Ffarmacoleg Feddygol (BSc)
- Maes pwnc: Ffarmacoleg Feddygol
- Côd UCAS: B210
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Hanfod Ffarmacoleg yw astudio sut mae cyffuriau a meddyginiaethau'n gweithio ar lefel y gell a'r is-gell i gael effaith sy’n llesol, neu ar adegau’n niweidiol. Mae'r radd hon yn gyfle ichi ddeall mecanwaith sylweddau bioweithredol, yn enwedig y rhai a ddefnyddir i drin afiechydon pobl. Bydd y rhaglen astudio helaeth hon yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau sy’n ddeniadol i’r byd academaidd a diwydiannau ehangach ar gyfer swyddi ym maes ymchwil fiofeddygol a datblygu cynhyrchion.
Pan fyddwch chi ar y rhaglen B210 Ffarmacoleg Feddygol, bydd gennych opsiwn i wneud cais i ymuno â’r rhaglen estynedig bedair blynedd, lle mae Blwyddyn 3 yn Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (PPY).
Mae llu o gyfleoedd i'n myfyrwyr wedi iddynt gwblhau'r radd. Mae llawer yn dewis hyfforddi ymhellach ar lefel ôl-raddedig mewn ymchwil fiofeddygol yn y byd academaidd neu'r sector breifat, tra bo eraill yn dilyn gyrfaoedd yn y diwydiant fferyllol neu feysydd biofeddygol eraill.
Ein prif nod yw cefnogi datblygiad gwyddonwyr sydd wedi'u hyfforddi i ymchwilio. Fodd bynnag, gall myfyrwyr cymwys hefyd fod yn gymwys i gael lle ar raglen radd pedair blynedd Meddygaeth i Raddedigion Prifysgol Caerdydd ar ôl cwblhau eu gradd BSc. Nid oes modd newid i gwrs Meddygaeth oni bai eich bod wedi cwblhau’r cwrs BSc hwn.
Nodweddion nodedig
- Addysgir y cwrs hwn gan arbenigwyr ym meysydd meddygaeth a gwyddorau biofeddygol. O'r herwydd, cewch addysg ffarmacolegol fanwl ac amrywiol sy'n cwmpasu egwyddorion sylfaenol gwyddonol yn ogystal â rhoi gwybodaeth glinigol ar waith
- Byddwch yn ennill profiad ymchwil ymarferol yn dysgu gan wyddonwyr blaenllaw yn y byd
- Byddwch yn arwain prosiect mewn labordy, mewn llyfrgell neu ddadansoddi data
- Byddwch yn cael dealltwriaeth fanwl o faterion a chysyniadau gwyddonol cyfredol sy'n ymwneud â gwyddoniaeth ffarmacoleg
- Byddwch yn gallu dylunio ymchwil a chyflwyno a darlunio canlyniadau eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Mae hwn yn gwrs gradd fydd yn gwella'ch gyrfa wyddonol.
Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (PPY)
- Bydd cael y dewis o PPY yn rhoi dealltwriaeth drylwyr o'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i chi trwy ddilyn y rhaglen radd hon. Bydd lleoliadau o’r fath yn y byd diwydiannol (fferyllol neu berthnasol), yn labordai ymchwil cyrff gwladol/prifysgolion neu mewn sefydliadau addas tebyg eraill.
- Bydd y PPY yn rhoi “sgiliau cyflogadwyedd” amhrisiadwy i chi fydd yn cryfhau rhagolygon eich gyrfa yn y dyfodol ac yn eich gwneud yn gystadleuol iawn yn y marchnadoedd gwaith anoddaf. Bydd treulio 9-12 mis mewn amgylchedd academaidd neu ddiwydiannol yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae data'n cael ei ddadansoddi, sut caiff gwybodaeth newydd ei chasglu mewn lleoliad ymchwil ac, yn dibynnu ar leoliad, sut mae sefydliad busnes yn cael ei redeg.
