Ewch i’r prif gynnwys

Tsieinëeg Fodern (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

Ymdrochwch eich hun ym mywyd, iaith a diwylliant Tsieina wrth gyflawni 2 radd ar y rhaglen 4 blynedd gyffrous hon.

Cyflwynir ein rhaglen Tsieinëeg Fodern (BA) 4 blynedd drwy bartneriaeth gyffrous rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing, sy'n eich galluogi i ddatblygu a gwella eich gwybodaeth am yr iaith Tsieinëeg - gan gyflawni sgiliau ieithyddiaeth uwch - a dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant Tsieina. Byddwch hefyd yn cael cyfle i astudio'r cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, hanesyddol a diwylliannol yn Tsieina. 

Yn ystod y radd, byddwch yn meithrin sgiliau cyfieithu, yn ennill profiad proffesiynol, ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu a meddwl beirniadol ar lefel uchel.

Rhan annatod o'r rhaglen hon yw’r cyfle i ymdrochi’ch hun yn iaith a diwylliant Tsieina trwy dreulio 2 flynedd yn byw yn Beijing. Bydd y profiad diwylliannol ac ieithyddol hwn yn cael ei hybu ymhellach trwy astudio am 2 flynedd yn un o brifysgolion gradd gyntaf ddwbl gorau Tsieina, Prifysgol Normal Beijing. Yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Normal Beijing, cewch gyfle i gael eich dysgu gan siaradwyr arbenigol brodorol a chofleidio'r profiad o astudio o fewn diwylliant Tsieineaidd ac yn system addysg uwch Tsieina. Y tu hwnt i'ch datblygiad academaidd, bydd eich amser ym Mhrifysgol Normal Beijing yn adeiladu gwydnwch ac annibyniaeth.

Rydym yn cynnal 2 lwybr iaith. Bydd y rhai sydd â chymhwysedd Safon Uwch neu gyfatebol mewn Tsieinëeg Mandarin yn dilyn ein llwybr Elfennol Uwch. Bydd y rhai sydd â dealltwriaeth gyfyngedig neu ddim dealltwriaeth o gwbl o Tsieinëeg Mandarin yn dilyn ein llwybr Elfennol.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, byddwch yn gallu defnyddio Tsieinëeg Mandarin yn hyderus ac yn annibynnol ac yn gallu siarad ac ysgrifennu'n rhugl ac yn gywir, a darllen, deall a dadansoddi testunau cymhleth mewn Tsieinëeg Mandarin a Saesneg gyda sicrwydd.

Cofiwch fod astudio Tsieinëeg Mandarin yn fwy nag astudio iaith; mae'n astudiaeth integredig o iaith, diwylliant a chymdeithas. Mae ein rhaglen BA Tsieinëeg Fodern yn cynnig modiwlau heriol ac ysgogol gyda phwyslais cryf ar amrywiaeth ddiwylliannol ac yn dathlu symudedd diwylliannol ac ieithyddol.  

Mae ieithoedd yn agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa a'n nod ni yw i chi ddod yn 'ddinesydd byd-eang' sy'n meddwl yn feirniadol, yn deall amrywiaeth ddiwylliannol, ac yn meddu ar gyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy.

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

AAB-ABB. Os oes gennych radd B mewn Tsieinëeg Mandarin ar lefel A bydd gennych fynediad at y llwybr Uwch Tsieineaidd Mandarin.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 pwnc HL. Os oes gennych radd 6 mewn iaith Tsieinëeg HL Mandarin bydd gennych fynediad at y llwybr Uwch Tsieineaidd Mandarin.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid i chi fod wedi neu weithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Celfyddydau, Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol. Os oes gennych radd B mewn Tsieinëeg Mandarin ar lefel A ar y cyd â'r BTEC neu yn ychwanegol ato, bydd gennych fynediad at lwybr Uwch Tsieineaidd Mandarin.

Lefel T

D mewn Lefel T mewn unrhyw bwnc.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Yn ogystal â ffioedd dysgu eich cwrs, bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio am fisa, ffi ymgeisio Prifysgol Normal Beijing (gan gynnwys archwiliad meddygol) a chostau teithio i ac o Tsieina. Bydd yn rhaid talu costau llety ar gyfer pob semester yn Tsieina yn llawn wrth gyrraedd. Bydd hefyd angen i chi dalu costau byw cyffredinol o ddydd i ddydd am y ddwy flynedd y byddwch yn astudio yn Beijing (fel bwyd, rhyngrwyd, cynlluniau ffôn symudol, trafnidiaeth gyhoeddus). 

