Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth a Llenyddiaeth Saesneg (BA)


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

structure

Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth

Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.

certificate

Yr offeryn o’ch dewis

Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

book

Dysgu gan y gorau

Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion ac awduron llenyddol byd-enwog.

Mae ein rhaglen Cerddoriaeth a Llenyddiaeth Saesneg (BA) yn cyfuno astudiaethau mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a diwylliant gyda datblygiad sgiliau creadigol ac ymarferol a fydd yn agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.

Yn ystod eich amser gyda ni, byddwn yn meithrin eich meddwl beirniadol a chreadigol, yn annog eich dealltwriaeth a'ch gwerthfawrogiad o amrywiaeth, yn eich galluogi i gyfathrebu i safon uchel, ac yn meithrin eich gwydnwch a'ch annibyniaeth. Byddwch hefyd yn ennill cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac a fydd yn cefnogi eich uchelgeisiau proffesiynol.

Mae ein rhaglen radd ddeinamig a hyblyg yn eich galluogi i astudio llenyddiaeth Saesneg o wahanol gyfnodau a diwylliannau, ac ar draws yr ystod o brif genres llenyddol. Ni chewch eich cyfyngu i astudio'r gair printiedig: mae'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, hanes, technoleg, iaith, a bywyd bob dydd wedi ein swyno, ac mae ein haddysgu'n adlewyrchu'r diddordebau hyn. Byddwch yn dysgu sut mae llenyddiaeth yn mynd i'r afael â phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd gyda'r nod o greu byd gwell, mwy cynhwysol a datblygu atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol y blaned.

Bydd eich astudiaethau cerddoriaeth yn cynnwys ystod o fodiwlau academaidd a fydd yn datblygu eich dealltwriaeth o theori cerddoriaeth ac yn sicrhau eich bod yn gallu asesu arddulliau a thechnegau yn feirniadol ac yn fyfyriol. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cael eich annog i fanteisio’n llawn ar ein hensembles, sy’n cynrychioli ystod eang o repertoires a thraddodiadau cerddorol, megis yr Ensemble Jazz, Offerynnau Chwyth Symffonig, Cerddorfa Symffoni, Ensemble Gamelan, Côr Siambr, Cerddorfa Siambr, Lanyi (Ensemble Gorllewin Affrica), Corws Symffoni a’r Pop Collective. 

Byddwch hefyd yn elwa o'n cartref ym mhrifddinas Cymru. Mae Caerdydd yn ganolbwynt creadigol a diwylliannol, gyda threftadaeth artistig a llenyddol gyfoethog ac amrywiol. Mae’r ddinas yn gartref i gwmni opera proffesiynol, Opera Cenedlaethol Cymru, a cherddorfa symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y mae gennym berthynas hirsefydlog a ffrwythlon â hi. Trwy'r perthnasoedd hyn, gall ein myfyrwyr fynychu ymarferion gwisg a phrynu tocynnau pris gostyngol ar gyfer cyngherddau. Ochr yn ochr â grwpiau proffesiynol, mae Caerdydd yn gartref i amrywiaeth o leoliadau cerddoriaeth a pherfformio gyda chymunedau angerddol a chroesawgar.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Maes pwnc: Cerddoriaeth

  • academic-schoolYr Ysgol Cerddoriaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4392
  • Marker31 Heol Corbett, Cathays, Caerdydd, CF10 3EB

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'w rhain gynnwys gradd 6 mewn Llenyddiaeth a Cherddoriaeth Saesneg Lefel Uwch.

Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn Cerddoriaeth, a gradd A mewn Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch neu Iaith a Llenyddiaeth Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol neu gymhwyster cyfatebol.

Bydd ymgeiswyr heb BTEC mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.

Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 o gredydau astudio ym mhob blwyddyn.

Mae sawl modiwl yn rhagofyniad ar gyfer astudio pynciau tebyg ar lefelau uwch mewn blynyddoedd diweddarach, felly fe'ch cynghorir (a’ch cefnogir) i ystyried yr ystod gyfan o fodiwlau wrth ddewis modiwlau ar y dechrau i wneud yn siŵr eich bod yn gallu dilyn ‘llwybr’ o'ch dewis i’w ddiwedd. Er enghraifft, mewn cerddoriaeth, i gwblhau’r modiwl portffolio cyfansoddi prosiect mawr, rhaid i chi gwblhau’r holl fodiwlau cyfansoddi rhagofynnol ym mlynyddoedd 1 a 2 yn llwyddiannus. Mae modiwlau mewn cerddoriaeth wedi'u cynllunio'n benodol i'ch cefnogi a sicrhau bod gennych ddigon o dechnegau, sgiliau a phrofiad er mwyn llwyddo ar y rhaglen. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd Cerddoriaeth.

