Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Saesneg (BA)


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Astudio dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd mewn bywyd a dysg.

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

book

Dysgu gan y gorau

Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion ac awduron llenyddol byd-enwog.

Mae gan yr adran Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd enw da yn rhyngwladol am ei dulliau addysgu a'i gwaith ymchwil. Mae ein rhaglen radd ddeinamig a hyblyg yn eich galluogi i astudio llenyddiaeth o wahanol gyfnodau a diwylliannau, ac ar draws yr ystod o brif genres llenyddol. Ni chewch eich cyfyngu i astudio’r gair printiedig: mae’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, hanes, technoleg, iaith, a bywyd bob dydd yn ein hudo, ac mae ein haddysgu yn adlewyrchu’r diddordebau hyn. Byddwch yn dysgu sut mae llenyddiaeth yn mynd i'r afael â phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd gyda'r nod o greu byd gwell, mwy cynhwysol a datblygu atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol y blaned.

Mae gennym hefyd ddiddordeb yn y berthynas rhwng y beirniadol a'r creadigol, a bydd gennych yr opsiwn i roi cynnig ar ysgrifennu creadigol.

Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr blaenllaw ym maes llenyddiaeth Saesneg mewn modiwlau sy'n adlewyrchu syniadau diweddaraf y ddisgyblaeth. Mae'r ffocws trwy gydol y radd ar ddod yn ddarllenydd ac yn awdur gofalus a gwybodus sy'n gallu cyfathrebu'n fanwl gywir, yn gain ac yn effeithiol. Byddwch yn dod yn ymchwilydd amryddawn, hynod gyflogadwy sy'n feirniadol annibynnol a chydweithredol.

 

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn o'ch gradd.

Blwyddyn sylfaen yw blwyddyn 1, sy'n cynnwys modiwlau craidd a dewisol. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i roi i chi’r sgiliau i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg o’r pwnc, er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri.

Blwyddyn dau

Rydych yn dewis chwe modiwl 20 credyd o ystod o gategorïau sy'n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema. Nid oes modiwlau gorfodol.

Byddwch yn darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol, yn ogystal â pharhau i ddatblygu eich methodolegau beirniadol a'ch gwybodaeth am y pwnc.

Blwyddyn tri

Erbyn eich blwyddyn olaf, byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol.

Rydych yn dewis chwe modiwl 20 credyd. Mae ystod y modiwlau mwy arbenigol sydd ar gael yn mynd i'r afael â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai sy'n llai cyfarwydd i chi. Bydd gennych yr opsiwn i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis drwy'r modiwl Traethawd Hir.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Drwy gydol y radd, bydd ein haddysgu a arweinir gan ymchwil yn eich cefnogi i ddod yn annibynnol, yn greadigol ac yn feirniadol yn eich ymatebion i lenyddiaeth a ffurfiau eraill ar ddiwylliant, megis ffilm, celf a ffotograffiaeth.

Mae addysgu’r flwyddyn gyntaf yn darparu sylfaen, gyda darlithoedd a thrafodaethau seminar wedi'u strwythuro'n ofalus i'ch helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a magu hyder yn y brifysgol. Mae’r addysgu ym Mlynyddoedd 2 a 3 yn seiliedig ar ddarlithoedd a seminarau ac yn symud yn raddol i gyfeiriad arbenigo ac ymchwil annibynnol wrth i chi ddatblygu fel darllenydd a beirniad. Yn yr amgylchedd cefnogol hwn, byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi testunau a dadleuon yn drylwyr, gweithio ar y cyd trwy broblemau, llunio eich dadleuon eich hun, a chyflwyno'ch syniadau'n glir i eraill.

Drwy gydol y rhaglen, ond yn enwedig ym modiwl craidd y flwyddyn olaf, byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu a chydweithio y gallwch eu trosglwyddo i fyd cyflogaeth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Eich prif ffynonellau cymorth yn eich astudiaethau yw eich arweinwyr modiwl, eich Tiwtor Personol a'n Canolfan Datblygu Ysgrifennu fewnol. Mae gan eich arweinwyr modiwl sesiynau oriau swyddfa wythnosol yn ystod wythnosau addysgu y gallwch eu mynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu asesiadau.

