Hanes Modern a Gwleidyddiaeth (BA)
- Meysydd pwnc: Hanes a hanes yr henfyd, Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
- Côd UCAS: LV21
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol
Manteisiwch ar gysylltiadau â senedd San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.
Astudiwch Brydain a thu hwnt
Dysgwch am wleidyddiaeth ym Mhrydain a thu hwnt, a’r dylanwad sydd gan sefydliadau rhyngwladol.
Perthnasedd byd-eang
Modiwlau sy'n berthnasol i faterion byd-eang, o anghydraddoldeb cymdeithasol a pherthyn i gymuned i'r amgylchedd a chynhwysiant.
Safbwyntiau amrywiol
Byddwch yn archwilio hanes a gwleidyddiaeth cymdeithasau mewn rhannau amrywiol o’r byd, gan gynnwys Ewrop, Tsieina, India a Rwsia.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
yddwch yn meithrin sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy amrywiaeth o gyfleoedd i ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid eraill.
Ar y radd gydanrhydedd hon, byddwch yn rhannu eich astudiaethau’n gyfartal rhwng y ddwy ddisgyblaeth hon sy’n cyd-fynd â’i gilydd. Byddwch yn elwa ar amrywiaeth hael o fodiwlau dewisol ar y themâu hanesyddol a gwleidyddol sy’n ganolog i ddeall bywyd cyhoeddus yn y byd modern.
Mae’r modiwlau mewn Hanes yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol o strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymdeithasau’r gorffennol. Mae ein harbenigedd yn cyrraedd ehangder rhyfeddol o gymdeithasau, cyfnodau a lleoliadau, yn rhychwantu Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia a Chyfandiroedd America. Mae ein modiwlau’n rhoi cyfle i chi astudio meysydd sydd wedi hen ennill eu plwyf, fel hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a rhywedd, neu archwilio meysydd a allai fod yn newydd i chi, fel hanes amgylcheddol neu hanes digidol.
Mae Gwleidyddiaeth yn eich galluogi i archwilio'r modd y mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu ac yn gwerthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd, yn ogystal â chynnwys cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle i chi archwilio'r modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a thu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i'r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang i chi o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi.
Drwy ein gradd, byddwch yn datblygu sgiliau sy’n fanteisiol yn ein hoes ddigidol: creadigrwydd, empathi, meddwl beirniadol, sgiliau cyfathrebu darbwyllol a'r gallu i herio a chwestiynu.
Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.
PTE Academic
O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.
Trinity ISE II/III
II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai testunau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo at eich defnydd chi. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn ddiddorol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Bydd yr ysgol yn cyflenwi unrhyw gyfarpar sydd ei angen.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae’r rhaglen BA Hanes Modern a Gwleidyddiaeth wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael sgiliau lefel uchel dros flynyddoedd olynol i ddod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer cyflogaeth broffesiynol.
Trwy gyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Hanes Modern a 60 credyd o fodiwlau Gwleidyddiaeth bob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae blwyddyn 1 yn pontio’n raddol i astudio hanes modern a awleidyddiaeth ar lefel gradd ac mae’n cynnig cyfarwyddyd ar y sgiliau, y technegau a’r dadleuon y byddwch yn eu defnyddio.
Mewn hanes, mae einmodiwlau blwyddyn 1n wedi'u cynllunio i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer astudiaeth uwch a'ch cyflwyno i themâu hanesyddol a meysydd astudio nad ydych efallai wedi dod ar eu traws mewn Safon Uwch. Mae ein dau fodiwl craidd yn eich cyflwyno i’r gwahanol fframweithiau sy’n sail i astudiaeth hanesyddol a’r gwahanol ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra hefyd yn caniatáu i chi archwilio’r dadleuon mawr ynghylch sut rydym yn deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol i herio sut rydym yn meddwl y tu hwnt i gyfnodau amser penodol a ffiniau rhanbarthol neu genedlaethol. Mae modiwlau dewisol yn caniatáu i chi ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau hanesyddol a gwleidyddol trwy amrywiaeth o gyfnodau a rhanbarthau i osod y sylfaen ar gyfer astudio ym mlynyddoedd 2 a 3.