Mae blwyddyn gyntaf y radd mewn Cerddoriaeth yn gosod y sylfeini i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Cynigir hyfforddiant creiddiol i chi mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol. Mae pob myfyriwr BA yn cael rhwydd hynt i ddewis o'r pynciau hyn, os ydynt r gael.

Sylwer bod rhai modiwlau Cerddoriaeth yn 'rhagofynion' sy'n rhoi paratoad hanfodol ar gyfer modiwlau mwy datblygedig os ydych chi’n dymuno eu dilyn mewn blynyddoedd diweddarach.

I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.

Ar y rhaglen Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd.

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd Cerddoriaeth.

O ran Cerddoriaeth, mae cyrsiau yn fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: Cyfansoddi ac Astudiaethau Electroacwstig, Dawn Gerddorol Ysgrifenedig ac Ymarferol, Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol, ac Astudiaethau Hanesyddol.

Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

O ran Llenyddiaeth Saesneg, cewch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau sy’n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema, a byddwch chi’n darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
From Palaces to Proms: A History of Performance Practices (1700-1890)MU212420 Credydau
Cerddoriaeth 1MU214120 Credydau
Cyfansoddiad 2AMU214220 Credydau
Swyddogaethau Ffurfiol yn y Traddodiad ClasurolMU215720 Credydau
CerddorfaMU216120 Credydau
Darllen Sain FfilmMU218120 Credydau
Cerddoriaeth yn Ffrainc ers 1900MU221220 Credydau
Cyfansoddiad 2BMU223320 Credydau
Technegau Stiwdio 1MU223520 Credydau
Ethnogerddoleg 2: Cerddoriaeth mewn Persbectif Traws-DdiwylliannolMU227120 Credydau
Cerddoriaeth 2MU227220 Credydau
Dadansoddi Cerddoriaeth yr 20fed GanrifMU229120 Credydau
Portffolio Ymarferol 2MU230120 Credydau
Cerddor Ymarferol 2MU236120 Credydau
Arddull a GenreSE141620 Credydau
Llenyddiaeth Arthuraidd ganoloesolSE229520 Credydau
Moderniaeth FictionsSE244520 Credydau
Llenyddiaeth Plant: Ffurf a SwyddogaethSE244720 Credydau
Cyflwyniad i Farddoniaeth RhamantaiddSE245020 Credydau
Llenyddiaeth Affricanaidd-AmericanaiddSE245120 Credydau
Teithiau Dychmygol: Mwy i HuxleySE245720 Credydau
Moderniaeth a'r DdinasSE246320 Credydau
Ffuglen Gothig: Yr Oes RhamantaiddSE246820 Credydau
Llenorion Merched yr 17eg a'r 18fed GanrifSE247620 Credydau
GenethodSE248220 Credydau
Merched Gwrthrych mewn Llenyddiaeth a FfilmSE249420 Credydau
Epig a SagaSE249620 Credydau
Beirdd Rhamantaidd yr Ail GenhedlaethSE258220 Credydau
Ffuglen Gothig: Y FictoriaidSE258920 Credydau
Ffuglen Brydeinig GyfoesSE261920 Credydau
Athroniaeth a LlenyddiaethSE262320 Credydau
Teyrnasoedd ShakespeareSE263220 Credydau
Byd Fictorianaidd: Chwyldro, Clefydau, GwyliadwriaethSE263620 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd Cerddoriaeth.

O ran Cerddoriaeth, fe fyddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, a gallwch fynd ar drywydd un o'r tri phrosiect academaidd o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth.

Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'agored' o flaen arholwyr a chynulleidfa a wahoddir (Dawn Gerddorol Ymarferol IV).

Erbyn trydedd flwyddyn y cwrs Llenyddiaeth Saesneg, byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Felly byddwch mewn sefyllfa ardderchog i ddewis rhwng amrywiaeth mwy arbenigol o fodiwlau fydd yn eich galluogi i ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai nad ydych chi’n gyfarwydd â nhw.

