Cymraeg a Hanes (BA)
- Meysydd pwnc: Hanes a hanes yr henfyd, Cymraeg
- Côd UCAS: QV51
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Astudiwch gydag angerdd
Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Sofietaidd a Japan.
Cysylltiadau’r Brifddinas
Lleoliad delfrydol gyda chysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau i'ch helpu ar eich ffordd.
Cymuned lewyrchus
Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.
Cymraeg ymarferol
Codwch eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.
Dysgu gan arbenigwyr
Cewch elwa o addysgu a chefnogaeth gan staff ymchwil-weithredol.
Bydd eich modiwlau Cymraeg yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol allweddol. Byddwch yn datblygu eich diddordebau mewn ystod o bynciau megis llenyddiaeth ar hyd yr oesoedd; ieithyddiaeth, cynllunio iaith a chaffael iaith; treftadaeth a thwristiaeth; ac ysgrifennu gweithredol. Mae agwedd ryngddisgyblaethol gref i’r ddarpariaeth: cewch ddewis modiwlau sy’n ystyried yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant mewn ystod o gyd-destunau hanesyddol a chyfoes.
Mae’r modiwlau Hanes yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol o strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymdeithasau’r gorffennol. Mae ein harbenigedd yn cyrraedd ehangder rhyfeddol o gymdeithasau, cyfnodau a lleoliadau, yn rhychwantu Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia a Chyfandiroedd America. Mae ein modiwlau’n rhoi’r cyfle i chi astudio meysydd sydd wedi hen ennill eu plwyf, megis hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a rhywedd, neu archwilio meysydd a allai fod yn newydd i chi, megis hanes amgylcheddol neu hanes digidol. Trwy’r modiwlau hyn, gallwch feithrin sgiliau deallusol fel y gallu i asesu tystiolaeth yn feirniadol, gwerthuso gwahanol ddehongliadau o’r dystiolaeth, llunio dadleuon yn seiliedig ar dystiolaeth, a mynegi barn yn argyhoeddiadol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol, gan roi pwyslais cryf ar gyfarfodydd un-i-un ar bwyntiau allweddol drwy gydol y radd. Gan ddod â chyfoeth o arbenigedd ar draws gwahanol themâu, cyfnodau a daearyddiaeth, bydd ein darlithwyr yn rhannu'r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys eu hymchwil arloesol eu hunain.
Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
Maes pwnc: Cymraeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC. Rhaid cynnwys gradd B mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL. Rhaid bod gennych hefyd gymhwyster Iaith Gymraeg sy'n cyfateb i radd B ar Safon Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol a gradd B mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai testunau allweddol ac i dalu costau argraffu a llungopïo sylfaenol at eich defnydd chi. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn ddiddorol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae’r radd BA Cymraeg a Hanes wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael sgiliau lefel uchel dros flynyddoedd olynol i ddod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer cyflogaeth broffesiynol.
Trwy gyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Cymraeg a 60 credyd o fodiwlau Hanes ym mhob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Yn y Gymraeg, mae'r pwyslais ym mlwyddyn 1 ar ddatblygu sgiliau allweddol (ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) yn y meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd Ysgol y Gymraeg hefyd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.