Byddwch hefyd yn gyfrifol am gost llyfrau a deunyddiau cwrs eraill.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae ein BA mewn Tsieinëeg Fodern yn rhaglen 4 blynedd, wedi'i rhannu rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing. Mae'n gyfle unigryw a chyffrousi gofleidio’ch diddordeb yn Tsieina a'i diwylliant. 

Byddwch yn treulio blwyddyn 1 a 4 (eich blwyddyn olaf) yng Nghaerdydd a blwyddyn 2 a 3 yn Beijing. Ym mhob blwyddyn, byddwch chi’n astudio 120 o gredydau.

Cyn mynd i Tsieina, byddwch yn ennill sylfaen gadarn mewn hanes a diwylliant Tsieineaidd, yn ogystal â sgiliau iaith. Tra yn Beijing, byddwch yn astudio yn yr ystafell ddosbarth ac yn ymgymryd â gweithgareddau ymarfer proffesiynol sydd â’r nod o wella ac atgyfnerthu eich sgiliau ieithyddol yn ogystal â’ch sgiliau ymchwil. Bydd yr ymarfer proffesiynol yn archwilio’r sector busnes neu ddiwylliannol Tsieineaidd, yn amrywio o addysg, orielau celf preifat, cyhoeddwyr llyfrau, cwmnïau dylunio cyfryngau i dai opera’r wladwriaeth. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae blwyddyn 1 wedi'i threfnu i roi i chi’r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol a fydd yn sylfaen i’ch gradd. Byddwch yn astudio un modiwl Tsieinëeg Mandarin a dau fodiwl am ddiwylliant a hanes Tsieina, ynghyd â dau fodiwl dewisol.

Bydd blwyddyn gyntaf y rhaglen yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i fyfyrwyr y llwybr elfennol, ac yn meithrin sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ar y llwybr elfennol uwch.

Blwyddyn dau: Blwyddyn Ryngosod

Bydd eich ail flwyddyn yn cael ei threulio yn astudio ym Mhrifysgol Normal Beijing, gan eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o'r diwylliant a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a'ch gwydnwch. Bydd eich amser yn astudio dramor yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd i chi y mae cyflogwyr yn ei gwerthfawrogi.

Trwy gydol eich ail flwyddyn, byddwch yn parhau i ddysgu Tsieinëeg Mandarin. Byddwch hefyd yn astudio’r Tsieina Fodern, Hanes Tsieineaidd, y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth, Economeg a Diwylliant trwy amrywiaeth o fodiwlau. Bydd hefyd angen i chi astudio un modiwl Tai Chi yn ystod y flwyddyn hon. Math o ymarfer corff ysgafn a myfyrio symudol yw Tai Chi, gyda'r nod o roi hwb i’ch iechyd meddwl a chorfforol ar y rhaglen, ochr yn ochr â'ch astudiaethau academaidd.

Mae elfennau iaith blwyddyn 2 yn adeiladu ar waith y flwyddyn gyntaf. Byddwch wedi datblygu ers lefel eich modiwl iaith yn y flwyddyn gyntaf, a dylech chi weld twf parhaus eich galluoedd ieithyddol, eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’ch hyder cyffredinol fel defnyddiwr iaith. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ieithyddol drwy astudio modiwlau iaith ar lefel uwch. Mae'r modiwlau hyn yn eich paratoi i symud i'ch trydedd flwyddyn astudio, ym Mhrifysgol Normal Beijing o hyd.

Erbyn diwedd blwyddyn 2, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau byr a chynhyrchu darnau ysgrifenedig cysylltiedig a chydlynol am ddiddordebau personol a phrofiadau bywyd bob dydd, gan fynegi eich argraffiadau, teimladau, pryderon a dymuniadau. Byddwch hefyd yn gallu dangos dealltwriaeth o hanes, diwylliant, athroniaeth a gwleidyddiaeth Tsieina gydag ymwybyddiaeth o wahaniaethau rhyngddiwylliannol.

Ar hyn o bryd mae unrhyw fyfyriwr sy'n ymgymryd â lleoliad astudio yn Tsieina yn gymwys i wneud cais am Gyllid Llywodraeth Cymru.