Maes pwnc: Ffarmacoleg Feddygol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Cemeg ac un pwnc gwyddonol arall o blith Bioleg, Mathemateg, Ffiseg neu Ystadegau. Bydd angen i chi basio yr elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Cemeg Lefel Uwch ac ail bwnc gwyddonol ar Lefel Uwch. Bioleg, Mathemateg, Ffiseg neu Ystadegau yw’r ail bynciau gwyddonol sy’n dderbyniol.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 7.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.0 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 20 ym mhob is-sgil.
PTE Academic
O leiaf 76 yn gyffredinol gydag o leiaf 62 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: Heb ei dderbyn.
III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol gyda gradd B mewn Cemeg Safon Uwch neu raddau DM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol gyda gradd A mewn Cemeg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy arnoch gyda mynediad priodol at y Rhyngrwyd, gallu chwarae sain a fideo a yn ogystal ag amddiffyniad cyfoes yn erbyn feirysau a maleiswedd.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad oes unrhyw feirysau neu godau maleisus eraill ar yr holl ddogfennau a chyfathrebiadau a ddarperir i'r Brifysgol neu sy'n cael eu llwytho ar systemau'r Brifysgol.
Bydd angen porwr gwe cyfoes, wedi'i ddiogelu'n addas, ac wedi'i alluogi ar gyfer chwarae sain a fideo ac Adobe Reader i weld deunyddiau cwrs a chwblhau tasgau ac asesiadau ar-lein.
Bydd angen meddalwedd prosesu geiriau, sy'n gydnaws â Microsoft Word, i gyflawni'r tasgau a'r asesiadau crynodol a ffurfiannol.
Gall mathau eraill o feddalwedd hefyd fod yn ddefnyddiol ar rai adegau yn y rhaglen ar gyfer casglu/dadansoddi data, er enghraifft Microsoft Excel, neu gynhyrchu cyflwyniadau, er enghraifft Microsoft PowerPoint, a gallant fod ar gael trwy'r Brifysgol yn rhad ac am ddim neu am bris gostyngol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.
Ym mhob blwyddyn o’r Rhaglen, byddwch yn cymryd Modiwlau hyd at werth 120 o gredydau. Ym mlynyddoedd 1, 2 a 3, rhaid i chi gael gradd gyffredinol o 40% neu uwch ar ddiwedd y flwyddyn i gael symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf. Nid yw'r radd a gyflawnir ym Mlwyddyn 1 yn cyfrif tuag at farc y gradd derfynol. Mae'r radd a gyflawnir ym Mlynyddoedd 2, 3 a 4 yn cyfrannu 20%, 10% a 70% at eich marc gradd olaf, yn y drefn honno.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae Blwyddyn 1 yn cynnwys pum modiwl dwbl craidd 20 credyd a gynhelir yn ystod Semestrau'r Hydref a'r Gwanwyn ar y cyd â'r Ysgol Biowyddorau.
Mae modiwl rhagarweiniol Ffarmacoleg 20 credyd yn cael ei redeg yn yr Ysgol Meddygaeth ar draws semester yr hydref a'r gwanwyn.
Dylech feithrin dealltwriaeth gadarn o’r gwyddorau cemegol a biolegol; bydd biocemeg, ffisioleg a geneteg, yn arbennig, yn eich helpu i ddeall sut mae cyffuriau’n gweithio ar y lefelau moleciwlaidd a swyddogaethol.
