Ewch i’r prif gynnwys

Hanes ac Iaith Fodern (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

screen

Profiad deinamig

Dysgwch gan siaradwyr brodorol ac unigolion sydd i bob pwrpas yn siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o weithgareddau addysgu a dysgu.

academic-school

Gweithgareddau allgyrsiol

Bydd rhaglen fywiog yn eich helpu i ddysgu’r iaith a mwynhau ei diwylliant trwy ddosbarthiadau sgwrsio gyda myfyrwyr cyfnewid, caffis iaith a chymdeithasau iaith i fyfyrwyr.

star

Sgiliau ar gyfer y dyfodol

Rhaglen sgiliau strwythuredig sy’n ymgorffori sgiliau academaidd, trosglwyddadwy a chyflogadwyedd o'r cychwyn.

globe

Y byd yw'ch ystafell ddosbarth

Treulio’ch trydedd flwyddyn yng ngwledydd yr iaith (ieithoedd) a ddewisoch chi.

Ein nod ar draws yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a'r Ysgol Ieithoedd Modern yw i chi ddod yn 'ddinesydd byd-eang' sy'n meddwl yn feirniadol, yn deall amrywiaeth ddiwylliannol ac sydd â chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy.

Bydd y rhaglen 4 blynedd Hanes ac Iaith Fodern (BA) yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, a meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor. 

Mae ochr hanes y rhaglen yn gadael i chi lunio'ch angerdd am hanes yn ôl eich diddordebau, gan astudio'r gorffennol gyda llygad beirniadol wrth wneud cysylltiadau â dadleuon yn y maes cyhoeddus.

Rydyn ni’n hyddysg ynghylch amrywiaeth helaeth o gymdeithasau, cyfnodau a lleoedd ledled Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia ac America. A thrwy ein dewis cyffrous o fodiwlau, cewch chi gyfle i astudio meysydd sydd wedi hen ennill eu plwyf megis hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a rhywedd, neu archwilio meysydd a allai fod yn newydd ichi megis hanes amgylcheddol neu ddigidol. 

Ar ochr ieithoedd y rhaglen, gallwch ddewis astudio Tsieinëeg, Ffrangeg, neu Sbaeneg.

Rydym yn cynnal 2 lwybr iaith. Bydd y rhai sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn iaith fodern yn dilyn ein llwybr Elfennol Uchaf. Mae'r rhai sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am iaith fodern yn cymryd ein llwybr Elfennol.

Byddwch yn archwilio’r iaith rydych chi’n ei hastudio a’i chyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol o safbwynt byd-eang. Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar amrywiaeth ddiwylliannol, ac mae ein detholiad ysgogol o fodiwlau yn dathlu symudedd diwylliannol ac ieithyddol. Trwy amryw adnoddau a deunyddiau dysgu ieithoedd ynghyd â gweithgareddau dysgu i fyfyrwyr, byddwch chi’n meithrin medrau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfryngu.

Rhan annatod o’r rhaglen hon yw’r cyfle i dreulio amser yn byw neu’n gweithio dramor, er mwyn cael profiad o fywyd yn niwylliant yr iaith rydych chi’n ei hastudio.  Cewch chi naill ai astudio mewn prifysgol sy’n bartner inni neu fwrw tymor mewn swydd ym mhob semester.

Mae'n bwysig cofio bod astudio ieithoedd yn ymwneud â mwy na’r iaith ei hun, mae’n ymwneud ag astudio’r iaith, ei diwylliant a’i chymdeithas. Fel myfyriwr Hanes ac Iaith Fodern (BA), fe welwch fod materion a safbwyntiau ategol yn aml yn cysylltu'r pynciau hyn.  

Drwy'r rhaglen hon, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau sy'n fanteisiol yn ein hoes ddigidol - creadigrwydd, empathi, meddwl beirniadol, sgiliau cyfathrebu darbwyllol a'r gallu i herio a chwestiynu.

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

ABB-BBB. Os oes gennych radd B mewn iaith ar lefel A, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 pwnc HL. Os oes gennych radd 6 mewn iaith HL, bydd gennych fynediad i'r llwybr Elfennol Uwch ieithoedd.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.


Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd

cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Celfyddydau, Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol. Os oes gennych radd B mewn iaith Safon Uwch ar y cyd â'r BTEC neu yn ychwanegol ato, bydd gennych fynediad at lwybr Elfennol Uwch yr ieithoedd.

