Ieithyddiaeth ac Iaith Fodern (BA)
- Meysydd pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth , Ieithoedd modern a chyfieithu
- Côd UCAS: R755
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor
Pam astudio'r cwrs hwn
Profiad deinamig
Dysgwch gan siaradwyr brodorol ac unigolion sydd i bob pwrpas yn siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o weithgareddau addysgu a dysgu.
Gweithgareddau allgyrsiol
Bydd rhaglen fywiog yn eich helpu i ddysgu’r iaith a mwynhau ei diwylliant trwy ddosbarthiadau sgwrsio gyda myfyrwyr cyfnewid, caffis iaith a chymdeithasau iaith i fyfyrwyr.
Sgiliau ar gyfer y dyfodol
Rhaglen sgiliau strwythuredig sy’n ymgorffori sgiliau academaidd, trosglwyddadwy a chyflogadwyedd o'r cychwyn.
Y byd yw'ch ystafell ddosbarth
Treulio’ch trydedd flwyddyn yng ngwledydd yr iaith (ieithoedd) a ddewisoch chi.
Ein nod yw i chi ddod yn 'ddinesydd byd-eang' sy'n meddwl yn feirniadol, yn deall amrywiaeth ddiwylliannol, ac sydd â chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy.
Yn ystod cwrs pedair blynedd BA Ieithyddiaeth ac Iaith Fodern, byddwch chi’n meithrin medrau rhagorol ynghylch cyfathrebu a meddwl yn feirniadol yn ogystal â dod yn un gwdyn ac annibynnol ei gymeriad trwy dreulio amser mewn diwylliannau eraill.
Mae ein cwricwlwm ieithyddiaeth yn unigryw, a byddwch yn cael gwybodaeth fanwl am hanfodion dadansoddi iaith (gan gynnwys agweddau allweddol ar seineg, morffoleg a chystrawen). Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis modiwlau ar bynciau mor amrywiol ag ieithyddiaeth fforensig, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, sosioieithyddiaeth neu ddisgwrs cyfryngau. Mae hyn yn eich galluogi i lunio eich astudiaethau ieithyddiaeth i'ch diddordebau,, gan ddefnyddio'r dulliau diweddaraf o astudio gyda llygad beirniadol a gwneud cysylltiadau â dadleuon yn y maes cyhoeddus.
Bydd yr archwiliad cadarn hwn o Saesneg, a'i sylfeini, yn cael ei ategu gan eich astudiaethau iaith fodern, gan ddewis o Tsieineaidd, Ffrangeg a Sbaeneg. Byddwn yn sicrhau eich bod yn ymuno â'r llwybr mwyaf priodol i sicrhau eich llwyddiant. Bydd y rhai sydd â chymhwysedd Safon Uwch neu gyfwerth mewn iaith fodern yn dilyn llwybr Elfennol Uchaf tra bydd y rhai sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o iaith fodern yn dilyn ein llwybr Elfennol.
Yn ogystal â datblygu eich rhuglder, byddwch yn archwilio cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, hanesyddol a diwylliannol eich iaith fodern o safbwynt byd-eang. Trwy amryw adnoddau a deunyddiau dysgu ieithoedd ynghyd â gweithgareddau dysgu i fyfyrwyr, byddwch chi hefyd yn meithrin medrau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfryngu.
Rhan annatod o’r rhaglen gydanrhydedd hon yw’r cyfle i dreulio amser yn byw neu’n gweithio dramor, er mwyn cael profiad o fywyd yn niwylliant yr iaith fodern rydych chi’n ei hastudio. Mae'r sgiliau a'r profiadau a gewch o'r cyfnod hwn dramor yn amhrisiadwy ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, gan helpu i feithrin sgiliau cyfathrebu hyblyg, hyder a gwydnwch.
Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn ymwneud ag iaith ei hun yn unig, mae'n cynnwys astudiaeth integredig o iaith, diwylliant a chymdeithas ac mae ein rhaglen yn cynnig modiwlau heriol ac ysgogol sy'n pwysleisio amrywiaeth a dathlu symudedd diwylliannol ac ieithyddol. Fe welwch hefyd fod yna faterion a safbwyntiau cyflenwol sy'n cysylltu eich ieithyddiaeth a'ch astudiaethau iaith fodern.
