Gyfraith gyda Throseddeg (LLB)
- Meysydd pwnc: Y Gyfraith, Y Gwyddorau Cymdeithasol
- Côd UCAS: M190
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Arbenigwyr a pharchus
Rydym yn cael ein cydnabod am ein harbenigedd ym maes astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol, plismona, troseddau casineb, troseddeg ddigidol, troseddau ariannol, a throseddau coler wen.
Arobryn
Mae ein Huned Pro Bono wedi ennill nifer o wobrau ac yn darparu profiad gwaith hanfodol.
Newid bywydau
Ein Prosiect Dieuogrwydd a arweinir gan staff a myfyrwyr yw’r unig brosiect yn y DU sydd wedi arwain at 2 euogfarn yn cael eu gwrthdroi yn y Llys Apêl.
Cysylltiadau
Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau agos â Llywodraeth Cymru, cwmnïau cyfraith yn y ddinas, llysoedd, a chanolfannau cynghori, ac ar gysylltiadau â Heddlu De Cymru a Charchardai Ei Mawrhydi Caerdydd a'r Parc.
Astudiaethau ddwyieithog
Rydym yn cynnig darpariaeth Cyfrwng Cymraeg arloesol ac o ansawdd uchel ym mhob modiwl craidd y Gyfraith a detholiad o opsiynau’r Gyfraith.
Mae'r gyfraith yn bwnc y gellir ei gymhwyso i bron bob agwedd ar ein bywydau. O'r dderbynneb yn eich poced i'r ffordd y cewch eich trin yn y gweithle, i brofiadau o'r broses cyfiawnder troseddol, a chymaint yn y canol. Ni fu erioed yn fwy amserol ychwaith. Boed hynny’n bryderon lleol, cenedlaethol neu ryngwladol. Meddyliwch am Brexit neu hawliau dynol. Meddyliwch am ffracio a materion amgylcheddol. Twyll hunaniaeth a seiberdroseddu.
Mae ein rhaglen Y Gyfraith gyda Throseddeg (LLB) wedi’i chynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o sut mae’r system gyfreithiol wedi’i lleoli o fewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cyfnewidiol a sut mae’r gyfraith – a’i chymhwyo – yn cael ei ffurfio gan y cyd-destun hwnnw. Tra bo’r Gyfraith yn archwilio'r system o reolau a ddefnyddir gan wlad neu wladwriaeth i reoleiddio ei thrigolion, mae Troseddeg yn canolbwyntio ar droseddoleiddio, erledigaeth, ac ymatebion cymdeithasol i drosedd ac anhrefn. Mae hyn yn gwneud y ddau bwnc yn bâr delfrydol i'w hastudio fel rhaglen integredig.
Mae'r rhaglen radd hon yn rhoi cyfle i astudio'r Gyfraith a Throseddeg ac felly i elwa ar gaffael gwybodaeth, safbwyntiau a sgiliau rhyngddisgyblaethol. Yn ogystal â'r sgiliau academaidd y byddwch chi'n eu datblygu, a'r wybodaeth y byddwch chi'n ei meithrin trwy ein modiwlau amrywiol, rydyn ni'n cynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhoi eich sgiliau ar waith. Mae ein cynlluniau pro bono yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau, a sefydliadau gwirfoddol, gan helpu aelodau o'r gymuned gyda materion cyfreithiol, yn rhad ac am ddim. Trwy'r cynlluniau hyn, a thrwy weithio ar achosion go iawn, byddwch yn datblygu sgiliau mewn gofal cleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus, a chyfathrebu o bob math. Mewn Troseddeg, rydym yn defnyddio addysgu eang sy’n seiliedig ar ymchwil i archwilio dulliau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol o ymdrin â throseddu a’i reolaeth.
Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau eraill a chyfleoedd profiad gwaith. Mae cyn-fyfyrwyr wedi ymgymryd â lleoliadau paragyfreithiol gydag ystod o gyfreithwyr, gan ddatblygu sgiliau ymarferwyr allweddol megis rheoli achosion ac ysgrifennu cyfreithiol, ochr yn ochr â sgiliau cyffredinol yn y gweithle a chyflogadwyedd.