Lefel T

M mewn Lefel T mewn unrhyw bwnc.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo sylfaenol deunydd at eich defnydd eich hun. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sy’n bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis prynu geiriaduron dwyieithog personol heb eu talfyrru a’r cyfeirlyfrau gramadeg.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen radd 4 blynedd ac mae wedi'i strwythuro i'ch galluogi i ddatblygu'r cymwyseddau a'r sgiliau iaith i fod yn feddyliwr beirniadol dyfeisgar, annibynnol, amlieithog, sy'n barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn, byddwch chi’n astudio ar gyfer 120 o gredydau. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu'n gweithio mewn gwlad lle y siaredir yr iaith rydych yn ei hastudio. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae Blwyddyn Un wedi'i threfnu i roi i chi’r medrau a'r wybodaeth hanfodol a fydd yn sylfaen i’ch astudio. Trwy gyfuno hanes a’r iaith a ddewisoch chi, gallwch chi astudio mwy nag un maes astudio a meithrin yr hyblygrwydd a’r gallu rhyngddiwylliannol mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Byddwch chi'n astudio 60 credyd o fodiwlau hanes a 60 credyd o fodiwlau iaith a diwylliannol.

Mae’r modiwlau craidd hanes yn eich cyflwyno i’r fframweithiau gwahanol sy’n sail i ymchwil hanesyddol ac i’r dadleuon mawr ynghylch sut rydym yn deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol. Trwy’r modiwlau hyn, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth ynghylch pam mae haneswyr yn anghytuno, ac yn meithrin sgiliau sy’n eich galluogi i gymryd rhan yn y dadleuon hyn. Mae modiwlau dewisol mewn hanes yn rhoi cyfle i chi astudio amrywiaeth o gyfnodau a rhanbarthau. Byddwch yn archwilio themâu, fel crefydd neu ffilm, ar draws sawl cyfnod, wrth archwilio'r gorffennol o safbwyntiau gwahanol a'ch cyflwyno i fathau gwahanol ar dystiolaeth er mwyn deall y gorffennol.

Byddwch yn astudio un iaith dramor fodern ar lefel Elfennol neu Elfennol Uchaf. Mae’r flwyddyn gyntaf yn gosod sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i fyfyrwyr ar y llwybr Elfennol, ac yn meithrin medrau ieithyddol myfyrwyr sydd ar y llwybr Elfennol Uchaf. Yn ogystal â'ch gwersi iaith, byddwch yn astudio modiwl diwylliannol-hanesyddol ar gyfer eich dewis iaith.

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a dau fodiwl 30 credyd mewn Iaith Fodern.

Mae modiwl craidd 20 credyd ar y rhaglen hanes yn datblygu eich sgiliau wrth ddeall y gorffennol drwy archwilio ymagweddau gwahanol tuag at hanes a natur mathau gwahanol ar dystiolaeth hanesyddol a ffyrdd o ddefnyddio’r dystiolaeth honno. Byddwch yn cymhwyso’r sgiliau hyn wrth i chi ymchwilio i ddadl hanesyddol sydd o ddiddordeb i chi, gyda chefnogaeth goruchwyliwr, a hefyd yn cydweithio i archwilio rôl yr hanesydd wrth rannu ymchwil y tu hwnt i ffiniau’r byd academaidd a’r lleisiau maen nhw’n eu breintio neu’n eu tawelu.

Mae dau fodiwl dewisol 20 credyd yn eich galluogi i archwilio themâu ar draws ystod ddaearyddol neu gronolegol fwy manwl gywir, wrth annog dull mwy cymharol.
Mae elfennau iaith blwyddyn 2 yn adeiladu ar waith y flwyddyn gyntaf. Byddwch wedi datblygu ers lefel eich modiwl iaith yn y flwyddyn gyntaf, a dylech chi weld twf parhaus eich galluoedd ieithyddol, eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’ch hyder cyffredinol fel defnyddiwr iaith. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ieithyddol drwy astudio eich modiwl iaith ar lefel Canolradd neu Ganolradd Uchaf. Mae'r modiwl hwn yn eich paratoi ar gyfer eich amser dramor ym mlwyddyn 3.

Yn ogystal ag iaith, bydd gennych yr opsiwn o astudio modiwl 30 credyd sy'n edrych ar ddiwylliannau, cymdeithasau a hanesion eich iaith o safbwynt byd-eang. Fel arall, gallwch ennill mwy o sgiliau ieithyddol a phroffesiynol drwy ddewis astudio iaith fusnes neu fodiwl cyfieithu arbenigol.

