Cerddoriaeth gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (BMus)
- Maes pwnc: Cerddoriaeth
- Côd UCAS: G85D
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor
Pam astudio'r cwrs hwn
Yr offeryn o’ch dewis
Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.
Canolbwyntiwch ar eich doniau
Ewch ati i wneud cyfansoddiad a/neu ddatganiad fel prosiect mawr, cyfle a gynigir i fyfyrwyr ar lwybr BMus yn unig.
Treuliwch flwyddyn dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd.
Interniaethau yn y diwydiant cerddoriaeth
Cysylltwch â cherddorion drwy weithdai cyfansoddi; dosbarthiadau meistr perfformio, a chyfresi o gyngherddau.
Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth
Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.
Y rhaglen hon yw’r dewis delfrydol os hoffech ganolbwyntio ar gerddoriaeth yn unig. Bydd yn eich galluogi i arbenigo a datblygu eich diddordebau a’ch cryfderau cerddorol eich hun wrth gaffael addysg gadarn, eang mewn theori a dadansoddi cerddoriaeth, astudiaethau cyfansoddi a pherfformio, hanes a diwylliant cerddoriaeth, ethnogerddoleg, cynhyrchu stiwdio a busnes cerddoriaeth (gan gynnwys cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith).
Mae ein rhaglen Cerddoriaeth BMus yn cynnig yr astudiaeth fwyaf trylwyr, gan ganiatáu i chi dreulio'ch holl amser yn arbenigo mewn cerddoriaeth. Ceir modiwlau craidd a dewisol ym mlwyddyn 1 i roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer adeiladu eich astudiaethau academaidd yn y dyfodol. Cewch hefyd y cyfle arbennig i wneud modiwl prosiect mawr y Datganiad ym mlwyddyn 3 (sy’n cyfateb i Draethodau Hir mewn pynciau eraill). Mae amrywiad o hwn ar gael fel mân brosiect yn unig ar ein rhaglenni BA.
Yn ogystal ag astudio ystod o fodiwlau academaidd, byddwch hefyd yn cael eich annog i fanteisio'n llawn ar ein ensembles craidd a arweinir gan yr ysgol, sy’n cynrychioli ystod eang o draddodiadau a repertoires cerddorol, megis yr Ensemble Jazz, Chwyth Symffonig, Cerddorfa Symffoni, Ensemble Gamelan, Côr Siambr, Cerddorfa Siambr, Lanyi (Ensemble Gorllewin Affrica), Corws Symffoni a'r Gydweithfa Bop.
Byddwch yn treulio’r drydedd flwyddyn o’r cwrs pedair blynedd hwn yn astudio dramor, gan ddilyn modiwlau mewn cerddoriaeth a phynciau eraill os ydynt ar gael. Yn y brifysgol sy’n eich croesawu, byddwch yn dysgu gwahanol safbwyntiau a dulliau gwahanol o fynd ati i astudio cerddoriaeth. Byddwch yn cwblhau eich astudiaethau yng Nghaerdydd yn y bedwaredd flwyddyn.
Maes pwnc: Cerddoriaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Rhaid cynnwys Cerddoriaeth.
Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (megis Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cerddoriaeth HL.
Bydd ymgeiswyr heb HL Cerddoriath yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (megis Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Cerddoriaeth.
Bydd ymgeiswyr heb BTEC mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (megis Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn eich gwahodd i un o bum diwrnod clyweliad a chyfweliad, a gynhelir rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror.
Yn y clyweliad
Cynhelir clyweliadau gan aelodau staff. Byddwn yn gofyn i chi ganu neu berfformio ar eich prif offeryn am tua phum munud. Chi sydd i ddewis eich repertoire, a byddwn yn seilio ein hasesiad o'ch perfformiad ar safonau mynegiannol a thechnegol cyffredinol.
Bydd cyfweliad byr yn dilyn lle y gallwn eich holi am y gerddoriaeth a berfformiwyd gennych, eich diddordebau cerddorol a'ch profiad. Nid profi eich gwybodaeth ffeithiol na barnu eich hoff a'ch cas bethau fydd y nod; diben ein cyfweliadau yw yn ein galluogi i ddod i'ch adnabod yn well a rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a dangos i ni beth sydd o ddiddordeb i chi.
Mae penderfyniad terfynol y tiwtor derbyn yn seiliedig ar adroddiad y cyfweliad a'r cais UCAS.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,385 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £3,555 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.
Mae ein rhaglenni israddedig yn caniatáu i chi arbenigo a datblygu eich diddordebau cerddorol eich hun.