Gyda golwg ar eich dilyniant yn y gyfraith, mae ein rhaglen yn cynnig y pynciau craidd sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar ar gyfer bargyfreithwyr yn y dyfodol ac sydd hefyd yn sylfaen i ymarfer fel cyfreithiwr. Byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch, tra bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddatblygu diddordebau arbenigol neu archwilio pynciau cyfreithiol amrywiol ac is-feysydd Troseddeg. Hefyd, byddwch yn archwilio trosedd, cyfiawnder a rheolaeth o safbwynt gwyddonol cymdeithasol, gan gymhwyso eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ymchwil troseddegol i faterion a dadleuon y byd go iawn.
Mae ein hymrwymiad i gefnogi eich datblygiad proffesiynol a’ch dyheadau hefyd yn cynnwys cymorth gyrfaoedd wedi’i deilwra. Byddwch yn cael mynediad at gyngor ac arweiniad a fydd yn helpu i roi gwybod i chi am eich opsiynau a gwneud penderfyniadau ar gyfer eich dyfodol – boed hynny o fewn y maes cyfreithiol ai peidio. Bydd eich sgiliau, eich profiadau a'ch gwybodaeth yn werthfawr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.
Y tu hwnt i’r gyfraith, mae ein graddedigion yn y Gyfraith gyda Throseddeg yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn cyfiawnder troseddol, cyllid, llywodraeth genedlaethol a lleol, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol, y cyfryngau, recriwtio, a llawer o sectorau eraill.
Maes pwnc: Y Gyfraith
Maes pwnc: Y Gwyddorau Cymdeithasol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-ABB
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :
- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar
- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.
PTE Academic
O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.
Trinity ISE II/III
II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Addysgir y rhaglen yn llawn amser dros dair blynedd academaidd. Ym mhob blwyddyn, byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd, a fydd yn cynnwys cyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Ym mlwyddyn 1, byddwch yn astudio 4 modiwl craidd yn y gyfraith, a'r digwyddiadau a'r prosesau sy'n dylanwadu ar ddatblygiad a gweithrediad y gyfraith. Byddwch hefyd yn astudio 2 fodiwl craidd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol sy'n rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i droseddeg a safbwyntiau gwyddonol cymdeithasol cysylltiedig.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyfraith Camwedd | CL4101 | 20 Credydau |
Cyfraith Droseddol | CL4102 | 20 Credydau |
Cyfraith Gyhoeddus I | CL4103 | 20 Credydau |
Cyfraith gyhoeddus II | CL4104 | 20 Credydau |
Sylfeini Troseddeg Gyfoes | SI0284 | 20 Credydau |
Syniadau allweddol yn y gwyddorau cymdeithasol | SI0422 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym mlwyddyn 2, byddwch eto yn astudio 4 modiwl craidd, 3 yn y gyfraith ac un mewn troseddeg. Byddwch hefyd yn dewis un o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol yn y gyfraith ac un opsiwn o blith troseddeg. Mae'r modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddyfnhau eich gwerthfawrogiad o'r amgylchedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd lle mae datblygiadau cyfreithiol a throseddegol yn digwydd. Yn ogystal, mae’r modiwlau dewisol yn y gyfraith yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfreithiol ymarferol a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd ac yn helpu i’ch paratoi at leoliad posibl neu at weithgareddau pro bono yn eich blwyddyn olaf.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyfraith Tir | CL5101 | 20 Credydau |
Contract | CL5102 | 20 Credydau |
Sylfeini Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd | CL5103 | 20 Credydau |
Ymatebion i droseddu | SI0202 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ymarfer Cyfreithiol: Sgiliau Sylfaen | CL5107 | 20 Credydau |
Camweinyddu Cyfiawnder | CL5108 | 20 Credydau |
Eiddo Masnachol: Sgiliau ac Ymarfer | CL5109 | 20 Credydau |
Cyfraith Mewnfudo, Polisi ac Ymarfer | CL5110 | 20 Credydau |
Cyfraith Cyflogaeth Ymarferol | CL5115 | 20 Credydau |
Eiriolaeth | CL5116 | 20 Credydau |
Troseddu ac Erledigaeth | SI0201 | 20 Credydau |
Troseddau'r Pwerus | SI0314 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Ym mlwyddyn 3, byddwch yn cymryd un modiwl craidd yn y gyfraith. Byddwch hefyd yn dewis 5 modiwl pellach o blith amrywiaeth o opsiynau ar draws y gyfraith a throseddeg a fydd yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu proffil gradd mwy arbenigol neu fwy amrywiol. Mae eich opsiynau cyfraith yn darparu dewis o fodiwlau theori ac ymarfer i fodloni diddordebau amrywiol. Yn ogystal, bydd ystod eang o gyfleoedd pro bono ar gael a gellir eu hymgorffori i fodiwlau sy'n dwyn credydau'r gyfraith (hyd at 40 credyd). Os ydych chi'n dymuno dilyn astudiaethau o fater cyfreithiol penodol, cewch gyfle i ysgrifennu traethawd hir (20 credyd).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau | CL6101 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae arddull a fformat yr addysgu ar y rhaglen yn amrywiol, i adlewyrchu a darparu ar gyfer amrywiaeth o arddulliau dysgu, ac i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau dysgu annibynnol. Mae ein hymagwedd at addysgu yn meithrin cymuned ddysgu myfyrwyr, er mwyn i chi allu derbyn cefnogaeth gan gyd-fyfyrwyr a chydweithio â myfyrwyr eraill.
