Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth ac Iaith Fodern (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

briefcase

Canolbwyntio ar gyflogadwyedd

Dewis opsiwn o leoliad gwaith sy'n dwyn credydau ac ennill profiad proffesiynol.

screen

Profiad deinamig

Dysgwch gan siaradwyr brodorol ac unigolion sydd i bob pwrpas yn siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o weithgareddau addysgu a dysgu.

academic-school

Gweithgareddau allgyrsiol

Bydd rhaglen fywiog yn eich helpu i ddysgu’r iaith a mwynhau ei diwylliant trwy ddosbarthiadau sgwrsio gyda myfyrwyr cyfnewid, caffis iaith a chymdeithasau iaith i fyfyrwyr.

globe

Y byd yw'ch ystafell ddosbarth

Treulio’ch trydedd flwyddyn yng ngwledydd yr iaith (ieithoedd) a ddewisoch chi.

submission

Datblygiad cerddorol

Opsiynau ar gyfer hyfforddiant offerynnol (neu leisiol) a ariennir yn llawn ar eich prif offeryn astudio.

Mae ein rhaglen BA Cerddoriaeth ac Iaith Fodern yn radd 4 blynedd, gan gyfuno sgiliau iaith, creadigol ac ymarferol, a fydd yn agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. 

Ein nod ar draws yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Ysgol Ieithoedd Modern yw i chi ddod yn 'ddinesydd byd-eang' sy'n meddwl yn feirniadol, yn deall amrywiaeth ddiwylliannol ac sydd â chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy. 

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn astudiaethau cerddorol creadigol ac ymarferol. 

Ar ochr ieithoedd y rhaglen, gallwch ddewis astudio un o'r ieithoedd wahanol rydym yn eu cynnig. Ymhlith rhain mae Tsieinëeg, Ffrangeg neu Sbaeneg.

Rydym yn cynnal 2 lwybr iaith. Bydd y rhai sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn iaith fodern yn dilyn llwybr Elfennol Uchaf. Mae'r rhai sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am iaith fodern yn cymryd ein llwybr Elfennol.

Byddwch yn archwilio’r iaith rydych chi’n ei hastudio a’i chyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol o safbwynt byd-eang. Trwy amryw adnoddau a deunyddiau dysgu ieithoedd ynghyd â gweithgareddau dysgu i fyfyrwyr, byddwch chi’n meithrin medrau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfryngu.

Mae dinas Caerdydd yn gartref i'r celfyddydau, ac yn lleoliad gwych ar gyfer astudio cerddoriaeth. Mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol (Opera Cenedlaethol Cymru) a hefyd gerddorfa symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i'n myfyrwyr fynd i ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhatach ar gyfer cyngherddau. Mae Caerdydd hefyd yn gartref i amrywiaeth o leoliadau cerddoriaeth a pherfformio a chymuned greadigol fywiog.

Yn ogystal ag astudio ystod o fodiwlau academaidd, byddwch hefyd yn cael eich annog i fanteisio'n llawn ar ein ensembles craidd a arweinir gan yr ysgol, sy’n cynrychioli ystod eang o draddodiadau a repertoires cerddorol, megis yr Ensemble Jazz, Chwyth Symffonig, Cerddorfa Symffoni, Ensemble Gamelan, Côr Siambr, Cerddorfa Siambr, Lanyi (Ensemble Gorllewin Affrica), Corws Symffoni a'r Gydweithfa Bop. 

Rhan annatod o’r rhaglen hon yw’r cyfle i dreulio amser dramor, gan fyw a gweithio yn niwylliant yr ieithoedd rydych chi’n eu hastudio.  Cewch chi naill ai astudio mewn prifysgol sy’n bartner inni neu fwrw tymor mewn swydd ym mhob semester.

