Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith (LLB)

  • Maes pwnc: Y Gyfraith
  • Côd UCAS: M100
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

academic-school

Ategwch eich astudiaethau academaidd

Rydym yn cynnig amrywiaeth o brosiectau pro bono arloesol lle gallwch weithio gyda chleientiaid dan oruchwyliaeth broffesiynol.

tick

Achrediad proffesiynol

Cwrs wedi'i achredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

structure

Y gyfraith yn ei chyd-destun

Dysgwch am faterion cyfoes mewn cyfraith amgylcheddol, cyfraith hawliau dynol a gwahaniaethu a'r gyfraith.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Enillwch brofiad gwerthfawr ar lefel ôl-raddedig fel paragyfreithiwr gan gynnwys: rheoli achosion, ymchwil gyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol.

Mae'r gyfraith yn bwnc y gellir ei gymhwyso i bron bob agwedd ar ein bywydau. O'r dderbynneb yn eich poced i sut rydych chi'n cael eich trin yn y gweithle, a chymaint yn rhagor. Ni fu erioed yn fwy amserol ychwaith. Boed hynny’n bryderon lleol, cenedlaethol neu ryngwladol. Meddyliwch am brotestiadau gwleidyddol a hawliau dynol. Neu am amaethyddiaeth gynaliadwy, masnach a thrafnidiaeth. Neu reoleiddio AI a chyfryngau cymdeithasol. Meddyliwch am wyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth. Neu foeseg dewisiadau diwedd oes. A beth am deuluoedd sydd wedi chwalu, mynediad i dai, neu ddelio â dyled?

Mae ein rhaglen y Gyfraith (LLB) wedi’i chynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o sut mae’r system gyfreithiol wedi’i lleoli o fewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cyfnewidiol a sut mae’r gyfraith yn cael ei harwain gan y cyd-destun hwnnw. 

Yn ogystal â'r sgiliau academaidd y byddwch chi'n eu datblygu, a'r wybodaeth y byddwch chi'n ei meithrin trwy ein modiwlau amrywiol, rydyn ni'n cynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhoi eich sgiliau ar waith. Mae ein cynlluniau pro bono yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau, a sefydliadau gwirfoddol, gan helpu aelodau o'r gymuned gyda materion cyfreithiol, yn rhad ac am ddim. Trwy'r cynlluniau hyn, a thrwy weithio ar achosion go iawn, byddwch yn datblygu sgiliau mewn gofal cleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus, a chyfathrebu o bob math.

Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau eraill a chyfleoedd profiad gwaith. Mae cyn-fyfyrwyr wedi ymgymryd â lleoliadau paragyfreithiol gydag ystod o gyfreithwyr, gan ddatblygu sgiliau ymarferwyr allweddol megis rheoli achosion ac ysgrifennu cyfreithiol, ochr yn ochr â sgiliau cyffredinol yn y gweithle a chyflogadwyedd.

Gyda golwg ar eich dilyniant yn y gyfraith, mae ein rhaglen yn cynnig y pynciau craidd sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar ar gyfer bargyfreithwyr yn y dyfodol ac sydd hefyd yn sylfaen i ymarfer fel cyfreithiwr. Byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch, tra bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddatblygu diddordebau arbenigol neu archwilio pynciau cyfreithiol amrywiol. 

Mae ein hymrwymiad i gefnogi eich datblygiad proffesiynol a’ch dyheadau hefyd yn cynnwys cymorth gyrfaoedd wedi’i deilwra o fewn yr ysgol. Byddwch yn cael mynediad at gyngor ac arweiniad a fydd yn helpu i roi gwybod i chi am eich opsiynau a gwneud penderfyniadau ar gyfer eich dyfodol – boed hynny o fewn y maes cyfreithiol ai peidio. Bydd eich sgiliau, eich profiadau a'ch gwybodaeth yn werthfawr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.

Y tu hwnt i'r gyfraith, mae ein graddedigion i’w cael ym meysydd cyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol, y cyfryngau, recriwtio, a llawer o sectorau eraill.

