Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg, Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol (BSc)

  • Maes pwnc: Mathemateg
  • Côd UCAS: G990
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae'r radd bedair blynedd hon yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl â thâl, a fydd yn eich paratoi chi’n berffaith ar gyfer gyrfa mewn ymchwil weithredol ac ystadegau.

briefcase

Blwyddyn ar leoliad proffesiynol

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn mewn gwaith cyflogedig mewn rôl mathemategydd neu ystadegydd lle gallwch ennill profiad gwaith gwerthfawr a datblygu eich sgiliau proffesiynol. Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant a thîm lleoliadau penodol i'ch cynorthwyo i ganfod lleoliad a chymorth yn ystod eich cyfnod yma.

rosette

Ystyriaeth am ddyfarniad proffesiynol

Os ydych chi’n cwblhau’r cyfnod hyfforddiant proffesiynol gallwch gael eich ystyried ar gyfer dyfarniad Uwch Drwydded City and Guilds (LCGI).

star

Gwybodaeth arbenigol

Ochr yn ochr â dysgu ystod eang o dechnegau mathemategol, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau manwl sydd eu hangen i sicrhau rôl mewn meysydd arbenigol o ystadegau ac ymchwil weithredol.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch yn cael eich addysgu yn Abacws, cartref newydd yr Ysgol Mathemateg. Mae’r adeilad blaenllaw hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, ac mae mannau addysgu arloesol yn nodwedd allweddol, gan gynnwys Ystafell Masnachu efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Achredir y radd hon gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau .

Ennill profiad ymarferol gwerthfawr a datblygu eich sgiliau proffesiynol wrth ymchwilio'n ddyfnach i fyd hynod ddiddorol Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth.

Mae Ymchwil Weithrediadol, neu Wyddor Rheolaeth, yn defnyddio technegau ystadegol a dadansoddol uwch i helpu sefydliadau ac unigolion i wneud penderfyniadau’n effeithiol. Wrth weithio yn y maes hwn, gallech chi fod yn:

  • pennu sut y dyrennir y gweithlu ac adnoddau
  • dod o hyd i ddilyniannau mewn cadwyn gyflenwi a chaffael
  • datblygu proffiliau a segmentau cwsmeriaid

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i chi'r sgiliau, y dulliau a’r ffyrdd o feddwl y bydd arnoch eu hangen i ddod yn ddadansoddwr ystadegol hyderus. Byddwch chi'n gallu mynd i'r afael â phroblemau sefydliadol cymhleth, gan ddefnyddio dulliau megis casglu data, modelu ystadegol, ac efelychu.

Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'r radd yn cynnwys blwyddyn o waith cyflogedig mewn rôl mathemategydd a/neu ystadegydd yn ystod blwyddyn tri. Byddwch yn dychwelyd i Gaerdydd ar ôl cwblhau lleoliad gwaith llwyddiannus ar ddechrau semester yr hydref ar gyfer eich blwyddyn olaf o astudiaethau.

Mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion, gall lleoliad eich helpu i sicrhau sgiliau a phrofiad ychwanegol fydd yn sicrhau eich bod yn sefyll allan. Gallai eich helpu i gael rôl barhaol ar ôl graddio, yn ogystal â chynnig cyd-destun o’r byd go iawn i gefnogi eich astudiaethau. Os nad ydych chi’n sicr pa lwybr gyrfa i’w ddilyn, mae’n gyfle gwych i archwilio’ch opsiynau a gallai hyd yn oed eich helpu i wneud y penderfyniadau hanfodol hynny am eich dyfodol.

Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau cyffrous mewn sefydliadau gan gynnwys:

  • Cyllid a Thollau EM
  • GIG Cymru
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • IBM

Achrediadau

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-BBB Rhaid cynnwys mathemateg.

 

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 pwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Dadansoddi a Dulliau Mathemateg neu Fathemateg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,907 Dim
Blwyddyn pedwar £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 Dim
Blwyddyn dau £29,450 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,890 Dim
Blwyddyn pedwar £29,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.