Mewn gwleidyddiaeth, gallwch ddewis o ystod o fodiwlau sy’n eich cyflwyno i ddadleuon allweddol yn nisgyblaeth gwleidyddiaeth. Byddwch yn archwilio rhai o’r prif ddulliau o astudio gwleidyddiaeth o ran ei datblygiad a’i hymagweddau beirniadol. Gallwch hefyd astudio modiwlau sy’n archwilio’r prif ddamcaniaethau a ddatblygwyd i egluro cysylltiadau rhyngwladol, natur y wladwriaeth a phrif sefydliadau’r llywodraeth yn y byd cyfoes, a natur globaleiddio.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyfansoddiad y Byd Modern, 1750-1970 | HS1105 | 20 Credydau |
Hanes mewn Ymarfer Rhan 1: Cwestiynau, Fframweithiau a Chynulleidfaoedd. | HS1119 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dyfeisio Cenedl: Gwleidyddiaeth, Diwylliant a Threftadaeth | HS1109 | 20 Credydau |
Dadeni, Diwygiad a Chwyldro | HS1117 | 20 Credydau |
Hanes mewn Ymarfer Rhan 2: Ffynonellau, Tystiolaeth a Dadl | HS1120 | 20 Credydau |
Hanesion Byd-eang | HS6101 | 20 Credydau |
Y Da, Drwg a'r Gwleidyddol: Y Da, y Drwg a'r Gwleidyddol | PL9193 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Wyddoniaeth Wleidyddol | PL9194 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Gysylltiadau Rhyngwladol | PL9195 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Feddwl Gwleidyddol | PL9196 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i'r Llywodraeth | PL9199 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Mewn hanes, byddwch yn cymryd modiwl craidd sy'n eich cyflwyno i'r dulliau damcaniaethol allweddol a'r dulliau sydd wedi dylanwadu ar ysgrifennu hanesyddol. Mae ein modiwlau dewisol yn eich galluogi i archwilio themâu ar draws ystod amser gulach tra'n annog ymagwedd fwy cymharol at hanes. Yn eich ail flwyddyn, mae'r pwyslais yn symud tuag at wahanol agweddau at hanes a gwahanol ffyrdd o ddefnyddio tystiolaeth. Mae gennych hefyd yr opsiwn i gymryd modiwlau sy'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o'r mathau o dystiolaeth y mae haneswyr yn eu defnyddio, y ffyrdd o ddefnyddio'r dystiolaeth honno, a rôl yr hanesydd wrth rannu ymchwil y tu hwnt i ffiniau'r byd academaidd a'r lleisiau y maent yn eu breintio neu dawelu.
Mewn gwleidyddiaeth, gallwch ddewis o ystod o fodiwlau dewisol sy’n edrych ar wleidyddiaeth Prydain a gwleidyddiaeth ryngwladol, yn y gorffennol a’r presennol. Gallwch hefyd archwilio meddwl gwleidyddol o wahanol ganrifoedd. Bydd modiwlau’n cael eu haddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau mewn grwpiau bach.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Darllen Hanes | HS6201 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Yn y flwyddyn olaf yn astudio hanes, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur datblygiadau hanesyddol yn y byd modern. Byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddi ffynonellau ac ysgrifennu hanes trwy astudio’r ystod o fodiwlau arbenigol a gynigir. Mae gennych hefyd gyfle i wneud ymchwil annibynnol, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar faes neu gyfnod penodol, drwy draethawd hir os y dymunwch.