Maes pwnc: Y Gyfraith

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

AAA-AAB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :
- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar
- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Addysgir y rhaglen yn llawn amser dros dair blynedd academaidd. Ym mhob blwyddyn, byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd, a fydd yn cynnwys cyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Byddwch yn cymryd pedwar modiwl 30 credyd gorfodol yn y flwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich rhaglen gradd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Contract [30]CL430130 Credydau
Troseddol [30]CL430230 Credydau
Sefydliadau Cyfreithiol [30]CL430330 Credydau
Cyfraith Gyhoeddus [30]CL430430 Credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn cymryd modiwlau fydd yn gwneud cyfanswm o 120 o gredydau, wedi eu dewis o’r rhestr o bynciau cyfraith dewisol. Mae ein dewisiadau modiwl wedi'u cynllunio i roi hyblygrwydd i chi. Os ydych chi'n dymuno ennill gradd gymhwyso yn y Gyfraith, rydyn ni'n eich cynghori i gymryd yr opsiwn 30 credyd art gyfer Gyfraith Camwedd a Thir.

Adolygir y rhestr hon yn flynyddol gan ystyried adnoddau staff, galw myfyrwyr a newidiadau i arferion cyfreithiol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyfraith Tir [20]CL520120 Credydau
Tort [20]CL520220 Credydau
Gwahaniaethu a'r Gyfraith [20]CL520520 Credydau
Cyfraith Tir [20]CL522120 Credydau
CAMWEDD [20]CL522220 Credydau
Datganoli CymruCL522320 Credydau
Datganoli yng NghymruCL522420 Credydau
Cyfraith Ffrainc ICL525520 Credydau
Cyfraith Ffrainc IICL525620 Credydau
Cyfraith Tir [30]CL530130 Credydau
Tort [30]CL530230 Credydau
Gwahaniaethu a'r Gyfraith [30]CL530530 Credydau
Cymdeithaseg y GyfraithCL531230 Credydau
Trosedd, Y Gyfraith a ChymdeithasCL531330 Credydau
Cyfraith y Cyfryngau [30]CL531830 Credydau
Cyfraith Tir [30]CL532130 Credydau
CAMWEDD [30]CL532230 Credydau
Datganoli Cymru [30]CL532330 Credydau
Datganoli yng Nghymru [30]CL532430 Credydau
Ymarfer Cyfreithiol: Sgiliau SylfaenCL532730 Credydau
Camweinyddu Cyfiawnder: Prosiect Dieuog CaerdyddCL532830 Credydau
Cyfraith Ryngwladol GyhoeddusCL532930 Credydau
Y Gyfraith a ThlodiCL533230 Credydau
Cyfraith Droseddol [30]CL538030 Credydau

Blwyddyn tri

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn cymryd modiwlau fydd yn gwneud cyfanswm o 120 o gredydau, wedi eu dewis o’r rhestr o bynciau cyfraith dewisol. Mae ein dewisiadau modiwl wedi'u cynllunio i roi hyblygrwydd i chi.

Os ydych chi'n dymuno ennill gradd gymhwyso yn y Gyfraith, rydyn ni'n eich cynghori i gymryd 30 opsiwn credyd Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd ac Ecwiti ac Ymddiriedolaethau. Adolygir y rhestr hon yn flynyddol gan ystyried adnoddau staff, galw myfyrwyr a newidiadau i arferion cyfreithiol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae arddull a fformat yr addysgu ar y rhaglen yn amrywiol, i adlewyrchu a darparu ar gyfer amrywiaeth o arddulliau dysgu, ac i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau dysgu annibynnol. Mae ein hymagwedd at addysgu yn meithrin cymuned ddysgu myfyrwyr, er mwyn i chi allu derbyn cefnogaeth gan gyd-fyfyrwyr a chydweithio â myfyrwyr eraill. 