I ffwrdd o’ch astudiaethau ffurfiol, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (MFL), dan gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae mentoriaid yn cael eu hyfforddi i ysbrydoli ac ysgogi disgyblion ysgol uwchradd ac i'w helpu i ystyried eu safle a'u rôl yn ein byd amlieithog ac amlddiwylliannol.

At hynny, bydd cyfle i hyrwyddo dysgu ieithoedd trwy ymuno â Chynllun y Llysgenhadon o Fyfyrwyr Ieithoedd. Ar ôl hyfforddiant, gall llysgenhadon ieithoedd siarad yn gyhoeddus am eu profiad o ddysgu ieithoedd a medrau cyfieithu. Gallai fod cyfle ichi gymryd rhan mewn amryw weithgareddau megis sesiynau cyflwyno ieithoedd a chyfieithu, helpu ysgolion i hyrwyddo ieithoedd ar eu safleoedd neu hybu ieithoedd a chyfieithu yn ystod ffeiriau gyrfaoedd a diwrnodau agored.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sbaeneg CanolraddML025030 Credydau
Sbaeneg Canolradd UchafML025130 Credydau
Mandarin Tsieinëeg Uwch GanolraddML126030 Credydau
Mandarin Tseiniaidd CanolraddML126130 Credydau
Ffrangeg CanolraddML623030 Credydau
Ffrangeg Canolradd UchafML623130 Credydau
Hispanidad yn y BydML020030 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Sbaeneg Canolradd)ML025230 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Sbaeneg Canolradd Uchaf)ML025330 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Tsieineaidd)ML126330 Credydau
Tsieina yn y BydML126630 Credydau
Cyflwyniad i Gyfieithu ArbenigolML220130 Credydau
Ffrainc Fyd-eang: Diwylliannau Ffrangeg a FfrangegML621030 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Ffrangeg Canolradd)ML623230 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Ffrangeg Canolradd Uchaf)ML623330 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Sbaeneg Canolradd)ML025230 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Sbaeneg Canolradd Uchaf)ML025330 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Tsieineaidd)ML126330 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Ffrangeg Canolradd)ML623230 Credydau
Y Byd ac Iaith Busnes (Ffrangeg Canolradd Uchaf)ML623330 Credydau
Darllen HanesHS620120 Credydau
Bywyd bob dydd ym Mhrydain Ganoloesol c1200–1600HS621020 Credydau
Hanes y goruwchnaturiolHS621120 Credydau
Hanes Hawliau DynolHS621220 Credydau
Pastau hygyrchHS621320 Credydau
Rhyfeloedd Cartref PrydainHS621420 Credydau
Goleuedigaeth(au) Ewropeaidd: Yr olygfa o'r ymylonHS621520 Credydau
America: O'r Chwyldro i AiladeiladuHS621620 Credydau
Ffrainc fodernHS621720 Credydau
Canrif Dywyll EwropHS621820 Credydau
Staliniaeth: Wladwriaeth, Cymdeithas a'r AmgylcheddHS621920 Credydau
Cymdogion Agos, Gelynion Peryglus: Tsieina, Japan a Dwyrain Modern AsiaHS622020 Credydau
Gwleidyddiaeth a'r Bobl ym Mhrydain Fodern: Protest, dinasyddiaeth a'r WladwriaethHS622120 Credydau
Hanesion AmgylcheddolHS622220 Credydau
Gwrth-Colonial ResistanceHS622320 Credydau
Chwyldro, Diwylliant a Radicaliaeth, 1789–1914HS622520 Credydau
Cyflwyniad i Gyfieithu ArbenigolML220130 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Byddwch chi’n treulio’r drydedd flwyddyn mewn gwlad arall lle y bydd cyfle i fireinio medrau ieithyddol, dod i adnabod y diwylliant yn well a datblygu’n gymeriad annibynnol, dyfeisgar a gwydn. Bydd astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf gan feithrin hyder ac aeddfedrwydd mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Byddwch yn treulio blwyddyn academaidd lawn yng ngwlad yr iaith rydych yn ei hastudio.

Mae tair ffordd o dreulio blwyddyn dramor.

