Cemeg Feddyginiaethol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (BSc)
- Maes pwnc: Cemeg
- Côd UCAS: F152
- Derbyniad nesaf: Medi 2026
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Cwrs gradd blaengar yw Cemeg Feddyginiaethol, gan ystyried problemau'r dyfodol, gan gysylltu â diwydiant ac ymestyn y tu hwnt i'r labordy i gwmpasu meysydd fel busnes, marchnata, a chynaliadwyedd.
Ymunwch â rheng flaen meddygaeth fodern
Mae cemegwyr meddyginiaethol yn datblygu therapïau a brechlynnau newydd i atal a thrin heintiau a chlefydau, gan gefnogi iechyd pobl ledled y byd.
Bywyd y tu hwnt i'r lab
Yn ogystal â'r cemeg sy'n berthnasol i ddarganfod cyffuriau, byddwch yn astudio gwyddor data, cynllunio prosiectau, sgiliau arwain a mwy i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Blwyddyn mewn diwydiant
Rhowch hwb i'ch hyfforddiant proffesiynol wrth i chi ennill cyflog yn ystod eich lleoliad mewn diwydiant yn eich trydedd flwyddyn
Ymchwilwyr cymeradwy sy'n ymwneud â dylunio ac addysgu cyrsiau
Mae 99% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021) ac rydym yn 12fed yn y DU am effaith ymchwil.
Rhagolygon gyrfa ardderchog
Mae'r cwrs hwn yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer gyrfa yn y diwydiant fferyllol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y broses o ddarganfod cyffuriau ac os ydych am weithio yn y diwydiant fferyllol, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi.
Byddwch yn ennill sylfaen gadarn mewn pynciau cemeg craidd yn ogystal ag arbenigo mewn biocemeg a dylunio cyffuriau. Yn y labordy, byddwch chi'n canolbwyntio ar syntheseiddio a phrofi cyffuriau yn ein gofod labordy pwrpasol sy'n cynnwys offer o safon diwydiant.
Ynghyd â datblygu eich galluoedd ymchwil a chyfrifiadol, byddwch yn dysgu sut i ddylunio eich arbrofion eich hun. Yn eich blwyddyn olaf, gallwch arbenigo mewn maes y mae gennych ddiddordeb ynddo trwy brosiect ymchwil, dan oruchwyliaeth un o'n hacademyddion blaenllaw.
Mae cemegwyr meddyginiaethol ar flaen y gad ym maes meddygaeth fodern, gan ddatblygu therapïau a brechlynnau newydd i atal a thrin heintiau a chlefydau. Byddwch yn cael profiad uniongyrchol o hyn trwy gwblhau lleoliad mewn diwydiant yn eich trydedd flwyddyn. Bydd y cyfle hwn nid yn unig yn rhoi hwb i'ch hyfforddiant proffesiynol ond hefyd yn eich galluogi i sicrhau ac ennill profiad yn y byd go iawn a all eich helpu i sefyll ben ac ysgwydd uwchben y gweddill ar ôl graddio.

Maes pwnc: Cemeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Rhaid cynnwys Cemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cemeg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
TGAU a gofynion hanfodol eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid oes gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegion
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer/dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2026
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
*Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen; bydd hyn yn cael ei nodi'n glir yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar. Efallai y bydd gofyn i chi dalu costau ychwanegol nad ydynt yn hanfodol neu sy'n gostau sylfaenol y mae disgwyl i fyfyrwyr eu talu eu hunain. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys gliniaduron, cyfrifianellau, deunydd ysgrifennu cyffredinol, gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell), a chopïo/argraffu sylfaenol.
Yn achos myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r flwyddyn o leoliad, bydd costau llety, teithio ac ati yn cael eu talu gan y myfyriwr (fel y disgwylir mewn unrhyw flwyddyn o'u hastudiaethau nad yw’n cynnwys lleoliad).