Rhaid i fyfyrwyr nad oes ganddynt hawliau dinasyddiaeth yn y wlad berthnasol gael fisa er mwyn astudio dramor. Nid oes gan yr Ysgol Ieithoedd Modern unrhyw reolaeth na dylanwad dros y prosesau ymgeisio am Fisa ond bydd yn gweithio gyda chi i'ch cefnogi a'ch tywys wrth i chi baratoi i wneud cais am fisa a theithio i astudio yn Tsieina. Mae rhagor o wybodaeth am y broses Fisa i'w gweld ar wefan Llysgenhadaeth Tsieina.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Byddwch yn parhau â'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Normal Beijing yn ystod blwyddyn 3, gyda'r cyfle i ddewis modiwlau ar bynciau megis Hanes, Dinasoedd a Phentrefi yn Tsieina, Diwylliant Rhyngrwyd yn Tsieina, Diwylliant Poblogaidd Tsieineaidd a Tsieinëeg Busnes.

Yn ystod y flwyddyn hon, byddwch hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau ymarfer proffesiynol, a all gynnwys cyfle i gwblhau lleoliad mewn amrywiaeth o sefydliadau yn amrywio o gwmnïau rhyngwladol i sefydliadau diwylliannol. Mae Prifysgol Normal Beijing hefyd yn trefnu lleoliadau addysgu mewn pentrefi yn Tsieina fel rhan o'i chenhadaeth ddinesig. Gallwch wneud hyn fel lleoliad gwaith.

Erbyn diwedd blwyddyn 3, byddwch yn gallu deall, siarad, ysgrifennu a chwblhau cyfieithiadau Tsieinëeg yn hyderus i lefel elfennol uwch (CEFR B2). Byddwch hefyd yn gallu llunio trosolwg cynhwysfawr o’r Tsieina gyfoes, gan ystyried gwahaniaethau diwylliannol a chymhwyso sensitifrwydd rhyngddiwylliannol.

Blwyddyn pedwar

Wrth i ni eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch chi’n mireinio’ch sgiliau ieithyddol, meddwl beirniadol ac ymchwil ymhellach.

Byddwch yn astudio modiwl Diwylliant a Chymdeithas Gyfoes Tsieina gan ddefnyddio eich sgiliau Tsieinëeg uwch.

Bydd gofyn i chi hefyd ysgrifennu traethawd hir o restr o bynciau a ddewiswyd ymlaen llaw gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing.

Yn ogystal, byddwch yn dewis dau fodiwl dewisol mewn astudiaethau diwylliannol Tsieineaidd ac yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn. Mae hwn yn fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar eich astudiaethau a gweithdai yn y brifysgol i gyflawni lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n defnyddio amryw ddulliau addysgu megis darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau iaith a gweithdai. 

Mae cynnwys darlithoedd yn cyfleu trosolwg o brif gysyniadau a fframweithiau pwnc, gan roi'r sgiliau a fydd yn eich galluogi i gynnal ymchwil yn annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu a gweithredu eich syniadau eich hun. Gallai’r deunyddiau hyn gael eu cyflwyno i chi wyneb yn wyneb neu mewn fformat digidol fel y gallwch eu hastudio ar eich liwt eich hun.

Mae seminarau’n ddosbarthiadau rhyngweithiol sy'n cynnwys grŵp bychan o fyfyrwyr ac aelod o dîm addysgu'r modiwl. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp cyfan, gwaith grwpiau bach a chyflwyniadau a arweinir gan fyfyrwyr. Mae seminarau’n cynnig awyrgylch egnïol lle gallwch chi archwilio ac ymgysylltu’n feirniadol â syniadau a dadleuon sydd wedi’u cyflwyno yn y darlithoedd. 

Mae ein ffordd o ddysgu iaith yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol a chyfranogiad ystyrlon myfyrwyr. Bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu'r cymwyseddau a sgiliau iaith allweddol yn rheolaidd. Mae dosbarthiadau wedi'u dylunio i ehangu’ch hyfedredd ieithyddol a gwella'ch hyder a'ch sgiliau cyfathrebu mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. 

Mae paratoi ar gyfer dosbarth ac astudio’n annibynnol yn rhan bwysig o'ch dysgu. Rhwng dosbarthiadau, byddwch chi’n paratoi deunydd, tystiolaeth a dadleuon, ac yn cwblhau tasgau iaith yn unigol neu mewn grwpiau. I’ch helpu i ddysgu iaith yn annibynnol, mae’r Ysgol Ieithoedd Modern wedi llunio adnoddau a gweithgareddau dysgu cymeradwy ac rydyn ni’n eich annog i’w defnyddio yn rhan o’ch dysgu annibynnol. 

