Ewch i’r prif gynnwys

Daearyddiaeth Amgylcheddol (MSci)

Environmental Geography third-year field trip to Switzerland

Pam astudio'r cwrs hwn

Darganfyddwch sut i ddadansoddi a datrys ystod eang o broblemau amgylcheddol gyda ffocws ar ddysgu sut i gynnal ymchwil.

briefcase

Cysylltiadau â diwydiant

Mae ein cysylltiadau â chynfyfyrwyr, rheoleiddwyr amgylcheddol a sefydliadau lleol yn cynnig digon o gyfleoedd i chi gwblhau prosiectau a lleoliadau gwaith dros yr haf.

location

Cyfleoedd gwaith maes

Rydym yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes gorfodol yn rhan o ffioedd y cwrs.

molecule

Cyfleusterau ansawdd uchel

Bydd gennych fynediad at yr offer arolygu a mapio diweddaraf, labordai a cyfleusterau cyfrifiadurol.

star

Cwrs hyblyg

Gallwch ofyn am gael eich symud i raglen radd BSc neu’r Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol, neu newid i gwrs arall yn yr un Ysgol ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

Mae ein dealltwriaeth wyddonol o'r amgylchedd naturiol a ffisegol yn allweddol i fynd i'r afael â materion fel newid yn yr hinsawdd, llygredd a dirywiad tir.

Ar ein cwrs Daearyddiaeth Amgylcheddol, byddwch yn ymchwilio i sut mae'r Ddaear yn gweithredu a'r wyddoniaeth sydd wrth wraidd effaith pobl ar y blaned dros amser. Byddwch yn edrych ar amgylcheddau ledled y byd, o'r pegynau eithafol i riffiau cwrel trofannol, gan archwilio'r pwysau sy'n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Byddwch yn defnyddio'r technolegau diweddaraf ac yn datblygu sgiliau mewn mapio daearyddol, ymchwil, dadansoddi a datrys problemau.

Rydym yn manteisio i’r eithaf ar ein lleoliad gan gymryd tripiau dydd rheolaidd i Benrhyn Gwŷr, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Bannau Brycheiniog yn ne Cymru. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd dramor; ac yn y gorffennol rydym wedi bod i'r Iseldiroedd a’r Swistir.

Yn y bedwaredd flwyddyn o’r MSci, bydd gennych y cyfle, yn amodol ar berfformiad academaidd, i weithio ar brosiect ymchwil cyffrous gydag academydd o'r Ysgol a'i staff ymchwil. Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil datblygedig, sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn ymchwil academaidd.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daearyddiaeth (Ffisegol)

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBC (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BCC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Daeareg, Daearyddiaeth, Ffiseg, Gwyddorau Amgylcheddol, Mathemateg, TGCh, Ystadegau.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth Lefel Uwch) neu 31-29 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gyda dau bwnc gwyddonol Lefel Uwch). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych yn astudio Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg Gellir derbyn Mathemateg Graidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri £9,535 Dim
Blwyddyn pedwar £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 Dim
Blwyddyn dau £29,450 Dim
Blwyddyn tri £29,450 Dim
Blwyddyn pedwar £29,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol yn gymwys i wneud cais am Raglen Cymorth Ariannol Caerdydd i helpu gyda’r costau hyn.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas arnoch gan gynnwys dillad ar gyfer tywydd cynnes, gwynt a siacedi i’ch diogelu mewn stormydd ac esgidiau cerdded. Bydd yr ysgol yn darparu'r holl gyfarpar iechyd a diogelwch yn ogystal â chyfarpar maes arbenigol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs amser llawn a phedair blynedd o hyd yw hwn. Byddwch yn astudio am eich gradd Bagloriaeth a Meistr ar yr un pryd. Mae’r tair blynedd gyntaf wedi’u strwythuro yn yr un ffordd â’r cwrs BSc, ac yna byddwch yn cwblhau eich cymhwyster Meistr ym mlwyddyn pedwar.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn cael sylfaen gref mewn daearyddiaeth amgylcheddol. Ceir modiwlau craidd a modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau i flwyddyn pedwar, felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis y meysydd astudio sydd o ddiddordeb i chi. Mae blwyddyn tri a blwyddyn pedwar yn cynnwys traethawd ymchwil hir.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio modiwlau craidd a luniwyd i roi sylfaen gref ym maes gwyddorau’r ddaear a daearyddiaeth yn eich blwyddyn gyntaf.  Mae pynciau’n cynnwys cefnforoedd, yr hinsawdd, prosesau’r ddaear ac amgylcheddau byd-eang. Byddwch yn datblygu sgiliau daearyddol hanfodol megis gwaith map a siartiau, Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) a dadansoddi data daearyddol.