Addysgir modiwlau gan dimau o ddarlithwyr sydd â chymysgedd o brofiad academaidd a phroffesiynol fel eich bod yn elwa ar eu gwybodaeth o enghreifftiau a senarios bywyd go iawn cyfoes ac ymgysylltiad parhaus ag ymchwil ac ysgolheictod cyfreithiol a throseddegol.
Ein nod yw sicrhau eich bod yn graddio gyda'r sgiliau hunanddibyniaeth, trosglwyddadwy a chyfraith-benodol a fydd yn eich paratoi at y dyfodol. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r nodweddion hyn y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu a gweithgareddau y bydd angen i chi eu cyflawni yn eich amser eich hun naill ai'n unigol neu mewn grwpiau gyda myfyrwyr eraill.
Mae ein haddysgu a'n dysgu wyneb yn wyneb yn bersonol yn cael eu cefnogi a'u hategu gan amrywiol offer digidol. Mae pob modiwl yn gwneud defnydd helaeth o Ddysgu Canolog, sef Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y brifysgol. Ar Dysgu Canolog, fe welwch fforymau trafod, fideos wedi'u recordio ymlaen llaw, dolenni i adnoddau perthnasol ar y we, deunyddiau amlgyfrwng a deunyddiau cwrs.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar eich cynnydd drwy gydol eich rhaglen. Ceir adborth amrywiol ee adborth ffurfiannol ar lafar yn ystod sesiynau grwpiau bach, mewn seminarau, a thiwtorialau. Mae adborth wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu fel dysgwr ac academydd, fel y gallwch wella eich perfformiad mewn asesiadau crynodol yn y dyfodol. Yn ogystal ag oriau dosbarth rheolaidd, mae gan bob aelod o staff addysgu Oriau Cefnogi Myfyrwyr lle gallwch gwrdd a thrafod unrhyw ymholiadau dysgu sy'n codi o'r modiwl neu o'ch astudiaethau yn gyffredinol.
Bydd gennych fynediad i lyfrgelloedd y gyfraith ffisegol ac ar-lein a’r gwyddorau cymdeithasol, gyda mynediad at ystod eang o ddeunyddiau sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion, a chronfeydd data ar-lein ar gyfer cyrchu achosion, deddfwriaeth, a deunyddiau digidol eraill sy’n berthnasol i’ch astudiaethau.
Byddwch yn derbyn cefnogaeth fugeiliol bwrpasol trwy ein cynllun tiwtoriaid dynodedig ym mhob un o'r Gyfraith a Throseddeg. Os dymunwch astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, rhoddir yn diwtor personol sy'n siarad Cymraeg i chi. Gall ein Tiwtor Cymorth Academaidd helpu gyda materion sy’n effeithio ar eich gallu i fynychu dosbarthiadau neu gwblhau asesiadau, ac mae Cynllun Mentora Myfyrwyr hefyd ar gael drwy’r brifysgol.
Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud os byddwch yn datgan anabledd. Yn ogystal â hyn, mae gan y brifysgol ystod o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, a'r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr.