Mae'n bwysig cofio bod astudio ieithoedd yn ymwneud â mwy na’r iaith ei hun, mae’n ymwneud ag astudio’r iaith, ei diwylliant a’i chymdeithas. Fel myfyriwr Cerddoriaeth ac Iaith Fodern (BA), fe welwch fod materion a safbwyntiau ategol yn aml yn cysylltu'r pynciau hyn. 

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Maes pwnc: Cerddoriaeth

  • academic-schoolYr Ysgol Cerddoriaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4392
  • Marker31 Heol Corbett, Cathays, Caerdydd, CF10 3EB

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

ABB-BBB. Rhaid cynnwys cerddoriaeth. Os oes gennych radd B mewn iaith Safon Uwch bydd gennych fynediad at lwybr Elfennol Uwch yr ieithoedd.

Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (megis Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Lle na ellir pennu lefelau sgiliau gan gymwysterau amgen, efallai y cewch eich gwahodd i glyweliad.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 pwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cerddoriaeth HL. Os oes gennych radd 6 mewn iaith HL, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid i chi fod wedi neu weithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- gradd 8 Cerddoriaeth Yn ymarferol mewn offeryn neu lais.

Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DM mewn Diploma BTEC mewn Celfyddydau, Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol a gradd B mewn Cerddoriaeth Safon Uwch. Os oes gennych radd B mewn iaith Safon Uwch ar y cyd â'r BTEC neu yn ychwanegol ato, bydd gennych fynediad i lwybr Elfennol Uwch yr ieithoedd.

Lefel T

Bydd Derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon yn cael ei ystyried fesul achos gan yr Ysgol Academaidd. Rhoddir ystyriaeth i'r gradd/pwnc Lefel T a graddau/pynciau a gyflawnwyd ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo sylfaenol deunydd at eich defnydd eich hun. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sy’n bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis prynu geiriaduron dwyieithog personol heb eu talfyrru a’r cyfeirlyfrau gramadeg.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen radd 4 blynedd ac mae wedi'i strwythuro i'ch galluogi i ddatblygu a chymwyseddau iaith a cherddorol i ddod yn feddyliwr beirniadol dyfeisgar, annibynnol, amlieithog, sy'n barod ar gyfer cyflogaeth broffesiynol.

Ym mhob blwyddyn, byddwch chi’n astudio ar gyfer 120 o gredydau. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu'n gweithio mewn gwlad lle siaredir eich iaith ddewisol. 

Mae sawl modiwl yn rhagofyniad ar gyfer astudio pynciau tebyg ar lefelau uwch mewn blynyddoedd diweddarach, felly fe'ch cynghorir i ystyried yr ystod gyfan o fodiwlau wrth ddewis modiwlau ar y dechrau i wneud yn siŵr eich bod am ddilyn 'llwybr' o'ch dewis. Er enghraifft, mewn cerddoriaeth, er mwyn cwblhau'r modiwl portffolio cyfansoddi prosiect mawr ym mlwyddyn 3, mae’n rhaid i chi gwblhau'r holl fodiwlau ‘cyfansoddi’ hanfodol ym mlynyddoedd 1 a 2 yn llwyddiannus. Mae modiwlau mewn cerddoriaeth wedi'u cynllunio'n benodol i'ch cefnogi a sicrhau bod gennych ddigon o dechnegau, sgiliau a phrofiad er mwyn llwyddo ar y rhaglen.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae blwyddyn 1 wedi'i threfnu i roi i chi’r medrau a'r wybodaeth hanfodol a fydd yn sylfaen i’ch astudio. Mae cyfuno cerddoriaeth gyda'ch dewis iaith yn eich galluogi i brofi mwy nag un maes astudio ac i ddatblygu'r hyblygrwydd a'r cymhwysedd rhyngddiwylliannol y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdano. Byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau cerdd a 60 credyd o fodiwlau iaith a diwylliannol.

