Ewch i’r prif gynnwys

Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg (BSc)

  • Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth
  • Côd UCAS: F482
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

Find out more about studying Archaeology and Conservation at The School of History, Archaeology and Religion at Cardiff University.
star

Labordai pwrpasol

Cewch ddefnyddio ein labordai a hefyd ein hystafelloedd darlunio a ffotograffiaeth ddigidol.

globe

Profwch labordy cadwraeth

Mwynhewch wyth wythnos yn gweithio mewn labordy cadwraeth - yn y DU neu dramor.

academic-school

Cysylltiedig

Cewch elwa o'n perthynas ag amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth.

people

Dan arweiniad y gymuned

Mwynhewch weithgareddau amrywiol gan gynnwys ymweliadau gan siaradwyr rhyngwladol, y Gymdeithas Archaeoleg a digwyddiadau.

Bydd ein BSc Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg yn rhoi’r sgiliau sy'n ofynnol i fod yn warchodwr gweithredol. Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, byddwch yn gallu datblygu, gweithredu, adrodd a chofnodi strategaethau a chamau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cadw gwrthrychau hanesyddol ac archeolegol.

Rydym yn arbenigo mewn cadw gwrthrychau amgueddfa hanesyddol ac archeolegol, gan ddefnyddio gweithdrefnau cadw ataliol ac ymyriadol. Mae ein holl addysgu wedi'i osod yn erbyn cyd-destun diwylliannol y gwrthrychau sy'n cael eu trin gan fyfyrwyr, sy'n ddarnau amgueddfa go iawn. Gan weithio ar y gwrthrychau hyn, byddwch yn ystyried anghenion perchnogion, a phwy fydd yn defnyddio’r rhain nawr ac yn y dyfodol wrth ddylunio'ch triniaethau.

Gan weithio yn ein labordai o'r diwrnod cyntaf, bydd gennych fynediad at ystod eang o gyfleusterau cadwraeth a gwyddonol o'r radd flaenaf.

Mae'r radd hon yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy eang sy'n cwmpasu ysgrifennu disgyrsiol, delweddu, gwaith ymarferol, cyfathrebu ac ymchwilio gan ddefnyddio offeryniaeth ddadansoddol. Gyda'i gilydd, mae'r sgiliau hyn yn cynhyrchu graddedigion sy'n defnyddio prosesau meddwl ar sail tystiolaeth i gyflawni canlyniadau gyda'r nod o warchod ein treftadaeth ddiwylliannol.

Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBC-CCC

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

30-28 yn gyffredinol neu 655-555 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DMM-MMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Cyfrifiadura, Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried BTECs mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddolwr perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £26,950 Dim
Blwyddyn dau £26,950 Dim
Blwyddyn tri £26,950 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai gwerslyfrau allweddol ac i dalu costau llungopïo. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol. Gallech ystyried cael aelodaeth myfyriwr o gyrff cadwraeth proffesiynol perthnasol fydd yn rhoi mynediad at adnoddau a digwyddiadau ar-lein ychwanegol. Gall staff eich cynghori ynghylch hyn.

Rhoddir meddalwedd ar bob cyfrifiadur ar y rhwydwaith ac mae gostyngiadau addysg ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sy'n prynu meddalwedd. Bydd meddalwedd arbenigol ar gael i fyfyrwyr.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.

Rhaglen radd tair blynedd yw hon. Byddwch chi’n astudio ar gyfer 120 credyd ym mhob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae modiwlau cadwraeth blwyddyn un wedi'u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol am theori ac ymarfer cadwraeth. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau academaidd ac ymarferol o fewn arferion ymchwilio megis radiograffeg X, microsgopeg, ffotograffiaeth a dadansoddi offerynnol.

Darperir cyflwyniad i archaeoleg drwy fodiwlau dewisol a ddewiswch.

Blwyddyn dau

Mae'r ail a'r drydedd flwyddyn yn adeiladu ar y llwyfan hwn drwy fodiwlau theori, gwaith labordy ymarferol a lleoliadau cadwraeth mewn amgueddfeydd yn ystod gwyliau.