O ran ffarmacoleg yn benodol, cewch eich cyflwyno i’r egwyddorion gwyddonol sy’n diffinio bioargaeledd a gweithgarwch cyffuriau yn y corff, gan gynnwys ffarmacocineteg, ffarmacodynameg, theori derbynnydd, therapiwteg, gwenwyneg a chamddefnyddio cyffuriau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sgiliau ar gyfer Gwyddoniaeth | BI1001 | 20 Credydau |
Strwythur a Swyddogaeth Organebau Byw | BI1002 | 20 Credydau |
Y Cell Dynamig | BI1004 | 20 Credydau |
Cemeg Fiolegol | BI1014 | 20 Credydau |
Geneteg ac Esblygiad | BI1051 | 20 Credydau |
Sylfeini ac Egwyddorion Ffarmacoleg | ME1013 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys chwe modiwl craidd 20 credyd sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl gan yr Ysgol Meddygaeth. Mae modiwlau'n ymdrin yn drefnus â chyffuriau ym meysydd haematoleg, imiwoleg, niwrodrosglwyddo, signalu celloedd endocrinaidd a pharacrinaidd, y brif system nerfol, ffarmacoleg gardiofasgwlaidd a chemotherapi canser. Mae modiwl 'technegau ymchwil' ffarmacolegol a modiwl cwbl 'ymarferol' yn rhoi sail gadarn i chi wneud astudiaethau swyddogaethol meintiol ac ansoddol ac yn rhoi hyfforddiant ymarferol ynghylch technegau labordy datblygedig.
Mae'r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb mewn meddygaeth i raddedigion yn astudio modiwl am anatomeg glinigol. Yn y modiwl, ystyrir ymarfer dyrannu celaneddol er mwyn lleoli a dehongli gosodiad a swyddogaeth y corff dynol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Technegau Ymchwil Ffarmacoleg Meddygol | ME2355 | 20 Credydau |
Cymhwyso Ffarmacoleg In-Vitro mewn Ymchwil | ME2360 | 20 Credydau |
Egwyddorion Neuropharmacology | ME2361 | 20 Credydau |
Haint, Imiwnedd a Haematoleg | ME2362 | 20 Credydau |
Ffarmacoleg o Glefydau Anhrosglwyddadwy Cyffredin | ME2366 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Anatomeg Glinigol | ME2001 | 20 Credydau |
Ffarmacoleg Clefydau Trofannol | ME2367 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Mae blwyddyn olaf y cwrs BSc yn cynnwys chwe modiwl craidd 10 credyd, Prosiect Ymchwil gorfodol 40 credyd a thri modiwl dewisol 10 credyd y mae'n rhaid i chi ddewis 2 ohonynt.
Yn y flwyddyn hon, byddwch yn astudio mewn amgylchedd dwys a arweinir gan ymchwil feddygol. Bydd y modiwlau’n datblygu sawl maes dethol yn fanwl - meysydd fel ffarmacogeneteg, niwroffarmacoleg, datblygu cyffuriau, imiwnoleg, canser a meddygaeth gardiofasgwlaidd - ac yn darparu rhagor o brofiad ymarferol mewn technegau arbenigol.
Mae un modiwl wedi'i lunio i ddatblygu sgiliau dadansoddi beirniadol o ran darllen papurau gwyddonol a hyrwyddo’r gallu i gyflwyno data mewn ffyrdd cywir a diamwys. Un o brif nodweddion y flwyddyn yw prosiect ymchwil biofeddygol 40 credyd mewn labordy sy'n hyrwyddo datblygiad sgiliau beirniadol a dadansoddol uwch.
Yn y flwyddyn hon byddwch hefyd yn integreiddio â nifer o fyfyrwyr meddygol sy'n ymgymryd â gradd BSc Ymsang mewn Ffarmacoleg (cwrs blwyddyn nad yw yr un peth â rhaglen BSc 3 blynedd).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dadansoddiad beirniadol o'r llenyddiaeth | ME3037 | 10 Credydau |
Uwch Imiwnoleg | ME3045 | 10 Credydau |
Prosiect Ymchwil | ME3048 | 40 Credydau |
Darganfod a Datblygu Cyffuriau | ME3050 | 10 Credydau |
Datblygiadau mewn Niwropharmacology | ME3052 | 10 Credydau |
Pharmacogenomics a Pharmacogenetics | ME3053 | 10 Credydau |
Meddygaeth Cardiofasgwlaidd: Ymagwedd sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth | ME3055 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Bioleg Canser | ME3034 | 10 Credydau |
Imiwnopatholeg ac imiwnotherapi | ME3046 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth graidd yn cael eu caffael trwy ddarlithoedd, seminarau, trafodaethau grŵp, sesiynau tiwtorial a gwaith grŵp arall. Ym mlynyddoedd 1 a 2, mae rhai modiwlau wedi'u neilltuo'n benodol i hyfforddi ac ymarfer cyflwyno data gwyddonol yn ysgrifenedig, ar boster ac ar lafar.
Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys modiwl pwrpasol 'ymarferol yn unig' a modiwl 'technegau ymchwil', a ddyluniwyd i bontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer ym maes ffarmacoleg.
Os dewiswch y rhaglen bedair blynedd byddwch yn dilyn Lleoliad Proffesiynol trwy brofiad sy'n para 9-12 mis. Treulir yr amser hwn mewn un sefydliad, gan roi mwy o gyfle i'r gwaith prosiect.
Yn y flwyddyn olaf datblygir gweithgareddau beirniadol a synthetig lefel uchel trwy gyflwyniadau a phrosiect ymchwil. Mae modiwl 10-credyd hefyd wedi'i neilltuo'n llwyr i hyfforddiant mewn gwerthuso llenyddiaeth wyddonol.
Mae angen lefel uchel o astudiaeth annibynnol o ddeunydd cyhoeddedig ar gyfer pob modiwl lefel 6.
Mae'r Rhaglenni BSc (Anrhydedd) 3 a 4 blynedd mewn Ffarmacoleg Feddygol a Ffarmacoleg Feddygol (gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol) yn ceisio:
- Ysgogi ac annog ymholiadau a diddordeb sy'n canolbwyntio ar gaffael gwybodaeth i fodloni chwilfrydedd ac awydd i ddeall
- Rhoi cefndir ffarmacolegol damcaniaethol a chymhwysol eang pe byddech am ymgymryd ag astudiaeth ac ymchwil bellach mewn ffarmacoleg, neu mewn pwnc cysylltiedig neu os ydych am astudio ffarmacoleg hyd at lefel gradd gyntaf
- Rhoi cyfarwyddyd digonol i alluogi graddedigion â chymwysterau addas i gael mynediad i Flwyddyn 2 Rhaglen Feddygaeth MBBCh Prifysgol Caerdydd (cwrs A101).
- Ysgogi a chynnal eich brwdfrydedd dros ffarmacoleg, a'ch mwynhad o’r pwnc, a'ch galluogi i ymgysylltu â chamau dilynol eich gyrfa gyda menter a hyder yn eich gallu
- Annog gwerthfawrogiad o agweddau cymdeithasol, moesegol a masnachol ar gymhwyso gwybodaeth a thechnegau ffarmacolegol a manteisio arnynt.
Nodau’r rhaglenni:
- Rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o ffeithiau, termau, dulliau, cysyniadau, egwyddorion a pherthnasoedd ffarmocolegol a gwerthfawrogi eu harwyddocâd
- Datblygu sgiliau technegol a threfnu sy'n gymesur ag arfer da yn y labordy, arferion gweithio diogel a chaffael data gwyddonol cadarn.
- Datblygu sgiliau lleoli gwybodaeth a’i hadfer o amrywiaeth o ffynonellau
- Datblygu sgiliau gwerthuso rhesymegol a beirniadol o: ddata gwyddonol, y dulliau a ddefnyddiwyd i gael y data, y dadansoddiadau ystadegol a ddefnyddiwyd a'r casgliadau a'r casgliadau y daethpwyd iddynt
- Datblygu'r gallu i gyfathrebu, ar lafar ac mewn gwaith ysgrifenedig, a chymryd rhan yn adeiladol mewn trafodaeth
- Meithrin ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwaith arbrofol ac o'r defnydd o dechnegau a ddaw o ddisgyblaethau eraill
- Cynnig profiad dysgu llawn boddhad, gan ddefnyddio ein harbenigedd yn cyflwyno gwaith ymchwil ac addysgu gwyddonol o’r radd flaenaf. Prif amcan y cwrs gradd yw hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth ar lefelau cysyniadol ac ymarferol fel ei gilydd.