Mae pob un o'r graddau yn yr Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol yn astudio'r un semester cyntaf. Ar ôl semester un gallwch chi benderfynu a ydych chi am barhau â'ch dewis gwreiddiol neu newid i un o'r graddau eraill (ee Daearyddiaeth Forol neu Ffisegol).

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn, ac mae pob modiwl craidd yn werth 20 o gredydau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Byd Amgylcheddau DynamigEA130020 Credydau
Archwilio Planet EarthEA130120 Credydau
GIS, Mapiau a Sgiliau DadansoddolEA130320 Credydau
Sgiliau Maes DaearyddiaethEA130520 Credydau
Deall y blaned fywEA130820 Credydau
Hanfodion Gwyddoniaeth DdaearyddolEA130920 Credydau

Blwyddyn dau

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth o flwyddyn un ac yn dechrau archwilio cysyniadau mwy datblygedig fel biogeocemeg, ecoleg forol a system atmosffer y cefnforoedd. Byddwch yn dysgu sgiliau a chael profiad mewn samplu, casglu data a dadansoddi yn barod ar gyfer eich traethawd ymchwil ym mlwyddyn tri.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl i barc cenedlaethol arfordirol yng Nghymru (naill ai Sir Benfro neu Eryri) lle byddwch yn dysgu sgiliau maes allweddol gan gynnwys technegau mapio ac arolygu.

Yn ystod yr haf rhwng blwyddyn dau a blwyddyn tri, byddwch yn cwblhau eich pum wythnos o ymchwil annibynnol i’ch paratoi chi ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri. Yn y gorffennol mae myfyrwyr wedi edrych ar faterion yn ymwneud ag ansawdd pridd a dŵr a thueddiadau yn yr hinsawdd.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys modiwlau craidd 40 a 20 o gredydau a dewis o fodiwlau dewisol gwerth 20 o gredydau.

Blwyddyn tri

Bydd gennych fwy o ryddid i lywio eich gradd yn eich trydedd flwyddyn ac yn dewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae'r modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir ac ymchwilio i amgylcheddau eithafol o safbwynt biocemegol. Ar gyfer eich modiwlau dewisol, gallwch ddewis astudio ystod o bynciau arbenigol fel Systemau Amgylcheddol Morol neu Newid yn Hinsawdd y Byd.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl tramor i leoliad arfordirol yn Ewrop lle byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn monitro ac arolygu amgylcheddol. Rydym wedi bod i’r Iseldiroedd a’r Swistir yn y gorffennol.

Blwyddyn pedwar

Byddwch yn astudio ar gyfer eich gradd Meistr ym mlwyddyn pedwar. Mae eich modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir (60 o gredydau) a modiwl gwaith maes. Ar gyfer eich modiwlau dewisol, gallwch ddewis o blith pynciau fel busnes ac ymgynghori ac archwilio’r ymchwil sydd ar y gorwel.

Gallwch ddewis cwblhau traethawd hir eich gradd meistr ar unrhyw bwnc yn ymwneud â Daearyddiaeth Amgylcheddol y gallwn ei oruchwylio yn yr Ysgol. Gallwch naill ai ddewis o blith rhestr o brosiectau posibl a gaiff ei chylchredeg gan yr Ysgol, neu gallwch weithio gyda goruchwyliwr i lunio prosiect mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Byddwch yn gweithio un-i-un gyda goruchwyliwr ymchwil drwy gydol y flwyddyn a chyda grŵp ehangach o fyfyrwyr ymchwil a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant o bosibl. Mae rhai o’r prosiectau ymchwil Meistr gorau wedi’u cyhoeddi mewn llenyddiaeth wyddonol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Students testing water quality of a river
Environmental Geography students testing a lake in Wales for its water quality

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a chewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n cynnal ymchwil arloesol yn rhyngwladol.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Cewch hefyd eich annog i ddysgu’n annibynnol ac mewn grwpiau drwy gydol y cwrs, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau rheoli prosiect a threfnu yn ogystal â datblygu eich gallu wrth gymhwyso technoleg gwybodaeth a defnyddio technegau ac offer o’r radd flaenaf.

Sut y caf fy nghefnogi?

