Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg gyda blwyddyn mewn diwydiant (BSc)
- Maes pwnc: Cyfrifiadureg
- Côd UCAS: GKF4
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Dysgwch sut i ddiogelu buddsoddiad sefydliadau drwy ddeall yr egwyddorion, yr adnoddau a'r technolegau sydd eu hangen i gadw eu systemau'n ddiogel. Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'r cwrs yn rhoi cyfle i chi weithio am dâl mewn sefydliad blaenllaw yn ystod y drydedd flwyddyn, a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd.
Blwyddyn mewn diwydiant
Cwblhewch flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant lle cewch y cyfle i ennill y sgiliau y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt o ran gweithio mewn tîm, rheoli amser ac arwain. Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau cyffrous mewn sefydliadau megis Admiral, Airbus, CERN, GSK, Hewlett Packard, Banc Lloyds, Red Bull Racing, ymhlith rhai eraill.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.
Rydyn ni’n darparu ar gyfer y rheini sydd wedi astudio cyfrifiadureg a'r rheini sy'n newydd i'r pwnc hwn.
Cyfleusterau rhagorol
Byddwch chi'n dysgu mewn cyfleusterau trawiadol, a hynny yng nghyd-destun yr ymchwil flaengar sy’n digwydd yng nghanolfan arloesi’r Brifysgol gwerth miliynau o bunnoedd.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Achredir y radd hon gan BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG.
Mae’r radd achrededig hon yn cynnig y wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sydd ei hangen i ddod yn rhan o fyd cyffrous a deinamig cyfrifiadureg, sydd wrth wraidd bron i bob agwedd ar fywyd modern, gyda phwyslais amlwg ar ddiogelwch gwybodaeth.
Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau technegol, dadansoddol a phroffesiynol trosglwyddadwy, a gefnogir gan ymwybyddiaeth eang o dueddiadau technoleg bresennol, yn enwedig ym maes diogelwch cyfrifiadurol. Mae'r cwrs yn cynnwys cyfuniad o dechnegau a chysyniadau craidd sy'n esblygu, yn ogystal â deunydd pwnc seiliedig ar dechnoleg.
Mae defnydd busnes o raglenni ar y we ac achosion cynyddol o seiberdroseddu wedi newid natur diogelwch gwybodaeth yn sylfaenol. Gan ei bod yn rhywbeth sy’n peri pryder i economïau busnes mawr a defnyddwyr fel ei gilydd, mae graddedigion sydd â dealltwriaeth o ddiogelwch cyfrifiaduron a fforensig yn eithriadol o werthfawr i lawer o gyflogwyr.
Mae graddedigion yn gallu dadansoddi problemau’n wrthrychol a datblygu atebion cyfrifiadurol priodol. Bydd eich dealltwriaeth fanwl o ddiogelwch technoleg cyfrifiadurol a fforensig digidol yn eich gwneud yn addas ar gyfer ystod o yrfaoedd proffesiynol, a bydd cyflogwyr yn awyddus i’ch recriwtio.
Bydd y flwyddyn mewn diwydiant yn gyfle i ehangu eich profiad, cryfhau eich sgiliau trosglwyddadwy, a chymhwyso eich gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn.
Achrediadau
Maes pwnc: Cyfrifiadureg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B / 6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Rhaid i bob cais am le ar unrhyw gwrs Cyfrifiadureg gael ei wneud drwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Gellir gwneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os ydych yn siarad Cymraeg, rydym yn deall y gall fod yn well gennych siarad â thiwtor personol sy’n siarad Cymraeg. Os bydd staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, byddwn yn gwneud ein gorau glas i neilltuo rhywun sy’n siarad Cymraeg i chi.
Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn asesu ceisiadau drwy gydol y cylch ymgeisio. Mae pob cais yn cael ei asesu gan y tiwtor derbyn, sy’n penderfynu a ddylid derbyn ymgeisydd neu beidio. Ar ôl i ni gael eich cais a’i ystyried, efallai y byddwn yn eich gwahodd i ymweld â’r Ysgol rywbryd rhwng mis Tachwedd a dechrau mis Mawrth. Bydd hyn yn cynnwys mynd ar daith o gwmpas yr Ysgol, Undeb y Myfyrwyr a'r campws. Byddwch yn cwrdd â myfyrwyr ac aelodau o’r staff ac yn rhoi cyfle i ni ddod i’ch adnabod yn fwy. Byddwch hefyd yn darganfod sut fywyd sydd gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Efallai y bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â'r flwyddyn mewn diwydiant fel teithio neu lety, a bydd disgwyl i'r myfyriwr dalu’r costau hyn. Bydd y cyflog a gewch yn rhan o’r lleoliad gwaith o gymorth i dalu’r costau hyn fel arfer.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Yr hyn a ddylai fod gan y myfyriwr:
Cyfrifiannell sy'n bodloni rheolau arholi Prifysgol Caerdydd
Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:
Labordai cyfrifiadurol â chyfrifiaduron modern Bydd yr holl feddalwedd sydd ei hangen i wneud y modiwlau a addysgir ym Mhrifysgol Caerdydd ar gael ar y cyfrifiaduron hyn.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae galw mawr iawn am wyddonwyr cyfrifiadurol medrus. Mae hyn yn golygu bod rhagolygon graddedigion o gael gwaith yn y diwydiant cyfrifiadurol yn dda iawn. Bydd sgiliau trosglwyddadwy’n cael eu haddysgu i chi, a fydd yn agor drysau i yrfaoedd mewn llawer o sectorau.
Dengys ystadegau diweddar fod mwyafrif llethol ein graddedigion yn dilyn eu llwybr gyrfa dewisol ac yn cyflawni swyddi fel Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr y We, Rhaglennydd Cyfrifiadurol, Datblygwr Meddalwedd Cyswllt, Dadansoddwr Busnes a Swyddog Datblygu Systemau.
Maent yn mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel Airbus, Amazon, BBC, BT, Prifysgol Caerdydd, Capgemini, Confused.com, Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, IBM, Lloyds Banking Group, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Morgan Stanley, Sky, Heddlu De Cymru a Thomson Reuters. Mae eraill wedi dewis astudio ymhellach neu ymchwilio ym Mhrifysgol Caerdydd neu mewn prifysgolion blaenllaw eraill.
Lleoliadau
Rhwng blynyddoedd dau a phedwar cewch y cyfle i ymgymryd â blwyddyn cyflogedig ar leoliad gwaith.
Mae'r gwaith paratoi ar gyfer y lleoliad gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn dau pan fyddwch chi'n cael eich cefnogi gan Swyddog Lleoliadau Gwaith ymroddedig yr Ysgol a gwasanaethau eraill y Brifysgol i'ch helpu chi i ddod o hyd i swydd gyflogedig briodol, a sicrhau bod amrywiaeth eang o leoliadau gwaith perthnasol ar gael eich cyfer. Bydd yr Ysgol hefyd yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad yn ystod eich blwyddyn ar leoliad gwaith pan gewch y cyfle i wella'ch CV a rhoi hwb i'ch rhagolygon cyflogaeth trwy ennill y profiad a'r sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen ar gyflogwyr.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.