Gradd pedair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae pob blwyddyn yng Nghaerdydd yn cael ei rhannu'n semester yr hydref a semester y gwanwyn ac mae ganddi strwythur modiwlaidd. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yng Nghaerdydd yn werth 10 neu 20 credyd. Gan ddibynnu ar ble rydych chi'n treulio'ch blwyddyn dramor, gall strwythur y semestrau a'r modiwlau fod yn wahanol ym Mlwyddyn 3 y rhaglen.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae’r flwyddyn gyntaf yn gosod y sylfeini i’ch paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch.
Rydym yn credu'n gryf y bydd sylfaen gadarn mewn theori a dadansoddi cerddoriaeth yn eich galluogi i fynd i'r afael â llawer o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â phob modiwl arall ar raglen BMus. Felly, mae'n rhaid i fyfyrwyr BMus gymryd y modiwl craidd gofynnol Elfennau o Theori Donyddol, sy’n flwyddyn o hyd. Mae gennym hefyd ystod o fodiwlau craidd dewisol ym mlwyddyn 1 lle bydd yn rhaid i chi ddewis o leiaf un o'r modiwlau tair blynedd canlynol: Ysgrifennu am Gerddoriaeth, Astudiaethau Achos mewn Hanes Cerddoriaeth neu Gerddoriaeth fel Diwylliant.
Bydd astudio o leiaf un o’r rhain o gymorth mawr i chi o ran ymwybyddiaeth hanesyddol ac arddull o genres a thraddodiadau cerddorol (Gorllewinol ac Anorllewinol, Cerddoriaeth Boblogaidd, Jazz a Ffilm, yn ogystal â Theatr Gerdd) a datblygu gallu i ysgrifennu a siarad yn hyderus, yn rhugl ac yn feirniadol am gerddoriaeth.
Cynigir modiwlau ddewisol eraill mewn cyfansoddi (offerynnau unigol ac ensembles bach), sgiliau cerddorol ymarferol (perfformiad unigol), portffolio ymarferol (ensembles, arwain, hyfforddiant clyw), a thechnegau mewn jazz a cherddoriaeth boblogaidd.
I ategu eich astudiaethau academaidd, fe'ch anogir yn weithredol i ymuno â'r ensembles craidd a arweinir gan y brifysgol os byddwch yn dewis peidio â'u cymryd yn ffurfiol fel modiwlau academaidd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Elfennau o Theori Tonal | MU1311 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyfansoddiad 1A | MU1113 | 20 Credydau |
Technegau mewn Cerddoriaeth Jazz a Phoblogaidd | MU1201 | 20 Credydau |
Cyfansoddiad 1B | MU1213 | 20 Credydau |
Ysgrifennu am Gerddoriaeth | MU1312 | 20 Credydau |
Cerddoriaeth fel Diwylliant | MU1320 | 20 Credydau |
Astudiaethau Achos mewn Hanes Cerddoriaeth | MU1321 | 20 Credydau |
Portffolio Ymarferol I | MU1322 | 20 Credydau |
Cerddor Ymarferol 1 | MU1325 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym mlwyddyn 2 cewch gyfle i atgyfnerthu eich cryfderau ochr yn ochr â pharhau â’ch gweithgareddau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan ddewis eich modiwlau o dri o leiaf o'r pedwar grŵp:
- Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol
- Cyfansoddi a Chynhyrchu
- Sgiliau Cerddorol Ymarferol
- Cerddoleg a Lleoliad
Mae ein modiwlau blwyddyn 2 ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o'r proffesiwn cerddoriaeth yn well a rhoi cyfle am leoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau, yn semestr y gwanwyn.