Gan raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd, ieithyddol ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd.
Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
BBB-BCC. Os oes gennych radd B mewn iaith ar lefel A, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
31-29 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 pwnc HL. Os oes gennych radd 6 mewn iaith HL, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Celfyddydau, Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol. Os oes gennych radd B mewn iaith Safon Uwch ar y cyd â'r BTEC neu yn ychwanegol ato, bydd gennych fynediad at lwybr Elfennol Uwch yr ieithoedd.
Lefel T
M mewn Lefel T mewn unrhyw bwnc.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,430 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £3,555 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo sylfaenol deunydd at eich defnydd eich hun. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sy’n bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis prynu geiriaduron dwyieithog personol heb eu talfyrru a’r cyfeirlyfrau gramadeg.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn rhaglen radd 4 blynedd ac mae wedi'i strwythuro i'ch galluogi i ddatblygu'r cymwyseddau a'r sgiliau iaith i fod yn feddyliwr beirniadol dyfeisgar, annibynnol, amlieithog, sy'n barod ar gyfer gwaith proffesiynol.
Ym mhob blwyddyn, byddwch chi’n astudio 120 o gredydau. Byddwch chi’n treulio'ch trydedd flwyddyn mewn gwlad berthnasol gan astudio neu weithio yno.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae Blwyddyn Un wedi'i threfnu i roi i chi’r medrau a'r wybodaeth hanfodol a fydd yn sylfaen i’ch astudio. Trwy gyfuno hanes a’r iaith a ddewisoch chi, gallwch chi astudio mwy nag un maes astudio a meithrin yr hyblygrwydd a’r gallu rhyngddiwylliannol mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Byddwch chi'n astudio 60 credyd o fodiwlau hanes a 60 credyd o fodiwlau iaith a diwylliannol.
Mae’r modiwlau craidd hanes yn eich cyflwyno i’r fframweithiau gwahanol sy’n sail i ymchwil hanesyddol ac i’r dadleuon mawr ynghylch sut rydym yn deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol. Trwy’r modiwlau hyn, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth ynghylch pam mae haneswyr yn anghytuno, ac yn meithrin sgiliau sy’n eich galluogi i gymryd rhan yn y dadleuon hyn. Mae modiwlau dewisol mewn hanes yn rhoi cyfle i chi astudio amrywiaeth o gyfnodau a rhanbarthau. Byddwch yn archwilio themâu, fel crefydd neu ffilm, ar draws sawl cyfnod, wrth archwilio'r gorffennol o safbwyntiau gwahanol a'ch cyflwyno i fathau gwahanol ar dystiolaeth er mwyn deall y gorffennol.
Byddwch yn astudio un iaith dramor fodern ar lefel Elfennol neu Elfennol Uchaf. Mae’r flwyddyn gyntaf yn gosod sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i fyfyrwyr ar y llwybr Elfennol, ac yn meithrin medrau ieithyddol myfyrwyr sydd ar y llwybr Elfennol Uchaf. Yn ogystal â'ch gwersi iaith, byddwch yn astudio modiwl diwylliannol-hanesyddol ar gyfer eich dewis iaith.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sut mae iaith yn gweithio 1 | SE1113 | 20 Credydau |
Sut mae iaith yn gweithio 2 | SE1114 | 20 Credydau |
Ysgrifennu yn y Brifysgol a thu hwnt | SE6266 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sbaeneg Elfennol Uchaf | ML0170 | 30 Credydau |
Sbaeneg elfennol | ML0171 | 30 Credydau |
Mandarin Tseiniaidd Uwch Elfennol | ML1160 | 30 Credydau |
Mandarin Tseiniaidd Elfennol | ML1161 | 30 Credydau |
Ffrangeg Uwch Elfennol | ML6170 | 30 Credydau |
Ffrangeg elfennol | ML6171 | 30 Credydau |
Cyflwyniad i Astudiaethau Sbaenaidd | ML0100 | 30 Credydau |
Cyflwyniad i Astudiaethau Ffrangeg a Ffrangeg | ML6100 | 30 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a dau fodiwl 30 credyd mewn Iaith Fodern.