Mewn hanes, mae einmodiwlau blwyddyn 1 wedi'u cynllunio i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer astudiaeth uwch a'ch cyflwyno i themâu hanesyddol a meysydd astudio na fyddwch efallai wedi dod ar eu traws mewn Safon Uwch. Mae 2 fodiwl craidd yn eich cyflwyno i’r gwahanol fframweithiau sy’n sail i astudiaeth hanesyddol a’r gwahanol ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra hefyd yn caniatáu i chi archwilio’r dadleuon mawr ynghylch sut rydym yn deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol i herio sut rydym yn meddwl y tu hwnt i gyfnodau amser penodol a ffiniau rhanbarthol neu genedlaethol. Mae modiwlau dewisol yn caniatáu i chi ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau hanesyddol trwy amrywiaeth o gyfnodau a rhanbarthau i osod y sylfaen ar gyfer astudio ym mlwyddyn 2 a'r flwyddyn olaf.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Hanes mewn Ymarfer Rhan 1: Cwestiynau, Fframweithiau a Chynulleidfaoedd. | HS1119 | 20 Credydau |
Hanesion Byd-eang | HS6101 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sgiliau Astudio Llenyddiaeth | CY1513 | 20 Credydau |
Sgiliau Iaith | CY1515 | 20 Credydau |
Y Gymraeg Heddiw | CY1516 | 20 Credydau |
Iaith ac Ystyr | CY1600 | 20 Credydau |
Awdur, Testun a Darllenydd | CY1601 | 20 Credydau |
Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes | CY1602 | 20 Credydau |
Cyfansoddiad y Byd Modern, 1750-1970 | HS1105 | 20 Credydau |
Dyfeisio Cenedl: Gwleidyddiaeth, Diwylliant a Threftadaeth | HS1109 | 20 Credydau |
Bydoedd Canoloesol, 500 - 1500 OC | HS1112 | 20 Credydau |
Dadeni, Diwygiad a Chwyldro | HS1117 | 20 Credydau |
Hanes mewn Ymarfer Rhan 2: Ffynonellau, Tystiolaeth a Dadl | HS1120 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd hanes.
Yn y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd ym mlwyddyn 1. Mae elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg. Ochr yn ochr â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol yn y Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, fel cynllunio ieithyddol, ysgrifennu creadigol, theori llenyddol a diwylliannol, treftadaeth a thwristiaeth.
Mewn hanes, byddwch yn cymryd modiwl craidd sy'n eich cyflwyno i'r dulliau damcaniaethol allweddol a'r dulliau sydd wedi dylanwadu ar ysgrifennu hanesyddol. Mae ein modiwlau dewisol yn eich galluogi i archwilio themâu ar draws ystod amser gulach tra'n annog ymagwedd fwy cymharol at hanes. Yn eich ail flwyddyn, mae'r pwyslais yn symud tuag at wahanol agweddau at hanes a gwahanol ffyrdd o ddefnyddio tystiolaeth. Mae gennych hefyd yr opsiwn i gymryd modiwlau sy'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o'r mathau o dystiolaeth y mae haneswyr yn eu defnyddio, y ffyrdd o ddefnyddio'r dystiolaeth honno, a rôl yr hanesydd wrth rannu ymchwil y tu hwnt i ffiniau'r byd academaidd a'r lleisiau y mae’n eu breintio neu dawelu.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Yr Iaith ar Waith | CY2205 | 20 Credydau |
Darllen Hanes | HS6201 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Hanes.
Yn y Gymraeg, mae gennych ddewis o draethawd neu brosiect 5,000 gair (20 credyd) neu 9,000 gair (40 credyd), i’w gwblhau o dan arweiniad aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil bellach neu fod yn arddangosfa effeithiol i gyflogwyr posibl. Byddwch hefyd yn dewis mwy o fodiwlau dewisol, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth penodol, fel cynllunio ieithyddol, ysgrifennu sgript, cyfieithu ac addysg.
Mewn hanes, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur datblygiadau hanesyddol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddi ffynonellau ac ysgrifennu hanes trwy astudio’r ystod o fodiwlau arbenigol a gynigir. Mae gennych hefyd gyfle i wneud ymchwil annibynnol, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar faes neu gyfnod penodol, drwy draethawd hir os y dymunwch.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae ymchwil yn ganolog i brofiad myfyrwyr yng Nghaerdydd a chaiff ein holl addysgu ei lywio gan y canfyddiadau diweddaraf.