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael eich arwain trwy eich astudiaethau gan Diwtor Personol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd. Eich tiwtor personol fydd y ddolen gyswllt bob amser ynghylch unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol ddwywaith yn ystod eich blwyddyn gyntaf a'ch blwyddyn olaf pan fyddwch wedi’ch lleoli yng Nghaerdydd, ond mae croeso i chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch.  Bydd pob aelod o staff academaidd ar gael i gwrdd â myfyrwyr yn ôl oriau penodol.  

Yn ystod eich 2 flynedd o astudio ym Mhrifysgol Normal Beijing, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei aseinio i chi, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd.

Mae gan bob modiwl ofod pwrpasol ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, lle y byddwn ni’n eich tywys trwy weithgareddau’r wythnos a’r tasgau y bydd angen eu cwblhau. Bydd yno ddeunyddiau ac adnoddau dysgu megis recordiadau o ddarlithoedd, tasgau ac adnoddau iaith a dolenni at adnoddau digidol gan gynnwys y deunyddiau llyfrgell ar ffurf electronig. Mae gan bob modiwl ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing Gydlynydd Modiwl dynodedig a fydd hefyd yn gallu cynnig cymorth i fyfyrwyr sy'n astudio eu modiwlau. 

Mae staff Gwasanaethau Proffesiynol ar gael yn Hyb y Myfyrwyr Israddedig i ateb eich cwestiynau. At hynny, mae gennym Swyddog Cefnogi Myfyrwyr pwrpasol yn yr ysgol, a all eich cynghori a’ch llywio yn ôl yr angen mewn awyrgylch cefnogol, caredig a chyfrinachol. Cynigir cefnogaeth debyg i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod ym Mhrifysgol Normal Beijing trwy'r Swyddfa Materion Addysgu, y Swyddfa Cyfnewidiadau a Chydweithredu Rhyngwladol a'r Swyddfa Myfyrwyr Rhyngwladol. 

Mae Bywyd Myfyrwyr, yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn cynnig ystod o wasanaethau. Mae’r gwasanaethau cymorth hyn yn cynnwys: Cyngor ar Arian, Dyfodol Myfyrwyr, Cwnsela, Iechyd a Lles, y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr, Sgiliau Astudio Academaidd a Mentora Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Oherwydd natur unigryw’r rhaglen Tsieinëeg Fodern (BA), mae cymorth sylweddol yn cael ei gynnwys i sicrhau eich bod mor barod ag y gallwch fod i deithio i Tsieina ar gyfer eich ail a thrydedd flwyddyn astudio.

Byddwch yn mynychu cyfarfodydd cyn gadael gyda'r Cydlynydd Academaidd ar gyfer Tsieinëeg yn ogystal ag ysgolheigion gwadd o Brifysgol Normal Beijing, a'r swyddfa Cyfleoedd Byd-eang. Bydd y cyfarfodydd yn cynnig gwybodaeth ddiwylliannol bwysig am foesau ac ymddygiad yn Tsieina, teithio, bwyd a siopa, cadw'n ddiogel, cyfnodau gwyliau a materion ymarferol eraill.

Sut caf fy asesu?

Diben yr asesu yw eich helpu i hel syniadau, meithrin sgiliau a datblygu galluoedd. Maent yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol, i feddwl yn feirniadol am y testunau a'r diwylliannau rydych chi'n dod ar eu traws ac i gyflwyno dadleuon sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn Saesneg a thrwy gyfrwng Tsieinëeg Mandarin.

Byddwch yn astudio blociau adeiladu Tsieinëeg Mandarin, gan gynnwys patrymau a strwythurau gramadegol a geirfaol. Byddwn ni’n asesu’r sgiliau hynny yn rheolaidd eich ystod modiwlau iaith sy’n adlewyrchu natur gynyddol a chronnus dysgu iaith.

Rydyn ni’n defnyddio ffurfiau asesu traddodiadol (megis traethodau, arholiadau, cwisys, arholiadau llafar, cyflwyniadau a thraethawd hir) yn ogystal â mathau mwy arloesol (creu flogiau, podlediadau, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios a chyflwyniadau posteri). 

Tra'n astudio ym Mhrifysgol Normal Beijing, cewch eich hasesu fel unrhyw fyfyriwr arall sy'n astudio yno. Bydd Prifysgol Normal Beijing hefyd yn gofyn i chi gwblhau dulliau asesu traddodiadol ar gyfer y cyd-destun addysg uwch Tsieineaidd, gan gynnwys gwaith cwrs, arholiadau terfynol a marcio cyfranogiad parhaus yn y dosbarth.