Mae modiwl craidd 20 credyd ar y rhaglen hanes yn datblygu eich sgiliau wrth ddeall y gorffennol drwy archwilio ymagweddau gwahanol tuag at hanes a natur mathau gwahanol ar dystiolaeth hanesyddol a ffyrdd o ddefnyddio’r dystiolaeth honno. Byddwch yn cymhwyso’r sgiliau hyn wrth i chi ymchwilio i ddadl hanesyddol sydd o ddiddordeb i chi, gyda chefnogaeth goruchwyliwr, a hefyd yn cydweithio i archwilio rôl yr hanesydd wrth rannu ymchwil y tu hwnt i ffiniau’r byd academaidd a’r lleisiau maen nhw’n eu breintio neu’n eu tawelu.
Mae dau fodiwl dewisol 20 credyd yn eich galluogi i archwilio themâu ar draws ystod ddaearyddol neu gronolegol fwy manwl gywir, wrth annog dull mwy cymharol.
Mae elfennau iaith blwyddyn 2 yn adeiladu ar waith y flwyddyn gyntaf. Byddwch wedi datblygu ers lefel eich modiwl iaith yn y flwyddyn gyntaf, a dylech chi weld twf parhaus eich galluoedd ieithyddol, eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’ch hyder cyffredinol fel defnyddiwr iaith. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ieithyddol drwy astudio eich modiwl iaith ar lefel Canolradd neu Ganolradd Uchaf. Mae'r modiwl hwn yn eich paratoi ar gyfer eich amser dramor ym mlwyddyn 3.
Yn ogystal ag iaith, bydd gennych yr opsiwn o astudio modiwl 30 credyd sy'n edrych ar ddiwylliannau, cymdeithasau a hanesion eich iaith o safbwynt byd-eang. Fel arall, gallwch ennill mwy o sgiliau ieithyddol a phroffesiynol drwy ddewis astudio iaith fusnes neu fodiwl cyfieithu arbenigol.
I ffwrdd o’ch astudiaethau ffurfiol, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (MFL), dan gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae mentoriaid yn cael eu hyfforddi i ysbrydoli ac ysgogi disgyblion ysgol uwchradd ac i'w helpu i ystyried eu safle a'u rôl yn ein byd amlieithog ac amlddiwylliannol.
At hynny, bydd cyfle i hyrwyddo dysgu ieithoedd trwy ymuno â Chynllun y Llysgenhadon o Fyfyrwyr Ieithoedd. Ar ôl hyfforddiant, gall llysgenhadon ieithoedd siarad yn gyhoeddus am eu profiad o ddysgu ieithoedd a medrau cyfieithu. Gallai fod cyfle ichi gymryd rhan mewn amryw weithgareddau megis sesiynau cyflwyno ieithoedd a chyfieithu, helpu ysgolion i hyrwyddo ieithoedd ar eu safleoedd neu hybu ieithoedd a chyfieithu yn ystod ffeiriau gyrfaoedd a diwrnodau agored.
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Byddwch chi’n treulio’r drydedd flwyddyn mewn gwlad arall lle y bydd cyfle i fireinio medrau ieithyddol, dod i adnabod y diwylliant yn well a datblygu’n gymeriad annibynnol, dyfeisgar a gwydn. Bydd astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf gan feithrin hyder ac aeddfedrwydd mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
Byddwch yn treulio blwyddyn academaidd lawn yng ngwlad yr iaith rydych yn ei hastudio.
Mae tair ffordd o dreulio blwyddyn dramor.
- Astudio - rydyn ni wedi sefydlu trefniadau cyfnewid sy'n cynnig cyfle i astudio mewn sefydliadau yn Awstria, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Tsieina, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Siapan, Mecsico, Periw, Portiwgal, Sbaen, y Swistir a Taiwan.