Nod y Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol:
Nod y Flwyddyn Lleoli Proffesiynol yw rhoi’r cyfle i chi:
- brofi amgylchedd gweithle go iawn a sut mae anghenion yn cael eu nodi ac adnoddau'n cael eu caffael, eu dyrannu a'u defnyddio at ddibenion cyflawni amcanion sefydliadol
- trefnu eich hun fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau, eu deall yn gyflym a’u cyflawni er boddhad eich cyflogwr fel ffordd o ddatblygu er mwyn cwblhau gwaith mwy cyfrifol
- datblygu'r sgiliau rhyngbersonol sy'n ofynnol i'ch galluogi i weithio'n effeithlon fel aelod o dîm sy'n ceisio cyflawni nodau sefydliadol
- caffael a datblygu sgiliau technegol sy'n gysylltiedig â natur eich gwaith
- nodi, dadansoddi a thrafod gydag ymarferwyr profiadol sut mae cysyniadau damcaniaethol yn cael eu haddasu a'u cymhwyso i weddu i ofynion ymarferol
- cymhwyso gwybodaeth fydd yn eich helpu i gynllunio a gwerthuso astudiaethau a datblygu gyrfa yn y dyfodol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Dyrennir Tiwtor Personol ar eich cyfer ar ddechrau'r tymor i’ch helpu a’ch cefnogi gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Fel rheol, byddwch chi'n aros gyda'ch Tiwtoriaid Personol penodedig trwy gydol cyfnod y cwrs. Yn ystod wythnos gyntaf y tymor, dylech drefnu cyfarfod gyda'ch Tiwtor Personol i ddweud 'Helo' yn ogystal â threfnu cyfarfodydd ar gyfer y dyfodol. Dyrennir ‘rhiant’ o’r flwyddyn 2 gyfredol hefyd ar gyfer pob myfyriwr. Diben hyn yw i'ch croesawu i Gaerdydd, eich helpu i integreiddio'n gymdeithasol i'r cwrs ac, yn anad dim, cynnig wyneb cyfeillgar.
Os bydd angen gwybodaeth neu gyngor arnoch, eich Tiwtor Personol ddylai fod eich cyswllt cyntaf. Gellir ymgynghori â Chyfarwyddwr y Rhaglen ar unrhyw fater ar unrhyw adeg.
Bydd Llawlyfrau’r Cwrs yn rhoi mwy o fanylion am y gefnogaeth sydd ar gael ar ôl i chi ddechrau'r cwrs.
Sut caf fy asesu?
Knowledge and understanding are assessed summatively through a variety of exam formats designed to test the depth, breadth, accumulation and application of pharmacological knowledge. Full details of module assessments may be found in Module Handbooks and the Assessment Handbook for the programme.
In Year 1 (level 4), there is a bias towards use of instruments such as single best answer (SBA), multiple choice questions (MCQ) and written short answer questions designed to assess knowledge with less emphasis on higher analytical and critical skills. Summative assessment is primarily by means of unseen written examinations, generally in combination with an in-course element. In Year 1, all modules include an in-course element.
In Year 2 (level 5), the ability to integrate and synthesise material and demonstrate clear understanding is starting to be assessed through greater use of essays as compared to MCQ in summative assessment. You will be expected to develop a greatly increased knowledge base. Some of the modules are examined wholly by means of in-course assessments, with the remainder of modules all having an in-course element.
In Year 3 (level 5), the Professional Placement will be assessed as follows:
-
Placement Supervisor's Assessment (15%)
-
Critical Incident Reflective Portfolio (15%)
-
Written Report (70%)
In the Final Year (level 6), the highest levels of understanding and a broad knowledge of the subject extending in selected areas beyond core material is expected. In addition to assessment of this knowledge, understanding of scientific data and its interpretation is incorporated into questions in unseen written papers and forms the basis of the in-course assessment for the project and summative oral student presentation.