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Byddwch yn dysgu trwy ystod eang o ddulliau addysgu, o ddarlithoedd rhyngweithiol, seminarau bywiog yn seiliedig ar drafodaeth a gweithdai i waith grŵp a thiwtorialau. Bydd y gweithgareddau hyn ar y campws yn cael eu cyfuno ag ystod o amgylcheddau ar-lein a fydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu ac yn eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae seminarau a gweithdai’n cynnig profiad gwerth chweil i ymgysylltu'n feirniadol â'r syniadau a’r darllen allweddol ar bwnc. Maent yn gyfle gwerthfawr i archwilio syniadau a gweithio'n agos gyda'ch darlithwyr a dysgu gan fyfyrwyr eraill. Yn eich ail a thrydedd flwyddyn, cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o brosiectau annibynnol gyda chefnogaeth arbenigwr yn y maes a hyfforddiant un-i-un.
Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu a thrafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gwaith tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser mewn amgylchedd cefnogol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.
Byddwch yn cael tiwtoriaid personol yn y Gymraeg a Hanes, a fydd yn eich arwain trwy gydol eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtoriaid personol yn rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Gall eich tiwtoriaid personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os byddwch yn cael anawsterau neu os oes angen gwybodaeth benodol arnoch am eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau; bydd cynghorydd academaidd a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol.
Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a byrddau trafod.
Mae ein Timau Cefnogi Addysg israddedig yn cynnig gwasanaethau academaidd a chymorth myfyrwyr, ac maent yno i gynnig gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr, i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, gwasanaethau cymorth a digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, cymorth gyda materion ariannol a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.
Sut caf fy asesu?
Mae asesiadau’n cynnwys beirniadaeth ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, cyflwyniadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blog, ochr yn ochr â mathau mwy traddodiadol o asesu fel traethodau a phrofion/arholiadau. Mae rhai o'n hasesiadau’n caniatáu i chi weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd; er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddylunio arddangosfa amgueddfa neu greu canllaw ar gyfer defnyddio ffynonellau; ac efallai y cewch gyfle i greu podlediadau a thestunau digidol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae traethodau hir mewn Hanes yn caniatáu i chi fynd i'r afael â chwestiynau hanesyddol sylfaenol neu archwilio mater neu ddadl hanesyddol yn fanylach.
Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. Mae'r sgiliau a ddatblygir ac a asesir trwy gydol y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd graddedig. Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel gyfredol neu ddiweddar o gyrhaeddiad.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
GD1: Deall cysyniadau allweddol a dulliau damcaniaethol sydd wedi’u datblygu ac sy’n datblygu o fewn Hanes a’r Gymraeg;
GD2: Dangos dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg o gyd-destun ieithyddol, llenyddol, cymdeithasol a phroffesiynol yn ogystal â dealltwriaeth o'r ymdrechion i adfer a hyrwyddo'r iaith;
GD3: Dadansoddi'n feirniadol destunau llenyddol Cymraeg a gynhyrchwyd mewn amrywiaeth o genres ac mewn gwahanol gyfnodau hanesyddol;
GD4: Ymwneud yn feirniadol ac yn gysyniadol â'r rhagdybiaethau a'r dulliau newidiol y mae haneswyr yn eu defnyddio i egluro'r gorffennol;
GD5: Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gymhlethdod ac amrywiaeth y gorffennol mewn un wlad neu mewn perthynas â thema benodol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
SD1: Dadansoddi’n feirniadol sut y crëir ystyron drwy iaith, a grym affeithiol iaith;
SD2: Gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau diwylliannol a'u hasesu mewn perthynas â thystiolaeth a thybiaethau diwylliannol cyffredin;
SD3: Gwerthuso’n feirniadol destunau, cysyniadau, a damcaniaethau sy’n berthnasol i gyd-destun yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, gan ddefnyddio’r eirfa a’r derminoleg briodol;
SD4: Defnyddio gwybodaeth a sgiliau a dulliau priodol i nodi a gwerthuso newid hanesyddol yn feirniadol;
SD5: Ffurfio a chyfiawnhau dadleuon am ystod o faterion, problemau a dadleuon hanesyddol gan ddefnyddio syniadau a dulliau hanesyddiaethol;
SD6: Dod o hyd i ffynonellau sylfaenol priodol, pwyso a mesur eu natur a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
SY1: Cynhyrchu Cymraeg ysgrifenedig a llafar sy'n briodol i'r gweithle ac amrywiaeth eang o sefyllfaoedd;
SY2: Arddangos sgiliau ymarferol a phroffesiynol er mwyn darllen, cynhyrchu a dadansoddi testunau ysgrifenedig a llafar o wahanol fathau (a all gynnwys ysgrifennu creadigol);
SY3: Cymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn cyd-destun proffesiynol trwy brofiad gwaith, myfyrio a gwerthuso cyfleoedd profiad gwaith yn feirniadol, a chynhyrchu traethawd estynedig neu brosiect ymchwil dan oruchwyliaeth;
SY4: Gofyn cwestiynau ymchwil cymhellol a phenodol a mynd ar drywydd atebion i'r cwestiynau hynny trwy ymholi strwythuredig, gan ddethol ac archwilio ystod briodol o dystiolaeth.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
ST1: Meddwl yn feirniadol, rhesymu a chymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth.