  1. Astudio - rydyn ni wedi sefydlu trefniadau cyfnewid sy'n cynnig cyfle i astudio mewn sefydliadau yn Awstria, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Tsieina, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Siapan, Mecsico, Periw, Portiwgal, Sbaen, y Swistir a Taiwan.
  2. Addysgu - mae modd bwrw tymor yn gynorthwywr addysgu mewn cynllun o dan nawdd y Cyngor Prydeinig lle y gallech chi weithio yn un o ddinasoedd neu drefi amrywiaeth helaeth o wledydd. Mae’r dewis hwnnw’n cynnig profiad addysgu uniongyrchol gan eich galluogi i ennill cyflog digonol, er mai dim ond yn rhan-amser y byddwch chi’n gweithio. Cyn dechrau yn y cynllun, bydd y Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad ddewisoch chi. Ar ben hynny, dylai’r ysgol lle y byddwch chi’n gweithio eich helpu i gyflawni rôl athro a dod o hyd i lety.
  3. Gweithio - ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg a Sbaeneg. Byddwch chi’n treulio cyfnod mewn sefydliad neu gwmni sy’n ymwneud â byd yr ieithoedd modern. Cewch chi drefnu hynny trwy bobl rydych chi’n eu hadnabod neu gysylltu â’r sefydliadau yn uniongyrchol. Gall yr ysgol hysbysebu swyddi o’r fath, hefyd. I ofalu y bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ddewisoch chi yno a chael profiad buddiol, bydd angen sêl bendith yr ysgol ar drefniadau o’r fath.

Beth bynnag ddewiswch chi, bydd blwyddyn dramor yn gyfle gwych i ddeall rhagor am yr iaith, cydio mewn diwylliant arall a chael profiad o weithio neu astudio’n rhyngwladol.

Rhaid i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n ddinasyddion o’r wlad lle y byddan nhw’n gweithio neu’n astudio gael teitheb i wneud hynny. Does dim rheolaeth na dylanwad gyda ni ar brosesau ofyn am deitheb ond byddwn ni’n eich helpu i lunio’ch cais a pharatoi ar gyfer eich blwyddyn dramor

Blwyddyn pedwar

Wrth i ni eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch chi’n mireinio’ch medrau ieithyddol, meddwl beirniadol ac ymchwil ymhellach.

Byddwch yn astudio 60 credyd o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a 60 credyd o'r Ysgol Ieithoedd Modern.

Ym modiwlau hanes y flwyddyn olaf, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur datblygiadau hanesyddol. Byddwch chi’n meithrin medrau dadansoddi ffynonellau a phortreadu hanes trwy astudio amryw fodiwlau arbenigol sydd ar gael.

Ar ochr iaith y rhaglen, byddwch yn astudio modiwl iaith uwch 30 credyd ac un modiwl dewisol 30 credyd. Bydd gennych yr opsiwn i ehangu’ch medrau a’ch gorwelion hefyd, trwy fodiwlau am hanes a materion diwylliannol yn ogystal â chyfoeth o ddewisiadau allgyrsiol. Gall modiwlau dewisol y flwyddyn olaf amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond, ar y cyfan, byddan nhw’n cynnwys amryw bynciau a themâu cyfoes sy’n berthnasol i un iaith neu wedi’u cyflwyno mewn fframwaith cymharol, trawswladol. Gall themâu a phynciau'r flwyddyn olaf gynnwys llenyddiaeth, ffilmiau a’r diwylliant gweledol, hanes, gwladychiaeth ac astudiaethau rhyw. Ar ben hynny, gallech chi gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn lle y byddwch chi’n treulio cyfnod mewn ysgol leol yn yr ardal sy’n bartner inni.

