Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Dilyn eich diddordebau

Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod eang o gyfnodau a genres.

star

Profiad yn y diwydiant

Ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau trwy amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

briefcase

Canolbwyntio ar y dyfodol

Datblygwch sgiliau cyflogadwyedd y mae galw amdanynt, gan wella eich rhagolygon gyrfa mewn ystod eang o feysydd.

globe

Antur ac archwilio

Cyfleoedd i astudio dramor yn Ewrop a thu hwnt, gan feithrin annibyniaeth a gwytnwch.

tick

Cyfathrebu'n effeithiol

Datblygwch sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad o gyflwyno eich syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Mae ein rhaglen radd ddeinamig a hyblyg yn eich galluogi i astudio llenyddiaeth o wahanol gyfnodau a diwylliannau, ac ar draws yr ystod o brif genres llenyddol. Ni chewch eich cyfyngu i astudio’r gair printiedig: mae’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, hanes, technoleg, iaith, a bywyd bob dydd yn ein hudo, ac mae ein haddysgu yn adlewyrchu’r diddordebau hyn. Byddwch yn dysgu sut mae llenyddiaeth yn mynd i'r afael â phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd gyda'r nod o greu byd gwell, mwy cynhwysol a datblygu atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol y blaned.

Mae elfen ysgrifennu creadigol y rhaglen yn rhoi'r cyfle i chi symud ymlaen o fodiwlau rhagarweiniol ar ddarllen ac ysgrifennu yn greadigol i waith arbenigol o fewn ffurfiau a genres penodol megis ffuglen, barddoniaeth, ffeithiol greadigol ac ysgrifennu sgriptiau, gan arwain at gynhyrchu casgliad estynedig o waith creadigol.

Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn cael eich annog i'ch ymestyn eich hun yn ddeallusol ac yn ddychmygus trwy archwilio llenyddiaeth fel ymarferydd creadigol ac fel beirniad. Bydd ein hymagwedd yn eich helpu i feithrin dealltwriaeth o'r broses greadigol, yn ogystal â gwella eich gwybodaeth am genre, hanes llenyddol a'r maes academaidd amrywiol a deinamig sy'n ffurfio Llenyddiaeth Saesneg.

Byddwch yn canolbwyntio ar ddod yn ddarllenydd ac ysgrifennwr gofalus, sylwgar a gwybodus, yn sensitif i naws iaith ac arddull, ac yn gallu cynhyrchu gwaith creadigol caboledig a soffistigedig. 

Byddwch yn ymuno ag amgylchedd cyfeillgar a chefnogol sydd ag enw da yn rhyngwladol am addysgu ac ymchwil. Mae ein tîm Ysgrifennu Creadigol talentog yn ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd ac yn rhannu profiad o fyd theatr, teledu a ffilm gyda'i gilydd. Mae ein platfformau cyhoeddus, BookTalk Caerdydd ac Arbrawf Barddoniaeth Caerdydd, yn boblogaidd ac yn ennyn llawer o ddiddordeb.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-BBB. Rhaid cynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn HL Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

id yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol, a gradd B mewn Ysgrifennu Creadigol Safon Uwch, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,700 Dim
Blwyddyn dau £23,700 Dim
Blwyddyn tri £23,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn 1, byddwch yn cymryd chwe modiwl craidd a fydd yn eich helpu i drosglwyddo i astudio llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu’n greadigol ar lefel prifysgol. Bydd y modiwlau hyn yn rhoi sgiliau ysgrifennu, darllen, ymchwil, creadigol a chyflogadwyedd allweddol i chi y byddwch yn eu defnyddio trwy gydol eich gradd a thu hwnt.

Blwyddyn dau

Nid oes modiwlau craidd ym mlwyddyn 2. Yn lle hynny, byddwch yn cymryd 40 credyd mewn ysgrifennu creadigol ac 80 credyd mewn llenyddiaeth Saesneg, gan ddewis o blith amrywiaeth o opsiynau ym mhob achos.

Mae modiwlau llenyddiaeth Saesneg wedi'u grwpio'n ddwy ‘fasged’ wahanol sydd wedi'u cynllunio i roi profiad cydlynol i chi ar draws cyfnodau, genres a meysydd thematig. Mae Basged A (‘Cyfnodau Llenyddol’) yn ymdrin â'r ystod o lenyddiaeth Saesneg o'r oesoedd canol hyd heddiw. Mae Basged B (‘Themâu, Ffurfiau a Genres’) yn cynnwys modiwlau sy'n mynd i'r afael â llenyddiaeth a'r amgylchedd; diwylliant ffilm a gweledol; hanes a dyfodol y llyfr; hil a gwladychiaeth; ffeministiaethau; a'r gothig. Mae’r modiwlau llenyddiaeth Saesneg ail flwyddyn hyn yn adeiladu ar waith a wnaed ym Mlwyddyn 1 ac yn parhau â’n hymrwymiad i ganiatáu i chi astudio llenyddiaeth ochr yn ochr â ffurfiau eraill ar ddiwylliant (fel ffilm). Byddwch yn dewis un modiwl o bob basged fesul semester.