Ar ochr yr ieithoedd, byddwch yn astudio un iaith dramor fodern ar naill ai lefel elfennol neu lefel elfennol uchaf. Bydd blwyddyn gyntaf y rhaglen yn gosod sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i fyfyrwyr llwybr y dechreuwyr, ac yn meithrin medrau ieithyddol i fyfyrwyr ar y llwybr Elfennol Uchaf. Yn ogystal â'ch gwersi iaith, byddwch yn astudio modiwl diwylliannol-hanesyddol ar gyfer eich dewis iaith.

Mewn cerddoriaeth, cynigir modiwlau cwbl ddewisol mewn theori a dadansoddi cerddoriaeth, cyfansoddi (offerynnau unigol ac ensembles bach), cerddoroldeb ymarferol (perfformiad unigol), portffolio ymarferol (ensembles, arwain, hyfforddiant clywedol), a thechnegau mewn jazz a cherddoriaeth boblogaidd. Mae yna hefyd driawd o fodiwlau a fydd yn rhoi cymorth mawr ei angen i chi o ran ymwybyddiaeth hanesyddol ac arddull o genres a thraddodiadau cerddorol (Gorllewinol ac Anorllewinol, Cerddoriaeth Boblogaidd, Jazz a Ffilm, yn ogystal â Theatr Gerdd) a datblygu gallu i ysgrifennu a siarad yn hyderus, yn rhugl ac yn feirniadol am gerddoriaeth.

I ategu eich astudiaethau academaidd, eir ati i’ch annog i ymuno â'r ensembles craidd a arweinir gan yr Ysgol os byddwch yn dewis peidio â'u cymryd yn ffurfiol fel modiwlau academaidd.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn astudio dau fodiwl 30 credyd mewn ieithoedd modern a thri modiwl 20 credyd mewn cerddoriaeth.

Mae elfennau iaith blwyddyn 2 yn adeiladu ar waith y flwyddyn gyntaf. Byddwch wedi datblygu o lefel modiwlau iaith blwyddyn 1, a dylech weld sut mae eich galluoedd ieithyddol, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a'ch hyder cyffredinol fel defnyddiwr iaith yn parhau i dyfu. Byddwch chi’n mireinio’ch medrau ieithyddol trwy astudio modiwl iaith ar lefel Ganolradd neu Ganolradd uchaf. Mae'r modiwl hwn yn eich paratoi ar gyfer eich amser dramor ym mlwyddyn 3.

Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 credyd yn edrych ar ddiwylliannau, cymdeithasau a hanesion eich dewis iaith o safbwynt byd-eang. Byddwch chi’n gwybod rhagor am ddylanwad diwylliannau eraill a datblygiadau a digwyddiadau ehangach ar y rhanbarthau ieithyddol a daearyddol hynny.

Bydd modd meithrin rhagor o fedrau ieithyddol a phroffesiynol trwy ddewis astudio modiwl busnes neu gyfieithu ynghylch un o'ch ieithoedd.

Ym mlwyddyn 2 cerddoriaeth, cewch gyfle i atgyfnerthu eich cryfderau ochr yn ochr â pharhau â’ch gweithgareddau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan ddewis eich modiwlau o dri o leiaf o'r pedwar grŵp:

  • Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol
  • Cyfansoddi a Chynhyrchu
  • Sgiliau Cerddorol Ymarferol
  • Cerddoleg a Lleoliad

Mae modiwlau blwyddyn 2 ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall canghennau gwahanol o'r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle am leoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau, yn semester y gwanwyn.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (MFL), dan gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae mentoriaid wedi’u hyfforddi i ysbrydoli ac ysgogi disgyblion ysgolion uwchradd a’u helpu i ystyried eu sefyllfa a’u rôl yn ein byd amlieithog ac amlddiwylliannol.