- Addysgu - mae modd bwrw tymor yn gynorthwywr addysgu mewn cynllun o dan nawdd y Cyngor Prydeinig lle y gallech chi weithio yn un o ddinasoedd neu drefi amrywiaeth helaeth o wledydd. Mae’r dewis hwnnw’n cynnig profiad addysgu uniongyrchol gan eich galluogi i ennill cyflog digonol, er mai dim ond yn rhan-amser y byddwch chi’n gweithio. Cyn dechrau yn y cynllun, bydd y Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad ddewisoch chi. Ar ben hynny, dylai’r ysgol lle y byddwch chi’n gweithio eich helpu i gyflawni rôl athro a dod o hyd i lety.
- Gweithio - ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg a Sbaeneg. Byddwch chi’n treulio cyfnod mewn sefydliad neu gwmni sy’n ymwneud â byd yr ieithoedd modern. Cewch chi drefnu hynny trwy bobl rydych chi’n eu hadnabod neu gysylltu â’r sefydliadau yn uniongyrchol. Gall yr ysgol hysbysebu swyddi o’r fath, hefyd. I ofalu y bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ddewisoch chi yno a chael profiad buddiol, bydd angen sêl bendith yr ysgol ar drefniadau o’r fath.
Beth bynnag ddewiswch chi, bydd blwyddyn dramor yn gyfle gwych i ddeall rhagor am yr iaith, cydio mewn diwylliant arall a chael profiad o weithio neu astudio’n rhyngwladol.
Rhaid i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n ddinasyddion o’r wlad lle y byddan nhw’n gweithio neu’n astudio gael teitheb i wneud hynny. Does dim rheolaeth na dylanwad gyda ni ar brosesau ofyn am deitheb ond byddwn ni’n eich helpu i lunio’ch cais a pharatoi ar gyfer eich blwyddyn dramor
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Lleoliadau Astudio Ieithoedd Modern Dramor - Hydref | ML3242 | 60 Credydau |
Lleoliadau Astudio Ieithoedd Modern Dramor - Gwanwyn | ML3243 | 60 Credydau |
Lleoliad Gwaith Ieithoedd Modern Dramor - Hydref | ML3244 | 60 Credydau |
Ieithoedd Modern Gweithio Dramor Lleoliad - Gwanwyn | ML3245 | 60 Credydau |
Prosiect Blwyddyn Ryngosod (Semester yr Hydref) | ML3140 | 60 Credydau |
Prosiect Blwyddyn Rhyngosod (Tymor y Gwanwyn) | ML3141 | 60 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Wrth i ni eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch chi’n mireinio’ch medrau ieithyddol, meddwl beirniadol ac ymchwil ymhellach.
Byddwch yn astudio 60 credyd o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a 60 credyd o'r Ysgol Ieithoedd Modern.
Ym modiwlau hanes y flwyddyn olaf, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur datblygiadau hanesyddol. Byddwch chi’n meithrin medrau dadansoddi ffynonellau a phortreadu hanes trwy astudio amryw fodiwlau arbenigol sydd ar gael.
Ar ochr iaith y rhaglen, byddwch yn astudio modiwl iaith uwch 30 credyd ac un modiwl dewisol 30 credyd. Bydd gennych yr opsiwn i ehangu’ch medrau a’ch gorwelion hefyd, trwy fodiwlau am hanes a materion diwylliannol yn ogystal â chyfoeth o ddewisiadau allgyrsiol. Gall modiwlau dewisol y flwyddyn olaf amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond, ar y cyfan, byddan nhw’n cynnwys amryw bynciau a themâu cyfoes sy’n berthnasol i un iaith neu wedi’u cyflwyno mewn fframwaith cymharol, trawswladol. Gall themâu a phynciau'r flwyddyn olaf gynnwys llenyddiaeth, ffilmiau a’r diwylliant gweledol, hanes, gwladychiaeth ac astudiaethau rhyw. Ar ben hynny, gallech chi gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn lle y byddwch chi’n treulio cyfnod mewn ysgol leol yn yr ardal sy’n bartner inni.