Ar ddwy ochr y rhaglen, cewch chi’r cyfle i ysgrifennu traethawd hir, pan fyddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o’ch dewis. O dan oruchwyliaeth a chyda chefnogaeth un o’n staff arbenigol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflawni traethawd ymchwil estynedig ar bwnc sy’n ymwneud â maes rydych chi’n ei astudio fel rhan o’ch gradd. Mae’r traethawd hir yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol uwch a dealltwriaeth fanwl o bwnc ymchwil, gyda chefnogaeth lawn goruchwyliwr academaidd a rhaglen o weithdai. Yn gyffredinol, mae ein myfyrwyr yn teimlo mai’r traethawd hir yw elfen fwyaf cyffrous a boddhaus eu hastudiaethau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Sbaeneg (yn Sbaeneg)ML036030 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Sbaeneg (yn Gymraeg/Saesneg)ML036130 Credydau
Sbaeneg UwchML037030 Credydau
Tsieinëeg arbenigolML137130 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf Tsieinëeg (yn Saesneg/Cymraeg)ML137330 Credydau
Tsieinëeg Mandarin UwchML138030 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Portiwgaleg (mewn Portiwgaleg)ML436330 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Portiwgaleg (yn Gymraeg/Saesneg)ML436430 Credydau
Portiwgaleg UwchML437030 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Japaneeg (yn Gymraeg/Saesneg)ML536330 Credydau
Siapan 3ML537030 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Ffrangeg (yn Gymraeg/Saesneg)ML626230 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Ffrangeg (yn Ffrangeg)ML636130 Credydau
Ffrangeg UwchML637130 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Almaeneg (yn Gymraeg/Saesneg)ML735930 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Almaeneg (yn Saesneg)ML736130 Credydau
Uwch AlmaenegML738030 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Eidaleg (yn Saesneg)ML836230 Credydau
Traethawd Hir y Flwyddyn Olaf - Eidaleg (yn Gymraeg/Saesneg)ML836330 Credydau
Eidaleg UwchML837030 Credydau
Iaith a Chymdeithas CataloniaML036230 Credydau
Rhyfel y Falklands yn Diwylliant yr ArianninML036530 Credydau
Chwyldroadwyr a chenedlaetholwyr yn SbaenML036830 Credydau
Diwylliant, Protest Wleidyddol ac Anghydffurfiaeth yn y 1960auML136030 Credydau
Sinema Ewropeaidd: Meddwl y Real of FictionML136230 Credydau
Modiwl Addysgu MyfyrwyrML136330 Credydau
Naratifau Byd-eang o Wladychiaeth, Caethwasiaeth a'u CymynroddionML136530 Credydau
Diwylliannau Sinophone: Hong Kong, Taiwan a Diasporas TsieineaiddML137230 Credydau
Cof a Symbolau yn JapanML536430 Credydau
Yr avant-garde Ffrengig: O Gelf i ChwyldroML637030 Credydau
Yn unedig ond wedi'i rannu? Archwilio Uno'r AlmaenML736730 Credydau
Merched Eidaleg YsgrifennuML836430 Credydau
Ymchwilio i Hanes: Traethawd HirHS630040 Credydau
Gemau Digidol ac Ymarfer HanesHS631020 Credydau
Ysbïwyr ac ysbiwyr yn y Byd CanoloesolHS631120 Credydau
Brenhiniaeth: Delwedd, Grym a Phortialadaeth, c.1100-1399HS631220 Credydau
Rhyw, Hunaniaeth a Phrofiad yn Ewrop GanoloesolHS631320 Credydau
Witchcraft and Witch-Hunting in Early Modern Europe, 1400-1750HS631420 Credydau
Chwyldro Gwybodaeth: Gwleidyddiaeth a Chyfathrebu ym Mhrydain Fodern GynnarHS631520 Credydau
Chwyldro Gwybodaeth: Gwleidyddiaeth a Chyfathrebu ym Mhrydain Fodern GynnarHS631520 Credydau
Iechyd a Salwch ym Mhrydain Fodern GynnarHS631620 Credydau
Bywydau Symudol: Teithio, Alltudiaeth a Mudo yn y Byd Modern CynnarHS631720 Credydau
Caethwasiaeth a Bywyd Caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau, 1775-1865HS631820 Credydau
Hanes Americanaidd BrodorolHS631920 Credydau
Utopias eithafiaeth: Chwyldroadau mewn Cyd-destun CymharolHS632020 Credydau
Tsiecoslofacia: Yr Ugeinfed Ganrif mewn BychainHS632120 Credydau
Ffrainc dan FeddiannaethHS632220 Credydau
Y tu mewn i'r trydydd ReichHS632320 Credydau
Trais ac ideoleg yn yr Undeb Sofietaidd rhwng y Rhyfel Byd CyntafHS632420 Credydau
Rhyfel a Rhyddid yn y Swdanau ôl-drefedigaetholHS632620 Credydau
Rhywedd ac Imperialaeth, India c.1800- c.1900HS632720 Credydau
Newid, Gwrthdaro a Symudedd Torfol yn Tsieina Gweriniaethol, 1911-1945HS632820 Credydau
Dyffryn Ffasgaidd Japan, 1930-1945HS632920 Credydau
Argraffiadau ymylol y Chwyldro FfrengigHS633020 Credydau
Mayhem a llofruddiaeth: Ymchwilio i'r Isfyd FictoraiddHS633120 Credydau
Gwneud Sosialaeth BrydeinigHS633220 Credydau
Prydain yn Rhyfel: Diwylliant a Gwleidyddiaeth ar y Ffrynt Cartref, 1939-1945HS633320 Credydau
Cyhoeddus a Phreifat: Rhyw, Hunaniaethau a Phwer ym Mhrydain yr Ugeinfed GanrifHS633420 Credydau
Iddewon, Ewrop a'r BydHS633520 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n defnyddio amryw ddulliau addysgu megis darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau iaith a gweithdai. 