Ym mlwyddyn 2, cewch eich cyflwyno'n helaeth i addysgu a arweinir gan ymchwil.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
From Palaces to Proms: A History of Performance Practices (1700-1890) | MU2124 | 20 Credydau |
Cerddoriaeth 1 | MU2141 | 20 Credydau |
Cyfansoddiad 2A | MU2142 | 20 Credydau |
Swyddogaethau Ffurfiol yn y Traddodiad Clasurol | MU2157 | 20 Credydau |
Cerddorfa | MU2161 | 20 Credydau |
Darllen Sain Ffilm | MU2181 | 20 Credydau |
Cerddoriaeth yn Ffrainc ers 1900 | MU2212 | 20 Credydau |
Cyfansoddiad 2B | MU2233 | 20 Credydau |
Technegau Stiwdio 1 | MU2235 | 20 Credydau |
Ethnogerddoleg 2: Cerddoriaeth mewn Persbectif Traws-Ddiwylliannol | MU2271 | 20 Credydau |
Cerddoriaeth 2 | MU2272 | 20 Credydau |
Dadansoddi Cerddoriaeth yr 20fed Ganrif | MU2291 | 20 Credydau |
Portffolio Ymarferol 2 | MU2301 | 20 Credydau |
Cerddor Ymarferol 2 | MU2361 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Bydd y flwyddyn ymsang yn flwyddyn annibynnol, lle mae myfyrwyr yn dilyn, mewn prifysgol bartner, modiwlau sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'n wahanol i'r rhai yn eu rhaglen radd yng Nghaerdydd. Bydd y cwricwlwm dramor yn cyfateb i 120 yn union o gredydau yng Mhrifysgol Caerdydd, a chaiff ei asesu’n unol â’r normal yn y brifysgol bartner honno.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Astudio Dramor | MU2400 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Byddwch yn dewis eto o blith o leiaf dri o'r pedwar grŵp pwnc (a amlinellwyd o dan flwyddyn 2), ac yn cael cyfle i astudio hyd at ddau o'r pum prif fodiwl prosiect: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoleg, Prosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth, Cyfansoddi 3 (Portffolio Cyfansoddi) a'r modiwl Datganiad cyhoeddus, sydd ar gael i fyfyrwyr BMus yn unig.
Mae modiwlau blwyddyn 4 yn parhau i ganolbwyntio ar addysgu a arweinir gan ymchwil.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ensemble | MU3138 | 20 Credydau |
Genedigaeth Moderniaeth | MU3165 | 20 Credydau |
Jazz, Diwylliant a Gwleidyddiaeth | MU3171 | 20 Credydau |
Technegau Stiwdio 2 | MU3176 | 20 Credydau |
Beethoven: Arddull, Ffurf a Diwylliant | MU3217 | 20 Credydau |
Wagner ac Opera Rhamantaidd | MU3275 | 20 Credydau |
Portffolio Ymarferol 3 | MU3301 | 20 Credydau |
Cerddor Ymarferol 3 | MU3302 | 20 Credydau |
Cyfansoddiad 3 | MU3353 | 40 Credydau |
Datganiad | MU3356 | 40 Credydau |
Prosiect Ysgrifenedig Estynedig | MU3359 | 40 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Cewch eich addysgu gan staff academaidd gydag arbenigedd ar draws cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoreg a cherddoriaeth boblogaidd.
Mae eich hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, os ydych chi'n astudio modiwl Sgiliau Cerddorol Ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn cynyddu i 24 gwers awr o hyd yn y flwyddyn olaf, ar gyfer myfyrwyr BMus cymryd y modiwl datganiad.
Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion ac astudio annibynnol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.
Ar gyfer prosiectau’r flwyddyn olaf, byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Ar gyfer y Flwyddyn Astudio dramor, bydd Cydlynydd Rhyngwladol yr Ysgol yn rhoi arweiniad i chi cyn, yn ystod ac ar ôl eich lleoliad gwaith. Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion partner yn cynnig rhaglen ymsefydlu gynhwysfawr, gyda sesiwn groeso wedi'i threfnu ar gyfer dechrau'r flwyddyn. O ran prifysgolion yn Ewrop, os oes angen hyfforddiant ychwanegol arnoch yn iaith frodorol y sefydliad, fe'ch anogir i ymrestru mewn dosbarthiadau sy'n addas i lefel eich gallu.
Sut caf fy asesu?
Methods of assessment vary from module to module and may include essay assignments, presentations, extended projects, performances, and written exams. For the Year of Study Abroad you will be assessed according to the norms established at the partner university
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:
- llythrennedd datblygedig
- llythrennedd cyfrifiadurol
- sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer)
- sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
- ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
- creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli, yn rhan annatod o weithgareddau cerddorol ymarferol
- nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
Yn rhan o'r Flwyddyn Astudio Dramor, byddwch yn caffael:
- sgiliau iaith
- y gallu i drafod gwahaniaethau diwylliannol
- y gallu i addasu i arferion sefydliadol newydd
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Yn 2016/17, dywedodd 100% o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2016/17).
Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.
Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfa gyda’r BBC, Cynghorau Celfyddydau, Glyndebourne Opera, Opera Cenedlaethol Lloegr, prifysgolion, Oxford University Press, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r London Symphony Orchestra, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau diwydiannol, masnachol, addysgol ac elusennol eraill.
Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'n modiwlau fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.
Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli’r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.
Lleoliadau
Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.