Peirianneg Drydanol ac Electronig (MEng)
- Maes pwnc: Peirianneg
- Côd UCAS: H601
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Cwrs mwyaf blaenllaw yn y DU
Byddwch chi’n astudio ar gwrs Peirianneg Drydanol ac Electronig mwyaf blaenllaw yn y DU, fel y’i penderfynwyd a’i dangosir yn Guardian University Guide 2024.
Cyfleusterau o safon y diwydiant
Bydd mannau addysgu dynodedig ar gael ar eich cyfer a sefydlwyd ar gyfer dylunio a gwaith prosiect, labordai arbenigol ac ystafelloedd cyfrifiaduron.
Ysgoloriaethau allanol ar gael
Mae myfyrwyr yn gymwys i gyflwyno cais ar gyfer ysgoloriaethau gan Academi Bŵer y DU a Sefydliad Sgiliau Electronig y DU UKESF (mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r ddau gynllun).
Cysylltiadau diwydiannol
Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol â chwmnïau fel RWE Npower, Cogent Power, BT and BAE, a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.
Mae peirianwyr trydanol ac electronig yn gweithio ar flaen y gad ym maes technoleg, gan ddatblygu a gwella'r dyfeisiau a'r systemau a ddefnyddiwn bob dydd. Mae peirianwyr trydanol yn delio â chynhyrchu, dosbarthu a rheoli pŵer, tra bod peirianwyr electronig yn creu dyfeisiau fel synwyryddion a ffonau symudol.
Mae’r cwrs achrededig hwn yn darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddod yn beiriannydd sy’n barod am waith. Trwy sesiynau labordy ac ystod o weithgareddau ymarferol, byddwch yn ymgorffori'r wybodaeth a gewch o'ch darlithoedd a'ch tiwtorialau. Mae cyfleoedd i chi gwblhau lleoliadau gwaith a chael nawdd trwy ein cysylltiadau â byd diwydiant.
Byddwch yn edrych ar ystod o broblemau peirianneg dilys a senarios sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, gan weithio arnynt yn unigol a chyda pheirianwyr-fyfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Mae gwaith grŵp yn adlewyrchu perthnasoedd tîm peirianneg a bydd yn eich helpu i feithrin sgiliau proffesiynol, megis gwaith tîm a chyfathrebu. Mae ein mannau creu mynediad agored yn darparu lle i chi ddylunio, creu a chydweithio.
Mae’r MEng yn caniatáu ichi ddefnyddio'r ddwy flynedd ddiwethaf i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth mewn peirianneg drydanol ac electronig. Byddwch yn elwa o ddysgu ar lefel uwch mewn dylunio a rheoli a gwerthfawrogiad o'r technegau sydd eu hangen i reoli a threfnu prosiect dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.
Achrediadau
Maes pwnc: Peirianneg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Rhaid cynnwys Mathemateg.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 pwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Dadansoddi a Dulliau Mathemateg neu Fathemateg.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch.
Lefel T
Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
NA
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn gwrs gradd pedair blynedd amser llawn, gyda modiwlau craidd yn bennaf ym Mlynyddoedd Un a Dau. Mae gan Flynyddoedd Tri a Phedwar gydbwysedd a ddewiswyd yn ofalus o fodiwlau craidd a dewisol, sy'n eich galluogi i ddewis pynciau i gyd-fynd â'ch diddordebau personol neu'ch llwybr gyrfa dewisol. Mae angen i chi ennill 120 credyd y flwyddyn.