Mae cynnwys darlithoedd yn cyfleu trosolwg o brif gysyniadau a fframweithiau pwnc, gan roi'r medrau a fydd yn eich galluogi i gynnal ymchwil yn annibynnol ar gyfer y seminarau, datblygu’ch syniadau eich hun a’u rhoi nhw ar waith. Gallem gyflwyno’r deunyddiau hynny’n bersonol neu ar ffurf ddigidol fel y bydd modd eu hastudio wrth eich pwysau.

Mae seminarau’n ddosbarthiadau rhyngweithiol sy'n cynnwys grŵp bychan o fyfyrwyr ac aelod o dîm addysgu'r modiwl. Gall ffurf y seminarau amrywio megis trafodaeth gan y grŵp i gyd, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau o dan adain myfyrwyr. Mae seminarau’n cynnig awyrgylch egnïol lle y gallwch chi gnoi cil ar syniadau a dadleuon sydd wedi’u cyflwyno yn y darlithoedd. 

Mae’n ffordd o ddysgu iaith yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol a chyfranogiad ystyrlon myfyrwyr. Bydd digon o gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu'r cymwyseddau a medrau iaith allweddol yn rheolaidd. Mae dosbarthiadau wedi'u trefnu i ehangu’ch hyfedredd ieithyddol a gwella'ch hyder a'ch medrau cyfathrebu mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. 

Mae paratoi ar gyfer dosbarth ac astudio’n annibynnol yn rhan bwysig o'ch dysgu. Rhwng dosbarthiadau, byddwch chi’n paratoi deunydd, tystiolaeth a dadleuon, ac yn cwblhau tasgau iaith yn unigol neu mewn grwpiau. 

Mae ymchwil wrth wraidd profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac mae’r canfyddiadau diweddaraf yn llywio pob rhaglen.

Mae’n dulliau addysgu’n meithrin sgiliau deallusol megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi’n fanwl, cloriannu tystiolaeth, llunio dadleuon, rhoi damcaniaethau ar waith a defnyddio iaith yn effeithiol mewn traethodau a thrafodaethau. At hynny, byddwn ni’n eich helpu i weithio mewn tîm, cynnal ymchwil yn annibynnol a rheoli amser mewn awyrgylch cefnogol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Tiwtor personol fydd yn eich arwain trwy’ch astudiaethau, gan eich cynghori ar faterion academaidd. Eich tiwtor personol fydd y ddolen gyswllt bob amser ynghylch unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar eich astudiaethau. Byddwch chi’n cyfarfod â’ch tiwtor personol ddwywaith yn ystod pob blwyddyn academaidd ond dyma’ch annog chi i gysylltu â’ch tiwtor unrhyw bryd os oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi. Bydd pob aelod o staff academaidd ar gael i gwrdd â myfyrwyr yn ôl oriau penodol.  

Yn ystod eich blwyddyn dramor, bydd cydlynydd astudiaethau tramor yn cysylltu â chi bob hyn a hyn ac yn cadw llygad ar eich cynnydd.

Mae gan bob modiwl le neilltuedig yng Nghyfleuster Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, lle y byddwn ni’n eich tywys trwy weithgareddau’r wythnos a’r tasgau y bydd angen eu cwblhau. Bydd yno ddeunyddiau ac adnoddau dysgu megis recordiadau o ddarlithoedd, tasgau ac adnoddau iaith a dolenni ag adnoddau digidol gan gynnwys deunyddiau’r llyfrgelloedd ar ffurf electronig. 

Mae staff y Gwasanaethau Proffesiynol ar gael yng nghanolfan yr israddedigion i ateb eich cwestiynau.

Mae gan yr Ysgol Ieithoedd Modern Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr sy’n gallu’ch cynghori a’ch llywio yn ôl yr angen mewn awyrgylch cefnogol, gofalgar a chyfrinachol.

Mae Gwasanaethau Bywyd y Myfyrwyr, yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn cynnig ystod o wasanaethau. Mae’r gwasanaethau cymorth hynny’n cynnwys: Cynghori ar arian, dyfodol myfyrwyr, cwnsela, iechyd a lles, mentora, medrau astudio academaidd, Gwasanaeth Anableddau’r Myfyrwyr a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Diben yr asesu yw eich helpu i hel syniadau, meithrin medrau a datblygu galluoedd. Mae pwyslais ar fod yn arloesol ac yn greadigol gan feddwl yn feirniadol am y testunau a’r diwylliannau a welwch chi a chyflwyno dadleuon yn ôl tystiolaeth trwy’r Saesneg a’r iaith rydych chi’n eu hastudio fel ei gilydd. 