At hynny, bydd cyfle i hyrwyddo dysgu ieithoedd trwy ymuno â Chynllun y Llysgenhadon o Fyfyrwyr Ieithoedd. Ar ôl hyfforddiant, gall llysgenhadon ieithoedd siarad yn gyhoeddus am eu profiad o ddysgu ieithoedd a medrau cyfieithu. Gallai fod cyfle ichi gymryd rhan mewn amryw weithgareddau megis sesiynau cyflwyno ieithoedd a chyfieithu, helpu ysgolion i hyrwyddo ieithoedd ar eu safleoedd

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Byddwch chi’n treulio’r drydedd flwyddyn mewn gwlad arall lle y bydd cyfle i fireinio medrau ieithyddol, dod i adnabod y diwylliant yn well a datblygu’n gymeriad annibynnol, dyfeisgar a gwydn. Bydd astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf gan feithrin hyder ac aeddfedrwydd mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Byddwch yn treulio blwyddyn academaidd lawn yng ngwlad yr iaith rydych yn ei hastudio.

Mae tair ffordd o dreulio blwyddyn dramor.

  1. Rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy'n cynnig cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd yn Awstria, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Mecsico, Periw, Portiwgal, Sbaen, a'r Swistir.
  2. Addysgu - mae modd bwrw tymor yn gynorthwywr addysgu mewn cynllun o dan nawdd y Cyngor Prydeinig lle y gallech chi weithio yn un o ddinasoedd neu drefi amrywiaeth helaeth o wledydd. Mae’r dewis hwnnw’n cynnig profiad addysgu uniongyrchol gan eich galluogi i ennill cyflog digonol, er mai dim ond yn rhan-amser y byddwch chi’n gweithio. Cyn dechrau yn y cynllun, bydd y Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad ddewisoch chi. Ar ben hynny, dylai’r ysgol lle y byddwch chi’n gweithio eich helpu i gyflawni rôl athro a dod o hyd i lety.
  3. Lleoliad gwaith - byddwch yn ymgymryd â lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni ym myd yr iaith fodern. Cewch chi drefnu hynny trwy bobl rydych chi’n eu hadnabod neu gysylltu â’r sefydliadau yn uniongyrchol. Gall yr ysgol hysbysebu swyddi o’r fath, hefyd. I ofalu y bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ddewisoch chi yno a chael profiad buddiol, bydd angen sêl bendith yr ysgol ar drefniadau o’r fath.

Beth bynnag ddewiswch chi, bydd blwyddyn dramor yn gyfle gwych i ddeall rhagor am yr iaith, cydio mewn diwylliant arall a chael profiad o weithio neu astudio’n rhyngwladol.

Rhaid i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n ddinasyddion o’r wlad lle y byddan nhw’n gweithio neu’n astudio gael teitheb i wneud hynny. Does dim rheolaeth na dylanwad gyda ni ar brosesau ofyn am deitheb ond byddwn ni’n eich helpu i lunio’ch cais a pharatoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Blwyddyn pedwar

Wrth i ni eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch chi’n mireinio’ch medrau ieithyddol, meddwl beirniadol ac ymchwil ymhellach.

Byddwch yn astudio un modiwl iaith Uwch 30 credyd, un modiwl dewisol 30 credyd o ochr iaith eich gradd yn ogystal â 60 credyd o'r Ysgol Cerddoriaeth.

Byddwch yn gallu ehangu eich sylfaen sgiliau a'ch gorwelion trwy fodiwlau diwylliannol-hanesyddol dewisol a thrwy gyfoeth o opsiynau allgyrsiol. Gall modiwlau dewisol y flwyddyn olaf amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond, ar y cyfan, byddan nhw’n cynnwys amryw bynciau a themâu cyfoes sy’n berthnasol i un iaith neu wedi’u cyflwyno mewn fframwaith cymharol, trawswladol. Gall themâu a phynciau'r flwyddyn olaf gynnwys llenyddiaeth, ffilmiau a’r diwylliant gweledol, hanes, gwladychiaeth ac astudiaethau rhyw.