Formative feedback of knowledge and understanding is concentrated in years 1 and 2. Formative in-course assessments of varying types are provided in several year 1 and 2 modules and will also be included in the Placement Year. You may be tasked with peer marking followed by discussion of the correct and incorrect answers.
Feedback
Formative feedback will be communicated through electronic and written means in a timely manner. Summative feedback on assessment will be delivered within the timeframe set by the University.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Byddwch yn caffael gwybodaeth graidd a dealltwriaeth drwy gyfrwng darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol, seminarau a dysgu drwy ddatrys problemau. Byddwch yn caffael gwybodaeth ac yn datblygu dealltwriaeth fwy datblygedig drwy waith grŵp a phrosiectau. Disgwylir i chi gynnal astudiaeth annibynnol hefyd a mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r Rhaglen fynd rhagddi.
Mae'r Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol yn rhoi cyfle i chi ennill profiad ymchwil uniongyrchol, gan ddangos sut mae gwybodaeth newydd yn cael ei chasglu. Bydd profiad o'r fath yn eich galluogi i ennill sgiliau ymarferol pwysig a gwerthfawrogi manteision a chyfyngiadau gwahanol dechnegau ymchwil. Yn ystod y lleoliad, byddwch yn ennill sgiliau gweithio mewn grŵp ac mewn tîm, a byddwch hefyd yn gallu cynllunio a gwneud gwaith arbrofol ar eich pen eich hun.
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
- Perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
- Gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol
- Dangos y gallu i gwrdd â dyddiadau cau a rheoli amser yn effeithiol
- Dangos ymwybyddiaeth o faterion moesegol sy'n ymwneud â'r gwyddorau biolegol
- Gwella astudio hunan-gyfeiriedig
- Datblygu technegau da ar gyfer cyfweliadau
- Datblygu sgiliau cyfathrebu da (gan ddefnyddio pob cyfrwng)
- Llenwi portffolio personol gyda deunydd perthnasol
O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:
- Disgrifio cwmpas ac ystod y paratoadau ffarmacolegol, eu tarddiad, eu datblygu a'u defnydd;
- Cysylltu disgyblaethau o anatomeg, ffisioleg, ffiseg, cemeg, seicoleg, biocemeg a bioleg foleciwlaidd i fod yn berthnasol i ddeall a chynnal gwaith ymchwil mewn ffarmacoleg;
- Gwerthfawrogi sut mae gwahanol systemau’r corff yn rhyngweithio i gynnal homeostasis, ymateb i heriau amgylcheddol, ymgymryd â gweithgarwch corfforol a meddyliol mewn iechyd ac mewn clefyd, a gwybod beth yw rôl cyffuriau wrth fodiwleiddio’r prosesau hyn;
- Disgrifio egwyddorion sy'n sail i ddatblygu cyffuriau, gwerthuso diogelwch a rhoi therapiwteg wedi’i seilio ar dystiolaeth ar waith;
- Dangos sut mae gwybodaeth wedi datblygu ymhellach mewn rhai meysydd penodol o ffarmacoleg drwy werthuso'r dystiolaeth arbrofol o'r gwaith gwyddonol a wnaethpwyd.
- Rhoi sgiliau gwyddonol arbennig ar waith ar gyfer astudiaethau pellach, ymchwil neu waith o fewn gofal iechyd clinigol.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ffeithiau, termau, dulliau, cysyniadau, egwyddorion a pherthnasau ffarmocolegol a gwerthfawrogi eu harwyddocâd.
- Dangos sgiliau technegol a threfnu sy'n gymesur ag arfer da yn y labordy, arferion gweithio diogel a chaffael data gwyddonol cadarn.
- Dangos sgiliau gwerthuso rhesymegol a beirniadol o ddata gwyddonol.
Beth yw deilliannau dysgu'r cwrs/rhaglen?