Byddwch chi’n astudio blociau adeiladu iaith hefyd, gan gynnwys patrymau a strwythurau gramadegol a geiriadurol. Byddwn ni’n asesu’r medrau hynny yn rheolaidd yn ystod modiwlau iaith sy’n adlewyrchu natur gynyddol a chronnus dysgu iaith.

Rydyn ni’n defnyddio ffurfiau asesu traddodiadol (megis traethodau, posau, profion yn y dosbarth, arholiadau llafar a thraethodau hir) yn ogystal â mathau mwy arloesol (megis portffolios cyfieithu, prosiectau chwarae rolau, blogiau, cyfweliadau a chyflyniadau posteri). Mae asesiadau hefyd yn cynnwys beirniadaethau ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blogiau.  

Mae rhai o'n hasesiadau yn eich galluogi i weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddylunio arddangosfa amgueddfa neu greu canllaw ar gyfer defnyddio ffynonellau. Mae traethodau estynedig yn caniatáu i chi fynd i'r afael â chwestiynau hanesyddol sylfaenol neu archwilio mater neu ddadl hanesyddol yn fanylach.

Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. Mae'r sgiliau a ddatblygir ac a asesir trwy gydol y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd graddedig. Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar.

Rhoddir adborth ysgrifenedig am waith ar ôl ei asesu i’ch helpu i wella ar gyfer yr asesiadau nesaf, a bydd cyfleoedd ichi drafod yr adborth gyda’ch tiwtoriaid. At hynny, bydd amryw ymarferion megis posau, cyflwyniadau, traethodau a phrosiectau.  Bydd y tiwtoriaid yn rhoi adborth ffurfiannol i wella’ch dysgu a’ch deall cyn sefyll yr asesiadau crynodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

KU1 Siarad, ysgrifennu, a deall iaith dramor fodern i safon gradd.  

KU2 Deall strwythurau, cyweiriau ac amrywiaethau'r iaith rydych chi’n ei dysgu a'u defnyddio mewn modd hyblyg ac effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol fel y bo'n briodol.

KU3 Dadansoddi’n feirniadol agweddau ar ddiwylliannau, hanesion a chymdeithasau y gwledydd y siaredir eich iaith ynddynt trwy amryw ddeunyddiau a dulliau. 

KU4 Dangos faint rydych chi’n ei wybod ac yn ei ddeall ynghylch pa mor debyg neu annhebyg yw diwylliannau a chymdeithasau eraill.

KU5 Deall a gwybod perthynas gwahanol ddiwylliannau â’i gilydd yn fanwl fel y gallwch chi lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un.

KU6 Ymwneud yn feirniadol ac yn gysyniadol â'r rhagdybiaethau a'r dulliau newidiol y mae haneswyr yn eu defnyddio i esbonio'r gorffennol;

KU7 Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gymhlethdod ac amrywiaeth y gorffennol mewn perthynas â chyd-destun daearyddol, thematig neu destunol.

KU8 Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o derfynau gwybodaeth am ddisgyblaeth a natur esblygol y wybodaeth a'r ddealltwriaeth honno.

Sgiliau Deallusol:

IS1 Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg ac mewn iaith dramor fodern.

IS2 Defnyddio amryw strategaethau i ddidoli a dadansoddi gwybodaeth.

IS3 Dod i gasgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan eu cyfiawnhau trwy resymu’n gadarn a dehongli deunydd gwreiddiol yn fanwl.

IS4 Gwerthuso syniadau a dadleuon yn feirniadol trwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amryw fedrau ar bapur ac ar lafar. 

IS5 Defnyddio technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i drefnu a llunio neu gyflwyno testunau academaidd (traethodau, cyflwyniadau, testunau clyweledol) yn ôl tystiolaeth a’r confensiynau cyfeirnodi cywir.

IS6 Defnyddio gwybodaeth a sgiliau a dulliau priodol i nodi a gwerthuso newid hanesyddol a diwylliannol yn feirniadol.

IS7 Ffurfio a chyfiawnhau dadleuon am ystod o faterion, problemau a dadleuon hanesyddol gan ddefnyddio syniadau a dulliau hanesyddiaethol a/neu lenyddol.

IS8 Dod o hyd i ffynonellau sylfaenol priodol, pwyso a mesur eu natur a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

PS1 Defnyddio cyfryngau digidol yn effeithiol ar gyfer dod o hyd i wybodaeth, cyfathrebu a dysgu. 

