Mathemateg gyda Blwyddyn Dramor (MMath)
- Maes pwnc: Mathemateg
- Côd UCAS: G104
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 5 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor
Pam astudio'r cwrs hwn
Bydd y radd MMath yn eich helpu i ennill mantais gystadleuol yn y farchnad cyflogaeth i raddedigion neu baratoi ar gyfer gyrfa ymchwil, i gyd wrth archwilio diwylliannau ac arferion eraill ar Flwyddyn Dramor.
Blwyddyn dramor
Byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor lle byddwch yn dysgu wrth i chi deithio ac yn profi arferion a diwylliant gwlad wahanol.
Gwybodaeth arbenigol
Ochr yn ochr â dysgu technegau mathemategol uwch, byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau arbenigol drwy edrych yn fanwl ar bynciau y tu hwnt i gwmpas y radd BSc.
Blwyddyn yn seiliedig ar brosiectau
Yn ystod eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i gwblhau prosiect mathemategol sylweddol ar lefel uwch ym maes ymchwil o'ch dewis.
Cyfleusterau rhagorol
Byddwch yn cael eich addysgu yn Abacws, cartref newydd yr Ysgol Mathemateg. Mae’r adeilad blaenllaw hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, ac mae mannau addysgu arloesol yn nodwedd allweddol, gan gynnwys Ystafell Masnachu efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Achredir y radd hon gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau .
Mae’r radd MMath yn ymhelaethu ar y BSc i’ch paratoi ar gyfer mynediad lefel uchel i alwedigaethau perthnasol. Mae hefyd yn sylfaen gadarn ar gyfer dilyn gyrfa ymchwil.
Byddwch yn dysgu'r un cynnwys â'r radd BSc pedair blynedd gyda Blwyddyn Dramor, yn ogystal â chael blwyddyn ychwanegol lle byddwch chi'n cwblhau darn mawr o waith prosiect, fel:
- arolwg o faes theori mathemateg sydd eisoes yn bodoli, ond nad yw'n rhan o’r modiwlau a addysgir
- prosiect ymchwil rhagarweiniol
- datblygu darn o feddalwedd mathemategol
Byddwch yn archwilio pwnc ymchwil o'ch dewis ac yn datblygu'r sgiliau rheoli prosiect ac amser y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt. Byddwch hefyd yn dangos eich bod yn rheng flaen y ddisgyblaeth drwy astudio pynciau fel Dadansoddiad Mathemategol, Ffiseg Fathemategol a Deinameg Hylifol yn fanwl.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor yn ystod eich trydedd flwyddyn. Mae gan ein Hysgol gytundebau gyda sefydliadau ledled y byd, a bydd gennych gefnogaeth i wneud cais am eich blwyddyn dramor.
Mae astudio dramor fel rhan o’ch profiad yn y brifysgol yn ffordd wych o ehangu’ch gwybodaeth academaidd, o ymgolli mewn diwylliant arall, ac o ddysgu sgiliau y gallai cyflogwyr eu gwerthfawrogi. Bydd profiad rhyngwladol yn gwella eich CV drwy ddangos sgiliau allweddol fel cyfathrebu, hyblygrwydd, a gweithio ar y cyd, a gall roi cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i chi hefyd. Yn anad dim, mae'n ddechrau ar antur newydd. Mae'n gyfle i brofi diwylliannau a safbwyntiau newydd, gan wneud ffrindiau newydd a rhannu profiadau bythgofiadwy.
Achrediadau
Maes pwnc: Mathemateg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-ABB. Rhaid cynnwys gradd A mewn Mathemateg.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Dadansoddiad a Dulliau Mathemateg HL neu Fathemateg.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,430 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,535 | Dim |
Blwyddyn pump | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £4,417.5 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £29,450 | Dim |
Blwyddyn pump | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.