Ar ddwy ochr y rhaglen, cewch chi’r cyfle i ysgrifennu traethawd hir, pan fyddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o’ch dewis. O dan oruchwyliaeth a chyda chefnogaeth un o’n staff arbenigol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflawni traethawd ymchwil estynedig ar bwnc sy’n ymwneud â maes rydych chi’n ei astudio fel rhan o’ch gradd. Mae’r traethawd hir yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol uwch a dealltwriaeth fanwl o bwnc ymchwil, gyda chefnogaeth lawn goruchwyliwr academaidd a rhaglen o weithdai. Yn gyffredinol, mae ein myfyrwyr yn teimlo mai’r traethawd hir yw elfen fwyaf cyffrous a boddhaus eu hastudiaethau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Gweithio gyda Data Ieithyddol | SE1425 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydyn ni’n defnyddio amryw ddulliau addysgu megis darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau iaith a gweithdai.
Mae cynnwys darlithoedd yn cyfleu trosolwg o brif gysyniadau a fframweithiau pwnc, gan roi'r sgiliau a fydd yn eich galluogi i gynnal ymchwil yn annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu a gweithredu eich syniadau eich hun.
Gallai’r deunyddiau hyn gael eu cyflwyno i chi wyneb yn wyneb neu mewn fformat digidol fel y gallwch eu hastudio ar eich liwt eich hun.
Mae seminarau’n ddosbarthiadau rhyngweithiol sy'n cynnwys grŵp bychan o fyfyrwyr ac aelod o dîm addysgu'r modiwl. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp cyfan, gwaith grwpiau bach a chyflwyniadau a arweinir gan fyfyrwyr. Mae seminarau’n cynnig awyrgylch egnïol lle gallwch chi archwilio ac ymgysylltu’n feirniadol â syniadau a dadleuon sydd wedi’u cyflwyno yn y darlithoedd.
Mae ein ffordd o ddysgu iaith fodern yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol a chyfranogiad ystyrlon myfyrwyr. Digon o gyfleoedd yn cael eu darparu i ymarfer a datblygu'r cymwyseddau a'r sgiliau iaith allweddol yn rheolaidd tra bod dosbarthiadau wedi'u cynllunio i ehangu eich hyfedredd ieithyddol yn yr iaith fodern rydych wedi'i dewis ac i wella eich hyder a'ch sgiliau cyfathrebu mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Mae paratoi ar gyfer dosbarth ac astudio’n annibynnol yn rhan bwysig o'ch dysgu. Rhwng dosbarthiadau, byddwch chi’n paratoi deunydd, tystiolaeth a dadleuon, ac yn cwblhau tasgau iaith yn unigol neu mewn grwpiau.
Mae ymchwil wrth wraidd profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda’r canfyddiadau diweddaraf yn llywio pob rhaglen.
Mae’n dulliau addysgu’n meithrin sgiliau deallusol megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi’n fanwl, cloriannu tystiolaeth, llunio dadleuon, rhoi damcaniaethau ar waith a defnyddio iaith yn effeithiol mewn traethodau a thrafodaethau. At hynny, byddwn ni’n eich helpu i weithio mewn tîm, cynnal ymchwil yn annibynnol a rheoli amser mewn awyrgylch cefnogol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael eich arwain trwy eich astudiaethau gan Diwtor Personol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd. Eich tiwtor personol fydd y ddolen gyswllt bob amser ynghylch unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar eich astudiaethau. Byddwch chi’n cyfarfod â’ch tiwtor personol ddwywaith yn ystod pob blwyddyn academaidd ond dyma’ch annog chi i gysylltu â’ch tiwtor unrhyw bryd os oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi. Bydd pob aelod o staff academaidd ar gael i gwrdd â myfyrwyr yn ôl oriau penodol.
Yn ystod eich blwyddyn astudio neu weithio dramor, aseinir Cydlynydd Blwyddyn Tramor i chi a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd.
Mae gan bob modiwl le neilltuedig yng Nghyfleuster Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, lle y byddwn ni’n eich tywys trwy weithgareddau’r wythnos a’r tasgau y bydd angen eu cwblhau. Bydd yno ddeunyddiau ac adnoddau dysgu megis recordiadau o ddarlithoedd, tasgau ac adnoddau iaith a dolenni at adnoddau digidol gan gynnwys y deunyddiau llyfrgell ar ffurf electronig.