Goruchwylio

Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir tiwtor personol i chi ac mi fyddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlwyddyn dau a thri. Bydd eich tiwtor personol yn arbenigwr yn eich cwrs gradd dewisol, a gall gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn tri a phedwar, byddwch hefyd yn cael goruchwyliwr ar gyfer eich traethawd hir a'ch prosiectau blwyddyn olaf.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bo'n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan wefan Dysgu Canolog fodiwl Cynllunio Datblygiad Personol hefyd sy’n eich helpu i asesu eich cynnydd yn rheolaidd ac i ddiwallu eich anghenion datblygu.

Gwasanaethau cefnogi

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a'n statws Efydd ( https://www.cardiff.ac.uk/earth-ocean-sciences/about-us/equality-diversity-and-inclusivity ).

Sut caf fy asesu?

We will be assessing your level of knowledge and understanding in each module through a combination of assignments, presentations, fieldwork, examinations and a dissertation. You will receive written and oral feedback on your coursework and there are opportunities for informal feedback throughout the course.

You will complete a wide range of assessments, from traditional essays, data interpretation exercises and posters on topical themes to more interactive assignment experiences including group presentations, technical reports and briefing papers. These different assessments are designed to give you professional assessment experience and help you prepare for employment.

NOTE: The University welcomes applications from students with disabilities and we endeavour to offer reasonable alternative assessment methods wherever possible.   We have an Alternative Fieldwork Policy which is adopted in cases where a student cannot attend a scheduled, taught field course, or part(s) thereof, because of extenuating circumstances.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dealltwriaeth systematig a beirniadol o brosesau gofodol ac amserol sy'n gysylltiedig ag ystod o amgylcheddau, gan gynnwys dealltwriaeth feirniadol eang o'r rhyngberthynas rhwng systemau amgylcheddol, cemegol a ffisegol ar ystod o raddfeydd
  • Dealltwriaeth eang o adnoddau amgylcheddol a heriau byd-eang cysylltiedig, gan gynnwys dulliau rheoli’r rhain
  • Dealltwriaeth systematig a beirniadol o natur amlddisgyblaethol Daearyddiaeth Amgylcheddol, gan gynnwys ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth, a dealltwriaeth ymarferol gysylltiedig o'r angen i integreiddio gwybodaeth o'r gwyddorau cytras, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â System y Ddaear, gwyddorau’r cefnfor, atmosfferig, ffisegol ac amgylcheddol
  • Gwerthfawrogiad a chymhwysiad trylwyr o'r broses wyddonol, gan gynnwys dylunio a phrofi damcaniaethau, a llunio cysyniadau newydd
  • Llunio, dylunio a defnyddio methodoleg labordy, maes a/neu gyfrifiadurol briodol sy'n berthnasol i brosiect ymchwil lefel uchel

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol :

  • Dadlau, dehongli ac egluro achosion, graddfeydd ac effeithiau prosesau amgylcheddol cyfoes ac yn y dyfodol wrth gymhwyso syniadau, cysyniadau a dulliau perthnasol yn feirniadol
  • Casglu, coladu, syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth amgylcheddol, gan ddilyn dulliau perthnasol mewn meysydd cytras o wyddorau amgylcheddol
  • Gwerthuso ymchwil gyfredol yn feirniadol mewn agweddau dethol ar wyddorau amgylcheddol, gan ddangos gwerthfawrogiad o ansicrwydd, amwysedd a therfynau dealltwriaeth gwyddoniaeth gysylltiedig
  • Gweithio'n effeithiol ar draws disgyblaethau i gysylltu gwybodaeth a phrofiad o wyddorau cysylltiedig i ddeall yn feirniadol y wyddoniaeth sy'n gysylltiedig ag ystod o amgylcheddau a gwerthuso'r berthynas rhwng prosesau amgylcheddol a chymdeithas
  • Y gallu i ddatrys problemau gwyddonol cymhleth yn greadigol ac yn annibynnol
  • Modelu a dehongli data daearyddol amgylcheddol i gynhyrchu damcaniaethau y gellir eu profi gyda data ychwanegol neu eu harsylwi