Gradd amser llawn a phum mlynedd o hyd yw hon. Byddwch yn treulio blwyddyn tri yn astudio dramor. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o'r modiwlau, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Y modiwlau y byddwch yn eu dewis ym mlynyddoedd dau a phedwar fydd yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer nes ymlaen.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Bydd eich modiwlau craidd ym Mlwyddyn Un yn cwmpasu meysydd sylfaen Calculus, Algebra, Dadansoddi, Cyfrifiadura a Tebygolrwydd. Gallwch hefyd ddewis modiwlau dewisol hyd at 10 credyd mewn pwnc arall.
Mae’r rhan fwyaf o Flwyddyn Un yn gyffredin i'n holl gynlluniau gradd ac felly mae fel arfer yn bosib trosglwyddo i radd Mathemateg arall.
Mae'n ofynnol i chi basio pob modiwl blwyddyn gyntaf a chyflawni cyfartaledd o 50%, o leiaf, i fynd ymlaen i ymgeisio.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Hafaliadau Gwahaniaethol Elfennol | MA1001 | 10 Credydau |
Cyfrifiadura ar gyfer Mathemateg | MA1003 | 20 Credydau |
Geometreg | MA1004 | 10 Credydau |
Sylfeini Mathemateg I | MA1005 | 20 Credydau |
Sylfeini Mathemateg II | MA1006 | 20 Credydau |
Algebra llinol I | MA1008 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Theori Tebygolrwydd | MA1500 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Mecaneg Glasurol | MA1301 | 10 Credydau |
Casgliad ystadegol | MA1501 | 10 Credydau |
Casgliad Ystadegol / Casgliadau Ystadegol | MA1551 | 10 Credydau |
Cyllid I: Marchnadoedd Ariannol a Rheolaeth Ariannol Gorfforaethol | MA1801 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn Dau, bydd modiwlau craidd yn parhau i adeiladu gwybodaeth sylfaenol ym meysydd Calculus, Algebra a Dadansoddi. Byddwch hefyd yn parhau i ehangu eich gwybodaeth am feysydd fel Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.
Mae mwy o ddewis o fodiwlau dewisol ym Mlwyddyn Dau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys 40 credyd o'ch cyfanswm ar gyfer y flwyddyn.
Y modiwlau y byddwch yn eu dewis fydd yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer ym Mlwyddyn Tri.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Calculus o sawl newidyn | MA2001 | 10 Credydau |
Dadansoddiad Cymhleth | MA2003 | 10 Credydau |
Cyfres a Thrawsnewidiadau | MA2004 | 10 Credydau |
Dadansoddiad go iawn | MA2006 | 10 Credydau |
Algebra llinol II | MA2008 | 20 Credydau |
Calculus Fector | MA2301 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Theori Rhif I | MA2011 | 10 Credydau |
Algebra I: Grwpiau | MA2014 | 10 Credydau |
Dirgryniadau a Thonnau | MA2303 | 10 Credydau |
Modelu gyda Hafaliadau Differol | MA2320 | 10 Credydau |
Sylfeini Tebygolrwydd ac Ystadegau | MA2500 | 20 Credydau |
Ystadegau Cyfrifiannol | MA2502 | 10 Credydau |
Seiliau tebygolrwydd ac Ystadegaeth / Sefydliadau Tebygolrwydd ac Ystadegau | MA2550 | 20 Credydau |
Ystadegau Cyfrifiadurol / Ystadegaeth Gyfrifiadurol | MA2552 | 10 Credydau |
Ymchwil Gweithredol | MA2601 | 20 Credydau |
Ymchwil Weithrediadol | MA2651 | 20 Credydau |
Dadansoddiad Rhifiadol | MA2701 | 10 Credydau |
Ymchwiliadau Mathemategol gyda Python | MA2760 | 10 Credydau |
Cyllid II: Rheoli Buddsoddi | MA2800 | 10 Credydau |
Datrys Problemau | MA2900 | 10 Credydau |
Datrys Problemau | MA2901 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Ym Mlwyddyn Tri cewch gyfle i dreulio blwyddyn mewn prifysgol dramor i brofi arferion a diwylliant gwlad wahanol. Mae gennym bartneriaid academaidd mewn nifer o wledydd yn Ewrop, yn ogystal ag yn Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau.