Mae staff yn y Gwasanaethau Proffesiynol yn ein Hyb y Myfyrwyr ar gael i ateb eich cwestiynau tra gall Swyddogion Cymorth Myfyrwyr ymroddedig roi'r cyngor a'r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalgar a chyfrinachol.
Mae Bywyd Myfyrwyr, yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn cynnig ystod o wasanaethau. Mae’r gwasanaethau cymorth hyn yn cynnwys: Cynghori ar arian, dyfodol myfyrwyr, cwnsela, iechyd a lles, mentora, medrau astudio academaidd, Gwasanaeth Anableddau’r Myfyrwyr a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Diben yr asesu yw eich helpu i hel syniadau, meithrin medrau a datblygu galluoedd. Mae pwyslais ar fod yn arloesol ac yn greadigol gan feddwl yn feirniadol am y testunau a’r diwylliannau a welwch chi a chyflwyno dadleuon yn ôl tystiolaeth trwy’r Saesneg a’r iaith fodern rydych chi’n eu hastudio fel ei gilydd.
Byddwch chi’n astudio blociau adeiladu iaith hefyd, gan gynnwys patrymau a strwythurau gramadegol a geiriadurol. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu'n rheolaidd yn ystod eich modiwlau iaith ac ieithyddiaeth, sy'n adlewyrchu natur flaengar a chronnol astudio iaith.
Rydyn ni’n defnyddio ffurfiau asesu traddodiadol (megis traethodau, posau, profion yn y dosbarth, arholiadau llafar a thraethodau hir) yn ogystal â mathau mwy arloesol (megis portffolios cyfieithu, prosiectau chwarae rolau, blogiau, cyfweliadau a chyflyniadau posteri). Mae asesiadau hefyd yn cynnwys beirniadaethau ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blogiau. Mae rhai o'n hasesiadau yn eich galluogi i weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth.
Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar.
Rhoddir adborth ysgrifenedig am waith ar ôl ei asesu i’ch helpu i wella ar gyfer yr asesiadau nesaf, a bydd cyfleoedd ichi drafod yr adborth gyda’ch tiwtoriaid. At hynny, bydd amryw ymarferion megis posau, cyflwyniadau, traethodau a phrosiectau. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi adborth ffurfiannol i wella’ch dysgu a’ch deall cyn sefyll yr asesiadau crynodol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen, byddwch chi’n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth (GD):
- Cyfathrebu mewn iaith dramor fodern i safon gradd, deall strwythurau, cofrestrau ac amrywiaethau'r iaith rydych chi'n ei dysgu a'u defnyddio'n hyblyg ac effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol, fel y bo'n briodol.
- Dadansoddi’n feirniadol agweddau ar ddiwylliannau, hanesion a chymdeithasau y gwledydd y siaredir eich iaith ynddynt trwy amryw ddeunyddiau a dulliau.
- Dangos faint rydych chi’n ei wybod ac yn ei ddeall ynghylch pa mor debyg neu annhebyg yw diwylliannau a chymdeithasau eraill.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o feysydd craidd iaith Saesneg ac ieithyddiaeth.
- Gwerthuso'n feirniadol sut mae iaith yn gweithio yn y byd cymdeithasol.
Sgiliau Deallusol:
- Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg ac mewn iaith dramor fodern.
- Archwilio gwahanol fathau o ddeunyddiau llenyddol a diwylliannol yn fanwl ac yn feirniadol
- Datblygu, asesu a chymhwyso dadleuon mewn ymateb i wybodaeth a syniadau, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Cynllunio, ysgrifennu neu gyflwyno testunau academaidd (traethodau, cyflwyniadau, testunau clyweledol) cymhwyso technegau ymchwil effeithiol, gan ddefnyddio tystiolaeth a chonfensiynau cyfeirio cywir.
- Cymhwyso terminoleg ddisgrifiadol sy'n berthnasol i iaith Saesneg a ffenomenau ieithyddol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
- Cyfathrebu â sgiliau ieithyddol gwell mewn lleoliad proffesiynol.
