Ewch i’r prif gynnwys

Economeg gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (BSc)

  • Maes pwnc: Economeg
  • Côd UCAS: R644
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Economics student inside the trading room

Pam astudio'r cwrs hwn

star

Ethos Gwerth Cyhoeddus

Ymgysylltu â'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas, gan feddwl sut y gall economeg gyfrannu at eu datrys.

globe

Cyfleoedd y tu allan i'r dosbarth

Ystyried blwyddyn yn y gweithle neu flwyddyn astudio dramor rhwng eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf.

people

Dysgu o'r gorau

Elwa o arbenigedd cyfadran fawr, amrywiol sy'n dod â mewnwelediadau unigryw o'u hymchwil eu hunain i'r ystafell ddosbarth.

tick

Teilwra eich astudiaethau

Mae pob modiwl blwyddyn olaf yn ddewisol felly gallwch ddewis y rhai sy'n gweddu orau i'ch diddordebau a'ch dyheadau.

Mae economeg ym mhobman. O'r penderfyniad ynghylch faint i'w roi i elusennau i ymdrechion byd-eang i fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae economegwyr yn cyfrannu eu mewnwelediad i'r drafodaeth gyhoeddus. Fel myfyriwr economeg, byddwch yn dysgu defnyddio offer mathemategol ac ystadegol blaengar i ddeall a rhagweld ymddygiad unigolion, cwmnïau, marchnadoedd a gwledydd. Bydd y technegau hyn yn eich galluogi nid yn unig i egluro'r byd o'ch cwmpas, ond hefyd i fesur sut mae grwpiau targed yn debygol o ymateb, er enghraifft, i gyflwyno polisi newydd neu newid yn ymddygiad cystadleuwyr.

Fodd bynnag, dim ond un dimensiwn o'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu fel economegydd o Gaerdydd yw dadansoddiad economaidd ffurfiol. Mae'r byd yn lle cymhleth, ac ni all unrhyw ddadansoddiad roi cyfrif am bob posibilrwydd. Byddwch yn dysgu gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ynghylch sut i symleiddio realiti i wneud eich dadansoddiad yn ystyrlon, ac i amddiffyn eich penderfyniadau yn argyhoeddiadol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gyfleu cymhlethdod a naws eich dadansoddiad i ystod o gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys lleoliad proffesiynol blwyddyn. Gyda chefnogaeth ein Tîm Lleoliadau, byddwch yn ennill profiad byd go iawn yn y gweithle, gan weld yn uniongyrchol sut mae hyfforddiant economeg yn darparu mewnwelediad unigryw a gwerthfawr i gyflogwyr a sut mae'r sgiliau rydych yn eu datblygu yn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu Gwerth Cyhoeddus. I economegwyr, mae hyn yn golygu gweithio'n foesegol a chyda gonestrwydd, ond hefyd yn teimlo'n hyderus wrth gymhwyso economeg i ddeall a helpu i fynd i'r afael â heriau mawr cymdeithas. Yn ystod eich tair blynedd gyda ni, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'r materion mwyaf dybryd sy'n wynebu cymdeithas a bydd gennych yr offer i helpu i wneud rhywbeth yn eu cylch.

Fel myfyriwr graddedig mewn economeg, bydd galw mawr amdanoch mewn llawer o wahanol alwedigaethau oherwydd y set sgiliau unigryw amrywiol y byddwch yn ei datblygu. Mae graddedigion Caerdydd hefyd yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus mewn llywodraeth, cyllid, bancio, cyfrifyddiaeth ac ymgynghoriaeth, neu i barhau â'u hastudiaethau ar lefel ôl-raddedig.