Mewn cerddoriaeth, gallwch ddewis o leiaf 3 o'r 4 grŵp pwnc a chael cyfle i astudio un o'r 4 modiwl prosiect mawr: traethawd hir, prosiect mewn Ethnogerddoleg, prosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth, a Chyfansoddi 3 (Portffolio Cyfansoddi). Ceir hefyd gyfle i gymryd mân brosiect mewn perfformio (Sgiliau Cerddoriaeth Ymarferol) gwerth 20 credyd.

Cewch y cyfle i ysgrifennu traethawd hir lle y byddwch chi’n llunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis, o dan oruchwyliaeth un o'r staff academaidd.

Ar ben hynny, gallech chi gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn lle y byddwch chi’n treulio cyfnod mewn ysgol leol sy’n bartner inni.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sbaeneg UwchML037030 Credydau
Tsieinëeg Mandarin UwchML138030 Credydau
Ffrangeg UwchML637130 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Sbaeneg (yn Sbaeneg)ML036030 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Sbaeneg (yn Gymraeg/Saesneg)ML036130 Credydau
Rhyfel y Falklands yn Diwylliant yr ArianninML036530 Credydau
Chwyldroadwyr a chenedlaetholwyr yn SbaenML036830 Credydau
Tsieinëeg arbenigolML137130 Credydau
Diwylliannau Sinophone: Hong Kong, Taiwan a Diasporas TsieineaiddML137230 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf Tsieinëeg (yn Saesneg/Cymraeg)ML137330 Credydau
Diwylliant, Protest Wleidyddol ac Anghydffurfiaeth yn y 1960au ML336030 Credydau
Sinema Ewropeaidd: Meddwl y Real of FictionML336230 Credydau
Modiwl Addysgu MyfyrwyrML336330 Credydau
Naratifau Byd-eang o Wladychiaeth, Caethwasiaeth a'u Cymynroddion ML336530 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Ffrangeg (yn Ffrangeg)ML636130 Credydau
Yr avant-garde Ffrengig: O Gelf i ChwyldroML637030 Credydau
Menywod mewn Cerddoriaeth y 19eg GanrifMU311720 Credydau
Traddodiad Heriol: Gwrthbwynt o Bartok i BartschMU312020 Credydau
EnsembleMU313820 Credydau
Jazz, Diwylliant a GwleidyddiaethMU317120 Credydau
Technegau Stiwdio 2MU317620 Credydau
Opera Eidalaidd o'r bedwaredd ganrif ar bymthegMU321420 Credydau
Beethoven: Arddull, Ffurf a DiwylliantMU321720 Credydau
From Parchment to Print: A History of Performance Practices (1550-1700)MU321820 Credydau
Portffolio Ymarferol 3MU330120 Credydau
Cerddor Ymarferol 3MU330220 Credydau
Traethawd hirMU335140 Credydau
Cyfansoddiad 3MU335340 Credydau
Prosiect yn EthnomusicologyMU335840 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n defnyddio amryw ddulliau addysgu megis darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau iaith a gweithdai. 

Mae cynnwys darlithoedd yn cyfleu trosolwg o brif gysyniadau a fframweithiau pwnc, gan roi'r medrau a fydd yn eich galluogi i gynnal ymchwil yn annibynnol ar gyfer y seminarau, datblygu’ch syniadau eich hun a’u rhoi nhw ar waith. Gallem gyflwyno’r deunyddiau hynny’n bersonol neu ar ffurf ddigidol fel y bydd modd eu hastudio wrth eich pwysau.

Mae seminarau’n ddosbarthiadau rhyngweithiol sy'n cynnwys grŵp bychan o fyfyrwyr ac aelod o dîm addysgu'r modiwl. Gall ffurf y seminarau amrywio megis trafodaeth gan y grŵp i gyd, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau o dan adain myfyrwyr. Mae seminarau’n cynnig awyrgylch egnïol lle y gallwch chi gnoi cil ar syniadau a dadleuon sydd wedi’u cyflwyno yn y darlithoedd.