Addysgir modiwlaugan dimau o ddarlithwyr gyda chymysgedd o brofiad academaidd a phroffesiynol fel eich bod yn elwa ar eu gwybodaeth o enghreifftiau a senarios bywyd go iawn cyfoes.

Ein nod yw sicrhau eich bod yn graddio gyda'r sgiliau hunanddibyniaeth, trosglwyddadwy a chyfraith-benodol a fydd yn eich paratoi at y dyfodol. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r nodweddion hyn y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu a gweithgareddau y bydd angen i chi eu cyflawni yn eich amser eich hun naill ai'n unigol neu mewn grwpiau gyda myfyrwyr eraill.  Mae paratoi ar gyfer dosbarth ac astudio’n annibynnol yn rhan bwysig o'ch dysgu.

Mae ein haddysgu a'n dysgu wyneb yn wyneb yn bersonol yn cael eu cefnogi a'u hategu gan amrywiol offer digidol. Mae pob modiwl yn gwneud defnydd helaeth o Ddysgu Canolog, sef Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y brifysgol. Ar Dysgu Canolog, fe welwch fforymau trafod, fideos wedi'u recordio ymlaen llaw, dolenni i adnoddau perthnasol ar y we, deunyddiau amlgyfrwng a deunyddiau cwrs.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cymorth bugeiliol penodedig drwy ein cynllun tiwtor personol. Os dymunwch astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, rhoddir yn diwtor personol sy'n siarad Cymraeg i chi. Mae gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Diwtor Cymorth Academaidd penodol a all gynorthwyo gyda materion sy'n effeithio ar eich gallu i fynychu dosbarthiadau neu gwblhau asesiadau, ac mae Cynllun Mentora Myfyrwyr hefyd ar gael drwy'r brifysgol.

Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud os byddwch yn datgan anabledd. Yn ogystal â hyn, mae gan y brifysgol ystod o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, a'r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr.

Rydym yn cynnig rhaglen helaeth o gyngor ar yrfaoedd a gweithdai gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol a Chydlynydd Cynllun Pro-bono, yn ogystal â gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr (gyrfaoedd) y brifysgol.

Adborth

Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar eich cynnydd drwy gydol eich rhaglen. Ceir adborth amrywiol ee adborth ffurfiannol ar lafar yn ystod sesiynau grwpiau bach, mewn seminarau, a thiwtorialau. Mae adborth wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu fel dysgwr ac academydd, fel y gallwch wella eich perfformiad mewn asesiadau crynodol yn y dyfodol. Yn ogystal ag oriau dosbarth rheolaidd, mae gan bob aelod o staff addysgu Oriau Cefnogi Myfyrwyr lle gallwch gwrdd a thrafod unrhyw ymholiadau dysgu sy'n codi o'r modiwl neu o'ch astudiaethau yn gyffredinol.

Mae gan bob modiwl ei ofod pwrpasol ei hun ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd. Bydd gennych hefyd fynediad i lyfrgell ffisegol y gyfraith ac ar-lein, gyda mynediad at ystod eang o ddeunyddiau cynradd ac eilaidd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion, a chronfeydd data ar-lein ar gyfer cyrchu achosion, deddfwriaeth, a deunyddiau digidol eraill sy'n berthnasol i'ch astudiaethau.

Sut caf fy asesu?

Mae tasgau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl i sicrhau eich bod yn datblygu ystod eang o sgiliau cyfreithiol a throsglwyddadwy. Bydd y rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, draethodau academaidd traddodiadol, dyddiadau myfyriol, neu lythyrau cyngor i gleientiaid damcaniaethol cwmni cyfreithiol. Yn yr un modd, bydd rhai cyflwyniadau yn profi sgiliau eiriolaeth, fel petaech yn cyflwyno o flaen barnwr, tra bydd eraill wedi'u hanelu at fath gwahanol o gynulleidfa, megis cynulleidfa academaidd. 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • GD1 Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gysyniadau a sefydliadau cyfreithiol sylfaenol.
  • GD2 Gwerthuso’n feirniadol gynnwys a chymhwysiad rheolau, egwyddorion a damcaniaethau cyfreithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a moesegol.
  • GD3 Dangos dealltwriaeth systematig o arwyddocâd cydlyniad athrawiaethol corff o statudau a/neu gyfraith achosion.
  • GD4 Archwilio’r potensial i gyfraith ar y lefelau cenedlaethol a rhyngwladol wrthsefyll newid neu drawsnewid.