Mae hon yn radd pedair blwyddyn, amser llawn, gyda blwyddyn tri yn cael ei threulio yn gweithio yn y diwydiant. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y modiwlau, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Y modiwlau y byddwch yn eu dewis ym mlynyddoedd un a dau fydd yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer nes ymlaen.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un, bydd eich modiwlau craidd yn cwmpasu meysydd sylfaen Mathemateg Bur a Mathemateg Gymhwysol. Gallwch hefyd ddewis rhwng modiwlau mewn Mathemateg Ariannol, Ystadegau, Cyfrifiadura ac Ymchwil Weithredol. Bydd y modiwlau Ymchwil Weithredol ac Ystadegau yn eich cyflwyno i Fecaneg Glasurol a Rheolaeth Ariannol Gorfforaethol.

Mae’r rhan fwyaf o Flwyddyn Un yn gyffredin i'n holl gynlluniau gradd ac felly mae fel arfer yn bosib trosglwyddo i radd Mathemateg arall.

Mae'n ofynnol i chi basio pob modiwl blwyddyn gyntaf a chyflawni cyfartaledd o 50%, o leiaf, i fynd ymlaen i'r cam ymgeisio.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hafaliadau Gwahaniaethol ElfennolMA100110 Credydau
Cyfrifiadura ar gyfer MathemategMA100320 Credydau
GeometregMA100410 Credydau
Sylfeini Mathemateg IMA100520 Credydau
Sylfeini Mathemateg IIMA100620 Credydau
Algebra llinol IMA100810 Credydau
Cyflwyniad i Theori TebygolrwyddMA150010 Credydau
Casgliad ystadegolMA150110 Credydau

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau, bydd eich modiwlau craidd yn parhau i ehangu eich gwybodaeth mewn meysydd fel Ystadegau ac Ymchwil Weithredol. Mae mwy o ddewis o fodiwlau ariannol arbenigol.

Y modiwlau y byddwch yn eu dewis fydd yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer ym Mlwyddyn Tri.

Mae croeso i chi drosglwyddo i'r cynllun gradd BSc Mathemateg Ariannol os ydych chi’n penderfynu peidio â chymryd y Flwyddyn Lleoliad Proffesiynol.

Byddwn yn darparu cymorth a chefnogaeth i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad i baratoi ar gyfer blwyddyn tri, fodd bynnag, chi sy'n gyfrifol am sicrhau lleoliad. Os na allwch gael lleoliad ym mlwyddyn dau, cewch eich trosglwyddo i'r radd BSc Mathemateg Ariannol tair blynedd.

Mae'n ofynnol i chi basio o leiaf 100 credyd i symud ymlaen i'r Flwyddyn Lleoliad Proffesiynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Calculus o sawl newidynMA200110 Credydau
Dadansoddiad CymhlethMA200310 Credydau
Cyfres a ThrawsnewidiadauMA200410 Credydau
Algebra llinol IIMA200820 Credydau
Sylfeini Tebygolrwydd ac YstadegauMA250020 Credydau
Ymchwil GweithredolMA260120 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dadansoddiad go iawnMA200610 Credydau
Cyflwyniad i Theori Rhif IMA201110 Credydau
Algebra I: GrwpiauMA201410 Credydau
Dadansoddi RealMA205610 Credydau
Calculus FectorMA230110 Credydau
Dirgryniadau a ThonnauMA230310 Credydau
Modelu gyda Hafaliadau DifferolMA232010 Credydau
Ystadegau CyfrifiannolMA250210 Credydau
Ystadegau Cyfrifiadurol / Ystadegaeth GyfrifiadurolMA255210 Credydau
Dadansoddiad RhifiadolMA270110 Credydau
Ymchwiliadau Mathemategol gyda PythonMA276010 Credydau
Cyllid II: Rheoli BuddsoddiMA280010 Credydau
Datrys ProblemauMA290010 Credydau
Datrys ProblemauMA290110 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Ym Mlwyddyn Tri byddwch yn dechrau cyflogaeth cyflogedig, gan weithio fel mathemategydd neu ystadegydd mewn sefydliad yn y DU neu yn Ewrop.

Os ydych chi’n cwblhau’r cyfnod hyfforddiant proffesiynol gallwch gael eich ystyried ar gyfer dyfarniad Uwch Drwydded City and Guilds (LCGI).

