magu hyder. Erbyn y flwyddyn olaf byddwch yn dysgu trwy ddarllen annibynnol dan arweiniad a gweithdai a seminarau rhyngweithiol llai, gan drafod ymchwil newydd gydag academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n gweithio yn y maes hwnnw ar hyn o bryd. Bydd gennych fynediad i holl ddeunyddiau'r cwrs trwy ein hamgylchedd dysgu electronig.

Yn yr amgylchedd cefnogol hwn byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi testunau a dadleuon yn drylwyr, gweithio ar y cyd trwy broblemau, llunio eich dadleuon eich hun, a chyflwyno'ch syniadau'n glir i eraill.   

Sut y caf fy nghefnogi?

Eich prif ffynonellau cymorth mewn athroniaeth yw eich arweinwyr modiwl a'ch Tiwtor Personol. Bydd gennych un Tiwtor Personol mewn athroniaeth ac un mewn ieithyddiaeth. Mae gan eich arweinwyr modiwl sesiynau galw heibio yn ystod wythnosau addysgu y gallwch eu mynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu asesiadau. Gall Tiwtoriaid Personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd, a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol. Fe'ch gwahoddir i gwrdd â'ch Tiwtor Personol yn rheolaidd trwy gydol y radd, ac maent ar gael ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Bydd myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael cynnig tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg.

Mae'r Ganolfan Datblygu Ysgrifennu (ar gyfer myfyrwyr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn unig) yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Gallwch gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai, a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi gyda'ch asesiadau.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol yn darparu cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr ac mae yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cefnogi gyda materion ariannol, a darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cydleoli yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol. Bydd llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.

Adborth

Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar eich cynnydd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y cwrs a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn sylwadau ffurfiannol ar syniadau traethawd, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs wedi'i farcio. Os byddwch yn dilyn y modiwl Traethawd Hir, byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich prosiect gan eich goruchwyliwr.

Sut caf fy asesu?

Mae eich asesiadau wedi'u cynllunio i ddatblygu'n gronnol sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol a myfyrio. Mae’r asesiadau hyn yn cynnwys dadansoddiadau beirniadol o destunau, traethodau, asesiadau trafodaeth grŵp, tasgau wythnosol, tasgau dadansoddol, ac asesiad myfyriol o’ch sgiliau eich hun. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol mawr sy'n cynnwys ysgrifennu a chyflwyno ar gyfer cynulleidfa broffesiynol. Gall modiwlau dewisol gynnig amrywiaeth ehangach o asesiadau, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus, neu roi sylwadau ar waith celf neu ddarn cyfryngol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Gwerthuso yn feirniadol rai o'r damcaniaethau a dadleuon canolog, a'u cymwysiadau, mewn athroniaeth foesol, gymdeithasol neu wleidyddol.
  • Gwerthuso yn feirniadol rai o'r damcaniaethau a dadleuon canolog, a'u cymwysiadau, mewn epistemoleg, athroniaeth iaith, neu athroniaeth meddwl.
  • Dadansoddi'n feirniadol ddamcaniaethau a dadleuon o waith ieithyddol ac athronyddol cyfoes, a all ddod o groestoriad gwahanol feysydd o'r disgyblaethau hyn neu o ymchwil ryngddisgyblaethol.
  • Cymhwyso ymchwil athronyddol i gynhyrchu polisi neu strategaeth, neu argymell gweithredoedd, mewn ymateb i broblemau moesegol neu gymdeithasol y byd go iawn neu broblemau cymdeithasol cyfoes eraill.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o feysydd craidd iaith Saesneg ac ieithyddiaeth, gan gynnwys seineg, gramadeg, semanteg, pragmateg, a disgwrs.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o sut mae iaith yn gweithio yn y byd cymdeithasol.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o'r cydadwaith rhwng dadansoddiad o ddata ieithyddol a ffynonellau beirniadol a damcaniaethol.

Sgiliau Deallusol:

  • Egluro honiadau a dadleuon athronyddol ac ieithyddol cymhleth ac arbenigol.
  • Llunio dadleuon sy'n cefnogi honiad mewn ymateb i gwestiynau athronyddol ac ieithyddol.
  • Cymhwyso technegau safonol dadansoddi athronyddol i werthuso honiadau a dadleuon athronyddol yn feirniadol.
  • Cymhwyso terminoleg ddisgrifiadol sy'n berthnasol i’r iaith Saesneg a ffenomenau ieithyddol.
  • Dadansoddi gwahanol fathau o ddata ieithyddol.
  • Gwerthuso effaith defnydd iaith mewn ystod o gyd-destunau.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth mewn fformatau gwahanol sy'n briodol i wahanol ddibenion.
  • Cyfrannu mewn modd cydweithredol at drafodaethau a phrosiectau tîm.
  • Mynegi a gwerthuso eich sgiliau athronyddol a phroffesiynol eich hun.
  • Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o wahanol gonfensiynau ysgrifennu ac offer ysgrifennu, a'r gallu i'w defnyddio a'u haddasu'n llwyddiannus ar gyfer gwahanol fathau o asesu.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Ymateb i broblemau yn greadigol, yn feirniadol ac yn annibynnol.
  • Gweithredu cyfarwyddiadau tasg a rheoli llwyth gwaith yn effeithiol i gwrdd â therfynau amser.
  • Cyflwyno a gweithredu ar adborth adeiladol.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae graddedigion y rhaglen hon yn meddu ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy a meysydd gwybodaeth y mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Mae’r rhain yn cynnwys y gallu i ddadansoddi problemau cymhleth yn annibynnol a nodi atebion ymarferol ac arloesol, i weithio’n effeithiol gydag eraill ar brosiectau mawr, i gyfathrebu’n effeithiol â gwahanol gynulleidfaoedd, ac i ddefnyddio myfyrio ac adborth i ddatblygu eich sgiliau ymhellach. Byddwch hefyd yn caffael sylfaen wybodaeth eang a fydd yn eich galluogi i ddeall ac ymateb i ystod o broblemau moesegol neu gymdeithasol cyfoes. Yn ystod eich gradd, byddwch yn ennill profiad o rolau ymchwil, polisi a strategaeth proffesiynol trwy weithio ar brosiect polisi cydweithredol mawr, a deall sut i weithio gyda data a'i gyflwyno i gynulleidfaoedd cyhoeddus a phroffesiynol. Mae'r gwaith a wnewch yn y modiwlau hyn yn dangos i gyflogwyr sut y gall eich gwybodaeth a'ch sgiliau fod o werth enfawr yn y gweithle.

Mae gwasanaethau a chynlluniau'r Brifysgol hefyd ar gael i chi, gan ddarparu ffyrdd ychwanegol o gynyddu eich sgiliau proffesiynol a'ch hyder. Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu eich cyflogadwyedd ymhellach, ac mae Dyfodol Myfyrwyr (Student Futures) wrth law i roi cyngor a chymorth gyrfaol i gael lleoliadau sy'n benodol i'ch gradd. Gallwch hefyd fanteisio ar raglenni fel Ieithoedd i Bawb a Chymraeg i Bawb i wella eich sgiliau iaith, a chael chymorth gan y tîm Menter a Dechrau Busnes i’ch helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.

Oherwydd dyfnder ac ehangder eu sgiliau a’u gwybodaeth, mae ein graddedigion i’w cael mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, sefydliadau elusennol, busnesau bach, cwmnïau ymgynghori ac ysgolion a cholegau. Maent yn gweithio ym maes newyddiaduraeth, y gyfraith, addysgu, cyllid, marchnata, adnoddau dynol, cysylltiadau cyhoeddus a llawer o broffesiynau eraill.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.