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rhaglen pedair blynedd yw hon, lle mae yna ddau semester ym mhob blwyddyn, sy'n cynnwys modiwlau gwerth cyfanswm o 120 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2026/2027. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2026
Blwyddyn un
Nod modiwlau blwyddyn un yw ysgogi eich diddordeb yn y pwnc, gan roi sylfaen wybodaeth gadarn o ran cemeg a throsolwg o'r diwydiant fferyllol i adeiladu arno yn y blynyddoedd sy’n dilyn. Ategir modiwlau cemeg theori graidd â gwaith ymarferol a gweithdai mathemategol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sylfeini Cemeg Gorfforol | CH5101 | 20 Credydau |
Sylfeini Cemeg Anorganig | CH5102 | 20 Credydau |
Sylfeini Cemeg Organig | CH5103 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Gemeg y Brifysgol | CH5108 | 10 Credydau |
Sylfaen Cemeg Blwyddyn 1 Ymarferol | CH5110 | 30 Credydau |
Dulliau Mathemategol ar gyfer Cemeg | CH5116 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ddatblygu Cyffuriau | CH5130 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae blwyddyn dau yn adeiladu ar sgiliau cemeg cyffredinol blwyddyn un gyda modiwlau ym meysydd cemeg sydd fwyaf pwysig i gemegwyr meddyginiaethol. Ategir y rhain gan fodiwl labordy i roi profiad i chi mewn technegau cemeg organig, fiolegol a chyfrifiadol. Mae modiwlau sgiliau trosglwyddadwy yn rhoi'r sgiliau i chi o ran gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a rheoli prosiectau sy'n werthfawr mewn gyrfa yn y diwydiant.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rheoli Prosiectau (CHEMY) | CE5515 | 10 Credydau |
Cemeg Organig a Biolegol Bellach | CH5203 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i gemeg bywyd | CH5207 | 10 Credydau |
Ceisiadau o Spectrosgopi Moleciwlaidd | CH5208 | 10 Credydau |
Cyfathrebu Cemeg: Sgiliau Allweddol ar gyfer Cemegwyr Meddyginiaethol | CH5225 | 10 Credydau |
Sgiliau Ymarferol mewn Cemeg Feddyginiaethol | CH5230 | 30 Credydau |
Cemeg Gorfforol mewn Dylunio Cyffuriau | CH5231 | 10 Credydau |
Cemeg Fentrus | CH5240 | 10 Credydau |
Macromoleciwlau fel Targedau Cyffuriau | CH5250 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Byddwch yn treulio blwyddyn tri yn gweithio i ddarparwr lleoliad diwydiannol, gan roi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle fel rhan o'r cwrs. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â chi trwy gydol eich lleoliad.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Hyfforddiant Diwydiannol ar gyfer Cemegwyr Meddyginiaethol | CH9996 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Byddwch yn astudio modiwlau theori mewn cemeg synthetig, organig a meddyginiaethol, ystadegau a gwyddor data. Yn ystod semester yr Hydref mae yna fodiwl ymarferol mewn labordy, ac yn y Gwanwyn byddwch yn ymgymryd â phrosiect gwreiddiol, sylweddol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Hyfforddiant Ymarferol Uwch ar gyfer Cemegwyr Meddyginiaethol | CH5301 | 20 Credydau |
Modalities newydd mewn Darganfod Cyffuriau | CH5306 | 10 Credydau |
Prosiect | CH5325 | 40 Credydau |
Sylfeini Gwyddor Data | CMT314 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Strwythur a Mecanwaith mewn Cemeg Organig | CH3315 | 10 Credydau |
Biosynthesis Peirianneg | CH3317 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu
Ein nod yw cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer addysg gemegol ac mae ein graddau israddedig yn adlewyrchu ein cryfderau a’n diddordebau ymchwil presennol. Mae prosiectau yn y flwyddyn olaf yn gwbl integredig yn ein grwpiau ymchwil. Ein nod yw darparu addysgu arbenigol a gofal bugeiliol cynhwysfawr i'ch galluogi i gyflawni hyd eithaf eich gallu.
Addysgir trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol. Cefnogir hyn gan y deunyddiau sydd ar Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol.
Gwaith labordy
Mae’r pwyslais ar dechnegau sylfaenol a chofnodi arsylwadau mewn modd syml ond cywir ym mlwyddyn un. Addysgir sgiliau trwy arddangosiadau ymarferol ac fe’u cefnogir gan ystod o adnoddau e-ddysgu sydd ar gael yn hwylus ac yn rhad ac am ddim i bob myfyriwr.