Cewch gefnogaeth i gyflwyno cais am leoliad, y gellir ei gyflawni ag amrywiaeth eang o ddarparwyr ar draws y diwydiant a’r llywodraeth, gan gynnwys llawer yn y gwasanaethau ariannol, y diwydiant fferyllol, a sefydliadau fel Swyddfa’r Ystadegau Gwladol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hyfforddiant DiwydiannolMA9999120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Ym Mlwyddyn Pedwar, nid oes unrhyw fodiwlau gorfodol ac mae gennych ddewisiadau eang.

Mae gennych yr hyblygrwydd i arbenigo mewn maes penodol o fathemateg, neu gadw at set eang o ddiddordebau ac archwilio sawl maes gwahanol.

Yn ogystal â modiwlau a addysgir, gallwch hefyd ddewis ymgymryd â phrosiect 10 credyd neu 20 credyd unigol sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig – cyfathrebu, cyflwyno a rheoli amser - a chymhwyso eich gwybodaeth fathemategol i ymchwiliad o'ch dewis.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Swyddogaethol a FourierMA300520 Credydau
Theori CodioMA300710 Credydau
Topoleg algebraiddMA300810 Credydau
Cyflwyniad i Theori Rhif 2MA301110 Credydau
Hafaliadau Differol CyffredinMA301210 Credydau
Algebra II: ModrwyauMA301410 Credydau
Algebra III: MeysyddMA301510 Credydau
Hafaliadau Gwahaniaethol RhannolMA301610 Credydau
Mesur TheoriMA301820 Credydau
Damcaniaeth cwlwmMA302210 Credydau
Theori ClymauMA305210 Credydau
Dulliau Mathemateg GymhwysolMA330420 Credydau
Finite ElasticityMA331210 Credydau
Modiwl Prosiect (Blwyddyn Gyfan)MA339120 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner)MA339210 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester GwanwynMA339310 Credydau
Dadansoddiad Atchweliad a Dylunio ArbrofolMA350220 Credydau
Prosesau stocastig ar gyfer Cyllid ac YswiriantMA350320 Credydau
Ystadegau SwyddogolMA350410 Credydau
Dadansoddiad Data Aml-amrywiolMA350610 Credydau
Dadansoddiad Data Aml-amrywiol / Dadansoddi Data AmlamryweddMA355610 Credydau
Algorithmau a HeuristicsMA360210 Credydau
OptimeiddioMA360320 Credydau
Gêm TheoriMA360410 Credydau
Algorithmau a Dulliau Hewristig / Algorithms and HeuristicsMA365210 Credydau
Mathemateg Deallusrwydd ArtiffisialMA370110 Credydau
Rheoli Risg MeintiolMA380510 Credydau
Cyflwyniad i addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchraddMA390020 Credydau
Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg Ysgol UwchraddMA390120 Credydau
ProsiectMA397020 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester yr HydrefMA397110 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester y GwanwynMA397210 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, tiwtorialau i grwpiau bach, a dosbarthiadau trafod enghreifftiau. Cewch eich annog i ddysgu'n fwyfwy annibynnol drwy gydol y cwrs.

Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, a myfyrio ar asesiadau ac adborth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau pob blwyddyn, byddwch yn cael arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen. Byddwn yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.

Yn ystod eich lleoliad ym mlwyddyn tri byddwch yn gweithio dan gyfarwyddyd Goruchwyliwr o ddydd i ddydd, sy’n aelod o’r sefydliad sy'n darparu'r lleoliad. Os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, bydd staff y Brifysgol yn ymweld â chi (fel arfer ddwywaith neu dair gwaith yn ystod y flwyddyn), i weld sut mae lleoliad yn mynd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, llyfrgelloedd ardderchog a chanolfannau adnoddau.

Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol sydd ar gael bob dydd yw'r rhain. Gall myfyrwyr alw heibio i drafod unrhyw elfen o'u hastudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod un i un, neu mewn grŵp bach.

Sut caf fy asesu?

Mae gan lawer o fodiwlau arholiadau ysgrifenedig ar ddiwedd semestrau'r hydref neu'r gwanwyn, ac mae gan rai ohonynt elfen asesu barhaus hefyd. Gall hyn gynnwys ymarferion datrys problemau, adroddiadau ysgrifenedig, rhaglenni cyfrifiadurol a chyflwyniadau llafar. Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.