Rydym yn cynnig rhaglen helaeth o gyngor ar yrfaoedd a gweithdai gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol a Chydlynydd Cynllun Pro-bono, yn ogystal â gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr (gyrfaoedd) y brifysgol.
Sut caf fy asesu?
Mae tasgau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl i sicrhau eich bod yn datblygu ystod eang o sgiliau cyfreithiol a throsglwyddadwy. Bydd y rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, draethodau academaidd traddodiadol, arholiadau heb eu gweld, dyddiadau myfyriol, neu lythyrau cyngor i gleientiaid damcaniaethol cwmni cyfreithiol. Yn yr un modd, bydd rhai cyflwyniadau yn profi sgiliau eiriolaeth, fel petaech yn cyflwyno o flaen barnwr, tra bydd eraill wedi'u hanelu at fath gwahanol o gynulleidfa, megis cynulleidfa academaidd.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
GD 1 Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gysyniadau cyfreithiol sylfaenol a’r damcaniaethau a chysyniadau troseddegol allweddol a’u perthynas â disgyblaethau cytras y gwyddorau cymdeithasol
GD 2 Gwerthuso’n feirniadol gynnwys a chymhwysiad rheolau, egwyddorion a damcaniaethau cyfreithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a moesegol
GD 3 Dangos dealltwriaeth systematig o arwyddocâd cydlyniad athrawiaethol corff o statudau a/neu gyfraith achosion
GD 4 Ymgysylltu’n feirniadol â syniadau, damcaniaethau, datblygiadau a dadleuon allweddol mewn troseddeg gyfoes a chyfiawnder troseddol ac is-feysydd dethol.
Sgiliau Deallusol(SD):
SD 1 Gwerthuso’n feirniadol ystod o wybodaeth, ysgolheictod a dadleuon yn y gyfraith a throseddeg, gan roi sylw dyledus i’w sail dystiolaethol a’u hegwyddorion sylfaenol, a llunio barn resymegol.
SD 2 Ymgymryd ag ymchwil gyfreithiol sylfaenol gan nodi materion perthnasol gan ddefnyddio ffynonellau sylfaenol ac eilaidd perthnasol
SD 3 Dehongli a chymhwyso rheolau, egwyddorion a chysyniadau haniaethol cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol cymhleth i ddatrys problemau
SD 4 Defnyddio gwybodaeth a sgiliau i ddeall ac esbonio ffenomenau cymdeithasol sydd o ddiddordeb i droseddeg a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon i gwestiynau newydd.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol(SY):
SY 1 Cyfathrebu'n berswadiol ar draws cynulleidfaoedd a genres, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol-gyfreithiol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol gan ddefnyddio technegau gweledol, ysgrifenedig neu lafar.
SY 2 Cynnig atebion ymarferol a moesegol yn annibynnol i broblemau cyfreithiol gwirioneddol neu ddamcaniaethol sy'n seiliedig ar gleientiaid.
SY 3 Gwerthuso a chydnabod amwysedd ac ansicrwydd yn y gyfraith mewn modd systematig
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol(SA):
SA 1 Ymchwilio ac astudio yn greadigol, yn annibynnol ac yn fyfyriol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu gyd-destunau cyfreithiol neu droseddol anghyfarwydd.
SA 2 Dangos menter trwy gymryd cyfrifoldeb am eich astudiaeth annibynnol a rheoli eich amser, gan gynnwys wrth gwblhau asesiadau, a gweithio mewn timau pan fo'n briodol.
SA 3 Dangos hyfedredd technegol mewn Cymraeg a/neu Saesneg ysgrifenedig a chymhwysedd wrth gymhwyso terminoleg ysgolheigaidd a chyfreithiol-dechnegol, er mwyn gallu cymhwyso sgiliau gwerthuso, dadansoddi a barnu beirniadol yn effeithiol mewn ystod amrywiol o gyd-destunau.
SA 4 Mynegi syniadau yn gydlynol ac yn gryno, o fewn terfynau geiriau diffiniedig, a defnyddio technoleg gwybodaeth.