Maes pwnc: Economeg

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-BBB. Rhaid i’r rhain gynnwys Mathemateg.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn Busnes, a gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,907 Dim
Blwyddyn pedwar £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,700 Dim
Blwyddyn dau £23,700 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £4,740 Dim
Blwyddyn pedwar £23,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen pedair blynedd. Ym mlynyddoedd un, dau a phedwar, byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd. Treulir blwyddyn tri i ffwrdd o'r Brifysgol ar leoliad proffesiynol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae semester yr hydref yn gosod y sylfaen ar gyfer popeth sy’n dilyn. Byddwch yn cymryd tri modiwl gorfodol mewn Macroeconomeg, Microeconomeg, a Mathemateg ac Ystadegau ar gyfer Economegwyr. Bydd y rhain yn dysgu’r modelau sylfaenol y mae economegwyr yn eu defnyddio i ddadansoddi marchnadoedd a’r economi genedlaethol, ynghyd â’r offer mathemategol sydd eu hangen i feintioli a gwerthuso eu rhagfynegiadau.

Mae semester y gwanwyn yn rhoi cyfleoedd i chi gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Byddwch yn plymio'n ddwfn i'r hyn sydd ei angen i fod yn economegydd llwyddiannus mewn Sgiliau Proffesiynol i Economegwyr, gan weithio mewn tîm i gyflawni prosiect economeg. Byddwch yn dysgu am ein cenhadaeth Gwerth Cyhoeddus a'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas mewn Materion Economaidd Cyfoes. Yn olaf, bydd astudio Hanes Economaidd yn rhoi ymdeimlad cryfach o bersbectif i chi, gan drafod digwyddiadau mawr sydd wedi llunio'r economi fodern.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Mathemateg ac Ystadegau ar gyfer EconomegwyrBS151520 Credydau
Sgiliau Proffesiynol ar gyfer EconomegwyrBS151720 Credydau
Materion Economaidd CyfoesBS154520 Credydau
Hanes EconomaiddBS154620 Credydau
Micro-economegBS155120 Credydau
Macro-economegBS165220 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn cymryd chwe modiwl semester deuol yn yr ail flwyddyn. Byddwch yn parhau â'ch astudiaeth o ficro-a macro-economeg graidd, gan ymgorffori offer mathemategol y flwyddyn gyntaf i wneud eich dadansoddiad yn fwy manwl gywir. Byddwch hefyd yn dod i gysylltiad ag econometrig, sy'n ceisio nodi patrymau ystadegol mewn data economaidd wrth roi cyfrif am gydberthynas gynhenid ​​ac anghywirdeb y data. Bydd Dadansoddiad Economaidd o Bolisi yn datblygu eich dealltwriaeth o bolisi mewn ystod o feysydd sy'n ymwneud â'r economi, ynghyd â sut mae economegwyr yn gwerthuso eu heffeithiolrwydd yn ymarferol.

Byddwch hefyd yn gallu dewis dau fodiwl dewisol mwy cymhwysol wrth i chi ddechrau canolbwyntio ar feysydd o fewn economeg sy'n arbennig o ddiddorol i chi ac a fydd yn ddefnyddiol yn eich gyrfa ddewisol yn y dyfodol.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Defnyddiwch y wybodaeth a enilloch yn y brifysgol yn y byd go iawn, wrth i chi fentro ar flwyddyn ar leoliad gwaith, gyda chyflog.

Dyma eich cyfle i wella eich rhagolygon gyrfa trwy feithrin rhwydwaith o gysylltiadau busnes.