Gall Tiwtoriaid Personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd, a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol. Fe'ch gwahoddir i gwrdd â'ch Tiwtor Personol yn rheolaidd trwy gydol y radd, ac maent ar gael ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg.

Mae Canolfan Datblygu Ysgrifennu'r ysgol yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Gallwch gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai, a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi gyda'ch asesiadau.

Mae swyddfa israddedig yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn darparu cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr ac mae yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cefnogi gyda materion ariannol, a darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Lleolir y gwasanaethau hyn yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol. Bydd llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.

 

Sut caf fy asesu?

Mae eich asesiadau wedi'u cynllunio'n gynyddol i ddatblygu sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol, a myfyrio. Mae'r asesiadau hyn yn cynnwys traethodau, asesiadau trafodaeth grŵp, ac asesiadau myfyriol. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol sy'n cynnwys cyfleu eich canfyddiadau i gynulleidfa anarbenigol. Gellir asesu modiwlau dewisol trwy waith creadigol, ymatebion creadigol-beirniadol, neu ddarnau barn byr.

Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich cynnydd wrth i chi symud drwy'r radd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y cwrs a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn sylwadau ffurfiannol ar syniadau traethawd a gwaith drafft, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs wedi'i farcio. 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Deall llenyddiaeth o wahanol ddiwylliannau a chyfnodau yn systematig (gan gynnwys cyn 1800) a’r ystod o brif genres llenyddol ar draws rhyddiaith, barddoniaeth a drama.
  • Deall yn systematig y perthnasoedd rhwng llenyddiaeth a ffurfiau diwylliannol eraill, megis ffilm, celf, cerddoriaeth, a diwylliannau materol/digidol.
  • Deall yn systematig y cydadwaith rhwng darllen ac ysgrifennu, a rhwng y beirniadol, y creadigol, a'r damcaniaethol.
  • Deall yn systematig sut mae diwylliant, iaith, technoleg ac economeg yn effeithio ar sut, ble, a chan bwy y mae testunau’n cael eu cynhyrchu a’u derbyn.

Sgiliau Deallusol:

  • Archwilio gwahanol fathau o ddeunyddiau llenyddol a diwylliannol yn fanwl ac yn feirniadol.
  • Cyfleu dehongliadau yn gywir ar gyfer cynulleidfa arbenigol.
  • Datblygu a chymhwyso dadleuon sy’n ymateb yn greadigol i ffynonellau llenyddol a beirniadol.
  • Cyfathrebu'n effeithiol ar lafar neu'n ysgrifenedig ar gyfer cynulleidfa anarbenigol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Casglu a gwerthuso gwybodaeth gymhleth a thystiolaeth amrywiol yn gywir gyda chywirdeb.
  • Cyfathrebu’n berswadiol, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, gan ddefnyddio technegau ysgrifenedig neu lafar.
  • Asesu a datrys problemau yn annibynnol, gan ystyried safbwyntiau pobl eraill mewn ffordd systematig a gwerthusol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Esbonio gwybodaeth a syniadau yn glir ac yn broffesiynol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu gyd-destunau anghyfarwydd neu fyd ehangach.
  • Datblygu mentergarwch drwy gymryd cyfrifoldeb am strwythuro a rheoli amser tasg ymchwil, gan weithio mewn timau pan fo'n briodol.
  • Datblygu perthynas waith gadarnhaol ac effeithiol gydag eraill mewn timau, yn enwedig trwy ddeialog ac adborth adeiladol a chydweithredol.

 

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i reoli gwaith dilyn graddedigion.

Mae llawer yn mynd ymlaen i swyddi ym meysydd addysg, adnoddau dynol, marchnata, cyhoeddi, cysylltiadau cyhoeddus, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, a'r sector elusennol, a swyddi cyntaf gan gynnwys Athro Dan Hyfforddiant, Cynorthwy-ydd Marchnata, Swyddog Gweithredol Cyfrif, Golygydd Digidol a Chynorthwy-ydd Golygyddol.

Yn ystod eich gradd gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd a ddarperir gan uned  Dyfodol Myfyrwyr y brifysgol.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Gohebydd
  • Dadansoddwr Gwybodaeth am Droseddau
  • Athro
  • Awdur
  • Ymchwilydd

Lleoliadau

No

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.