Rhoddir adborth ysgrifenedig am waith ar ôl ei asesu i’ch helpu i wella ar gyfer yr asesiadau nesaf, a bydd cyfleoedd i chi drafod yr adborth gyda’ch tiwtoriaid. At hynny, bydd amryw ymarferion megis cwisys, cyflwyniadau, traethodau a phrosiectau. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi adborth ffurfiannol i chi i wella’ch dysgu a’ch dealltwriaeth cyn sefyll yr asesiadau crynodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1 Siarad, ysgrifennu, a deall Tsieinëeg Mandarin i safon gradd.  

GD 2 Deall strwythurau, cyweiriau ac amrywiadau Tsieinëeg Mandarin a defnyddio'r iaith yn hyblyg ac effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol, fel y bo'n briodol.

GD 3 Dadansoddi’n feirniadol agweddau ar ddiwylliant, hanes a chymdeithas Tsieina drwy dynnu ar ystod o ddeunyddiau ac ymagweddau. 

GD 4 Arddangos gwybodaeth feirniadol, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth fanwl o’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng diwylliant a chymdeithas Tsieina a’ch rhai eich hun.

GD 5 Cymhwyso dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am y diwylliant Tsieineaidd, i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.

Sgiliau Deallusol:

SD 1 Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn effeithiol â chynulleidfaoedd amrywiol, ar bapur ac ar lafar, yn Saesneg a Tsieinëeg Mandarin.

SD 2 Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddidoli a dadansoddi gwybodaeth.

SD 3 Dod i gasgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan eu cyfiawnhau trwy resymu’n gadarn a dehongli deunydd gwreiddiol yn fanwl.

SD 4 Gwerthuso syniadau a dadleuon yn feirniadol trwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amryw sgiliau ar bapur ac ar lafar. 

SD 5 Defnyddio technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu neu gyflwyno testunau academaidd (traethodau, cyflwyniadau, testunau clyweledol) gan ddefnyddio tystiolaeth a’r confensiynau cyfeirnodi cywir.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY 1 Defnyddio cyfryngau digidol yn effeithiol ar gyfer dod o hyd i wybodaeth, cyfathrebu a dysgu. 

SY 2 Defnyddio sgiliau ieithyddol uwch mewn lleoliad proffesiynol. 

SY 3 Nodi a disgrifio problemau a gweithio ar y cyd i'w datrys.

SY 4 Dangos gwydnwch, hyblygrwydd ac annibyniaeth drwy’r cyfnod trochi Tsieinëeg Mandarin.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

SA 1 Defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol a rhesymu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a syniadau amrywiol. 

SA 2 Defnyddio sgiliau ymchwil ymarferol. 

SA 3 Creu syniadau gwreiddiol a chymhwyso ffordd greadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau a nodwyd.   

SA 4 Dysgu o adborth adeiladol a derbyn ei negeseuon.

SA 5 Bod yn ddyfeisgar ac ysgwyddo cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch datblygiad proffesiynol eich hun.

SA 6 Defnyddio amryw sgiliau cyflogadwyedd a menter megis creadigrwydd, mentergarwch, trefnu, rheoli amser, gweithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm.

SA 7 Gweithredu fel dinesydd byd-eang, gan ymgysylltu â gwahaniaeth diwylliannol a’i werthfawrogi trwy brofiad ymarferol o fyw ac astudio yn Tsieina.  

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi adael eich marc mewn marchnad swyddi gystadleuol. P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu beidio, mae gennym yr adnoddau a’r cymorth i’ch tywys chi.

Mae lleoliadau a phrofiad gwaith yn gyfleoedd gwych i wella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfaol, a gallan nhw’ch helpu i ddod i benderfyniad ynglŷn â’ch gyrfa yn y dyfodol. Mae'r rhaglen Tsieinëeg Fodern (BA) yn cynnwys dysgu ar leoliad fel elfen annatod o'ch rhaglen radd.

Bob tymor, rydym hefyd yn hysbysebu Interniaethau Ar y Campws. Mae'r rhain yn gyfleoedd dros wyliau’r haf i fyfyrwyr weithio o dan oruchwyliaeth ar arloesedd addysg, gwasanaethau proffesiynol, a phrosiectau ymchwil a ddiffinnir gan staff.

Mae ein graddedigion yn ffynnu yn y farchnad swyddi, gydag ystod o sgiliau academaidd ac ymarferol — gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu — sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Mae eu graddau iaith yn eu harwain at ystod amrywiol a chyffrous o yrfaoedd ym meysydd cyllid, rolau cyswllt chwaraeon rhyngwladol, ymgynghoriaeth busnes, addysg, iechyd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, y gyfraith ac addysgu, ymhlith meysydd eraill.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.