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dadansoddi a dehongli'n feirniadol ystod o wahanol fathau o ddata sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd fel rhan o brosesau ymchwil i ymchwilio i ystod o faterion amgylcheddol amserol a chysyniadau damcaniaethol
  • Cynllunio, dylunio a gweithredu ymchwil sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, wneud defnydd beirniadol o ystod o ddulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data mewn astudiaethau maes, alltraeth, labordy a desg
  • Cymhwyso dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn fformatau cartograffig a graffig priodol gan ddefnyddio platfformau priodol, gan gynnwys GIS
  • Mynd i'r afael â phroblemau ymchwil sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data amrywiol, sy’n aml yn anghyflawn ac ansicr gan ddefnyddio methodolegau a dulliau ansoddol a meintiol priodol
  • Arddangos sgiliau ymarferol datblygedig a chymhwysedd mewn technoleg gwybodaeth, systemau gwybodaeth ddaearyddol, technegau cartograffig, ystadegol a dadansoddol eraill
  • Defnyddio sgiliau rheoli prosiect a threfnu effeithiol drwy weithio'n annibynnol a thrwy weithio mewn tîm
  • Deall yr agweddau ar gasglu data o ran cyfyngiadau ymarferol, logisteg, diogelwch a moesegol, a hynny mewn amrywiol amgylcheddau, a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon, fel sy'n briodol i ymchwil gymhwysol uwch
  • Y gallu i gynllunio prosiect cymhleth yn annibynnol sydd ar flaen y gad mewn pwnc ymchwil
  • Modelu data daearyddol amgylcheddol rhifiadol cymhleth a dod i gasgliadau priodol ar sail gwaith modelu o'r fath

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg
  • Y gallu i weithio'n gymwys yn unigol neu fel rhan o dîm wrth osod problemau a datrys problemau o fewn ystod o amgylcheddau ymchwil cymhwysol uwch lle mae’r dasg o wneud penderfyniadau’n gymhleth ac yn amlddisgyblaethol
  • Y gallu i ymgymryd ag astudiaeth annibynnol ac ysgolheictod personol uwch, wedi'u meithrin trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, menter a phrofiadau hunan-ddysgu
  • Ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu yn y broses o gynllunio datblygiad personol a chymryd yr awennau ar eich addysg eich hun
  • Y gallu i ddatrys problemau yn ogystal â dibynadwyedd, teyrngarwch, ymddygiad cymdeithasol, pwyll, agwedd at ddysgu ac ymchwil, arweinyddiaeth, gwytnwch, gwneud penderfyniadau a rhesymu
Student working on a mapping exercise
Student completing a mapping exercise on Caerphilly Mountain

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Gyda’r blaned dan bwysau cynyddol yn sgîl newid yn yr hinsawdd, gorecsbloetio a llygredd, mae galw mawr am wybodaeth a sgiliau daearyddwyr amgylcheddol. Bydd gan ddaearyddwr amgylcheddol rôl bwysig mewn dyfodol mwy gwyrdd a charbon isel gan ddefnyddio eu dealltwriaeth o’r ddaear i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i’r heriau a wynebwn yn y dyfodol.

Bydd y cwrs hwn yn agor posibiliadau mewn amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau a rolau, gan gynnwys cadwraeth a rheoli’r amgylchedd. Bydd gennych hefyd sgiliau cyflogadwy hanfodol y mae sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio yn chwilio amdanynt. Bydd y sgiliau ymchwil uwch, yr arloesedd a'r fenter y byddwch yn eu hennill o'ch gradd Meistr yn werthfawr i gyflogwyr yn y byd academaidd, y llywodraeth a diwydiant. Mae llawer o swyddi uwch mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â Daearyddiaeth Amgylcheddol yn gofyn am o leiaf radd Meistr.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Environmental Advisor
  • Software Analyst
  • Environmental Consultant
  • Pollution Monitor

Gwaith maes

Mae ein lleoliad yn ne Cymru yn berffaith ar gyfer astudio daearyddiaeth amgylcheddol. Mae ystod enfawr o amgylcheddau naturiol ar stepen ein drws, gyda mynyddoedd i'r gogledd ac aber llanw Hafren yn y de. Yn naturiol, byddwn yn treulio peth amser yn astudio’r tirweddau amrywiol hyn ac yn eich hyfforddi mewn sgiliau gwaith maes hanfodol, megis darllen map, nodi tirwedd a defnyddio cwmpawd.


Rydym hefyd yn mynd â’n myfyrwyr ar sawl taith maes preswyl. Yn y gorffennol mae'r rhain wedi cynnwys archwilio effeithiau rhewlifau ar amgylchedd Parc Cenedlaethol Eryri, ymweld â thirwedd rewlifol fodern yn yr Alpau, ac ymchwilio i hydroleg a systemau afonydd yn ne Ffrainc.

Yr Ysgol sy’n talu’r holl gostau teithio a chostau llety ar ein teithiau maes. Byddwn yn gofyn i chi am gyfraniad bach tuag at gostau bwyd a diod yn unig ar gyfer pob taith.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.