Mae’r modiwlau ysgrifennu creadigol ym mlwyddyn 2 yn mynd i’r afael â gwahanol ffurfiau, megis barddoniaeth, sgriptio a ffuglen.

Blwyddyn tri

Mewn llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn cymryd un modiwl craidd 20 credyd a fydd yn rhoi’r cyfle i chi wneud archwiliad manwl o un testun ar draws semester cyfan a defnyddio’r profiad a’r wybodaeth a enillwyd fel sail i ddarn o waith sydd ar gael i’r cyhoedd. Yna byddwch yn dewis 60 credyd o ystod eang o fodiwlau dewisol llenyddiaeth Saesneg a chewch gyfle i ysgrifennu traethawd hir dan oruchwyliaeth ar bwnc o'ch dewis os dymunwch, ond nid yw hyn yn orfodol.

Mewn ysgrifennu creadigol, rydych yn cynhyrchu portffolio 40 credyd o'ch gwaith creadigol dan arweiniad aelod o'r staff academaidd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Drwy gydol y radd, bydd ein haddysgu a arweinir gan ymchwil yn eich cefnogi i ddod yn annibynnol, yn greadigol ac yn feirniadol yn eich ymatebion i lenyddiaeth a ffurfiau eraill ar ddiwylliant, megis ffilm, celf a ffotograffiaeth.

Mae addysgu’r flwyddyn gyntaf yn darparu sylfaen, gyda darlithoedd a thrafodaethau seminar wedi'u strwythuro'n ofalus i'ch helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a magu hyder yn y brifysgol. Mewn Llenyddiaeth Saesneg, mae addysgu ym Mlynyddoedd 2 a 3 yn seiliedig ar ddarlithoedd a seminarau ac yn symud yn raddol i gyfeiriad arbenigo ac ymchwil annibynnol wrth i chi ddatblygu fel darllenydd a beirniad. Mewn Ysgrifennu Creadigol, mae'r addysgu ar ffurf gweithdai yn seiliedig ar adolygiad cymheiriaid o waith ysgrifennu myfyrwyr.  Yn yr amgylchedd cefnogol hwn, byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi testunau a dadleuon, gweithio ar y cyd trwy broblemau, llunio eich dadleuon eich hun, a chyflwyno'ch syniadau a'ch ysgrifennu creadigol yn glir i eraill.

Drwy gydol y rhaglen, ond yn enwedig ym modiwl craidd Llenyddiaeth Saesneg y flwyddyn olaf, byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu a chydweithio y gallwch eu trosglwyddo i fyd gwaith. Ym modiwl craidd blwyddyn olaf y Prosiect Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn cynhyrchu portffolio sylweddol a gwreiddiol sydd wedi’i ymchwilio’n annibynnol o waith creadigol, ym maes ffuglen, ffeithiol greadigol, barddoniaeth, ysgrifennu dramâu neu sgriptio. Mae'r portffolio hwn yn cynnwys sylwebaeth feirniadol ar y gwaith ac fe'i cynhyrchir dan arweiniad aelod o staff.

Sut y caf fy nghefnogi?

Eich prif ffynonellau cymorth yn eich astudiaethau yw eich arweinwyr modiwl, eich Tiwtor Personol a'n Canolfan Datblygu Ysgrifennu fewnol. Mae gan eich arweinwyr modiwl sesiynau oriau swyddfa wythnosol yn ystod wythnosau addysgu y gallwch eu mynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeunyddiau cwrs neu asesiadau.

Gall eich Tiwtor Personol eich cynghori ar faterion academaidd, gan gynnwys sgiliau astudio, gyrfaoedd, a'ch cynnydd academaidd, yn ogystal ag ar faterion bugeiliol. Fe'ch gwahoddir i gwrdd â'ch Tiwtor Personol yn rheolaidd trwy gydol y radd, ac maent ar gael ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg.

Mae Canolfan Datblygu Ysgrifennu'r ysgol yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgrifennu academaidd ar draws y rhaglen. Gallwch gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein, gweithdai, a chyfarfodydd un-i-un am unrhyw agwedd ar ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi gyda'ch asesiadau.

Mae swyddfa israddedig yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn darparu cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr ac mae yno i'ch helpu gyda gwybodaeth ac arweiniad os oes gennych unrhyw ymholiadau. Y tu hwnt i'r ysgol, mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a digwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa, rheoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, eich cefnogi gyda materion ariannol, a darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Lleolir y gwasanaethau hyn yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol. Bydd llyfrgelloedd, mannau astudio a chanolfannau adnoddau eraill i gyd ar gael i chi.

Sut caf fy asesu?