Blwyddyn tri

Yn ystod eich trydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â modiwlau theori i ategu'r modiwlau o flwyddyn dau gan sicrhau y byddwch wedi cwmpasu ystod eang o ddeunyddiau sy'n ystyried metelau, organics, anorganig ac amodau gwlyb a sych yn ystod eich gradd. Byddwch yn parhau i weithio ar eich prosiectau ymarferol yn y modiwl prosiectau ymarferol dan oruchwyliaeth ac wrth i'ch hyder gynyddu byddwch yn gweithio ar broblemau heriol a mwy cymhleth.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn byddwch yn cymryd rhan yn y modiwl ymchwil lle byddwch yn gweithio gyda staff a myfyrwyr i ddylunio, cyflwyno a gwerthuso darn penodol o ymchwil sy'n gysylltiedig â chadwraeth.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn eich galluogi chi i ddatblygu mewn amgylchedd dysgu o ansawdd uchel, a gefnogir gan ddull o ennill gwybodaeth a sgiliau lle mae'r ffocws ar y myfyriwr.

Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, teithiau maes a thiwtorialau un i un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.

Mae darlithoedd yn rhoi trosolwg o'r cysyniadau a'r fframweithiau allweddol ar gyfer pwnc. Bydd y rhain yn eich galluogi i wneud ymchwil annibynnol ar gyfer cynhyrchu cyfundrefnau triniaeth mewn sesiynau labordy lle byddwch yn gwarchod gwrthrychau, yn ogystal ag ar gyfer cyfrannu mewn seminarau drwy ddefnyddio'ch syniadau eich hun. Addysgir ymarfer labordy drwy ddefnyddio technegau dysgu yn seiliedig ar wrthrychau a chefnogaeth un i un mewn sesiynau ymarferol dynodedig, gan fod yr holl wrthrychau rydych chi'n gweithio arnyn nhw'n unigryw. Mae addysgu mewn grwpiau mwy yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi ar ddefnyddio offer a dehongli data, yn ogystal ag ar gyfer darlithoedd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Mae'r tiwtoriaid ar gael i drafod cynnydd a darparu cyngor ac arweiniad ar eich astudiaethau academaidd. Mae swyddfa'r Ysgol, sydd ar 4ydd Llawr Adeilad John Percival, hefyd ar agor bob dydd a gall roi cyngor ar sut i gael mynediad at wasanaethau prifysgol.

Mae pob modiwl o fewn y cwrs yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd (VLE) - Learning Central - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth sy'n ymwneud â thasgau asesu gan gynnwys, er enghraifft, meini prawf asesu, dolenni i gyn-bapura, a chanllawiau ar gyfer cyflwyno asesiadau.

Darperir cefnogaeth ychwanegol penodol i’r modiwl gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau. Mae myfyrwyr yn cael cefnogaeth agos gan staff cadwraeth oherwydd yr amser cyswllt mawr maen nhw'n ei dreulio gyda nhw mewn dosbarthiadau labordy a setiau sgiliau. O ganlyniad i hynny, byddwch yn dod i adnabod eich darlithwyr cadwraeth a'ch tiwtoriaid yn dda iawn.

Sut caf fy asesu?

Modules are assessed by various methods, including practical work, written reports, critical reviews, class tests, oral presentations, coursework, essays and examinations.

These assessments provide a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments. They also develop essential skill sets that are valued by employers and are essential for this vocational degree. 