Mae hunan-brofi yn cynnig dealltwriaeth o wahanol dechnegau ymarferol yn ogystal â'r cyfle i gywiro camgymeriadau cyn mynd i sesiynau labordy.
Mae gwaith labordy yn gweithio tuag at arbrofion sylweddol sy’n gofyn am gynllunio, dadansoddi a dehongli canlyniadau yn ofalus, yn ogystal ag adrodd safonol, proffesiynol. Mae gwaith ymarferol yn cynnig profiad ym mhob un o brif weithdrefnau a thechnegau'r labordy. Mae wedi'i gynllunio i ymestyn lefel eich hyfedredd mewn cemeg ymarferol, gan eich paratoi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yng nghamau olaf eich gradd.
Prosiect
Mae gan bob un o’n cyrsiau Cemeg elfen gref o waith prosiect annibynnol, o dan oruchwyliaeth. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gweithio ar brosiect yn eich maes cemeg dewisol ac yn cael pwnc i’w archwilio neu ei ddatblygu. Byddwch yn cyflwyno canlyniadau eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy weithio o dan arweiniad arbenigwr yn y maes.
Lleoliad
Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gweithio yn rôl cyflogai ar leoliad diwydiannol, gan ennill profiad gwerthfawr a dysgu amrywiaeth eang o sgiliau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael eich cefnogi gan amrywiaeth o diwtoriaid academaidd, a bydd un ohonynt hefyd yn gweithredu fel eich tiwtor personol. Byddwch yn gweld un o’ch tiwtoriaid bob wythnos, naill ai fel rhan o grŵp tiwtorial bach neu ar sail un-i-un mewn sesiwn diwtorial bersonol. Mae’r holl staff yn gweithredu polisi drws agored, sy’n golygu y gallwch bob amser fynd at staff gyda phroblemau – boed y rheiny’n academaidd neu’n broblemau eraill.
Byddwch yn cael llawlyfr cynhwysfawr sy'n briodol i'ch blwyddyn astudio. Mae'n cynnwys manylion am weithdrefnau a pholisïau'r Ysgol.
Rydym yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Dysgu Canolog) y Brifysgol i rannu gwybodaeth a deunyddiau addysgu a chefnogi eich dysgu.
Bydd cydlynydd lleoliadau diwydiant yr Ysgol a thîm gyrfaoedd y Brifysgol yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadau diwydiannol a gwneud cais amdanynt.
Sut caf fy asesu?
Cynhelir asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn ystod pob blwyddyn astudio. Mae hyn yn rhoi mesur o berfformiad i'ch hysbysu chi, staff, a darpar gyflogwyr am eich cynnydd a'ch cyrhaeddiad. Hefyd gall helpu'r broses ddysgu trwy dynnu sylw at feysydd llwyddiant a meysydd y mae angen mwy o sylw arnynt.
Mae asesu'n cynnwys cyfuniad o ddulliau sy'n cael eu dewis i gyd-fynd â chanlyniadau pob modiwl a'r rhaglen gyfan. Mae'r dulliau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Arholiadau ffurfiol a phrofion dosbarth gyda therfynau amser penodol ar gyfer modiwlau theori
- Adroddiadau ac allbynnau (cyfansoddion, data, cod) o waith labordy a gwaith cyfrifiadurol i amlygu meistrolaeth ar sgiliau ymarferol ac adrodd i safonau proffesiynol
- Cynllunio a chynnal gwaith prosiect ac adrodd amdano
- Traethodau ar gyfer amlygu’r gallu i chwilio, cyfosod a gwerthuso'r llenyddiaeth
- Datrys problemau ar ffurf aseiniadau gweithdy neu ymarferion ar-lein sy'n galluogi rhoi theori ar waith
- Cyflwyniadau llafar
- Paratoi ac arddangos posteri
- Ym mlwyddyn eich lleoliad byddwch yn cael eich asesu trwy lunio adroddiadau a fydd yn ymdrin â'r profiad gwaith, y sgiliau a'r profiad a gafwyd. At hynny, bydd cyflwyniad fideo o'ch lleoliad yn cael ei gynhyrchu.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
O gwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
- Amlygu gwybodaeth systematig a dealltwriaeth o ddamcaniaethau a dadleuon canolog, a'u cymwysiadau i theori gemegol feddyginiaethol gyfredol o'r radd flaenaf.
