Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MEng)
- Maes pwnc: Peirianneg
- Côd UCAS: H307
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 5 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Elfen ddylunio gref
Mae elfen ddylunio gref drwy gydol y cwrs, a bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd ar gyfer gwaith ymarferol yn ein gofod stiwdio dylunio dynodedig, ein labordai arbenigol, ein gweithdai a’n hystafelloedd cyfrifiaduron. Bydd cyfle i'r rhai sy'n astudio yn y ddisgyblaeth peirianneg sifil fynd ar deithiau maes diwydiannol.
Lleoliad diwydiannol
Ewch ati i ennill profiad gwerthfawr o weithio mewn rôl â thâl mewn sefydliad yn y DU neu dramor am un flwyddyn academaidd.
Rasio Caerdydd
Mae llawer o fyfyrwyr peirianneg fecanyddol yn ymuno â Rasio Caerdydd ac yn cymryd rhan mewn dylunio, datblygu a phrofi car rasio Fformiwla Myfyrwyr profedig.
Ystyriaeth am ddyfarniad proffesiynol
Mae ein partneriaeth ffurfiol â Sefydliad City and Guilds Llundain yn eich galluogi i ennill Gwobr Uwch Licentiateship ar ôl cwblhau eich lleoliad yn llwyddiannus.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Wedi’i achredu gan Sefydliad y Peirianneg Mecanyddol a’r Sefydliad Ynni ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.
Mae peirianwyr mecanyddol yn cyfuno dychymyg a thechnoleg i ddatrys problemau yn y byd go iawn, trwy drin rhannau sy'n symud. Maent yn datblygu pob math o ddyfeisiau mecanyddol, offer, peiriannau a pheiriannau. sy'n cynnig atebion arloesol i gymdeithas a sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, ynni a gweithgynhyrchu.
Mae’r cwrs achrededig hwn yn darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddod yn beiriannydd fecanyddol sy’n barod am waith. Byddwch yn ymgorffori'r wybodaeth a gafwyd o'ch darlithoedd a'ch tiwtorialau ac yn datblygu eich galluoedd ymarferol ym meysydd dylunio, cyfrifiadura modelu, drwy brosiectau ymarferol a dosbarthiadau dylunio.
Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth o broblemau peirianneg dilys yn y byd go iawn a senarios sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, i weithio arnynt yn unigol a chyda pheirianwyr-fyfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Mae gwaith grŵp yn adlewyrchu perthnasoedd tîm peirianneg a bydd yn eich helpu i feithrin sgiliau proffesiynol, megis gwaith tîm a chyfathrebu. Mae ein mannau creu mynediad agored yn darparu lle i chi ddylunio, creu a chydweithio.
Bydd cyfle i chi gwblhau lleoliad â chyflog yn gweithio mewn lleoliad gwaith o'ch dewis, gan gynnwys y tu allan i'r DU. Mae hyn yn ffordd wych o gael profiad o amgylchedd gwaith proffesiynol a rhoi'r sgiliau rydych chi wedi'u dysgu ar waith. Yn y gorffennol, mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau yn Rolls-Royce, Network Rail, Siemens, General Electric a Bosch.
Mae rhaglen radd MEng yn eich galluogi i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth ym maes peirianneg fecanyddol. Byddwch yn elwa o ddysgu ar lefel uwch ym meysydd dylunio a rheoli, a phrosiectau dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.
Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-ABB. Rhaid cynnwys gradd A mewn Mathemateg.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Mathemateg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)
Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n defnyddio unrhyw fath o visa gael cliriad ATAS i astudio'r cwrs hwn.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Efallai y bydd costau ynghlwm wrth y Flwyddyn mewn Diwydiant, megis costau teithio, y dylech eu hystyried.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu eraill.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae nifer o raddedigion yn gweithio ym maes dylunio cynhyrchion i ddiwydiannau modurol, awyrenegol, cyfathrebiadau ac ynni. Mae rhai yn gweithio ym maes peirianneg feddygol, rhai yn teithio’r byd ar ran y diwydiant petrocemegol, ac eraill yn ymwneud â meysydd datblygu, cynhyrchu a rheoli cyffredinol.
Mae rhai yn dewis defnyddio’u graddau fel cymhwyster i’w galluogi i weithio mewn disgyblaethau eraill. Mae’r rhai hynny sydd wedi dilyn y llwybr hwn fel arfer yn gweithio yn y Lluoedd Arfog, y sector ariannol, y proffesiwn cyfreithiol, cyfrifyddiaeth siartredig neu gyfrifiadura.
Gyda safon mor uchel a chyfleoedd mor eang, mae gyrfa mewn peirianneg fecanyddol yn amrywiol, yn heriol ac yn werth chweil.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.