Cewch gipolwg ar sefydliadau a diwydiannau heb rwymedigaethau hirdymor a datblygu sgiliau newydd. Bydd hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi fod yn unigryw yn y farchnad swyddi graddedig.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Lleoliad ProffesiynolBS4020120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Erbyn y flwyddyn olaf, byddwch eisoes wedi datblygu sgiliau technegol craidd economegydd graddedig. Yn lle hynny, bydd eich ffocws yn symud i weld sut mae economeg yn cael ei chymhwyso i ystod eang o gwestiynau mewn meysydd. Mae pob modiwl yn ddewisol, gan roi'r rhyddid i chi deilwra'ch astudiaethau'n llawn i'ch diddordebau a'ch cynlluniau gyrfa yn y dyfodol. Fel arfer, rhoddir pwyslais ar y dylanwad y mae pob maes wedi'i gael ar ddatblygu polisi. Bydd y modiwlau hyn hefyd yn pwysleisio gwerthuso modelau a damcaniaethau cystadleuol, gan amlygu pwysigrwydd gwaith empirig wrth bennu addasrwydd gwahanol ddulliau.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymgymryd ag astudiaethau uwch ym mhynciau craidd micro-economeg, macro-economeg ac econometreg. Mae'r modiwlau hyn wedi'u cynllunio'n bennaf ar gyfer y rhai sy'n dymuno ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig neu'r rhai sy'n dymuno herio eu hunain i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r technegau blaengar a ddefnyddir gan economegwyr ymchwil.

Fel rhywun sydd wedi ymgymryd â lleoliad proffesiynol, bydd gennych opsiwn unigryw i ddisodli modiwl a addysgir gyda phrosiect ymchwil. Mae hyn yn cydnabod y sgiliau ychwanegol a'r annibyniaeth y byddwch wedi'u datblygu yn ystod eich lleoliad. Gyda chefnogaeth goruchwyliwr, byddwch yn defnyddio technegau empirig blaengar i fynd i’r afael â chwestiwn pwysig sy’n wynebu’r sector y buoch yn gweithio ynddo.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
EconometricsBS355120 Credydau
Hanes Economaidd RhyngwladolBS355620 Credydau
Economeg LlafurBS355820 Credydau
Dadansoddiad macro-economaiddBS356520 Credydau
Dadansoddiad Micro-economaiddBS356620 Credydau
Economeg DiwydiannolBS357220 Credydau
Economeg DatblyguBS359520 Credydau
Economeg YmddygiadBS362520 Credydau
Prosiect PPY blwyddyn olafBS362720 Credydau
Daearyddiaeth EconomaiddBS362920 Credydau
Economeg AmgylcheddolBS363020 Credydau
Economeg RyngwladolBS363120 Credydau
Economeg CyhoeddusBS363220 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: o 'Oes y glo' i 'Oes y clo'PL936220 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Addysgir pob modiwl gan ymchwilwyr gweithredol yn eich maes astudio. Golyga hyn nid yn unig bod eich darlithwyr yn arbenigwyr pwnc, ond hefyd bod cynnwys y modiwl yn cael ei lywio gan y datblygiadau diweddaraf yn y maes. Byddwch yn gweld sgiliau meddwl a thechnegau o’r radd flaenaf, wedi’u cyfuno ag enghreifftiau cyfoes o bob rhan o’r byd sy’n dod â’r ddamcaniaeth yn fyw.

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau'n defnyddio dull cyfunol, gan ddarparu dwy awr o ddarlithoedd neu sesiynau enghreifftiol bob wythnos ochr yn ochr â thiwtorialau grŵp bach wythnosol neu bythefnosol. Ategir y rhain gan lu o weithgareddau astudio annibynnol ar-lein (fideos, aseiniadau, byrddau trafod, darllen ac ati). Bydd gofyn i chi fynychu pob elfen bersonol a disgwylir i chi reoli eich amser yn effeithiol i gwblhau'r holl waith a neilltuwyd. Mae technoleg hefyd yn dod i mewn i'r ystafell ddosbarth, gyda pholau ar-lein a mathau eraill o ryngweithio yn gyffredin hyd yn oed mewn darlithoedd mawr.

Bydd rhai gweithgareddau dysgu yn digwydd mewn labordai cyfrifiadurol, wrth i chi fynd i’r afael â meddalwedd a ddefnyddir yn eang fel Excel (y mae cyflogwyr yn gyson yn gosod premiwm uchel arno) a phecynnau mwy technegol seiliedig ar godio fel R.

Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau lleoliad gwaith blwyddyn e yn cael y dewis i ymgymryd â phrosiect ymchwil 20 credyd yn y flwyddyn olaf. Mae hyn yn cydnabod yr arbenigedd unigryw a mwy o annibyniaeth y byddwch wedi’u datblygu yn ystod eich cyfnod mewn diwydiant, gan eich galluogi i gymhwyso technegau economeg empirig i fynd i’r afael â chwestiwn pwysig sy’n wynebu’r sector y buoch yn gweithio ynddo.

Sut y caf fy nghefnogi?

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr, sydd ar gael ar gyfer cymorth bugeiliol ac i'ch cyfeirio at y timau cymorth arbenigol niferus yn yr Ysgol Busnes a'r Brifysgol. Mae'r rhain yn amrywio o gwnsela neu gyngor ariannol i gymorth anabledd neu help gyda fisa. Byddwch hefyd yn cyfarfod â chyfarwyddwr eich rhaglen yn ystod y cyfnod sefydlu – aelod o staff academaidd sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y radd BSc Economaidd – sydd bob amser ar gael i ateb eich ymholiadau.

Mae gan yr Ysgol Busnes sawl tîm arbenigol ar y safle. Gall ein swyddog cymorth myfyrwyr eich helpu gydag amrywiaeth o faterion, o ymholiadau am ffioedd a benthyciadau myfyrwyr i gymorth emosiynol. Mae ein Parth Cyfleoedd yn gartref i’n timau gyrfaoedd a lleoliadau arobryn, sydd wrth law i gynnig cyngor arbenigol i’ch helpu i gael swydd ddelfrydol.

Mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais cryf ar gefnogi eich astudiaethau. Mae tiwtorialau grŵp bach wythnosol neu bythefnosol wedi’u cynllunio i fod yn rhyngweithiol, gan roi digon o gyfle i drafod eich gwaith gyda’ch tiwtor dosbarth a’ch cyfoedion. Mae pob darlithydd modiwl hefyd yn cynnal oriau swyddfa wythnosol. Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch ymweld â'u swyddfa heb apwyntiad i gael arweiniad a chyngor un-i-un.

Drwy gydol eich amser gyda ni, byddwch yn cael y cyfle i gyflwyno eich atebion aseiniad ar gyfer adborth drwy ein amgylchedd dysgu rhithiol: Dysgu Canolog. Bydd adborth bob amser yn cyd-fynd â'r meini prawf marcio modiwl a'r canlyniadau dysgu, gan bwysleisio sut y gallwch wella'ch gwaith yn y dyfodol a darparu cyngor defnyddiol wrth i chi baratoi i gyflwyno gwaith cwrs ffurfiol neu sefyll arholiadau.

Y Flwyddyn Lleoliad Proffesiynol yw blwyddyn 3 y rhaglen bedair blynedd hon. Byddwch yn gyfrifol am ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith eich hun, ond bydd Tîm Lleoliadau'r Ysgol a'r Tîm Gyrfaoedd yn rhoi cyngor ac arweiniad. Rhaid i bob lleoliad gwaith gael ei gymeradwyo gan dîm Lleoliad Gwaith Ysgol Busnes Caerdydd.  Yn ystod y lleoliad gwaith byddwch yn derbyn siec i mewn yn rheolaidd gan y Tîm Lleoliadau. Byddwch hefyd yn derbyn cymorth academaidd ac arweiniad ar gyfer cwblhau eich asesiadau seiliedig ar leoliad trwy sesiynau ar-lein.

Gallwch gynnal eich lleoliad gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

Drwy gydol y flwyddyn o leoliad gwaith rydych yn parhau i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd gennych fynediad at yr holl wasanaethau cymorth, llyfrgell a gwybodaeth i fyfyrwyr.

Os na allwch sicrhau lleoliad gwaith gallwch drosglwyddo i'r radd di-leoliad cyfwerth â thair blynedd.

Sut caf fy asesu?