- Gwerthuso'n feirniadol systemau a phrosesau cemegol cyfarwydd ac anghyffredin.
- Amlygu dealltwriaeth o wybodaeth fathemategol sy'n briodol ar gyfer dadansoddi a gwerthuso problemau biolegol a chemegol.
- Dangos sut y mae astudio eich pwnc arbenigol yn cael ei drefnu a'i ymarfer mewn lleoliad diwydiannol.
Sgiliau Deallusol:
- Gweithredu modelau priodol i ddarparu esboniadau a rhagfynegiadau cymhwyso cysyniadau cemeg meddyginiaethol craidd.
- Cynllunio, cynnal a gwerthuso gwaith ymchwiliol gan ddefnyddio methodolegau priodol ar gyfer synthesis, dadansoddi a modelu cyfrifiadurol.
- Dadansoddi a dehongli data sy'n deillio o arsylwadau a mesuriadau labordy i ddiffinio a datrys problemau mewn cyd-destunau byd go iawn a haniaethol.
- Amlygu’r gallu i wella ac arallgyfeirio eich arbenigedd/arbenigeddau pwnc trwy ymgymryd â lleoliad llwyddiannus gyda darparwr profiad diwydiannol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
- Cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd amrywiol, gan egluro syniadau academaidd a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
- Ymchwilio, dadansoddi a chymhwyso ffynonellau llenyddiaeth sylfaenol i sgiliau cyfrifiadurol, prosesu data, a chwilio electronig sy'n ymwneud â gwybodaeth gemegol i ddatblygu dadleuon, rhagdybiaethau a phenderfyniadau rhesymegol.
- Nodi cyfrifoldebau a hanfodion ymarfer o fewn cydberthnasau proffesiynol cydweithredol, gan gynnwys sefyllfaoedd cymdeithasol ac economaidd yn y diwydiant fferyllol.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
- Amlygu menter trwy strwythuro a rheoli tasg ymchwiliol mewn amser, gweithio mewn timau pan fo hynny'n briodol.
- Astudio'n greadigol, yn annibynnol ac yn fyfyriol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau i heriau neu gyd-destunau ehangach.
- Datblygu ymwybyddiaeth o'ch cryfderau a'ch gwendidau gan ddefnyddio arweiniad/adborth i ddatblygu strategaethau ar gyfer dysgu sy'n dod i'r amlwg.
- Cymhwyso sgiliau gwerthuso beirniadol, dadansoddi a barnu yn effeithiol mewn ystod amrywiol o gyd-destunau cemeg feddyginiaethol.
- Amlygu llythrennedd digidol a'r gallu i asesu hygrededd ffynonellau gwybodaeth.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â'r sgiliau damcaniaethol a’r sgiliau labordy mewn cemeg synthetig a dadansoddol ar gyfer gyrfa neu astudiaeth ôl-raddedig mewn datblygu cyffuriau ac ymchwil fiofeddygol.
Byddwch yn defnyddio'r un technegau a chyfarpar â'r diwydiant fferyllol, gan ddysgu gweithio'n ddiogel gyda chemegion ac ystyried goblygiadau moesegol ymchwil fferyllol. Byddwch yn meithrin eich sgiliau datrys problemau, gan eich galluogi i wneud penderfyniadau ar sail dadansoddiad beirniadol o dystiolaeth, a ategir gan ddulliau ystadegaeth a gwyddor data.
Mae darganfod cyffuriau yn ymdrech gydweithredol sy'n digwydd mewn timau dros nifer o flynyddoedd, a bydd y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer yr amgylchedd hwn trwy hyfforddiant mewn arweinyddiaeth, rheoli pobl a rheoli prosiectau. Byddwch hefyd yn meithrin eich sgiliau cyfathrebu trwy lunio adroddiadau, dogfennau technegol a chyflwyniadau.
Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys cemegydd meddyginiaethol, cemegydd fformiwleiddio, cemegydd dadansoddol, materion rheoleiddiol ac eiddo deallusol, yn ogystal ag astudiaethau ôl-raddedig sy'n arwain at ymchwil academaidd neu feddygaeth i raddedigion.
Lleoliadau
Bydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn ymgymryd â phrosiect ymchwil un semester o hyd yn un o labordai ymchwil Cemeg Caerdydd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.