Knowledge & Understanding:
On successful completion of the Programme you should be able to demonstrate:
- the scope and range of pharmacological preparations, including acquisition of coherent and detailed knowledge regarding their origins, development and use from previous and current literature
- the related disciplines of anatomy, physiology, biochemistry and molecular biology as relevant to understanding and investigating pharmacology
- how the different systems of the body interact to maintain homeostasis, respond to environmental challenges, undertake physical and mental activity in health and in disease, and the role of drugs in modulating these processes
- the principles that underpin drug development, safety evaluation and the practice of evidence-based therapeutics
- the complex biological and other inter-relationships involved in the health of individuals, communities and populations
- how knowledge has advanced in selected areas of pharmacology by critical evaluation and a sceptical approach to experimental evidence from the past and most recent scientific literature
- how to apply the methods and techniques that they have learned to review, consolidate, extend and apply this in order to initiate and carry out various projects
- how the underlying concepts and principles described above are applied outside the context in which they were first studied, including the application of these principles in an employment context
- the main methods of enquiry in pharmacological research and the ability to be sceptical and evaluate critically the appropriateness of different approaches to solving problems.
On successful completion of the PPY you should be able to:
- demonstrate a critical understanding of the methodologies/experimental/analytical techniques used during your placement and apply such knowledge in a wider context
- demonstrate the use of initiative in dealing with issues/problems in the working environment
- describe and define information from the scientific literature relevant to your placement, and in doing so evidence a critical understanding of the subject area
- recognise the limits of such knowledge, and relate the influence this may have on analyses and interpretations of acquired data
- demonstrate how a critical understanding of underlying concepts and principles learned during your first two years at University has been applied in an employment context
- identify and reflect on opportunities for informal learning and explain how such experiences have impacted on your personal objectives and development
- demonstrate a range of skills and attributes which will enhance your graduate employability (awareness of application/selection interview processes, communication, report-writing, time management, self-motivation, independence, adaptability and team working/networking).
Intellectual Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
- the use of a range of established techniques to initiate and undertake critical analysis of information, and to propose solutions to problems arising from that analysis
- effective communication of information, arguments, and analysis, in a variety of forms, to specialist and non-specialist audiences
- the ability to undertake further training, develop existing skills, and acquire new competences that will enable you to assume significant responsibility within organisations
- the qualities and transferable skills necessary for employment requiring the exercise of initiative, personal responsibility and decision-making in complex and unpredictable contexts
- the ability to manage your own learning, and to make use of scholarly reviews and primary sources.
Professional Practical Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
- an in depth conceptual understanding of current knowledge and critical analysis
- the application of evidence-based medicine and deal with complex issues systematically and creatively
- an ability for problem solving and decision-making by enabling the effective utilisation of evidence and communication of important concepts to colleagues and others
- the ability, through the research-focused elements, to develop and enhance skills in literature review, critical evaluation, research design, research methodologies, data collection, data analysis and research principles
- the promotion of practical skills through fostering an interdisciplinary evidence-based learning environment where professionals learn about best practice within their own profession
- an appreciation of where your input and skills can be used effectively to complement those of other professionals involved in various fields including pure research, drug development and patient care
- assessment through reflection and show your ability to translate the research evidence into the working environment and critically appraise, in an objective manner, your own practice
- the development of excellent oral and written communication skills to aid team working and dissemination of research.
Transferable/Key Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
• effective communication skills (using all media)
• sensitivity to ethical implications of advances in pharmacological and health related fields
• the construction of reasoned arguments and implement an evidence-based approach or practice
• independent learning and thinking
• effective working as an individual and in a team
• effective time management and the ability to meet deadlines
• enhanced self-directed study
• good critical analysis/evaluation of data and written reports
• imagination and innovation in their approach to new situations and problems
• flexibility and creativity within organisational and professional contexts.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Gall y cwrs hwn arwain at yrfaoedd mewn diwydiannau ymchwil feddygol a gwyddonol, fferyllol a biolegol.