- Cyfathrebu’n berswadiol, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, gan ddefnyddio technegau ysgrifenedig neu lafar.
- Asesu a datrys problemau'n annibynnol, gan ystyried barn pobl eraill mewn ffordd systematig a gwerthusol.
- Datblygu gwytnwch, gallu i addasu ac annibyniaeth trwy dreulio amser yn niwylliant iaith dramor fodern.
- Gwerthuso effaith defnydd iaith mewn cyd-destun penodol a chyfosod a dehongli gwahanol fathau Data ieithyddol.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
- Esbonio gwybodaeth a syniadau yn glir ac yn broffesiynol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu gyd-destunau anghyfarwydd neu fyd ehangach.
- Arddangos mentergarwch drwy gymryd cyfrifoldeb am strwythuro a rheoli amser tasg ymchwil, gan weithio mewn timau pan fo'n briodol.
- Datblygu perthynas waith gadarnhaol ac effeithiol ag eraill, yn enwedig trwy ddeialog ac adborth adeiladol a chydweithredol.
- Meithrin dinasyddiaeth byd-eang, gan ymgysylltu a gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol trwy gael profiad ymarferol mewn gwledydd eraill.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Gan raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd.
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau proffesiynol ac i greu argraff ar farchnad swyddi gystadleuol. Ni waeth a ydych chi’n gwybod beth yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu beidio, mae digon o adnoddau a chymorth gyda ni i’ch arwain.
Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n dewis ei ddilyn.
Mae ein rhaglen Hanes ac Iaith Fodern (BA) yn rhoi i chi ddealltwriaeth fywiog a beirniadol o'r gorffennol, ei gymynroddion parhaus, a sut mae'n cysylltu â'r presennol, a sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi o weithio ar y cyd a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau. Rydym yn darparu cyfleoedd i chi ennill a datblygu sgiliau menter wrth i chi symud ymlaen o gyflwyno eich syniadau ar hanes byd-eang ar fodiwlau'r flwyddyn gyntaf a gweithio ar y cyd ar brosiect ym mlwyddyn 2 i leoliadau sy'n dwyn credydau ym mlwyddyn 2, blwyddyn dramor a'ch blwyddyn olaf. Mae ystod o fodiwlau dewisol yn ehangu’r cyfleoedd hyn ac yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau ymhellach.
Mae lleoliadau a phrofiad gwaith yn gyfleoedd gwych i wella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfaol, a gallan nhw’ch helpu i ddod i benderfyniadau ynglŷn â’ch gyrfa yn y dyfodol. Mae'r rhaglen yn cynnwys dysgu ar leoliad fel elfen annatod o'ch gradd.
Mae hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd yn aml, gan anelu at feithrin sgiliau yn ystod y cwrs a’u defnyddio’n llwyddiannus wedyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun wrth ganiatáu i chi wneud gwahaniaeth.
Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith i chi er mwyn datblygu eich cyflogadwyedd, wrth ichi allu manteisio ar ystod eang o raglenni prifysgol gan Ieithoedd i Bawb (i roi cynnig ar iaith arall) i gefnogi'r tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â'ch syniadau'n fyw.
Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu. Cynigir cyfleoedd ar gyfer lleoliadau amrywiol, pwrpasol ym mlwyddyn 2 ar fodiwl sy'n canolbwyntio ar gyfieithu'r sgiliau rydych yn eu hennill trwy eich gradd i'r gweithle. Yn eich blwyddyn olaf, bydd modd dewis modiwl meithrin medrau menter i’ch paratoi ar gyfer cyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod semestrau a’r tu allan iddynt.
Mae’n graddedigion yn ffynnu ym marchnad y swyddi. Mae eu graddau iaith yn eu harwain i ystod gyrfaoedd amryfal a chyffrous gan gynnwys materion ariannol, cysylltiadau rhyngwladol yn y campau, ymgynghori busnes, addysg, iechyd, y gwasanaeth sifil, y sector treftadaeth ac amgueddfeydd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, y gyfraith ac addysgu.
Bydd llawer o raddedigion yn mwynhau’r flwyddyn dramor gymaint eu bod yn neilltuo amser i deithio rhagor neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am swydd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.