Progression is built into assessment. Its format and difficulty is matched to the progressive development of skills and knowledge, gained as you deal with more complex conservation problems and build research skills through the degree. Coursework and modular data is provided electronically and assessments are submitted electronically.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth o'r syniadau, y damcaniaethau a'r egwyddorion allweddol a ddefnyddir ym maes cadwraeth a chyd-destunau ehangach byd cadwraeth
  • Sut i integreiddio themâu, damcaniaethau a chanfyddiadau disgyblaethau cysylltiedig i gynllunio, ymarfer ac ymchwil cadwraeth
  • Dealltwriaeth o ddulliau ymchwil a’r prosesau meddwl gwyddonol a ddefnyddir ym maes cadwraeth a'r materion moesegol, diwylliannol, athronyddol a rheoli sy'n llywio’r modd y caiff y rhain eu defnyddio
  • Dealltwriaeth o strwythur, priodweddau a dadfeiliad deunyddiau metelaidd, anorganig ac organig a sut mae'r wybodaeth hon yn llywio arferion cadwraeth.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i werthuso gwybodaeth, ysgolheictod, safonau a chanllawiau ac ymchwil ym maes cadwraeth ar hyn o bryd, a defnyddio'r wybodaeth hon i ddod i farn gytbwys am rinweddau a chyfyngiadau gweithdrefnau cadwraeth.
  • Y wybodaeth a’r sgiliau i ddeall, egluro ac addasu prosesau cadwraeth.
  • Y gallu i ddatblygu dadl ar sail tystiolaeth i nodi a gwerthuso opsiynau cadwraeth, ystyried ystod o ddulliau a ffyrdd o resymoli prosesau gwneud penderfyniadau.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i ddatblygu, gweithredu, adrodd a chofnodi strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cadw gwrthrychau hanesyddol ac archeolegol mewn ffyrdd ataliol ac ymyriadol.
  • Y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad proffesiynol a phersonol sydd eu hangen i roi camau cadwraeth ar waith a sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal mewn cyd-destunau proffesiynol.
  • Y gallu i werthuso, cydosod a dehongli data sylfaenol ac eilaidd a gynhyrchir drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau, gan ddefnyddio offer arbenigol a meddalwedd lle bo angen.
  • Y gallu i weithio’n unigol ac ar y cyd ar brosiectau cadwraeth sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i ddatrys problemau, dod i benderfyniadau ar sail tystiolaeth a gwreiddioldeb wrth feddwl drwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
  • Sgiliau academaidd a phersonol fel meddwl yn feirniadol, ysgrifennu, cyflwyniadau llafar, datrys problemau, gweithio mewn grwpiau, rheoli amser, hunangynhaliaeth, gofalu am dreftadaeth ddiwylliannol a defnyddio technoleg gwybodaeth.
  • Y gallu i drafod camau gweithredu a chyfleu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau llafar, sgyrsiau, posteri a thraethodau hir.
  • Y gallu i ymchwilio a throsglwyddo theori i ymarfer gan ddefnyddio ystod o sgiliau echddygol, offer ac offeryniaeth.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Cydnabyddir natur alwedigaethol gref y rhaglen yn y proffesiwn cadwraeth ac mae'r ffactor hwn yn rhoi swyddi da i fyfyrwyr cadwraeth. Mae rhai graddedigion cadwraeth yn symud i wneud graddau ymchwil, ac mae llawer yn dewis cymryd MSc neu gymwysterau uwch gyda ni. Mae graddedigion eraill yn defnyddio eu sgiliau trosglwyddadwy helaeth mewn cyfathrebu, datrys problemau, rheoli prosiectau, meddwl yn annibynnol, a theori ac ymarfer gwyddonol i gystadlu'n llwyddiannus iawn mewn ystod eang o feysydd eraill.

Credwn mewn rhoi’r cyfleoedd gorau i’n graddedigion ddod o hyd i gyflogaeth. Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd i’ch helpu chi i nodi eich sgiliau a’ch priodoleddau, ac mae gennym ni ein Swyddog cyflogadwyedd a Lleoliadau’r Gweithle mewnol yn yr Ysgol.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Cadwraethwr
  • Curadur

Lleoliadau

Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith ymroddedig sy'n cefnogi myfyrwyr â chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor a'r tu allan iddo. Yn yr ail flwyddyn astudio mae opsiwn i gymryd modiwl ar gyflogadwyedd sy'n rhoi credyd ac sy'n cynnig lleoliadau gwaith.

Bydd myfyrwyr ar y radd hon yn cael cynnig cefnogaeth i ymgymryd ag wyth wythnos o leoliad yn ystod gwyliau mewn labordy cadwraeth cymeradwy yn y DU neu dramor.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.