Mae blwyddyn olaf gwleidyddiaeth yn cynnwys cyrsiau mwy cymhleth, sy’n eich gwahodd i gymhwyso’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r dewisiadau’n cynnwys modiwl astudiaethau seneddol a phrofiad gwaith, lle gallwch ddysgu sgiliau ymarferol a mewnwelediadau i weithrediadau dydd i ddydd y sefydliadau sy’n siapio ein bywydau. Os hoffech, gallwch hefyd ddewis gwneud traethawd hir sy’n canolbwyntio ar wleidyddiaeth.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae ymchwil yn ganolog i brofiad y myfyriwr yng Nghaerdydd, a chaiff ein holl addysgu ei lywio gan y canfyddiadau diweddaraf i’ch galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol.
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Byddwch yn dysgu trwy ystod eang o ddulliau addysgu o ddarlithoedd rhyngweithiol, seminarau bywiog yn seiliedig ar drafodaeth a gweithdai i waith grŵp a thiwtorialau. Bydd y gweithgareddau hyn ar y campws yn cael eu cyfuno ag ystod o amgylcheddau ar-lein a fydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu ac yn eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae seminarau a gweithdai’n cynnig profiad gwerth chweil i ymgysylltu'n feirniadol â'r syniadau a’r darllen allweddol ar bwnc. Maent yn gyfle gwerthfawr i archwilio syniadau a gweithio'n agos gyda'ch darlithwyr a dysgu oddi wrth fyfyrwyr eraill. Yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn, cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o brosiectau annibynnol gyda chefnogaeth arbenigwr yn y maes a hyfforddiant un-i-un.
Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu a thrafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gwaith tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser mewn amgylchedd cefnogol.
Addysgu yn yr Iaith Gymraeg
Mae Hanes a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amodol ar argaeledd staff, mae seminarau a addysgir yn Gymraeg ar gael ar rai o fodiwlau craidd Hanes neu bob un ohonynt. Mae goruchwyliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ym Mlwyddyn Dau a Thri ar gyfer prosiectau hir a thraethodau hir. Gallwch ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’ch gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.
Byddwch yn cael tiwtoriaid personol ar gyfer Hanes a Gwleidyddiaeth, a fydd yn eich arwain trwy gydol eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtoriaid personol yn rheolaidd mewn grwpiau ac yn unigol i fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Gall eich tiwtoriaid personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os byddwch yn cael anawsterau neu os bydd angen gwybodaeth benodol arnoch am eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau; bydd cynghorydd academaidd a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol.
Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a byrddau trafod.
Mae ein Timau Cefnogi Addysg israddedig yn cynnig gwasanaethau academaidd ac yn cefnogi myfyrwyr, ac maent yno i gynnig gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, gwasanaethau cymorth a digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, cymorth gyda materion ariannol a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.
Sut caf fy asesu?
Mae asesiadau’n cynnwys beirniadaeth ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, cyflwyniadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blog, ochr yn ochr â mathau mwy traddodiadol o asesu fel traethodau a phrofion/arholiadau. Mae rhai o'n hasesiadau yn caniatáu i chi weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd; er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddylunio arddangosfa amgueddfa neu greu canllaw ar gyfer defnyddio ffynonellau; ac efallai y cewch gyfle i greu podlediadau a thestunau digidol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.Mae traethodau hir mewn Hanes yn caniatáu i chi fynd i'r afael â chwestiynau hanesyddol sylfaenol neu archwilio mater neu ddadl hanesyddol yn fanylach.
Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. Mae'r sgiliau a ddatblygir ac a asesir trwy gydol y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd graddedig. Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
GD1: cymhwyso’n feirniadol ystod o gysyniadau, damcaniaethau a dulliau a ddefnyddir wrth astudio gwleidyddiaeth er mwyn dadansoddi syniadau, sefydliadau ac arferion gwleidyddol, mewn cyd-destun hanesyddol a chyfoes
GD2: edrych yn feirniadol ac yn gysyniadol ar wahanol systemau gwleidyddol; natur a dosbarthiad y pŵer sydd ynddynt; y cyd-destunau cymdeithasol, economaidd, hanesyddol a diwylliannol maen nhw’n gweithredu ynddynt; ac - mewn rhai achosion - y berthynas rhyngddynt
GD3: ymwneud yn feirniadol ac yn gysyniadol â'r rhagdybiaethau a'r dulliau newidiol y mae haneswyr yn eu defnyddio i egluro'r gorffennol
GD4: dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gymhlethdod ac amrywiaeth y sefyllfaoedd, y digwyddiadau, a meddylfryd yn y gorffennol mewn un wlad neu mewn perthynas â thema benodol
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
SD1: Gwerthuso damcaniaethau gwleidyddol yn feirniadol a’u hasesu mewn perthynas â thystiolaeth
SD2: Cynrychioli, dadansoddi a herio dadleuon gwleidyddol ac athronyddol yn glir ac yn drylwyr
SD3: defnyddio gwybodaeth a sgiliau a dulliau priodol i nodi a gwerthuso newid hanesyddol yn feirniadol
SD4: ffurfio a chyfiawnhau dadleuon am ystod o faterion, problemau a dadleuon hanesyddol gan ddefnyddio syniadau a dulliau hanesyddiaethol
SD5: dod o hyd i ffynonellau sylfaenol priodol, pwyso a mesur eu natur a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
SY1: dangos meddwl beirniadol, rhesymeg a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth
SY2: gofyn cwestiynau ymchwil cymhellol a phenodol a mynd ar drywydd atebion i'r cwestiynau hynny trwy ymholi strwythuredig, gan ddethol ac archwilio ystod briodol o dystiolaeth
SY3: crynhoi a gwerthuso'n feirniadol rinweddau ac anfanteision cymharol safbwyntiau a dehongliadau amgen a gwerthuso eu harwyddocâd
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
ST1: cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
ST2: cyflwyno canfyddiadau a dadleuon cymhleth yn glir, yn gryno, ac yn berswadiol mewn amrywiaeth o fformatau
ST3: dangos sgiliau mentergarwch i ddatrys problemau a dadansoddi tystiolaeth amrywiol, rhannol neu amwys gan ddefnyddio meddwl beirniadol, menter a chreadigrwydd
ST4: cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol naill ai'n unigol neu ar y cyd fel rhan o dîm
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n ei ddilyn.
Mae ein gradd yn rhoi sylfaen ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, er enghraifft mewn cyrff anllywodraethol, datblygiad byd-eang, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth a chudd-wybodaeth mewn llywodraeth, newyddiaduraeth, ac ymchwil polisi, yn ogystal â bod yn sail ar gyfer pynciau mwy arbenigol sy’n cael eu haddysgu ar lefel ôl-raddedig. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr o fri rhyngwladol.
Mae ein gradd yn cynnig y sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, o gydweithio a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau. Cyflwynir digwyddiadau hyfforddi a gyrfaol y tu mewn a’r tu allan i’r cwricwlwm gyda ffocws ar ddatblygu eich sgiliau tra byddwch yn y Brifysgol a gwneud defnydd llwyddiannus o’r sgiliau hynny yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun tra'n caniatáu i chi wneud gwahaniaeth.
Lleoliadau
Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu. Cynigir cyfleoedd ar gyfer lleoliadau amrywiol a phwrpasol yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mlwyddyn Dau ar fodiwl sy’n canolbwyntio ar drosi’r sgiliau rydych yn eu meithrin drwy eich gradd i’r gweithle. Yn eich blwyddyn olaf, rydym yn cynnig y cyfle i gymryd modiwl y gallwch ddatblygu eich sgiliau menter drwyddo, ac sy’n rhoi’r sgiliau i chi gyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod a’r tu allan i semestrau.
Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i leoliadau ac interniaethau ar y campws, o leoliadau 35 awr rhan-amser sy’n cyd-fynd â'ch astudiaethau i leoliadau haf cyflogedig. Yn ogystal, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol i'ch helpu i gael profiad gwaith.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.