Mae’n ffordd o ddysgu iaith yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol a chyfranogiad ystyrlon myfyrwyr. Bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu'r cymwyseddau a medrau iaith allweddol yn rheolaidd. Mae dosbarthiadau wedi'u trefnu i ehangu’ch hyfedredd ieithyddol a gwella'ch hyder a'ch medrau cyfathrebu mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.

Yn yr Ysgol Cerddoriaeth, cewch eich addysgu gan staff academaidd sydd ag arbenigedd ar draws cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg, a cherddoriaeth boblogaidd. Mae eich hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr ysgol ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, os ydych chi'n astudio modiwl Sgiliau Cerddorol Ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.

Mae paratoi ar gyfer dosbarth ac astudio’n annibynnol yn rhan bwysig o'ch dysgu. Rhwng dosbarthiadau, byddwch chi’n paratoi deunydd, tystiolaeth a dadleuon, ac yn cwblhau tasgau iaith yn unigol neu mewn grwpiau. 

Sut y caf fy nghefnogi?

Tiwtor personol fydd yn eich arwain trwy’ch astudiaethau, gan eich cynghori ar faterion academaidd. Eich tiwtor personol fydd y ddolen gyswllt bob amser ynghylch unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar eich astudiaethau. Byddwch chi’n cyfarfod â’ch tiwtor personol ddwywaith yn ystod pob blwyddyn academaidd ond dyma’ch annog chi i gysylltu â’ch tiwtor unrhyw bryd os oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi. Bydd pob aelod o staff academaidd ar gael i gwrdd â myfyrwyr yn ôl oriau penodol.  

Yn ystod eich blwyddyn astudio neu weithio dramor, aseinir Cydlynydd Blwyddyn Tramor i chi a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd.

Mae gan bob modiwl le neilltuedig yng Nghyfleuster Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, lle y byddwn ni’n eich tywys trwy weithgareddau’r wythnos a’r tasgau y bydd angen eu cwblhau. Bydd yno ddeunyddiau ac adnoddau dysgu megis recordiadau o ddarlithoedd, tasgau ac adnoddau iaith a dolenni ag adnoddau digidol gan gynnwys deunyddiau’r llyfrgelloedd ar ffurf electronig. 

Mae staff y Gwasanaethau Proffesiynol ar gael yng nghanolfan yr israddedigion i ateb eich cwestiynau.  

Mae gan yr Ysgol Ieithoedd Modern Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr pwrpasol sy’n gallu’ch cynghori a’ch llywio yn ôl yr angen mewn awyrgylch cefnogol, gofalgar a chyfrinachol. 

Mae Gwasanaethau Bywyd y Myfyrwyr, yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn cynnig ystod o wasanaethau. Mae’r gwasanaethau cymorth hynny’n cynnwys: Cynghori ar arian, dyfodol myfyrwyr, cwnsela, iechyd a lles, mentora, medrau astudio academaidd, Gwasanaeth Anableddau’r Myfyrwyr a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Diben yr asesu yw eich helpu i hel syniadau, meithrin medrau a datblygu galluoedd. Mae pwyslais ar fod yn arloesol ac yn greadigol gan feddwl yn feirniadol am y testunau a’r diwylliannau a welwch chi a chyflwyno dadleuon yn ôl tystiolaeth trwy’r Saesneg a’r ieithoedd rydych chi’n eu hastudio fel ei gilydd. 

Byddwch chi’n astudio blociau adeiladu iaith hefyd, gan gynnwys patrymau a strwythurau gramadegol a geiriadurol. Byddwn ni’n asesu’r medrau hynny yn rheolaidd yn ystod modiwlau iaith sy’n adlewyrchu natur gynyddol a chronnus dysgu iaith.