Mae'r rhaglen BSc Economeg yn defnyddio ystod amrywiol o asesu. Mae gan bob modiwl elfen o waith cwrs, sy'n eich galluogi i ymchwilio'n fanylach i agweddau ar gynnwys y modiwl. Mae llawer o'r gwaith cwrs yn adlewyrchu'r mathau o weithgareddau y mae economegwyr proffesiynol yn ymgymryd â nhw. Bydd rhai modiwlau yn gofyn i chi gynhyrchu briffiau polisi byr gyda therfynau amser o 24 neu 48 awr, gan adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd pan ddaw cais brys i mewn gan weinidog y llywodraeth. Bydd gan eraill brosiectau tymor hwy, gydag elfennau o waith grŵp, codio cyfrifiadurol, efelychiadau masnachu, cyflwyniadau a/neu adroddiadau terfynol. Bydd rhai modiwlau yn eich galluogi i ddangos eich creadigrwydd, gan gynhyrchu fideos cryno sy'n gyffredin mewn meysydd fel newyddiaduraeth ariannol. Defnyddir ffurfiau mwy traddodiadol o asesu, megis arholiadau a thraethodau academaidd hefyd lle bo'n briodol.

Rydym yn deall bod gwneud yn dda mewn asesiadau yn bwysig i'n myfyrwyr. Am y rheswm hwn, rydym wedi datblygu dewislen meini prawf marcio a ddefnyddir ar draws yr holl fodiwlau ac a ddarperir i chi ar y diwrnod cyntaf. Wedi'i gynllunio i fod yn dryloyw ac yn syml i'w ddilyn, bydd pob asesiad yn dewis sawl elfen o'r ddewislen i ddangos yn union beth fydd eich aseswr yn chwilio amdano.

Credwn fod gan hyn nifer o fanteision. Yn gyntaf, mae pob modiwl yn defnyddio dull cyson, gan sicrhau bod y marcio bob amser yn dryloyw ac yn deg. Yn ail, ac yn bwysicach fyth, trwy alinio'r adborth a gewch â'r meini prawf marcio, byddwch yn gallu trosglwyddo ei wersi ar unwaith i fodiwlau eraill lle defnyddir yr un maen prawf.

Asesir y Flwyddyn Lleoliad trwy adroddiadau adfyfyriol ysgrifenedig a chyflwyniad unigol.

Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r Flwyddyn Lleoliad Proffesiynol yn cael yr opsiwn yn eu blwyddyn olaf i ymgymryd â phrosiect ymchwil 20 credyd yn seiliedig ar y sector y buont yn gweithio ynddo.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Disgrifio ystod eang o fodelau a thechnegau economaidd adnabyddus, a'r problemau polisi y gellir eu cymhwyso'n llwyddiannus iddynt.
  • Cyfuno damcaniaethau economaidd priodol, a dulliau mathemategol ac econometrig i ddeall ystod o ffenomenau unigol a chymdeithasol.
  • Perthnasu dadansoddiadau macro-a micro-economaidd i'w cyd-destun hanesyddol, gwleidyddol, sefydliadol, cymdeithasol a/neu foesegol ehangach.

Sgiliau Deallusol:

  • Gwerthuso rhinweddau cymharol dadleuon, damcaniaethau a thystiolaeth economaidd amgen.
  • Dehongli canlyniadau dadansoddiad economaidd trwy gyfuno dadl eiriol â chynrychioliad mathemategol, econometrig a graffigol.
  • Llunio argymhellion polisi i gyflawni amcan penodol, wedi'u llywio gan ddadansoddiad economaidd priodol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Asesu ansawdd a pherthnasedd gwahanol dystiolaeth wrth fynd i'r afael â phroblem economaidd.
  • Symleiddio ffenomenau unigol neu gymdeithasol cymhleth i alluogi defnydd ystyrlon o offer economeg.
  • Defnyddio meddalwedd technegol priodol i gynnal dadansoddiad economaidd.
  • Cyfrannu at ddatrys yr heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas.
  • Cyfleu canlyniadau dadansoddiad economaidd i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol mewn ffordd sy'n cael effaith.
  • Cymhwyso rhesymu economaidd priodol i gynorthwyo gwneud penderfyniadau mewn cyd-destun proffesiynol neu bersonol.
  • Ddeall natur a gweithrediadau amgylchedd proffesiynol.
  • Gweithredu yn hyderus ac yn broffesiynol yn y gweithle.
  • Datblygu, gwella a dangos sgiliau, gwybodaeth a phrofiad cysylltiedig â gwaith, mewn meysydd gan gynnwys proffesiynoldeb, moeseg, iechyd a diogelwch.
  • Gallu nodi ac addasu i arferion gweithio ac arferion cysylltiedig mewn lleoliad cyflogaeth, a myfyrio'n feirniadol arnynt.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Datrys problemau a ddiffinnir yn fras mewn cydweithrediad ag eraill.
  • Gweithio'n annibynnol i ddatrys problemau a ddiffinnir yn fras.
  • Dadansoddi a myfyrio ar sgiliau rheoli personol, gan nodi ffyrdd o wella trwy gynllunio datblygiad personol.
  • Datblygu sgiliau seiliedig ar waith a phrofiad, gan adeiladu ar hyder a phroffesiynoldeb.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae economeg yn unigryw i'r graddau ei fod yn datblygu'r sgiliau meddwl technegol, dadansoddol a haniaethol a gysylltir yn aml â graddau mewn pynciau meintiol ochr yn ochr â'r sgiliau gwerthuso beirniadol, dadlau a chyfathrebu sy'n fwy cyffredin mewn graddau ansoddol. Am y rheswm hwn, mae graddedigion economeg y DU yn gyson â rhai o'r cyfraddau cyflogadwyedd ac enillion graddedigion uchaf mewn unrhyw bwnc. Mae graddedigion ein rhaglen yn mynd ymlaen yn rheolaidd i weithio fel economegwyr proffesiynol, neu mewn diwydiannau cysylltiedig fel cyllid, bancio, cyfrifyddiaeth, ymgynghoriaeth neu newyddiaduraeth ariannol.

Mae'r radd Economeg (BSc) yn ymgorffori cyflogadwyedd trwy gydol y rhaglen. Mae rhai modiwlau, megis Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Economegwyr neu Ddadansoddiad Economaidd o Bolisi, yn canolbwyntio'n benodol ar yr ystod o sgiliau y dylai economegydd llwyddiannus eu defnyddio, ac maent wedi'u halinio'n gryf â nodweddion graddedigion y Brifysgol. Mae'r ystod o weithgareddau dysgu ac asesiadau a fabwysiadwyd ar fodiwlau eraill, o friffiau polisi 24 awr a dadansoddiadau economaidd manylach o faterion cyfoes i gyflwyniadau a fideos byr, yn rhoi'r cyfle i chi fireinio'ch sgiliau trwy'r math o weithgareddau y mae graddedigion economeg yn aml yn mynd ymlaen iddynt. wneud yn eu gyrfaoedd.

Ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried astudiaethau ôl-raddedig mewn economeg, rydym hefyd yn darparu modiwlau dewisol uwch sy'n ymchwilio hyd yn oed yn ddyfnach i feysydd craidd macro-economeg, micro-economeg ac econometreg gan eu cael yn agos at y ffin ymchwil.
Bydd eich blwyddyn lleoliad proffesiynol yn rhoi profiad ymarferol i chi o gymhwyso'r sgiliau rydych chi'n eu datblygu yn y gweithle. Byddwch yn gweld sut y gall economeg esgor ar fewnwelediadau pwysig mewn ystod eang o rolau a sectorau a datblygu ystod o brofiadau y gellir galw arnynt wrth wneud cais am swyddi parhaol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.