ST2: Crynhoi a gwerthuso'n feirniadol rinweddau ac anfanteision cymharol safbwyntiau a dehongliadau amgen a gwerthuso eu harwyddocâd;
ST3: Cyflwyno canfyddiadau a dadleuon cymhleth yn glir, yn gryno, ac yn berswadiol mewn amrywiaeth o fformatau;
ST4: Dangos sgiliau menter i ddatrys problemau a dadansoddi tystiolaeth amrywiol, rannol neu amwys gan ddefnyddio meddwl beirniadol, menter a chreadigrwydd;
ST5: Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol, naill ai'n unigol neu ar y cyd fel rhan o dîm.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
O ystyried targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ni fu erioed fwy o alw am raddedigion sydd â'r nodweddion hyn. Mae graddedigion yn y Gymraeg yn cael cyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallant gael effaith wirioneddol ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd Cymru.
Mae'r radd hon yn meithrin rhinweddau allweddol yn ei graddedigion: yn gyntaf, chwilfrydedd deallusol; yn ail, dealltwriaeth drylwyr a beirniadol (yn academaidd ac ymarferol) o'r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant; yn drydydd, sgiliau ieithyddol o'r radd flaenaf, yn ysgrifenedig ac ar lafar; yn bedwerydd, dealltwriaeth fywiog a beirniadol o'r gorffennol a sut mae'n cysylltu â'r presennol ac, yn olaf, sgiliau creadigol, beirniadol a chyflogadwyedd sy'n hollbwysig mewn marchnad swyddi gynyddol gystadleuol.
Mae ein gradd yn cynnig sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, o gydweithio a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau. Cyflwynir digwyddiadau hyfforddi a gyrfaol y tu mewn a’r tu allan i’r cwricwlwm gyda ffocws ar ddatblygu eich sgiliau tra byddwch yn y brifysgol a gwneud defnydd llwyddiannus o’r sgiliau hynny yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun tra'n caniatáu i chi wneud gwahaniaeth.
Mae llawer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, gweinyddu, cyfieithu ac addysg, neu’n cymryd rhan mewn astudiaethau ôl-raddedig. Mae rhai myfyrwyr yn dewis parhau â'u hastudiaethau a dilyn ein rhaglenni ôl-raddedig.
Lleoliadau
Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu. Yn eich ail flwyddyn, mae’r modiwl craidd Cymraeg yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol. Yn eich blwyddyn olaf, rydym yn cynnig y cyfle i gymryd modiwl y gallwch ddatblygu eich sgiliau menter drwyddo, ac sy’n rhoi’r sgiliau i chi gyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod a’r tu allan i semestrau.
Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i leoliadau ac interniaethau ar y campws, o leoliadau 35 awr rhan-amser sy’n cyd-fynd â'ch astudiaethau i leoliadau haf cyflogedig. Yn ogystal, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol i'ch helpu i gael profiad gwaith.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.