Ar draws y ddwy raglen, rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (megis traethodau, arholiadau, cwisiau, arholiadau llafar, cyflwyniadau, perfformiadau cerddoriaeth a thraethawd hir) yn ogystal â ffurfiau mwy arloesol o asesu, (creu blogiau fideo, podlediadau, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios a chyflwyniadau posteri). 

Rhoddir adborth ysgrifenedig am waith ar ôl ei asesu i’ch helpu i wella ar gyfer yr asesiadau nesaf, a bydd cyfleoedd i chi drafod yr adborth gyda’ch tiwtoriaid. At hynny, bydd amryw ymarferion megis posau, cyflwyniadau, traethodau a phrosiectau. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi adborth ffurfiannol i wella’ch dysgu a’ch deall cyn sefyll yr asesiadau crynodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

KU1 Siarad, ysgrifennu, a deall iaith dramor fodern i safon gradd.  

KU2 Deall strwythurau, cyweiriau ac amrywiaethau'r iaith rydych chi’n ei dysgu a'u defnyddio mewn modd hyblyg ac effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol fel y bo'n briodol.

KU3 Dadansoddi’n feirniadol agweddau ar ddiwylliannau, hanesion a chymdeithasau y gwledydd y siaredir eich iaith ynddynt trwy amryw ddeunyddiau a dulliau. 

KU4 Dangos faint rydych chi’n ei wybod ac yn ei ddeall ynghylch pa mor debyg neu annhebyg yw diwylliannau a chymdeithasau eraill.

Deall a gwybod perthynas gwahanol ddiwylliannau â’i gilydd yn fanwl fel y gallwch chi lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un.

KU5 Dangos lefel sylweddol o wybodaeth arbenigol, creadigrwydd, sgil a dealltwriaeth mewn un neu fwy o'r canlynol: perfformio, cyfansoddi, ethnogerddoleg, dadansoddi cerddoriaeth, cerddoleg hanesyddol/beirniadol.

KU6 Rhoi tystiolaeth o ymwybyddiaeth o is-ddisgyblaethau cyfansoddol cerddoriaeth a dangos cymhwysedd gweithio mewn mwy nag un o’r rhain yn ychwanegol at eich arbenigedd(au) dewisol.

KU7 Dangos ymwybyddiaeth eang o ystod o arddulliau a thechnegau cerddorol, trwy berfformiad, cyfansoddiad pastiche, dadansoddiad a/neu sylwebaeth feirniadol o gerddoriaeth.

Sgiliau Deallusol:

IS1 Cyfathrebu mewn modd eglur, cryno ac effeithiol â chynulleidfaoedd amryfal ar bapur ac ar lafar yn Saesneg ac mewn iaith dramor fodern.

IS2 Defnyddio amryw strategaethau i ddidoli a dadansoddi gwybodaeth.

IS3 Dod i gasgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan eu cyfiawnhau trwy resymu’n gadarn a dehongli deunydd gwreiddiol yn fanwl.

IS4 Gwerthuso syniadau a dadleuon yn feirniadol trwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amryw fedrau ar bapur ac ar lafar. 

IS5 Defnyddio technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i drefnu a llunio neu gyflwyno testunau academaidd (traethodau, cyflwyniadau, testunau clyweledol) yn ôl tystiolaeth a’r confensiynau cyfeirnodi cywir.

IS6 Dangos ymwybyddiaeth o'r cyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol y mae cerddoriaeth yn cael ei chreu ynddynt.

IS7 Meddwl yn ddadansoddol ac yn fyfyriol am gerddoriaeth, gan nodi patrymau ffurfiol, hanesyddol a diwylliannol sylweddol yn y ffordd y caiff ei pherfformio, ei chyfansoddi neu ei defnyddio.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

PS1 Defnyddio cyfryngau digidol yn effeithiol ar gyfer dod o hyd i wybodaeth, cyfathrebu a dysgu. 