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n dymuno symud ymlaen i’r rhaglen MEng ar ddiwedd Blwyddyn Dau gyflawni marc o 60% neu uwch ar gyfer y flwyddyn ar gyfartaledd, neu symud ymlaen i un o'n dwy raglen BEng fel arall.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Mathemateg a Chyfrifiant Peirianneg | EN1211 | 30 Credydau |
Hanfodion Peirianneg Drydanol ac Electronig | EN1216 | 50 Credydau |
Dylunio ac Ymarfer Cymhwysol | EN1217 | 40 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Peirianneg Rheolaeth | EN2058 | 10 Credydau |
Fields, Tonnau a Llinellau Trawsyrru | EN2076 | 10 Credydau |
Ceisiadau microcontroller a Dylunio Embedded | EN2081 | 10 Credydau |
Mathemateg Peirianneg 2 | EN2090 | 10 Credydau |
Prosiect Dylunio Grŵp | EN2710 | 20 Credydau |
Systemau Pŵer Trydan | EN2712 | 20 Credydau |
Dylunio Cylchdaith Electronig | EN2713 | 20 Credydau |
Arwyddion a Systemau Cyfathrebu | EN2721 | 10 Credydau |
Rhaglennu ar gyfer Peirianneg | EN2750 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri
Byddwch yn gwneud prosiect mawr sy’n werth 40 credyd yn y drydedd flwyddyn. Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.
Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys Rheoli Prosiectau ond mae yna fodiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rheoli Prosiectau Peirianneg | EN3024 | 10 Credydau |
Rheolaeth Awtomatig | EN3057 | 10 Credydau |
Systemau Embedded | EN3087 | 10 Credydau |
Prosiect unigol | EN3400 | 40 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Masnacheiddio Arloesi | EN3006 | 10 Credydau |
Electroneg Pŵer | EN3058 | 10 Credydau |
HF a RF Peirianneg | EN3082 | 10 Credydau |
Cyfrifiadura Peirianneg sy'n Canolbwyntio ar Wrthrych | EN3085 | 10 Credydau |
Systemau Pŵer A | EN3701 | 10 Credydau |
Technolegau Ynni Adnewyddadwy | EN3708 | 10 Credydau |
Integreiddio Grid Adnewyddadwy | EN3709 | 10 Credydau |
Deunyddiau Ynni Uwch | EN3710 | 10 Credydau |
Uwch Dylunio IC analog | EN3805 | 10 Credydau |
Systemau cyfathrebu analog a digidol | EN3818 | 20 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Byddwch yn gwneud dau brosiect grŵp yn y bedwaredd blwyddyn, sy'n gysylltiedig ag ymchwil amserol. Gyda’i gilydd, mae'r rhain yn ffurfio hanner yr asesiad cyffredinol.
Byddwch yn dilyn y modiwl craidd Rheoli mewn Diwydiant a gallwch ddewis modiwlau o blith modiwlau eraill.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect Grŵp | EN4100 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Systemau Cyfathrebu Uwch | EN4059 | 10 Credydau |
Uwch Roboteg | EN4062 | 10 Credydau |
Dylunio RF Cylchdaith a CAD | EN4063 | 10 Credydau |
Dylunio modurol | EN4101 | 30 Credydau |
Dylunio Adeiladu Integredig | EN4102 | 30 Credydau |
Dylunio Ynni Adnewyddadwy | EN4103 | 30 Credydau |
Dylunio Mecatroneg | EN4110 | 30 Credydau |
Dylunio Cerbydau Trydan | EN4111 | 30 Credydau |
Trafnidiaeth Gynaliadwy | EN4700 | 10 Credydau |
Uwch Power Electroneg a Drives | EN4701 | 10 Credydau |
Systemau Pŵer Uwch a Thechnoleg Foltedd Uchel | EN4702 | 10 Credydau |
Systemau Ynni Amgen | EN4705 | 10 Credydau |
Smartgrids a Dyfeisiau Rhwydwaith Gweithredol | EN4708 | 10 Credydau |
Cynhyrchu Dosbarthedig, Dylunio System a Rheoleiddio | EN4775 | 10 Credydau |
Deunyddiau Electronig Amledd Uchel | EN4806 | 10 Credydau |
Diogelu System Power | EN4807 | 10 Credydau |
CAD, Fabrication a Prawf Uwch | EN4809 | 10 Credydau |
Dyfeisiau Magnetig: Trawsyrwyr, Synwyryddion ac Actuators | EN4821 | 10 Credydau |
Deallusrwydd artiffisial | EN4902 | 10 Credydau |
Ffiseg a Dylunio Dyfais Amledd Uchel | EN4910 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Addysgir trwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac ategir hyn gan waith ymarferol mewn labordai a gwaith prosiect. Mae yna lyfrgell gyfoethog o ddeunyddiau dysgu ar-lein, wedi'i deilwra ar gyfer pob gwers ym mhob modiwl, gan gynnwys fideos cyfarwyddiadol/gwybodaeth, nodiadau astudio, cwestiynau ymarfer dan arweiniad a rhai cwisiau ar-lein.
Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 40 credyd ym Mlwyddyn Tri, a dyrennir goruchwyliwr ar ei gyfer o blith y staff addysgu.
Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr trwy ffeiriau gyrfaoedd a darlithoedd gwadd. Bydd siaradwyr o’r diwydiant yn cyflwyno darlithoedd rheolaidd am eu meysydd arbenigol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i chi glywed arbenigwyr yn siarad am bynciau sy’n berthnasol i’ch gradd, ac mae'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ym Mlwyddyn Un, dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor personol wrth law i'ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn rhai academaidd a materion phersonol, a hynny mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Ein nod yw eich helpu i oresgyn unrhyw broblem, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, mor effeithlon a chyflym â phosibl.
Ar gyfer y prosiect 40 credyd ym Mlwyddyn Tri, bydd goruchwyliwr yn y maes arbenigedd ymchwil perthnasol yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd i roi arweiniad a chyngor ar gynnydd yn y gwaith.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.
Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol Peirianneg ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd ar gael hefyd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.
Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth am asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn at grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar am gyflwyniadau a chyfraniadau at weithgareddau grŵp.
Sut caf fy asesu?
Bydd eich asesiadau'n amrywio i werthuso gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau proffesiynol a sgiliau allweddol. Yn bennaf, asesir ym Mlwyddyn Un trwy brofion yn ystod y flwyddyn, adroddiadau byr, portffolio datblygiad proffesiynol, cyflwyniadau a dau arholiad ysgrifenedig. Mae'r amrywiaeth hwn o asesiadau'n cael eu cynnal i'r blynyddoedd uwch gyda newid graddol o brofion i arholiadau. Caiff y prosiect unigol mawr ym Mlwyddyn Tri ei asesu gan adroddiad traethawd hir, a bydd prosiectau grŵp ym Mlwyddyn Pedwar yn cael eu hasesu trwy adroddiadau prosiect aml-gydran mawr.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud.
Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
KU1 Cymhwyso gwybodaeth gynhwysfawr am fathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg i ddatrys problemau cymhleth ym meysydd peirianneg drydanol ac electronig. Bydd llawer o'r wybodaeth ar flaen y gad yn y pwnc astudio penodol ac yn cael ei llywio gan ymwybyddiaeth feirniadol o ddatblygiadau newydd a chyd-destun ehangach peirianneg drydanol ac electronig.
KU2 Llunio a dadansoddi problemau cymhleth i ddod i gasgliadau wedi'u cadarnhau. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso’r data sydd ar gael gan ddefnyddio egwyddorion cyntaf mathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg, a defnyddio barn beirianyddol i weithio gyda gwybodaeth a allai fod yn ansicr neu’n anghyflawn, gan drafod cyfyngiadau’r technegau a ddefnyddir.
KU3 Gwerthuso effaith amgylcheddol a chymdeithasol atebion i broblemau peirianneg drydanol ac electronig cymhleth (gan gynnwys cylch bywyd cyfan cynnyrch neu broses) a lleihau effeithiau andwyol.
KU4 Trafod rôl systemau rheoli ansawdd a gwelliant parhaus yng nghyd-destun problemau peirianneg drydanol ac electronig cymhleth.