Mae eich asesiadau wedi'u cynllunio'n gynyddol i ddatblygu sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol, a myfyrio. Mae'r asesiadau hyn yn cynnwys traethodau, asesiadau trafodaeth grŵp, ac asesiadau myfyriol. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol sy'n cynnwys cyfleu eich canfyddiadau i gynulleidfa anarbenigol. Gellir asesu modiwlau llenyddiaeth Saesneg dewisol trwy waith creadigol, ymatebion creadigol-beirniadol, neu ddarnau barn byr.

Asesir modiwlau Ysgrifennu Creadigol trwy bortffolios byr o waith creadigol sy'n cynnwys sylwebaeth feirniadol. Mae'r strategaeth asesu wedi'i strwythuro i arwain myfyrwyr o feddwl ffurfiannol trwy gydol y modiwl tuag at gynhyrchu ymateb beirniadol/creadigol gwybodus.

Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich cynnydd wrth i chi symud drwy'r radd. Bydd adborth llafar mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau yn eich helpu i asesu eich dealltwriaeth o ddeunydd y cwrs a'ch ymatebion beirniadol iddo. Byddwch yn derbyn sylwadau ffurfiannol ar syniadau traethawd a gwaith drafft, ac adborth manwl ar yr holl waith cwrs wedi'i farcio.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Deall llenyddiaeth o wahanol ddiwylliannau a chyfnodau yn systematig (gan gynnwys cyn 1800) a’r ystod o brif genres llenyddol ar draws rhyddiaith, barddoniaeth a drama.
  • Deall yn systematig y perthnasoedd rhwng darllen ac ysgrifennu, a rhwng llenyddiaeth a ffurfiau diwylliannol eraill, megis ffilm, celf, cerddoriaeth, a diwylliannau materol/digidol.
  • Amgyffred yn systematig arferion creadigol a beirniadol, a sut y gall y ddau gyfuno i ffurfio ethos creadigol-feirniadol.
  • Deall yn systematig sut mae diwylliant, iaith, technoleg ac economeg yn effeithio ar sut, ble, a chan bwy y mae testunau’n cael eu cynhyrchu a’u derbyn.
  • Mynegi dealltwriaeth greadigol ac ymarferol o genre a ffurf ac o grefft ysgrifennu.

Sgiliau Deallusol:

  • Archwilio gwahanol fathau o ddeunyddiau llenyddol a diwylliannol yn fanwl ac yn feirniadol.
  • Cyfleu dehongliadau yn gywir ar gyfer cynulleidfa arbenigol.
  • Datblygu a chymhwyso dadleuon sy’n ymateb yn greadigol i ffynonellau llenyddol a beirniadol.
  • Datblygu darn newydd o ysgrifennu ynghyd â myfyrio beirniadol, wedi’i lywio gan ddealltwriaeth o gyd-destun yr ysgrifennu hwnnw (llenyddol, diwylliannol a phersonol).

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Casglu a gwerthuso gwybodaeth gymhleth a thystiolaeth amrywiol yn gywir gyda chywirdeb.
  • Cyfathrebu’n berswadiol, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, gan ddefnyddio technegau ysgrifenedig neu lafar.
  • Asesu a datrys problemau yn annibynnol, gan ystyried safbwyntiau pobl eraill mewn ffordd systematig a gwerthusol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Esbonio gwybodaeth a syniadau yn glir ac yn broffesiynol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu gyd-destunau anghyfarwydd neu fyd ehangach.
  • Datblygu mentergarwch drwy gymryd cyfrifoldeb am strwythuro a rheoli amser tasg ymchwil, gan weithio mewn timau pan fo'n briodol.
  • Datblygu perthynas waith gadarnhaol ac effeithiol ag eraill mewn timau, yn enwedig trwy ddeialog ac adborth adeiladol a chydweithredol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein graddedigion yn unigolion amryddawn, cydweithredol a beirniadol annibynnol sy'n gallu cyfleu syniadau cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol. Maent yn dangos uniondeb personol a phroffesiynol, dibynadwyedd a chymhwysedd, ac mae ganddynt y gallu i ysgogi eu hunain ac eraill i gyflawni cyfrifoldebau cytûn.

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd, gan ddefnyddio'r sgiliau a ddatblygwyd trwy gydol eu hastudiaethau. Mae rhai yn dewis dilyn proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i ddilyn llwybr i raddedigion ym maes rheoli.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i rolau mewn adnoddau dynol, y fasnach lyfrau, meysydd proffesiynol fel llyfrgellyddiaeth, a hefyd llywodraeth leol a meysydd eraill o fywyd cyhoeddus sy'n ymwneud â chyfathrebu.

Yn ystod eich gradd, gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd adeiladu gyrfa a ddarperir gan dîm Dyfodol Myfyrwyr y brifysgol.

Lleoliadau

Mae gennym bortffolio sefydledig o interniaethau gyda chylchgronau llenyddol/diwylliannol yng Nghymru y gall myfyrwyr wneud cais amdanynt. 

Gallwch hefyd wneud cais ar gyfer cyfnewidiadau gyda'r amrywiaeth o bartneriaid prifysgol drwy Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang y brifysgol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.