PS2 Defnyddio medrau ieithyddol uwch mewn swydd broffesiynol. 

PS3 Nodi a disgrifio problemau a gweithio ar y cyd i'w datrys.

PS4 Dangos gwytnwch, gallu i addasu ac annibyniaeth trwy dreulio amser yn niwylliant iaith dramor fodern.

PS5 Gweithio'n agos gyda cherddorion eraill i baratoi perfformiad ensemble neu brosiectau cydweithredol eraill.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

KS1 Defnyddio medrau meddwl yn feirniadol a rhesymu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a syniadau amrywiol. 

KS2 Defnyddio medrau ymchwil ymarferol. 

KS3 Creu syniadau gwreiddiol a defnyddio dull creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau.   

KS4 Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol a derbyn ei negeseuon.

KS5 Bod yn ddyfeisgar ac ysgwyddo cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch datblygu proffesiynol eich hun.

KS6 Defnyddio amryw fedrau cyflogadwyedd a menter megis creadigrwydd, mentro, trefnu, rheoli amser, gweithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm.

KS7 Ymddwyn fel dinesydd byd-eang gan gydio mewn gwahaniaethau diwylliannol a’u gwerthfawrogi trwy brofiad o wledydd eraill.  

KS8 Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Rydyn ni wedi ymroi i’ch helpu i wireddu’ch uchelgeisiau proffesiynol trwy roi i chi’r medrau, y chwilfrydedd a’r hyder i adael eich ôl mewn marchnad swyddi gystadleuol. Ni waeth a ydych chi’n gwybod beth yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu beidio, mae digon o adnoddau a chymorth gyda ni i’ch arwain.

Mae lleoliadau a phrofiad gwaith yn gyfleoedd gwych i wella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfaol, a gallan nhw’ch helpu i ddod i benderfyniadau ynglŷn â’ch gyrfa yn y dyfodol. Mae'r rhaglen BA Cerddoriaeth ac Iaith Fodern yn cynnwys dysgu ar leoliad fel elfen annatod o'ch rhaglen radd.

Bob tymor, rydym hefyd yn hysbysebu Interniaethau ar y Campws, sef cyfleoedd gwyliau haf i fyfyrwyr weithio o dan oruchwyliaeth ar arloesi addysg, gwasanaethau proffesiynol, a phrosiectau ymchwil wedi'u diffinio gan staff. Mae'r cyfleoedd hyn â thâl yn ddelfrydol ar gyfer datblygu sgiliau ymarferol a phroffesiynol allweddol. Er bod modiwlau Busnes Cerddoriaeth yr Ysgol Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau'r proffesiwn cerddoriaeth yn well a rhoi cyfle i ymgymryd â lleoliad byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'n gysylltiedig â'r celfyddydau.

Mae’n graddedigion yn ffynnu ym marchnad y swyddi. Mae eu graddau yn eu harwain at ystod amrywiol a chyffrous o yrfaoedd ym meysydd cyllid, rolau cyswllt rhyngwladol ym maes chwaraeon, ymgynghoriaeth busnes, addysg, iechyd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, y gyfraith ac addysgu, ymhlith meysydd eraill.

Bydd llawer o raddedigion yn mwynhau’r flwyddyn dramor gymaint eu bod yn neilltuo amser i deithio rhagor neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am swydd.  Ymhlith y rhai sy'n dewis byw yn y deyrnas hon, bydd llawer yn astudio ar gyfer gradd uwch a bydd eraill yn dechrau gweithio. Mae graddedigion yn mynd ymlaen i sicrhau gyrfaoedd rhagorol, mae graddedigion wedi mynd ymlaen i yrfaoedd mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu a busnes neu gyda cherddorfeydd proffesiynol, sefydliadau treftadaeth ac amgueddfeydd, sefydliadau celfyddydol, elusennau a chyhoeddwyr.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.