Trefnir y lleoliad gan yr Ysgol ac mewn rhai achosion mae cyllid ar gael ar gyfer costau teithio a byw.
Os ydych yn dymuno cymryd rhan yn yr astudiaeth dramor, mae angen i chi gyflawni o leiaf 50% ar gyfartaledd o'ch blwyddyn gyntaf o astudio a rhaid i chi basio 120 credyd ym Mhrif Fwrdd Arholi Blwyddyn 2.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Astudio Dramor | MA9990 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Ym Mlwyddyn Pedwar byddwch yn dilyn detholiad o fodiwlau uwch, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar bynciau o ddiddordeb arbennig. Mae cysylltiad agos rhwng y modiwlau sydd ar gael ym mlwyddyn pedwar, a diddordebau ymchwil yr Ysgol.
Blwyddyn pump
Yn y Bumed Flwyddyn, bydd y cwrs yn datblygu hyfforddiant mewn ymchwil ac uwch-sgiliau mewn mathemateg, yn enwedig mewn Dadansoddi Mathemategol, Ffiseg Fathemategol a Dynameg Hylifol.
Byddwch hefyd yn gwneud darn pwysig o waith prosiect sy’n werth 40 credyd, lle byddwch yn gwneud gwaith ymchwil newydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, yn ogystal â defnyddio eich sgiliau mathemategol mewn pwnc ymchwil o'ch dewis.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect MMath | MA4900 | 40 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ddamcaniaethol Hylif Dynamics | MA4003 | 20 Credydau |
Gorwedd Algebras | MA4006 | 20 Credydau |
Damcaniaeth Gwybodaeth Quantum | MA4016 | 20 Credydau |
Calculus o Amrywiadau | MA4023 | 20 Credydau |
Pynciau Uwch mewn Dadansoddiad: Gofodau Sobolev a PDEs Elliptig | MA4024 | 20 Credydau |
Bioleg Fathemategol | MA4309 | 20 Credydau |
Ystadegau Data Mawr | MA4511 | 20 Credydau |
Chwilio ac Optimeiddio Stocastig | MA4601 | 20 Credydau |
Modiwl Darllen | MA4901 | 20 Credydau |
Modiwl Darllen | MA4902 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, tiwtorialau i grwpiau bach (bob pythefnos ym mlwyddyn un), a dosbarthiadau trafod enghreifftiau. Cewch eich annog i ddysgu'n fwyfwy annibynnol drwy gydol y cwrs.
Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, a myfyrio ar asesiadau ac adborth.
Ym mlwyddyn pump, byddwn yn disgwyl i fyfyrwyr chwarae rhan fwy amlwg oherwydd bydd rhai darlithoedd yn cael eu cynnal ar ffurf seminarau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ddechrau pob blwyddyn, byddwch yn cael arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen. Byddwn yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.
Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.
Bydd y sefydliad lletyol yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer ar gyfer y lleoliad gwaith dramor ym mlwyddyn tri, i roi cefnogaeth ac arweiniad bugeiliol i chi. Bydd cydlynydd astudio dramor yr Ysgol yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd hefyd i adolygu'ch cynnydd personol ac academaidd.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, llyfrgelloedd ardderchog a chanolfannau adnoddau.
Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol sydd ar gael bob dydd yw'r rhain. Gall myfyrwyr alw heibio i drafod unrhyw elfen o'u hastudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod un i un, neu mewn grŵp bach.
Sut caf fy asesu?