Mae’r dewis yn y naill bwnc i ysgrifennu traethawd hir yn rhoi’r cyfle i chi ddewis pwnc sy'n tynnu ar y ddwy ddisgyblaeth, os ydych chi’n dymuno.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
EnsembleMU313820 Credydau
Genedigaeth ModerniaethMU316520 Credydau
Jazz, Diwylliant a GwleidyddiaethMU317120 Credydau
Technegau Stiwdio 2MU317620 Credydau
Beethoven: Arddull, Ffurf a DiwylliantMU321720 Credydau
Wagner ac Opera RhamantaiddMU327520 Credydau
Portffolio Ymarferol 3MU330120 Credydau
Cerddor Ymarferol 3MU330220 Credydau
Cyfansoddiad 3MU335340 Credydau
Prosiect Ysgrifenedig EstynedigMU335940 Credydau
Y Llyfr DarluniadolSE239520 Credydau
Traethawd hirSE252420 Credydau
Rhyw a Monstrosedd: Hwyr/Neo FictoraiddSE256420 Credydau
Ysgrifennu Caethwasiaeth CaribïaiddSE256820 Credydau
Utopia: Pleidlais i CyberpunkSE258120 Credydau
Theori Ôl-drefedigaetholSE259320 Credydau
Masculinities milwrol yn y 19eg ganrif hirSE259720 Credydau
Romance Canoloesol: Monsters a MagicSE259920 Credydau
Barddoniaeth Americanaidd ar ôl ModerniaethSE260620 Credydau
John MiltonSE260820 Credydau
Y Stori Fer AmericanaiddSE260920 Credydau
Apocalypse ddoe a nawrSE261120 Credydau
Cynrychioli Ras yn America GyfoesSE261620 Credydau
Drama Modern Cynnar ArbrofolSE262020 Credydau
Delwedd, Diwylliant a ThechnolegSE262420 Credydau
Barddoniaeth Actifydd: Protest, Anghydffurfiaeth, GwrthwynebiadSE262720 Credydau
Drama Wleidyddol Brydeinig GyfoesSE262820 Credydau
Gweledigaeth y Dyfodol: Newid Hinsawdd a FfuglenSE263020 Credydau
Cyfarfod ag olew mewn llenyddiaeth a ffilmSE263120 Credydau
Cylchoedd Rhamantaidd: Cydweithredu, Radicaliaeth a Chreadigrwydd 1770-1830SE263320 Credydau
Camwisgoedd canoloesolSE263420 Credydau
Shakespeare yn torri PrydainSE263720 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Bydd eich astudiaethau cerddoriaeth yn cael eu harwain a’u llywio gan arbenigedd ein staff academaidd ar draws meysydd cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg, a cherddoriaeth boblogaidd. Os ydych yn dilyn modiwl Cerddoriaeth Ymarferol, caiff hyfforddiant offerynnol ei ariannu'n llawn ar eich prif offeryn astudio. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn. 

Gan ddefnyddio dull a arweinir gan ymchwil, bydd addysgu llenyddiaeth Saesneg yn eich cefnogi i ddod yn annibynnol, yn greadigol ac yn feirniadol yn eich ymatebion i lenyddiaeth a ffurfiau eraill ar ddiwylliant, megis ffilm, celf a ffotograffiaeth. Mae addysgu blwyddyn gyntaf yn darparu sylfaen gyda darlithoedd wedi'u strwythuro'n ofalus a thrafodaethau seminar i'ch helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a magu hyder wrth i chi ddod o hyd i'ch traed yn y brifysgol. Mae’r addysgu ym Mlwyddyn 2 a’r flwyddyn olaf yn seiliedig ar ddarlithoedd a seminarau ac yn symud yn raddol i gyfeiriad arbenigo ac ymchwil annibynnol wrth i chi ddatblygu fel darllenydd a beirniad. Yn yr amgylchedd cefnogol hwn, byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi testunau a dadleuon yn drylwyr, gweithio ar y cyd trwy broblemau, llunio eich dadleuon eich hun, a chyflwyno'ch syniadau'n glir i eraill. Drwy gydol y rhaglen, ond yn enwedig ym modiwl craidd y flwyddyn olaf, byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu a chydweithio y gallwch eu trosglwyddo i fyd cyflogaeth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Eich prif ffynonellau cymorth yw eich arweinwyr modiwl a'ch Tiwtoriaid Personol (un ar gyfer pob disgyblaeth). Mae eich arweinwyr modiwl hefyd yn cael sesiynau oriau swyddfa wythnosol yn ystod wythnosau addysgu y gallwch eu mynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu asesiadau.

 

Gall Tiwtoriaid Personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd, a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol. Fe'ch gwahoddir i gwrdd â'ch Tiwtor Personol yn rheolaidd trwy gydol y radd, ac maent ar gael ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg.

 

Mae'r Ganolfan Datblygu Ysgrifennu (a leolir yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth) yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Gallwch gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai, a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi gyda'ch asesiadau.

 

Mae ein timau Gwasanaethau Proffesiynol yn darparu cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr ac maent yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cefnogi gyda materion ariannol, a darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Lleolir y gwasanaethau hyn yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol. Bydd llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.

Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich cynnydd wrth i chi symud drwy'r radd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y cwrs a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn sylwadau ffurfiannol ar syniadau traethawd a gwaith drafft, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs wedi'i farcio. Os byddwch yn dewis ysgrifennu traethawd hir yn y flwyddyn olaf (nid yw hyn yn orfodol), byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich prosiect gan eich goruchwyliwr.

Sut caf fy asesu?

Cynllunnir asesiadau yn gynyddol i ddatblygu sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol, a myfyrio.  

Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, arholiadau, cwisiau, arholiadau llafar, trafodaethau grŵp, asesiadau myfyriol, darnau barn, cyflwyniadau, perfformiadau cerddoriaeth a thraethawd hir) yn ogystal â ffurfiau asesu mwy arloesol (creu blogiau fideo, podlediadau, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios a chyflwyniadau poster).  

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect llenyddiaeth Saesneg cydweithredol sy'n cynnwys cyfleu eich canfyddiadau i gynulleidfa anarbenigol.

Rhoddir adborth ysgrifenedig am waith ar ôl ei asesu i’ch helpu i wella ar gyfer yr asesiadau nesaf, a bydd cyfleoedd i chi drafod yr adborth gyda’ch tiwtoriaid. At hynny, bydd amryw ymarferion megis posau, cyflwyniadau, traethodau a phrosiectau. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi adborth ffurfiannol i wella’ch dysgu a’ch deall cyn sefyll yr asesiadau crynodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Deall yn systematig lenyddiaeth o wahanol ddiwylliannau a chyfnodau (gan gynnwys cyn 1800) a’r ystod o brif genres llenyddol ar draws rhyddiaith, barddoniaeth a drama.
  • Deall yn systematig y berthynas rhwng llenyddiaeth a ffurfiau diwylliannol eraill a dadansoddi sut mae diwylliant, iaith, technoleg ac economeg yn effeithio ar gynhyrchu a derbyn testunau.
  • Gwybod amrywiaeth o arddulliau a thechnegau cerddorol, trwy berfformio, cyfansoddi pastiche, dadansoddi a/neu sylwebaeth feirniadol o gerddoriaeth.
  • Dangos lefel sylweddol o wybodaeth arbenigol, creadigrwydd, sgìl a dealltwriaeth mewn un neu fwy o'r canlynol: perfformio cerddoriaeth, cyfansoddi, ethnogerddoleg, dadansoddi cerddoriaeth, cerddoleg hanesyddol/feirniadol.
  • Rhoi tystiolaeth o ymwybyddiaeth o is-ddisgyblaethau cyfansoddol cerddoriaeth a dangos cymhwysedd mewn hanfodion mwy nag un o’r rhain yn ychwanegol at eich arbenigedd(au) dewisol. 

Sgiliau Deallusol:

  • Archwilio gwahanol fathau o ddeunyddiau llenyddol a cherddorol yn fanwl ac yn feirniadol.
  • Cyfathrebu dehongliadau annibynnol ac arloesol yn gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig ar gyfer cynulleidfaoedd arbenigol neu anarbenigol.
  • Datblygu a chymhwyso dadleuon sy’n ymateb yn greadigol i ffynonellau llenyddol a cherddorol.
  • Cyfleu ymwybyddiaeth o'r cyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol y gwneir cerddoriaeth ynddynt.
  • Meddwl yn ddadansoddol ac yn fyfyriol am gerddoriaeth, gan nodi patrymau ffurfiol, hanesyddol a diwylliannol sylweddol yn y ffordd y caiff ei pherfformio, ei chyfansoddi neu ei defnyddio. 

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Casglu a gwerthuso gwybodaeth gymhleth a thystiolaeth amrywiol yn systematig gyda chywirdeb.
  • Cyfathrebu'n berswadiol, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol neu anarbenigol, gan ddefnyddio technegau ysgrifenedig neu lafar.
  • Asesu a datrys problemau yn feirniadol yn annibynnol, gan ystyried barn pobl eraill.
  • Datblygu perthynas waith agos gyda cherddorion eraill wrth baratoi perfformiadau ensemble neu brosiectau cydweithredol eraill. 

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Egluro gwybodaeth a syniadau yn glir ac yn broffesiynol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu gyd-destunau anghyfarwydd neu fyd ehangach.
  • Arddangos mentergarwch drwy gymryd cyfrifoldeb am strwythuro a rheoli amser tasg ymchwil, gan weithio mewn timau pan fo'n briodol.
  • Datblygu perthynas waith gadarnhaol ac effeithiol ag eraill mewn timau, yn enwedig trwy ddeialog ac adborth adeiladol a chydweithredol.
  • Datblygu sgiliau arwain a hunanreoli.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.

Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli’r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.

Lleoliadau

Mae modiwlau Blwyddyn 2 ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.