SA 5 Dangos llythrennedd digidol a'r gallu i asesu hygrededd ffynonellau gwybodaeth.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu'r sgiliau a'r priodoleddau i ddod yn ddinasyddion byd-eang, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ymwybodol. Cafodd ein nodweddion graddedigion eu datblygu i adlewyrchu anghenion cyflogwyr a'ch cefnogi i ddatblygu eich sgiliau i lefel uwch a bod yn barod ar gyfer byd gwaith.
Rydym yn disgwyl i'n graddedigion fod yn gydweithredol; yn gyfathrebwyr effeithiol; yn foesegol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ymwybodol; yn feddylwyr annibynnol a beirniadol; yn arloesol, yn fentrus, ac yn fasnachol ymwybodol; ac yn fyfyriol ac yn wydn. I'r perwyl hwnnw rydym wedi ymgorffori addysgu arloesol ac asesu dilys yn ein portffolio o fodiwlau craidd a dewisol, a fydd yn eich galluogi i ddatblygu'r priodoleddau hyn. Mae gennym gyfres o fodiwlau dewisol blwyddyn 2 sy'n pwysleisio datblygu sgiliau cyflogadwyedd. Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at yr ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol sy'n digwydd yn yr ysgol ac ar draws y brifysgol a fydd yn eich helpu i feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd a'ch priodoleddau graddedigion ymhellach.
Mae llawer o’n graddedigion yn mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithwyr a bargyfreithwyr, gan gymryd swyddi mewn cwmnïau cyfreithiol practis preifat, yn ogystal â llywodraeth leol a chenedlaethol ac mewn sefydliadau mawr sydd â’u timau cyfreithiol mewnol eu hunain. Mae'r rhai sy'n dod yn fargyfreithwyr fel arfer yn gweithio yn y Siambrau ar sail hunangyflogedig, neu fel bargyfreithwyr cyflogedig gyda sefydliadau fel Gwasanaeth Erlyn y Goron neu Adran Gyfreithiol y Llywodraeth.
Mae rhai graddedigion y Gyfraith gyda Throseddeg yn dewis mynd i gyflogaeth sy’n ymwneud â’r gyfraith yn syth ar ôl cwblhau eu gradd – mewn rolau fel paragyfreithiol, trafodwr achosion neu gynorthwyydd cyfreithiol. Mae eraill yn dilyn llwybrau amgen i'r gyfraith trwy hyfforddi fel trawsgludwr trwyddedig, gweithredwr cyfreithiol siartredig neu ysgrifennydd cwmni/gweithiwr proffesiynol llywodraethu. Mae'r radd hon hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu gyrfaoedd mewn cyfiawnder troseddol, diogelwch cymunedol, lleihau trosedd a rheoli diogelwch
Mae'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu trwy eich gradd yn y Gyfraith gyda Throseddeg yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan recriwtwyr graddedigion yn gyffredinol. Y tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol, mae ein graddedigion yn dod o hyd i gyflogaeth yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector gan gynnwys gyda sefydliadau fel y Gwasanaeth Sifil, llywodraeth leol, elusennau, banciau, cwmnïau gwasanaethau proffesiynol ac mewn rolau mor amrywiol â gwaith cymdeithasol, yr heddlu, adnoddau dynol, cyfrifeg, newyddiaduraeth, marchnata a rheolaeth.
Gall y radd hon hefyd arwain at astudiaeth ôl-raddedig gan gynnwys rhaglenni Meistr ym meysydd arbenigol y gyfraith neu droseddeg a chyfiawnder Troseddol.
Lleoliadau
Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i astudio dramor, neu i ymgymryd â lleoliadau profiad gwaith cyfreithiol. Mae'n bosibl trosglwyddo o LLB y Gyfraith gyda Throseddeg i LLB y Gyfraith gyda Throseddeg gyda Blwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd Blwyddyn 2, yn amodol ar argaeledd lleoliadau. Mae yna broses ddethol. Mae cyfleoedd lleoliad byrrach hefyd ar gael trwy ein hystod eang o weithgareddau pro bono, rhai ohonynt yn cael eu darparu'n fewnol ac eraill trwy bartneriaid allanol. Gellir gwneud y lleoliadau hyn ar sail wirfoddol neu am gredyd. Rydym yn cynnig modiwlau sy'n caniatáu i fyfyrwyr ennill hyd at 40 credyd trwy leoliadau pro bono.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.