Bydd 20% o'ch gradd derfynol yn seiliedig ar eich astudiaethau yn yr ail flwyddyn, a 10% ohoni ar y lleoliad ym mlwyddyn tri a 70% o flwyddyn pedwar.

Mae disgwyl i chi ysgrifennu mewn modd myfyriol am eich lleoliad diwydiannol ac am y sgiliau rydych chi wedi eu datblygu, a chyflwyno poster ar eich profiad hyfforddiant proffesiynol. Bydd gofyn hefyd i oruchwylwyr diwydiannol asesu eich perfformiad yn ystod y lleoliad.

Adborth:

Mae adborth ysgrifenedig ac atebion amlinellol am asesiadau o fewn y cwrs, yn rhoi'r cyfle i chi fyfyrio ar eich cynnydd. Darperir rhagor o adborth mewn dosbarthiadau trafod enghreifftiau a thiwtorialau (ym mlwyddyn un) er mwyn adolygu problemau'n fanylach a thrafod atebion posibl. Dylech drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol. Mae nifer o ddulliau ar waith i roi rhagor o adborth i gefnogi eich astudiaethau; darllenwch "Sut y caf fy nghefnogi?" isod.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd pwysig. Byddwch yn:

  • datblygu eich sgiliau cyfathrebu a'ch gallu i gyfathrebu Mathemateg ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar
  • datblygu sgiliau trefnu ac yn gallu rheoli eich hun yn dda
  • gwella eich sgiliau cyfrifiadura, TG, adalw gwybodaeth a thrin data
  • datblygu eich gallu i feddwl mewn ffyrdd rhesymegol a dadansoddol wrth ystyried problemau mewn disgyblaethau eraill
  • dangos sgiliau gweithio mewn grŵp, rheoli amser a chyflwyno
  • dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu mewn proses o gynllunio datblygiad personol

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gallwch ddefnyddio eich gradd BSc Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth gyda Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol fel llwybr i'r gweithlu lle gallwch gwrdd â'n cyn-fyfyrwyr sy'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd, megis gwyddor data, ymchwil weithredol, technoleg rhyngrwyd, meddygaeth, bancio, logisteg, rheoli risg, a marchnata. Neu, efallai byddwch chi’n dewis ehangu eich opsiynau gyrfa i gynnwys ystod o feysydd cysylltiedig trwy gwblhau astudiaethau ôl-raddedig yn y gwyddorau, cyfrifiadureg neu beirianneg.

Cymorth Gyrfaoedd Mathemateg

Yn Semester y Gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar gael i chi i helpu i gefnogi eich rhagolygon gyrfa. Mae’r dosbarthiadau’n ymdrin â phrofiad gwaith, CV a llythyrau esboniadol, ffurflenni cais, technegau cyfweliad, a chyflwyniad i LinkedIn.

Mae gennym ni fwrdd swyddi myfyrwyr sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion, gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau. Ar ben hynny, rydym ni’n trefnu rhaglen lawn o gyflwyniadau gan fyfyrwyr a chyflogwyr bob blwyddyn gyda chyflogwyr fel Grŵp Bancio Lloyds, HSBC, PwC, Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid, Sainsburys, Network Rail, GSK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dŵr Cymru, a’r Swyddfa Feteorolegol.

Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a ddyfarnir am gyflawniad academaidd.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Finance Manager
  • Lecturer
  • Risk Analyst
  • Statistician

Lleoliadau

Mae’r dewis o dreulio blwyddyn tri yn myd diwydiant yn ymestyn y radd BSc i bedair blynedd. Os byddwch yn penderfynu peidio â mynd ar leoliad dramor, bydd gennych ddau ddewis. Gallwch newid i raglen tair blynedd BSc Mathemateg, neu raglen radd sy'n cynnwys blwyddyn dramor. Bydd blwyddyn yn astudio dramor yn cadw hyd eich gradd BSc yn bedair blynedd. Bydd y dewis hwn yn dibynnu ar eich perfformiad academaidd a phryd byddwch chi’n penderfynu newid rhaglenni.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 47% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.