KU5 Cymhwyso gwybodaeth am egwyddorion rheoli peirianneg, cyd-destunau masnachol, rheoli prosiectau a newid, a materion cyfreithiol perthnasol gan gynnwys hawliau eiddo deallusol.
Sgiliau Deallusol:
IS1 Dewis a chymhwyso technegau cyfrifiadurol a dadansoddol priodol, gan gydnabod/trafod cyfyngiadau'r technegau a ddefnyddir, ar gyfer cyfuno problemau peirianneg drydanol ac electronig, a llunio barn ar gamau gweithredu priodol.
IS2m Dewis a gwerthuso llenyddiaeth dechnegol a ffynonellau eraill o wybodaeth yn feirniadol i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth.
IS3m Dylunio datrysiadau ar gyfer problemau peirianneg trydanol ac electronig cymhleth sy’n rhoi tystiolaeth o wreiddioldeb ac yn bodloni cyfuniad o anghenion cymdeithasol, defnyddwyr, busnes a chwsmeriaid fel y bo’n briodol, gan ystyried iechyd a diogelwch, amrywiaeth, cynhwysiant, materion diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol a masnachol, codau ymarfer a safonau diwydiant
IS4 Cymhwyso dull integredig neu systemau i ddatrys problemau cymhleth.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
PS1 Dewis a chymhwyso sgiliau labordy a gweithdy ymarferol priodol mewn peirianneg drydanol ac electronig, yn enwedig wrth ddyfeisio dulliau dadansoddol neu arbrofol, i ymchwilio i broblemau cymhleth.
PS2 Dewis, cymhwyso a gwerthuso deunyddiau, offer, technolegau a phrosesau peirianneg priodol, gan gydnabod eu cyfyngiadau.
PS3 Defnyddio proses rheoli risg i nodi, gwerthuso a lliniaru risgiau (effeithiau ansicrwydd) sy'n gysylltiedig â phrosiect neu weithgaredd peirianneg drydanol ac electronig penodol.
PS4 Mabwysiadu dull cyfannol a chymesur o liniaru risgiau diogelwch mewn peirianneg drydanol ac electronig.
PS5m Integreiddio gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a chreadigrwydd i ddatrys ystod eang o broblemau peirianneg, gan gynnwys rhai newydd neu gymhleth, yn enwedig trwy gymryd rhan mewn prosiectau dylunio mewn grŵp.
Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:
TS1 Cyfathrebu'n effeithiol am faterion peirianneg cymhleth â chynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol, gan werthuso effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir.
TS2 Nodi a dadansoddi pryderon moesegol a gwneud dewisiadau moesegol rhesymegol ar sail codau ymddygiad proffesiynol.
TS3 Mabwysiadu agwedd gynhwysol at ymarfer peirianneg a chydnabod/cyfleu cyfrifoldebau, buddion a phwysigrwydd cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
TS4m Gweithio'n effeithiol yn unigol, ac fel aelod neu arweinydd tîm, a gwerthuso effeithiolrwydd perfformiad eich hun a pherfformiad tîm.
TS5 Cynllunio a chofnodi gwerthusiad myfyriol o hunanddysgu a datblygiad fel sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes/DPP.
Beth yw deilliannau dysgu'r cwrs/rhaglen?
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae gan ein graddedigion peirianneg trydanol ac electronig swyddi allweddol mewn cwmnïau blaenllaw fel National Instruments, Babcock, BAE Systems, RWE npower, Network Rail, Rolls Royce, Ford, Nokia, Bosch a'r Grid Cenedlaethol.
A hithau ar flaen y gad ym maes ymchwil beirianegol, mae gan Gaerdydd gysylltiadau cryf â byd diwydiant. Datblygwyd cysylltiadau niferus â chwmnïau yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy ein cynlluniau Blwyddyn mewn Diwydiant a thrwy waith ymgynghorol ein staff. Mae hynny’n cynnwys cynghori ynghylch materion fel polisi ynni, dylunio pontydd, defnyddiau magnetig a dyfeisiau lled-ddargludo.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.