Sgiliau Deallusol(SD):

  • SD1 Gwerthuso dadleuon cystadleuol yn feirniadol a gwneud dyfarniadau rhesymegol o fewn fframwaith moesegol priodol.
  • SD2 Ymgymryd ag ymchwil gyfreithiol sylfaenol gan nodi materion perthnasol gan ddefnyddio ffynonellau sylfaenol ac eilaidd perthnasol.
  • SD3 Dehongli a chymhwyso rheolau, egwyddorion a chysyniadau haniaethol cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol cymhleth i ddatrys problemau.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol(SY):

  • SY1 Cyfathrebu'n berswadiol ar draws cynulleidfaoedd a genres, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol-gyfreithiol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol gan ddefnyddio technegau gweledol, ysgrifenedig neu lafar.
  • SY2 Cynnig atebion ymarferol a moesegol yn annibynnol i broblemau cyfreithiol gwirioneddol neu ddamcaniaethol sy'n seiliedig ar gleientiaid.
  • SY3 Gwerthuso a chydnabod amwysedd ac ansicrwydd yn y gyfraith mewn modd systematig.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol(SA):

  • SA1 Ymchwilio ac astudio'n greadigol, yn annibynnol ac yn fyfyriol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu i gyd-destunau anghyfarwydd neu ehangach yn y byd.
  • SA2 Dangos mentergarwch drwy gymryd cyfrifoldeb am strwythuro a rheoli amser ymchwil neu dasg sy'n canolbwyntio ar gleientiaid, gan weithio mewn timau pan fo'n briodol.
  • SA3 Dangos hyfedredd technegol mewn Saesneg neu Gymraeg ysgrifenedig a chymhwysedd wrth gymhwyso terminoleg ysgolheigaidd.
  • SA4 Cymhwyso sgiliau gwerthuso beirniadol, dadansoddi a barn yn effeithiol mewn ystod amrywiol o gyd-destunau.
  • SA5 Dangos llythrennedd digidol a'r gallu i asesu hygrededd ffynonellau gwybodaeth.

Gwybodaeth arall

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr.


Ymryson (Mooting)

Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu.

Mae ymryson yn sgil wych i allu ychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol.


Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid

Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni. Byddwch yn meithrin profiad cyfweld a chwnsela mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth ar ôl graddio gael swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr morgeisi a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.

Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.

Bydd gennych fynediad at Ymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Maent yn trefnu gweithdai cyflogadwyedd ymarferol trwy gydol y flwyddyn sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys ysgrifennu CV a gorchuddio llythyrau, paratoi ar gyfer diwrnodau dewis cyflogwyr a chyfweliadau, strategaethau chwilio am swydd a dod o hyd i waith.

Lleoliadau

Mae'r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i astudio dramor, neu i ymgymryd â lleoliadau profiad gwaith. Mae'n bosibl trosglwyddo o LLB y Gyfraith i LLB y Gyfraith gyda Blwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd Blwyddyn 2, yn amodol ar argaeledd lleoliadau. Mae yna broses ddethol. Mae cyfleoedd lleoliad byrrach hefyd ar gael trwy ein hystod eang o weithgareddau pro bono, rhai ohonynt yn cael eu darparu'n fewnol ac eraill trwy bartneriaid allanol. Gellir gwneud y lleoliadau hyn ar sail wirfoddol neu am gredyd.  Rydym yn cynnig modiwlau sy'n caniatáu i fyfyrwyr ennill hyd at 40 credyd trwy leoliadau pro bono.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 51% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.