Many modules have written examinations at the end of the autumn or spring Semesters, with some also having an element of continuous assessment. This may include problem-solving exercises, written reports, computer programs and oral presentations. Feedback on progress is typically provided through a combination of discussion in class, written comments on submitted work and review of outline solutions to problems. You are encouraged to discuss any queries related to specific modules with individual lecturers.
Your major research project in year five is assessed through a written report and its oral examination.
The grade of your final degree is currently based on 10% from your year two studies, 10% from your placement abroad, 30% from year four and 50% from year five. An average of at least 55% in years one and two is required to continue on this programme.
Your year abroad will be assessed on the results from the courses studied in the host institution and a presentation and oral exam at the start of the next term back in Cardiff.
You may also be asked to share your experiences with students considering the study-abroad option.
Feedback:
Written feedback and outline solutions on in-course assessment give you an opportunity to reflect on your progress. Further feedback is provided in examples classes and tutorials (in year one) to review problems in more detail and discuss potential solutions. You should discuss any queries related to specific modules with individual lecturers. There are a number of further feedback mechanisms in place to support your study; please see “How will I be supported?” below.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd pwysig. Byddwch yn:
- datblygu eich sgiliau cyfathrebu a'ch gallu i gyfathrebu Mathemateg ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar
- dangos hunanreolaeth effeithiol a'r sgiliau trefnu sydd eu hangen i ymgymryd â phrosiect mathemategol sylweddol
- gwella eich sgiliau cyfrifiadura, TG, adalw gwybodaeth a thrin data
- datblygu eich gallu i feddwl mewn ffyrdd rhesymegol a dadansoddol wrth ystyried problemau mewn disgyblaethau eraill
- dangos sgiliau gweithio mewn grŵp, rheoli amser a chyflwyno
- gwella eich dealltwriaeth o ddiwylliant academaidd addysg uwch mewn gwlad dramor
- dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu mewn proses o gynllunio datblygiad personol
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Gallwch ddefnyddio eich gradd MMath gyda Blwyddyn Dramor fel llwybr i'r gweithlu lle gallwch gwrdd â'n cyn-fyfyrwyr sy'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd megis gwyddor data, ymchwil weithredol, technoleg rhyngrwyd, meddygaeth, bancio, logisteg, rheoli risg, a marchnata. Neu, efallai byddwch chi’n dewis ehangu eich opsiynau gyrfa i gynnwys ystod o feysydd cysylltiedig trwy gwblhau PhD mewn mathemateg, y gwyddorau, cyfrifiadureg neu beirianneg.
Cymorth Gyrfaoedd Mathemateg
Yn Semester y Gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar gael i chi i helpu i gefnogi eich rhagolygon gyrfa. Mae’r dosbarthiadau’n ymdrin â phrofiad gwaith, CV a llythyrau esboniadol, ffurflenni cais, technegau cyfweliad, a chyflwyniad i LinkedIn.
Mae gennym ni fwrdd swyddi myfyrwyr sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion, gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau. Ar ben hynny, rydym ni’n trefnu rhaglen lawn o gyflwyniadau gan fyfyrwyr a chyflogwyr bob blwyddyn gyda chyflogwyr fel Grŵp Bancio Lloyds, HSBC, PwC, Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid, Sainsburys, Network Rail, GSK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dŵr Cymru, a’r Swyddfa Feteorolegol.
Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a ddyfarnir am gyflawniad academaidd.
Lleoliadau
Mae’r dewis o dreulio blwyddyn tri yn astudio dramor yn ymestyn y radd MMath i bum mlynedd. Mae gennym gytundebau gyda nifer o sefydliadau ar draws Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia. Mae cyllid ar gael ar gyfer costau teithio a byw mewn rhai achosion.
Os penderfynwch beidio â gwneud lleoliad dramor gallwch drosglwyddo i'r rhaglen MMath pedair blynedd neu i un o'r rhaglenni BSc. Mae rhaglenni BSc gyda blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol yn para pedair blynedd a gallant fod yn ddibynnol ar eich perfformiad academaidd.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.