Mae cyfran fawr o fyfyrwyr Ffarmacoleg Feddygol BSc yn parhau â'u hastudiaethau trwy ddilyn PhD neu raglen gradd meistr. Mae llawer yn mynd ymlaen i astudio gradd mewn Meddygaeth.
Fel arall, mae rhai myfyrwyr yn defnyddio'r radd BSc fel cyfrwng cydnabyddedig i ddilyn gyrfaoedd mewn deintyddiaeth, gwyddoniaeth filfeddygol, labordai GIG, gwybodaeth wyddonol, ysgrifennu meddygol, cyfraith patent, rhaglenni rheoli i raddedigion, addysgu ac amrywiaeth o ddisgyblaethau anwyddonol.
Gyrfaoedd graddedigion
- Ymchwilydd Fferyllol
- Datblygiad Fferyllol
Lleoliadau
Pan fyddwch chi ar y rhaglen B210 Ffarmacoleg Feddygol, bydd gennych opsiwn i wneud cais i ymuno â’r rhaglen estynedig bedair blynedd, lle mae Blwyddyn 3 yn Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (PPY).
Bydd myfyrwyr sy’n ymgymryd â PPY yn cael eu haddysgu ar y cyd â’r rheiny ar y cwrs tair blynedd, a bydd cynnwys y ddwy raglen yn union yr un fath, ac eithrio’r flwyddyn a dreulir mewn swydd. Byddwch yn dechrau dewis a threfnu eich lleoliad ar ddechrau Blwyddyn 2, gyda chefnogaeth lawn y Cydlynydd PPY Ffarmacoleg Feddygol. Dylid pwysleisio mai cyfrifoldeb pob myfyriwr unigol yw dod o hyd i’w leoliad ei hun. Fel arfer, ni fydd yr Ysgol Meddygaeth yn cyflenwi cyfleoedd o’r fath.
Bydd y gefnogaeth yn cynnwys darparu gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, help i ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais, paratoi ar gyfer cyfweliadau ac unrhyw gymorth priodol arall. Gellir dod o hyd i leoliadau o gynlluniau cystadleuol wedi’u hysbysebu ar y we, cysylltiadau diwydiannol a/neu academaidd y staff ffarmacoleg neu trwy gysylltiad uniongyrchol rhyngoch chi a’r darparwyr priodol. Y darparwyr fydd yn penderfynu ar y taliadau (fel tâl neu gyflog) yn ystod y lleoliad, a gallant amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar ba fath o brosiect a wneir.
Byddwch yn treulio eich blwyddyn gydag un sefydliad, a fydd yn golygu bod mwy o gyfle i wneud y gwaith prosiect sy’n rhan hanfodol o bob lleoliad. Bydd lleoliadau o’r fath yn y byd diwydiannol (fferyllol neu berthnasol), yn labordai ymchwil cyrff gwladol/prifysgolion neu mewn sefydliadau addas tebyg eraill. Yn ystod y lleoliad, cewch diwtor PPY (aelod o staff addysgu Ffarmacoleg Feddygol, sef eich Tiwtor Personol fel arfer), fydd yn cadw mewn cysylltiad agos gyda chi i fonitro eich cynnydd. Ar ddiwedd y flwyddyn leoliad, cewch eich asesu trwy adroddiadau ar y gwaith gwyddonol a wnaed (ysgrifenedig - ar ffurf papur gwyddonol (70%), portffolio myfyriol digwyddiad critigol (15%) ac adroddiad gan ddarparwr y lleoliad (ar ffurflen wedi’i dylunio o flaen llaw, 15%).
Bydd y myfyrwyr hynny nad ydynt yn llwyddo i sicrhau swydd PPY yn cael eu rhoi yn ôl ar y rhaglen dair blynedd safonol.
Mae dogfennau Cwestiynau Cyffredin a Llawlyfr PPY yn rhoi gwybodaeth fanwl am sut cewch eich cefnogi cyn, yn ystod ac ar ôl eich lleoliad.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.