PS2 Defnyddio medrau ieithyddol uwch mewn swydd broffesiynol. 

PS3 Nodi a disgrifio problemau a gweithio ar y cyd i'w datrys.

PS4 Dangos gwytnwch, gallu i addasu ac annibyniaeth trwy dreulio amser yn niwylliant iaith dramor fodern.

PS5 Dangos meddwl beirniadol, rhesymu a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth.

PS6 Gofyn cwestiynau ymchwil cymhellol a phenodol a mynd ar drywydd atebion i'r cwestiynau hynny trwy ymholi strwythuredig, gan ddethol ac archwilio ystod briodol o dystiolaeth.

PS7 Crynhoi, pwyso a mesur cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dehongliadau amgen yn feirniadol a gwerthuso eu harwyddocâd.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

KS1 Defnyddio medrau meddwl yn feirniadol a rhesymu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a syniadau amrywiol. 

KS2 Defnyddio medrau ymchwil ymarferol. 

KS3 Creu syniadau gwreiddiol a defnyddio dull creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau.   

KS4 Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol a derbyn ei negeseuon.

KS5 Bod yn ddyfeisgar ac ysgwyddo cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch datblygu proffesiynol eich hun.

KS6 Defnyddio amryw fedrau cyflogadwyedd a menter megis creadigrwydd, mentro, trefnu, rheoli amser, gweithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm.

KS7 Ymddwyn fel dinesydd byd-eang gan gydio mewn gwahaniaethau diwylliannol a’u gwerthfawrogi trwy brofiad o wledydd eraill.  

KS8 Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Gan raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd.

Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau proffesiynol ac i greu argraff ar farchnad swyddi gystadleuol. Ni waeth a ydych chi’n gwybod beth yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu beidio, mae digon o adnoddau a chymorth gyda ni i’ch arwain.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n dewis ei ddilyn.

Mae ein rhaglen Hanes ac Iaith Fodern (BA) yn rhoi i chi ddealltwriaeth fywiog a beirniadol o'r gorffennol, ei gymynroddion parhaus, a sut mae'n cysylltu â'r presennol, a sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi o weithio ar y cyd a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau. Rydym yn darparu cyfleoedd i chi ennill a datblygu sgiliau menter wrth i chi symud ymlaen o gyflwyno eich syniadau ar hanes byd-eang ar fodiwlau'r flwyddyn gyntaf a gweithio ar y cyd ar brosiect ym mlwyddyn 2 i leoliadau sy'n dwyn credydau ym mlwyddyn 2, blwyddyn dramor a'ch blwyddyn olaf. Mae ystod o fodiwlau dewisol yn ehangu’r cyfleoedd hyn ac yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau ymhellach.

Mae lleoliadau a phrofiad gwaith yn gyfleoedd gwych i wella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfaol, a gallan nhw’ch helpu i ddod i benderfyniadau ynglŷn â’ch gyrfa yn y dyfodol. Mae'r rhaglen yn cynnwys dysgu ar leoliad fel elfen annatod o'ch gradd.

Mae hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd yn aml, gan anelu at feithrin sgiliau yn ystod y cwrs a’u defnyddio’n llwyddiannus wedyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun wrth ganiatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Mae Gwobr Caerdydd yn darparu fframwaith i chi er mwyn datblygu eich cyflogadwyedd, wrth ichi allu manteisio ar ystod eang o raglenni prifysgol gan Ieithoedd i Bawb (i roi cynnig ar iaith arall) i gefnogi'r tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â'ch syniadau'n fyw.

Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu. Cynigir cyfleoedd ar gyfer lleoliadau amrywiol, pwrpasol ym mlwyddyn 2 ar fodiwl sy'n canolbwyntio ar gyfieithu'r sgiliau rydych yn eu hennill trwy eich gradd i'r gweithle. Yn eich blwyddyn olaf, bydd modd dewis modiwl meithrin medrau menter i’ch paratoi ar gyfer cyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod semestrau a’r tu allan iddynt.

Mae’n graddedigion yn ffynnu ym marchnad y swyddi. Mae eu graddau iaith yn eu harwain i ystod gyrfaoedd amryfal a chyffrous gan gynnwys materion ariannol, cysylltiadau rhyngwladol yn y campau, ymgynghori busnes, addysg, iechyd, y gwasanaeth sifil, y sector treftadaeth ac amgueddfeydd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, y gyfraith ac addysgu.

Bydd llawer o raddedigion yn mwynhau’r flwyddyn dramor gymaint eu bod yn neilltuo amser i deithio rhagor neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am swydd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.