Mae ein graddau hyblyg yn eich galluogi chi i ddilyn eich diddordebau a datblygu eich sgiliau proffesiynol, gan eich paratoi chi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous.
Un o'r rhaglenni datblygiad proffesiynol gorau ar gyfer israddedigion yn y DU.
Astudio a gweithio dramor
Rydyn ni’n cynnig y cyfle i astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor. Astudio yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig ac ysbrydoledig yn y byd gan gynnwys; Paris, Berlin, Milan a Barcelona.
Cyrsiau gradd achrededig
Achredir ein holl gyrsiau gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA).
P’un ai a hoffech chi sicrhau mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi neu baratoi am yrfa ym maes ymchwil, gall ein cwrs MMath eich helpu i gyflawni eich nodau proffesiynol yn gyflymach.
Mae'r rhaglen bedair blynedd hon yn cynnwys lleoliad â thâl, i wella cyflogadwyedd, mewn sefydliad o'ch dewis, gan ddarparu'r paratoad delfrydol ar gyfer gyrfa mewn cyllid.
Mae'r fersiwn hon o'r radd MMath yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl fel mathemategydd a/neu ystadegydd gyda thâl.
Bydd y radd MMath yn eich helpu i ennill mantais gystadleuol yn y farchnad cyflogaeth i raddedigion neu baratoi ar gyfer gyrfa ymchwil, i gyd wrth archwilio diwylliannau ac arferion eraill ar Flwyddyn Dramor.
Mae’r radd bedair blynedd hon yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl fel mathemategydd neu ystadegydd, gyda thâl, mewn sefydliad o’ch dewis.
Mae hwn yn cyfuno ystadegau ac ymchwil weithredol â mathemateg mewn cwrs sydd wedi’i deilwra’n ofalus i anghenion y rhai sydd am gadw eu dewisiadau’n agored ac sy’n chwilio am amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa.
Mae'r radd bedair blynedd hon yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl â thâl, a fydd yn eich paratoi chi’n berffaith ar gyfer gyrfa mewn ymchwil weithredol ac ystadegau.